Syr William Reardon Smith (1856-1935) David Jenkins, 15 Hydref 2009 Gall y rhan fwyaf o amgueddfeydd ddiolch un cymwynaswr yn arbennig am newid eu byd; Syr William Reardon Smith oedd y gŵr hwnnw yn achos Amgueddfa Cymru.Fel trysorydd (1925-28) a llywydd (1928-32) yr Amgueddfa, Syr William Reardon Smith fu'n gyfrifol am wyrdroi cyflwr echrydus coffrau'r Amgueddfa, a goruchwylio'r gwaith o gwblhau adain ddwyreiniol fawreddog Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, sy'n rhan annatod o ganolfan ddinesig unigryw Caerdydd.Nid Cymro oedd Reardon Smith; cafodd ei eni i deulu morwrol ym mhentref glan môr Appledore ar arfordir gogledd Dyfnaint ar 7 Awst 1856.Gwas llongPan oedd Syr William yn 3 oed, bu farw ei dad pan suddodd ei sgwner mewn storm ar y môr ger Porth Tywyn. Er gwaethaf hyn, daeth Reardon Smith yn was caban pan oedd yn dal i fod yn ei arddegau cynnar. Dechreuodd trwy weithio ar longau lleol oedd yn ymwneud â busnesau arfordirol ardal Môr Hafren. Aeth ymlaen wedyn i wasanaethu ar y llongau hwylio oedd yn cludo deunydd i adeiladu rheilffyrdd i UDA a mwyn copr i Chile.Y Capten Reardon SmithAg yntau ond yn 22 oed, daeth yn gapten ar nifer o longau hwylio ac agerlongau, y mwyafrif ohonynt yn eiddo i'r cwmni llongau enwog o'r Alban, Hugh Hogarth of Glasgow. Symudodd i Gaerdydd gyda'i wraig a'i deulu ym 1900.Ym 1905, sefydlodd gwmni i brynu a gweithredu agerlong newydd, y City of Cardiff. Dyma oedd ei wir alwedigaeth. Bu'r fenter yn llwyddiant ysgubol, ac erbyn dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd ganddo naw agerlong cargo, oll yn allforio glo o'r de.Er iddo golli sawl llong wrth law'r llongau tanfor yn ystod y Rhyfel, daliodd ati i ehangu ei lynges. Erbyn 1930, roedd Reardon Smith yn gyfrifol am dros 35 o longau.Syr WilliamGwnaed Syr William yn farwnig ym 1920, a throdd ei sylw mwyfwy at weithgareddau dyngarol. Sefydlodd Ysgol Forwrol Reardon Smith ym 1921. Pedair blynedd yn ddiweddarach, prynodd fad hwylio mawr, y Margherita, i'w ddefnyddio fel cwch hyfforddi ac fel bad hamdden i'w deulu.Cyfrannodd yn hael at Ysbyty Brenhinol Caerdydd a hefyd at gost adeiladu ysbyty newydd yn Bideford. Gwaddolodd gadair athro yn adran ddaearyddiaeth Prifysgol Caer-wysg, sy'n dwyn ei enw hyd heddiw.Ond Amgueddfa Genedlaethol Cymru oedd prif ffocws ei haelioni. Rhwng 1915 a 1935, cyfrannodd ef a'i wraig, y Fonesig Ellen, rhyw £150,000 at goffrau'r Amgueddfa.Yn ogystal â'r rhoddion personol yma, gweithiodd yn ddiflino i godi arian o ffynonellau eraill. Er mwyn cydnabod ei gyfraniad, enwyd y ddarlithfa newydd a agorwyd yn adain ddwyreiniol yr Amgueddfa ym 1932 yn Ddarlithfa Reardon Smith.Bu farw Syr William ar 23 Rhagfyr 1935 yn dilyn salwch byr. Mae'r byd yn cofio amdano nid yn unig am ei lwyddiant fel perchennog llongau ond hefyd am ei haelioni neilltuol. Dewisodd wario ei ffortiwn ar newid byd pobl eraill, ac am hynny, mae trigolion de Cymru a gorllewin Lloegr yn ddyledus iddo hyd heddiw.Erthygl gan: David Jenkins.
Cofio ych gwyn Nannau Oliver Fairclough, 15 Medi 2009 Peintiad o ych Nannau gyda Sion Dafydd, cowman y teulu, gan Daniel Clowes o Gaer. Roedd yr ych yn un o'r olaf o yrr hynafol o wartheg gwynion yn Nannau. Syr Robert Williames Vaughan (1768-1843). By permission of Llyfrgell Genedlaethol Cymru / National Library of Wales Y ganhwyllbren a waned o gyrn ych Nannau, wedi'i mowntio ar ddau o'i garnau. Gellir datgysylltu'r cyrn i'w defnyddio fel dau gwpan yfed. Mae'r cwpan derw ac arian hwn yn rhan o set o chwe chwpan siâp mes a wnaed o bren Ceubren yr Ellyll ar gyfer dathliadau pen-blwydd 1824 yn Nannau. Ych gwyn NannauAr 25 Mehefin 1824 cynhaliwyd gwledd i ddathlu pen-blwydd mab prif dirfeddiannwr Meirionnydd yn un ar hugain oed, ar stad Nannau, Dolgellau. Roedd y dathliadau gyda'r mwyaf crand a welwyd yng Nghymru, ac eisteddodd 200 o westeion i fwynhau gwledd oedd yn cynnwys golwyth anferth o gig yr ych gwyn o Nannau. Bellach mae nifer o'r pethau a gynhyrchwyd ar gyfer y digwyddiad, gan gynnwys canhwyllbren a wnaed o gyrn a charnau'r ych, yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru.Etifeddion stadau tiriogAm ganrifoedd roedd yn gyffredin i gymunedau ddathlu pen-blwydd etifedd stad diriog wrth ddod i oed. Ymddengys bod hyn yn arbennig o wir yn y gogledd. Hyd at ddiwygiadau Seneddol 1832, roedd yr ardal yn geidwadol ei chymdeithas, a'i diwylliant traddodiadol Gymreig yn parhau'n gryf.Y dathliadau enwocaf yw rhai Robert Williames Vaughan o Nannau.Un o hoelion wyth y gymdeithasTad y bachgen ifanc, Syr Robert Williames Vaughan (1768-1843), 2il farwnig, oedd prif dirfeddiannwr preswyl Meirionnydd a'i hunig gynrychiolydd yn y Senedd am dros ddeugain 'mlynedd. Fel un o hoelion wyth y gymdeithas ymfalchïau mewn cadw hen arferion Cymreig yn fyw ac estyn croeso i'r gymdogaeth i'r tŷ agored yn Nannau, lle deuai'r trigolion i fwynhau ciniawau dyddiol.Cig eidion i'r tlodion, cwrw i'r cyfoethogionNid ei deulu yn unig ddathlodd pen-blwydd dod i oed Robert Williames Vaughan. Ymunodd trigolion y trefi cyfagos yn y dathliadau hefyd, a oedd yn cynnwys goleuadau, sioeau tân gwyllt, hedfan balwnau a saethu magnelau. Roedd digonedd o fwyta ac yfed hefyd, yn enwedig cig eidion — bwyd na fyddai'r tlodion yn gallu ei fwyta fel arfer — a chwrw — diod y byddai'r cyfoethogion yn ei osgoi gan fod yn well ganddynt yfed gwin. Rhostiwyd ychen ar gyfer tlodion Corwen, Abermaw a'r Bala a chynhaliwyd ciniawau yng Nghonwy, Dolgellau a Chaer.Byrddau'n plygu o dan bwysau danteithionY prif ddigwyddiad oedd y dathliad yn Nannau ei hun ar 25 Mehefin 1824. Codwyd pabell o bren, cynfas a gwellt o flaen y plasty a godwyd tua diwedd y 18fed ganrif. Yna eisteddodd 200 o westeion i fwynhau 'gwledd foethus a helaeth' i gyfeiliant yr alaw The Roast Beef of Old England.Ar ôl y cwrs pysgod, cludwyd golwyth anferth o gig eidion, a oedd yn pwyso 166 pwys, i'r ystafell gan Sion Dafydd, cowman y teulu. Plygodd y byrddau dan bwysau'r danteithion. Yn ogystal â gwin, gosodwyd ystenau anferth o gwrw da ar y byrddau.Roedd gan y Fychaniaid draddodiad hir o noddi diwylliant ac mae llwncdestun Syr Robert i'w fab yn dal ysbryd y digwyddiad: 'Boed iddo ofni Duw ac Anrhydeddu'r Brenin; dangos parch tuag at ei well a pharch tuag at y rhai oddi tano. Heddwch, Dedwyddwch a Chymydogaeth dda'.Owain Glyndwr a derwen ceubren yr ellyllCoffawyd yr ych gwyn mewn peintiad gan Daniel Clowes o Gaer, a gwnaed canhwyllbren o'r cyrn a'r carnau. Hefyd trefnodd Syr Robert bod chwe chwpan llwncdestun yn cael eu creu yn arbennig ar gyfer yr achlysur. Fe'u gwnaed o bren Derwen Ceubren yr Ellyll, coeden hynafol o Nannau sydd â chysylltiad ag Owain Glyndwr. Fe'u trysorwyd gan y Fychaniaid ac maent bellach yn rhan o gasgliadau Amgueddfa Cymru.Dathliad 1824 oedd cyfnod penllanw dylanwad y teulu. Pan ddathlodd yr ardal briodas Robert Williams Vaughan un mlynedd ar ddeg yn ddiweddarach ym 1835, dywedid bod yr ymdeimlad yn y gymdogaeth yn parhau i fod yn 'deilwng o'r hen ddyddiau pan roedd y geiriau Radical a Diwygio yn anhysbys', ond ni fwynhaodd fyth yr un bri a'i dad, a bu farw'n ddi-blant ym 1859.Erthygl gan: Oliver Fairclough, Adran Celf, Amgueddfa Cymru.
Archif De la Beche yn Amgueddfa Cymru Tom Sharpe, 20 Ebrill 2009 Syr Henry Thomas De la Beche (1796-1855) Map daearegol cyntaf Jamaica Duria Antiquior - A more Ancient Dorset. Dyfrlliw gan De la Beche yn 1830. Y llun hwn oedd y cyntaf i bortreadu amgylchedd ffosil yn ei gyfanrwydd, ac i ddangos sut yr oedd gwahanol elfennau o'r ffosilau ffawna a flora yn rhyngweithio, yn arbennig felly ymlusgiaid môr mawr y Cyfnod Jwrasig cynnar. De la Beche a'i merched yn Abertawe, 1853 Mae Adran Daeareg Amgueddfa Cymru yn rhoi llety i un o'r archifau daearegol pwysicaf yn y byd. Mae'n cynnwys dros 2,000 o eitemau - llythyrau, dyddiaduron, dyddlyfrau, brasluniau a ffotograffau - gan un o brif ddaearegwyr dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, Syr Henry Thomas De la Beche (1796-1855). Yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg chwaraeodd De la Beche ran bwysig yng ngwyddor newydd daeareg. Yn ogystal â'i gyfraniadau gwyddonol, sefydlodd ddaeareg fel galwedigaeth a sefydlu nifer o brif sefydliadau daearegol Prydain gan gynnwys y rhain: British Geological Survey Museum of Practical Geology (wedyn y Geological Museum ac erbyn hyn y Natural History Museum yn Llundain) School of Mines (erbyn hyn yn rhan o Imperial College Llundain) Mining Record Office (erbyn hyn yn rhan o'r Coal Authority). Ganed De la Beche yn Llundain ac fe'i magwyd yn Nyfnaint a Lyme Regis yn Dorset, ble datblygodd ddiddordeb mewn daeareg drwy ei gyfeillgarwch gyda merch leol, Mary Anning (1799-1847) a oedd yn casglu ffosiliau. Jamaica Roedd cyfoeth ei deulu'n dod o gaethweision a phlanhigfa siwgwr yn Jamaica, ac ym 1823-4 treuliodd ddeuddeg mis ar yr ystâd. Roedd hefyd wedi teithio o amgylch yr ynys gan archwilio ei cherrig brig. Wrth ddychwelyd i Loegr, cyhoeddodd y disgrifiad cyntaf o ddaeareg Jamaica a'i map daearegol cyntaf. Ystyrir De la Beche fel 'tad daeareg Jamaica'. Dechreuodd De la Beche fapio creigiau Dyfnaint yn gynnar yn y 1830au. Ond roedd yr aflonyddwch yn Jamaica oherwydd diddymu caethwasiaeth a chwymp yn y farchnad siwgwr wedi ei adael mewn anawsterau ariannol. Nid oedd yn gallu parhau gyda'i waith. Ysgrifennodd at Fwrdd yr Ordnans gan gynnig cwblhau mapio daearegol Dyfnaint i'r llywodraeth am £300. Roedd ei gais yn llwyddiannus a chafodd ei benodi'n Ddaearegydd i Arolwg Trigonometrig yr Ordnans. Sefydlu Arolwg Daearegol Prydain Unwaith bod gwaith Dyfnaint wedi'i orffen gwnaeth gais llwyddiannus i barhau gyda mapio daearegol Cernyw ac ym 1835 sefydlwyd Arolwg Daearegol yr Ordnans. O hwn tyfodd Arolwg Daearegol Prydain heddiw. Mewn cyfnod pan oedd y rhan fwyaf o ddaearegwyr yn ficeriaid neu amaturiaid oedd â diddordeb gydag incwm preifat, De la Beche oedd un o'r proffesiynolion cyntaf. Ym 1837 symudodd De la Beche ei Arolwg Daearegol i Abertawe gan gydnabod pwysigrwydd economaidd maes glo Cymru. Yn fuan daeth yn rhan o fyd gwyddonol lleol fel aelod o Sefydliad Athronyddol a Llenyddol Abertawe a chyfaill i'r naturiaethwr o Abertawe, Lewis Weston Dillwyn. Roedd gan De la Beche ferch deunaw oed, Elizabeth (Bessie). Yn fuan daeth hi'n gyfaill i un o feibion Dillwyn, Lewis Llewelyn Dillwyn , a phriodon nhw yn Awst 1838. Gan eu disgynyddion nhw y daeth y rhan fwyaf o archif De la Beche i'r Amgueddfa yn y 1930au. Darganfod ffosiliau ysblennydd Mae'r papurau'n cynnwys cyfoeth o wybodaeth am ddaeareg gynnar yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd enwau'r cyfnodau daearegol (Cambriaidd, Ordofigaidd ac ati) sydd erbyn hyn mor hysbys yn cael eu cynnig am y tro cyntaf ac o hyd yn ddadleuol. Roedd ffosiliau newydd ac ysblennydd yn cael eu darganfod a thystiolaeth o Oes y Rhew'n cael ei hadnabod am y tro cyntaf. Bu De la Beche yn gweithio'n bersonol ar ddisgrifiadau cyntaf ffosiliau'r ymlusgiaid morwrol mawr, y pysgymlusgiaid a'r plesiorsoriaid. Mae llawer yn y papurau hefyd parthed sefydlu'r Arolwg Daearegol a'r sefydliadau eraill roedd ef wedi eu sefydlu. Darwin yn ysgrifennu at De la Beche Roedd De la Beche yn gohebu gyda phrif ddaearegwyr y dydd a gofynnwyd iddo'n aml, ar sail ei brofiad o Jamaica, am gyngor am yr ynys. Mae un o lythyrau'r casgliad yn ei holi ym 1842 am liw'r ceffylau, y gwartheg a'r anifeiliaid eraill a fagwyd ers sawl cenhedlaeth ar yr ynys a sut roedden nhw wedi newid. Awdur y llythyr oedd Charles Darwin a oedd adeg honno'n ffurfio ei ddamcaniaeth am esblygiad. Roedd De la Beche yn ddarluniwr medrus ac mae hyn yn amlwg yn yr archif. Roedd yn gywir iawn wrth fraslunio tirluniau, darluniadau o ffosiliau a chroestoriadau daearegol ond hefyd gwnaeth nifer o wawdluniau a chartwnau. Roedd y rhain yn ffordd iddo wneud sylwadau ar ddatblygiadau mewn daeareg ac ar ei weithgareddau ei hun a rhai ei gyfoedion. Adnodd pwysig yw'r archif i hanes daeareg ac mae ymchwilwyr o Brydain a thramor yn ymgynghori â hi'n aml - i drefnu ymweliad, cysylltwch â ni . Nodyn: fe olygwyd yr erthygl hon ar 28/06/17 i ddileu cyfeiriad at de la Beche fel "perchennog caethweision teg".
Diwydiant, diwylliant – cyfraniad chwiorydd Gregynog i Gymru 1 Ionawr 2009 Gwendoline Davies (1882-1951)Gwen, y chwaer hynaf, a'r mwyaf penderfynol a meddylgar, a oedd hefyd yn gerddor medrus. Margaret Davies (1884-1963)Daisy, y chwaer iau, mwy ymarferol, a oedd hefyd yn arlunydd ac yn ysgythrwr rhagorol. Neuadd Gregynog David Davies (1818-1890) Mae'r llun yn ei ddangos yn gorffwys am ennyd prin. Casgliad preifat (Lord Davies) 'The Loan Exhibition of Paintings' a gynhaliwyd yn yr amgueddfa genedlaethol dros dro yn Neuadd Dinas Caerdydd yn 1913. Roedd dwy chwaer o'r canolbarth, o'r enw Gwendoline (1882-1951) a Margaret Davies (1884-1963), ymhlith y cyntaf ym Mhrydain i gasglu darluniau'r Argraffiadwyr a'r Ôl-Argraffiadwyr Ffrengig. Gadawodd y ddwy eu casgliadau celf rhagorol i Amgueddfa Cymru, gan drawsnewid amrywiaeth ac ansawdd casgliad celf cenedlaethol Cymru'n llwyr.Y chwiorydd Davies oedd y cyfranwyr mwyaf at gasgliadau'r Amgueddfa yn ystod ei chanrif gyntaf. Cafodd eu delfrydiaeth a'u haelioni effaith hynod ar fywyd diwylliannol a deallusol Cymru, ac rydyn ni'n dal i weld effeithiau hyn heddiw.Etifeddiaeth ddiwydiannol David DaviesRoedd Gwendoline a Margaret Davies yn wyresau i David Davies, Llandinam, un o entrepreneuriaid mwyaf Cymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Adeiladodd ran helaeth o system reilffyrdd y canolbarth, ac roedd yn un o arloeswyr mawr diwydiant glo'r de.Creodd David Davies ffortiwn anferth. Bu farw ym 1890, ac fe'i holynwyd gan ei fab, Edward. Yn eu tro, etifeddodd Gwendoline, Margaret a'u brawd, David, yn ddiweddarach Arglwydd Davies y Cyntaf, y stad.Magwraeth a phlentyndodGaned Gwendoline a Margaret ym 1882 a 1884, a llywiwyd eu plentyndod gan gredoau llym Methodistiaeth Galfinaidd. Cawsant eu dysgu bod dyletswydd arnynt fel Cristnogion i ddefnyddio'r cyfoeth mawr y byddent yn ei etifeddu er daioni.Ar ôl cael addysg flaengar dda, datblygodd y ddwy gariad ddofn at gelf a cherddoriaeth. Gan fod hanes celf yn ei fabandod ym Mhrydain, astudiodd y chwiorydd yn yr Almaen a'r Eidal, cyn mynd ati i ddechrau casglu gweithiau celf.Roeddent yn anghyffredin o wybodus ynglŷn â'r celfyddydau, yn enwedig o ystyried mai merched bonedd oeddent.Dechrau casglu celfDechreuodd y chwiorydd gasglu celf o ddifrif ym 1908. Ymhlith y gweithiau cyntaf a brynwyd ganddynt roedd tirluniau o waith Corot, golygfeydd gwerinol o waith Millet a'r Storm a'r Bore wedi'r Storm o waith Turner.Casglodd y ddwy bron i gant o ddarluniau a cherfluniau yn ystod eu chwe blynedd cyntaf o gasglu. Roedd eu chwaeth yn ddigon traddodiadol i gychwyn, ond ym 1912, trodd y ddwy at brynu gweithiau'r Argraffiadwyr.ArgraffiadaethAr y cyfan, roedd y gweithiau Argraffiadol yn rhatach na'r gweithiau roedden nhw wedi bod yn eu prynu gan artistiaid fel Turner a Corot.Prynodd Gwendoline ei pheintiad pwysicaf, La Parisienne, am £5,000 ym 1913.Effaith y Rhyfel MawrCafodd y Rhyfel Byd Cyntaf effaith sylweddol ar fywydau Gwendoline a Margaret. Bu'r ddwy'n gweithio gyda'r Groes Goch yn Ffrainc, ond llwyddodd y ddwy i ychwanegu at eu casgliad yn ystod y blynyddoedd hyn gan brynu gweithiau gan Daumier, Carrière, Renoir, Manet a Monet. Ym 1916 gwariodd Gwendoline Davies £2,350 ar ddeg peintiad olew a darlun o waith Augustus JohnYm 1918, prynodd Gwendoline ddau dirlun enwog o waith Cézanne, Argae François Zola a Thirlun ym Mhrofens,rhai o'i gweithiau pwysicaf a mwyaf craff.Casglu ar ôl y Rhyfel MawrYm 1920, prynodd Gwendoline rhai o'i gweithiau ceinaf efallai, sef Bywyd Llonydd â Thebot gan Cézanne am £2,000 a Glaw — Auvers gan Van Gogh am £2,020.Talodd y chwiorydd symiau mawr am weithiau'r Hen Feistri hefyd, gan gynnwys Y Forwyn a'r Plentyn gyda Phomgranad o waith Botticelli.Gwelwyd lleihad sydyn yn eu gwaith casglu ar ôl hynny. Ym 1921, ysgrifennodd Gwendoline pam nad oedd modd iddynt barhau i brynu gymaint 'oherwydd yr angen dychrynllyd sydd ym mhob man'.Er hynny, fe wariodd y chwiorydd dros £2,000 ar Goleufa o waith Turner ym 1922 a £6,000 ar Ddadwisgo Crist o weithdy El Greco ym 1923. Ym 1926 rhoddodd Gwendoline y gorau i gasglu'n llwyr.Gregynog: canolfan i'r celfyddydau, cerddoriaeth a chrefftauCefnogodd y ddwy lawer o fentrau cymdeithasol, economaidd, addysgol a diwylliannol yng Nghymru yn ystod y 1920au a'r 1930au.Ym 1920 prynodd y chwiorydd Neuadd Gregynog i'w sefydlu fel canolfan i'r celfyddydau a cherddoriaeth yng Nghymru. Ym 1922, sefydlwyd Gwasg Gregynog yno lle argraffwyd rhai o lyfrau ceinaf Prydain rhwng y ddau ryfel. Roedd Gregynog yn cydategu'r Amgueddfa Gelf a Chrefft yr oedd y chwiorydd eisoes wedi helpu i'w chreu yn Aberystwyth.Cynhaliwyd Gwyliau Cerdd a Barddoniaeth poblogaidd yng Ngregynog tan ddechrau'r rhyfel ym 1939, pan drodd y chwiorydd eu sylw at ymdrech y rhyfel unwaith eto.Gregynog — diwedd cyfnodPan fu farw Gwendoline ym 1951, daliodd Margaret ati â'r gweithgareddau y gallai barhau â nhw yn ystod ei blynyddoedd olaf. Ond heb Gwendoline, y 'prif grëwr ac ysbrydolwr', ni ddaeth oes aur Gregynog fyth yn ôl. Y flwyddyn cyn ei marwolaeth, cyflwynodd Margaret y tŷ a'r gerddi i Brifysgol Cymru i'w defnyddio fel canolfan gynadledda breswyl.Troi casgliad personol yn un preifatYm mis Hydref 1951, cyhoeddodd yr Amgueddfa Genedlaethol ei bod wedi derbyn cymynrodd 'y diweddar Miss Gwendoline Davies'. Dyma un o'r rhoddion mwyaf gwerthfawr i gasgliad cyhoeddus ym Mhrydain mewn blynyddoedd diweddar.Daliodd Margaret Davies ati i gasglu gweithiau celf tan ychydig cyn ei marwolaeth ym 1963, gan ganolbwyntio'n bennaf ar waith gan artistiaid Prydeinig modern, a llawer ohonynt yn Gymry. Gadawodd ei gweithiau hithau hefyd i'r Amgueddfa, a phrynodd nifer o'r gweithiau diweddarach gyda'r Amgueddfa mewn golwg.Ym 1963, ymunodd cymynrodd Margaret o 152 o weithiau â chymynrodd ei chwaer. Gyda'i gilydd, trawsnewidiodd gweithiau'r chwiorydd ein casgliad celf cenedlaethol yn llwyr.Nodiadau ar y lluniau Jean-Baptiste Camille Corot (1796–1875), Castel Gandolfo, Bugeiliaid o’r Tyrol yn dawnsio ger Llyn Albano, olew ar gynfas, 1855–60 Disgrifiwyd y gwaith hwn fel un o gampweithiau Corot ar y pryd. Talodd Gwendoline £6,350 amdano ym 1909. Roedd Margaret wedi cofnodi gweld 'sawl darn hyfryd o waith Corot' yn y Louvre yn gynharach yn yr un flwyddyn.Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1951) NMW A 2443. Jean-François Millet (1814–1875), Merch y Gwyddau yn Gruchy, olew ar gynfas, 1854–6 Prynodd Gwendoline a Margaret nifer o weithiau gan artistiaid Ysgol Barbizon yn ystod blynyddoedd cyntaf eu gwaith casglu. Millet oedd un o ffefrynnau'r chwiorydd.Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1951) NMW A 2479. J.M.W. Turner (1775–1851), Y Bore Wedi’r Storm, olew ar gynfas, tua 1840–5 Prynodd Gwendoline y llun yma am £8,085 ym mis Tachwedd 1908, a phrynodd Margaret Y Storm oedd yn cyd-fynd ag ef. Mae'n debyg i storm fawr 21 Tachwedd 1840 ysbrydoli'r ddau lun.Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1952) NMW A 434. Claude Monet (1840–1926), San Giorgio Maggiore yn y Gwyll, olew ar gynfas, 1908 Teithiodd y chwiorydd i Fenis ym 1908 a 1909. Mae'r llun yn dangos eglwys San Giorgio Maggiore gan y pensaer Palladio fel silwét porffor yn y gwyll. Talodd Gwendoline £1,000 amdano ym mis Tachwedd 1912.Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1951) NMW A 2485.
Locomotif stêm Richard Trevithick 15 Rhagfyr 2008 Yr atgynhyrchiad o'r locomotif yn ei gartref presennol, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Loco PenydarrenAr 21 Chwefror 1804, rhedodd y daith rheilffordd gyntaf am 9 milltir o weithfeydd haearn Penydarren i Gamlas Merthyr–Caerdydd, gan gyrraedd cyflymder o bron pum milltir yr awr. Aeth nifer o flynyddoedd heibio cyn bod trenau stêm yn dod yn fasnachol ymarferol, ond does dim amheuaeth nad Trevithick yn hytrach na George Stephenson oedd gwir dad y rheilffyrdd.Ym 1803, aeth Richard Trevithick i weithio gyda Samuel Homfray, perchennog gwaith haearn Penydarren ym Merthyr Tudful. Roedd Homfray'n ymddiddori’n fawr yn yr injans gwasgedd uchel yr oedd y dyn o Gernyw wedi eu datblygu a’u defnyddio yn ei injans ffordd.Anogodd Homfray Trevithick i ymchwilio i’r posibilrwydd o osod injan o’r fath mewn locomotif ar y rheilffordd newydd rhwng Penydarren a glanfa’r gamlas yn Abercynon.Richard CrawshayMae’n debyg bod Trevithick wedi dechrau gweithio ar y locomotif yn hydref 1803, ac erbyn Chwefror 1804 roedd wedi ei gwblhau. Yn ôl bob sôn, roedd Richard Crawshay, perchennog y gwaith haearn cyfagos yng Nghyfarthfa, yn amheus iawn o’r injan newydd. Betiodd ef a Homfray 500 gini’r un gyda Richard Hill, o waith haearn Plymouth, p’un a allai’r injan dynnu deg tunnell o haearn i Abercynon a thynnu’r wagenni gwag yn ôl wedyn.Aeth yr injan ar ei thaith gyntaf ar 21 Chwefror, a disgrifiodd Trevithick y daith yn fanwl:‘... ddoe aethom ar ein taith gyntaf gyda’r injan, gan dynnu deg tunnell o haearn mewn pum wagen, a saith deg o ddynion yn teithio arnynt ar hyd y ffordd ... tra ’roedd yr injan yn gweithio, teithiodd bron i bum milltir yr awr; ni roddwyd dŵr yn y boeler o’r cychwyn hyd ddiwedd y daith ... defnyddiwyd dau ganpwys o lo’.Yn anffodus, torrodd bolltyn ar y daith ’nôl a barodd i’r boeler golli dŵr, felly bu’n rhaid gwneud y tân yn llai ac ni chyrhaeddodd yr injan Benydarren tan y diwrnod canlynol. Rhoddodd hyn reswm i Crawshay honni na chyflawnwyd y daith fel y cytunwyd — ond ni wyddom a fu pen ar y mwdwl!Y gwir oedd fod yr injan yn rhy drwm i’r cledrau, ac fe’i defnyddiwyd yn ddiweddarach fel injan sefydlog i yrru morthwyl gefail yng ngwaith haearn Penydarren.Locomotif replicaAdeiladwyd y locomotif replica yn yr Amgueddfa gan ddilyn cynlluniau a dogfennau gwreiddiol Trevithick (sydd bellach yn Amgueddfa Genedlaethol Gwyddoniaeth a Diwydiant). Cafodd ei chwblhau ym 1981, ac yn union fel yr injan wreiddiol, fe dorrodd ar ei rheiliau!Allwn ni ddim orbwysleisio pwysigrwydd locomotif Trevithick. Ym 1800, ar garlam wrth farchogaeth oedd y cyflymaf y gallai dyn deithio dros dir. Ganrif yn ddiweddarach roedd rhwydwaith reilffordd yn cyrraedd cyfran helaeth o'r byd gyda threnau’n teithio’n gyson ar gyflymder o chwe deg milltir yr awr. Yn ne Cymru yn Chwefror 1804 gwelwyd cymal cyntaf y daith honno a weddnewidiodd y byd. The Penydarren locomotive - Steaming DaysFfilm fer yn dogfennu blynyddoedd cynnar y replica o locomotif Richard Trevithick yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.