Gweithio Dramor - Ymfudo o Cymru: Copr
19 Medi 2008
Adfeilion y gweithfeydd copr yn Burra Burra, New South Wales, Awstralia
Mwynglawdd copr Burra Burra, 1874.
Morris Stores, Swansea, Tasmania
George Mitchell
Cymru oedd yn arwain y diwydiant mwyndoddi copr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd y gweithfeydd yn ardaloedd Abertawe a Threffynnon yn cynhyrchu mwy na hanner copr y byd i gyd.
Roedd diwydiant copr UDA yn fwy llwyddiannus o lawer na'r diwydiant yng Nghymru. Yn Awstralia roedd cyfenwad mawr o fwynau copr a arweiniodd at dwf y tref mwyndoddi yn ardal Spencer Gulf, de Awstralia o'r 1860au ymlaen. Ymfudwyr oedd y gweithwyr yn y dyddiau cynnar, ac roedd bron pob un yn hanu o ardal Abertawe.
Cymry oedd piau'r pwll a'r gwaith mwyndoddi yn Burra Burra, de Awstralia, a recriwtiwyd gweithwyr o ardal Casllwchwr a Llanelli. Yn y pendraw, sefydlu'r gweithfeydd mwyndoddi hyn fu'n bennaf gyfrifol am ddod â goruchafaeth ddiamheuol Abertawe ym marchnadoedd copr y byd i ben.
Wrth i ffynonellau copr ddechrau lleihau ym Mhrydain ac Ewrop, dechreuodd Abertawe fewnforio mwynau copr o wledydd fel Chile. Yn y 1860au helpodd gweithwyr mwyndoddi o Gymru i sefydlu gweithfeydd yn Chile ac erbyn heddiw, Chile yw un o gynhyrchwyr mwyaf y byd.
George Mitchell
Ganed George yn Abertawe ym 1864, a chafodd hyfforddiant yn y gweithfeydd copr lleol. Ymfudodd i UDA ym 1888 gan weithio mewn nifer o gwmnïau mwyngloddio a smeltio copr o amgylch y wlad. Roedd yn berchen ar fwyngloddiau ac eiddo o Fecsico i Alaska ond cafodd ei ddinistrio gan fethiant ysgubol ei waith smeltio copr anferth yn Swansea, Arizona.