: Mwyngloddio

Ceffylau yng nglofeydd Cymru

Ceri Thompson, 6 Hydref 2023

Mae golwr yn sefyll o dan y ddaear mewn pwll glo; mae'r trawstiau pren o'i gwmpas ac mae'n gafael mewn ceffyl glo
Mae dau ddyn yn dal ffrwyn dau geffyl. Mae’n dywyll ond mae olwyn glo i’w weld yn y cefndir; mae wyneb un dyn yn edrych yn ddifrifol
Ceffyl brown yn sefyll ar drac mewn pwll glo; mae sied werdd un ochr iddo a thomen lechi yr ochr arall, mae'r cefyll yn tynnu cart y tu ol iddo
Ceffyl gwyn yn rhedeg mewn cau; mae coed yn y pellter tu ol iddo

Mae ceffylau wedi bod â chysylltiad agos â chloddio glo ers dyddiau cynnar y diwydiant. Cawson nhw eu defnyddio i gludo glo o'r pyllau i'r cwsmer, i bweru injans weindio a phwmpio ac, yn bwysicaf oll, i symud glo o'r talcen glo i'r siafft.

Ym 1878 cyfrifodd yr RSPCA fod dros 200,000 o geffylau yn gweithio ym mhyllau glo Prydain. Lleihaodd y niferoedd wrth i fecaneiddio ddod yn fwy cyffredin, ond parhawyd i'w defnyddio trwy gydol yr ugeinfed ganrif. Mae’n debyg mai ceffyl pwll glo olaf Cymru oedd Robbie, a ymddeolodd o Bwll Glo Pant y Gaseg ym 1999.

'Merlod pwll glo,' oedd enw mwyaf cyffredin y cyhoedd arnyn nhw, ond roedd ceffylau pwll glo Cymru fel arfer tua 15 dyrnfedd o uchder – yr un maint â cheffylau rhyfel Harri VIII. Honnir yn aml iddyn nhw fynd yn ddall, ond ni fyddai ceffyl dall wedi bod yn ddefnyddiol iawn o dan y ddaear, ac fel arfer byddai unrhyw anifail a oedd wedi colli ei olwg yn cael ei ddwyn i'r wyneb cyn gynted â phosibl.

Er eu bod yn hanfodol ar gyfer cynhyrchu glo cyn cyflwyno cludiant mecanyddol, mae defnyddio ceffylau yn y diwydiant glo yn aml wedi bod yn ddadleuol iawn. Dadleuai'r perchnogion glo eu bod yn hanfodol yn y broses economaidd o dynnu glo, a byddai'r rhai sy'n caru anifeiliaid yn ystyried eu defnydd yn greulon.

Yn y canol, rhwng y ddwy ochr, oedd y glowyr, a oedd efallai yn cydymdeimlo â'r anifeiliaid hyn. Fodd bynnag, gallen nhw anwybyddu unrhyw greulondeb, neu hyd yn oed fod yn greulon eu hunain, pe bai eu pecyn cyflog dan fygythiad.

Roedd ceffylau pwll glo Cymru fel arfer tua 15 dyrnfedd o uchder ac yn wrywod, adfeirch yn bennaf ond roedd rhai meirch yn cael eu cadw. Roedd y mwyafrif o deip Cob Cymreig ond roedd ceffylau mwy megis ceffylau gwedd a cheffylau a fewnforiwyd o Wlad Belg hefyd yn cael eu cadw, yn enwedig ar yr wyneb neu ar y prif ffyrdd cludo. Pan oedd y stociau o geffylau yn isel, roedd modd eu cael o mor bell i ffwrdd ag America a Rwsia. Roedd merlod llai, tua 13 dyrnfedd o uchder, yn cael eu defnyddio weithiau ar gyfer dyletswyddau cludo ysgafn.

Roedd yn rhaid iddyn nhw fod o leiaf 4 oed cyn cael eu derbyn i waith pwll glo. Ym 1893, roedd disgwyliad oes cyfartalog ceffyl pwll glo rhwng 8 a 9 mlynedd, a byddai tua 6% yn cael eu lladd mewn damweiniau. Erbyn y 1950au roedd hyn wedi codi i rhwng 10 a 15 mlynedd, er bod rhai a oedd yn cyflawni 'tasgau ysgafn' yn dal i fod mewn cyflogaeth a hwythau dros 20 oed.

Erbyn y 1930au, roedd y rhan fwyaf o geffylau yn gweithio rhwng 45 a 60 awr yr wythnos. Ar ôl 1949 nid oedd uchafswm yr oriau gwaith i fod yn fwy na 48 awr a dim mwy na 7 shifft, yr wythnos. Roedd ganddyn nhw hefyd hawl i'r un egwyl o 20 munud â'r dynion.

Ym 1938, roedd gan lowyr hawl i wythnos o wyliau blynyddol â thâl, ac roedd y ceffylau fel arfer yn cael eu caniatáu uwchben y ddaear hefyd. Erbyn 1948 roedd y glowyr a'r ceffylau yn cael pythefnos o wyliau blynyddol.

Erbyn 1878, roedd yr RSPCA yn amcangyfrif bod tua 200,000 o geffylau yn gweithio ym mhyllau glo Prydain. Erbyn 1913 roedd hyn wedi gostwng i 70,000, oherwydd dulliau cludo mecanyddol gwell. Ym 1930 adroddwyd nad oedd gan 25 o byllau glo Cymru unrhyw geffylau o gwbl. Ym 1947 roedd yna tua 8,000 o geffylau pwll glo yng Nghymru, erbyn 1967 dim ond 417 oedd. Erbyn yr 1980au roedd ceffylau'r Bwrdd Glo Cenedlaethol yn cael eu hymddeol ond, mewn 'pyllau preifat' llai, cafodd ceffylau eu defnyddio am rai blynyddoedd eto.

Ymddeolodd ceffylau pwll glo olaf Cymru, Gremlin a Robbie, o Bwll Glo Pant y Gaseg, Pont-y-pŵl, ym 1999. Cawson nhw eu hanfon i un o gartrefi gorffwys yr RSPCA yn Milton Keynes, ond roedd hynny'n rhy ddiflas i Robbie, a chafodd ei fenthyg i Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Lloegr yn Wakefield lle bu'n tynnu tybiau ysgafn o ymwelwyr o amgylch y safle. Bu farw Robbie ar 27 Ebrill 2009, y ceffyl pwll glo olaf yng Nghymru yn ôl pob tebyg.

I lawer o ymwelwyr â Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, y rhannau mwyaf cofiadwy yw’r stablau tanddaearol a'r rhai ar yr wyneb, sy’n dal i ddwyn enwau’r ceffylau a oedd yn gweithio yno. Erbyn dechrau'r ugeinfed ganrif, roedd tua 300 o geffylau yn gweithio ym mhyllau glo Blaenafon, a 72 ohonyn nhw’n gweithio yn Big Pit.

Daethpwyd â'r ceffyl tanddaearol olaf yn Big Pit i fyny ym 1972, ond parhaodd dau geffyl i weithio ar yr wyneb tan 1974.

Boed yn 'anifail anwes bodlon' neu'n 'ferlyn pwll truenus', roedd y ceffyl pwll glo yn rhannu'r un amodau a pheryglon â'r glöwr ei hun. Buon nhw’n farw yn eu cannoedd o gamdriniaeth, damweiniau a ffrwydradau. Mae arnom ddyled fawr iddynt, gan gynnwys llwyddiant y chwyldro diwydiannol.

Datguddio Hanes Cymru: Lansio Casgliadau Arlein

26 Mawrth 2018

Wrth i ni ddatguddio hanner miliwn o gofnodion casgliadau am y tro cyntaf, dyma rai o’r gwrthrychau rhyfedda' a mwya' diddorol o’n gwasanaeth Casgliadau Arlein newydd.

Mae’r erthygl hon yn cynnwys llun o ran o sgerbwd dynol.

Y Mwyaf

Mae ambell i wompyn yn y casgliad – gan gynnwys Tram Ceffyl maint llawn o Gaerdydd a hofrennydd achub môr – ond y mwya’ o bell ffordd yw Institiwt y Gweithwyr o Oakdale.

Agorwyd yr adeilad ym 1917, gyda neuadd ddawns, stafell gemau a llyfrgell – erbyn heddiw fe ddowch chi o hyd i’r adeilad yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Ffotograff o 1908 yn dangos Horace Watkins mewn awyren gynnar, fregus yr olwg

Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908

Mae rhan helaeth o adeiladau Sain Ffagan yn rhan o’r casgliad cenedlaethol – ac yn meddu ar yr un statws cyfreithiol ag un o gampweithiau Monet neu gelc o drysor. Mae’r adeiladau’n cael eu datgymalu, eu symud a’u hail-adeiladau yn defnyddio technegau traddodiadol gan dîm o grefftwyr arbenigol.
 

Yr Hynaf


ffotograff o ddau ddant bachgen Neanderthalaidd 8 mlwydd oedd

Rhain yw olion dynol hynaf Cymru

Dannedd bachgen wyth oed yw’r rhain. Mae’n nhw dros 230, 000 mlwydd oed – yr olion dynol hynaf a ddarganfyddwyd yng Nghymru.

Datguddiwyd nhw gan archaeolegwyr yn archwilio Ogof Pontnewydd, ger Cefn Meiriadog, ble darganfyddwyd olion arth, llew, llewpart, a dant rheinosorws.

Bydd y dannedd yma i’w gweld yn arddangosfeydd newydd Sain Ffagan o Hydref 2018.
 

Y Mwya Sgleiniog

Mae pobl yng Nghymru wedi bod yn creu, ffeirio a gwisgo trysorau aur ers miloedd o flynyddoedd – fel yr addurn gwallt yma o’r Oes Efydd, a’r fodrwy enfawr hon.


ffotograff o ddisg aur gyda chynllun addurniadol

'Disgen haul' yw'r enw ar y math hwn o addurn, ond nid yw pwrpas y gwrthrych yn hollol glir

Mae’r Ddisgen Haul hon yn un o’r esiamplau cynharaf o addurn aur o Gymru, a darganfyddwyd hi yng Nghwmystwyth yng Ngheredigion.

Credir mai addurn angladdol oedd y ddisgen hon, a'i bod yn debygol i'r ddisgen gael ei phwytho ar ddillad y person marw cyn eu hangladd. Dim ond chwech o'r disgiau yma sydd wedi eu canfod yn y DU yn gyfan.
 

Mwyaf Dadleuol

Ar yr olwg gynta, set de capel gyffredin yw hon. Ond o edrych yn agosach, fe welwn ni’r geiriau ‘Capel Celyn’ arni. Mae’r Capel a’i chymuned, wrth gwrs, o dan ddyfroedd Llyn Celyn erbyn hyn.


Ffotograff yn dangos cwpan a soser â'r geiriau 'Capel Celyn' a chynllun rhuban arnynt

Casglodd guraduron esiamplau o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn, cyn i'r cwm gael ei foddi yn 1965

Pan foddwyd cwm Tryweryn ym 1965 gan Gorfforaeth Lerpwl, daeth y digwyddiad yn drobwynt yn hanes ymgyrchu Cymreig. Crewyd cenhedlaeth newydd o brotestwyr, a hawliodd well triniaeth i gymunedau Cymreig gan y llywodraeth a chan gorfforaethau.

Casglwyd y cwpanau hyn fel esiampl o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn – i’n atgoffa o gymuned wedi ei dadleoli, ac i goffau un o ddigwyddiadau gwleidyddol mwyaf pwysig Cymru’r 20ed ganrif.
 

Gwobr Arbennig: Awyren wedi’i gwneud o Sedd Stafell Fwyta

Adeiladwyd y Robin Goch ym 1909 – o gadair stafell fwyta, weiren biano ac injan 40 horsepower. Amserwr wy ger yr olwyn yrru sy’n mesur faint o danwydd sydd ar ôl yn yr awyren.


ffotograff o awyren fechan o'r ugeinfed ganrif, ag iddi adennydd coch

Y Robin Goch wedi'i harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Bu'r awyren hon yn hedfan o gwmpas Caerdydd rhwng 1909 a 1916 - dyma lun o Horace Watkins, a adeiladodd y Robin Goch, mewn fersiwn gynharach, hyd yn oed yn fwy bregus, o’r awyren.
 

Ffotograff o 1908 yn dangos Horace Watkins mewn awyren gynnar, fregus yr olwg

Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908

Mae ein casgliadau yn llawn straeon sy’n olrhain hanes a dangos cymeriad unigryw pobl Cymru. Mae’r Robin Goch yn un o drysorau’r casgliad, ac yn eisampl o ddyfeisgarwch a menter Cymru ar ei orau.

Hanner miliwn o eitemau i’w chwilio

Mae lansiad Casgliadau Arlein yn datguddio hanner miliwn o gofnodion casgliad, sydd nawr ar gael ar lein i’w chwilio am y tro cyntaf.

“Mae Casgliadau Arlein yn garreg filltir enfawr yn ein gwaith, wrth i ni geisio dod â rhagor o’n casgliadau arlein, i gynulleidfa ehanach, fyd eang.

Dim ond dechrau’r gwaith yw hyn. Mae hi mor gyffrous meddwl beth y bydd pobl Cymru a thu hwnt yn ei wneud gyda’r cofnodion yma – archwilio gwrthrychau, llunio straeon ac ychwanegu at ein dealltwriaeth ni o’r casgliad cenedlaethol” – Chris Owen, Rheolwr y We
 

Chwilio Casgliadau Arlein

I’r dyfodol...

Ein gwaith ni ‘nawr fydd i fynd trwy’r hanner miliwn o gofnodion, a’u gwella. Ysgrifennwyd rhai yn y 1940au ac felly byddwn yn ychwanegu gwybodaeth a lluniau wrth i ni fynd yn ein blaen.

Fe fyddwn ni’n dadansoddi sut y mae pobl yn defnyddio’r casgliadau, i weld be sy’ fwya’ poblogaidd ymysg ein hymwelwyr, neu beth sy’n sbarcio trafodaeth. Bydd hyn yn rhoi syniad i ni o beth i dynnu llun ohono nesaf, neu beth i’w ystyried ar gyfer arddangosfeydd yn y dyfodol.

Mae paratoi gwrthrychau a thynnu eu lluniau yn broses sydd angen gofal, am fod llawer o'r gwrthrychau yn fregus neu'n sensitif i olau. Os hoffech chi ein cefnogi yn y gwaith yma, gwnewch rodd heddiw - mae pob cyfraniad yn cyfri.

 

Cyfrannu Heddiw

 

Rydym ni'n eithriadol o ddiolchgar i'r People's Postcode Lottery am eu holl gefnogaeth wrth i ni weithio i rannu'n casgliadau arlein.
 

Hanes Trist Esyllwg

Ceri Thompson, 1 Mawrth 2017

<em>‘The most beautiful work of art’</em> - Cadair Eisteddfod
‘The most beautiful work of art’

- Cadair Eisteddfod

Yn y Rhondda Fawr ar Ddydd Gwener y Groglith, Ebrill y 10fed 1903, cynhaliwyd pumed Eisteddfod Gadeiriol Blaenclydach yng Nghapel Gosen y pentref.

Roedd 17 yn cystadlu am wobr o gadair (‘darn eithriadol o hardd o gelf’ yn ôl y Rhondda Leader) a £1.11.6d. Rhoddwyd y gadair gan Mr Joseph Jones o Flaenclydach. Y dasg oedd cyfansoddi 120 llinell ar y testun ‘Adgof’ (hen sillafiad o atgof) a'r beirniad oedd Ap Ionawr o Lansamlet.

Enillydd y gystadleuaeth oedd ‘Esyllwg’ (hen enw ar dde-ddwyrain Cymru) – enw barddol Thomas Jones, glöwr 30 oed o Aberpennar. Cyhoeddodd yr Aberdare Leader fod bardd cadeiriog cyntaf Aberpennar yn ‘ŵr ifanc gyda gyrfa addawol’, cyn mynd ymlaen i sôn fod bwriad i ‘ailadrodd seremoni’r cadeirio yn Neuadd Bethania (Aberpennar) yn ystod y mis nesaf’. Yn drist iawn, ni chynhaliwyd y seremoni honno fyth.

Ganwyd tad Thomas, David Thomas Jones, ym Mrynaman ym 1846, a daeth i weithio yng Nglofa Navigation Nixon yn Aberpennar. Dilynodd ‘Esyllwg’ ei dad i’r lofa ond roedd hefyd yn adnabyddus fel athro dosbarthiadau Cymraeg yn Adran Wyddoniaeth a Chelf, Ysgol Barhad Aberpennar. Roedd hefyd yn aelod ffyddlon o Gapel Annibynwyr Cymraeg Bethania ac yn chwarae gyda Band Llinynnol Caegarw.

Capel Bethania, Aberpennar

Capel Bethania, Aberpennar

Capel Soar, Aberpennar

Capel Soar, Aberpennar

Carreg goffa Thomas Jones

Carreg goffa Thomas Jones

Thomas Jones

Thomas Jones

Damwain Esyllwg

Ar Fai y 4ydd, gwta fis wedi’i lwyddiant yn yr Eisteddfod, roedd Thomas yn gweithio ar wythïen 2’9” Glofa Ddofn Dyffryn pan laddwyd ef mewn cwymp. Mae Adroddiad Arolygydd Glofeydd Ei Fawrhydi ar gyfer 1903 yn disgrifio’r digwyddiad fel hyn:

“Fall of roof: no.42, Thomas Jones, 30, collier, 4 May 1903, 12.30pm, Deep Duffryn Colliery, Glamorgan, Nixon’s Navigation Co Ltd. “At face, cliff, 10 ft. by 4ft 8 ins. by 44 ins. thick. Deceased wanted to get this stone down, so commenced knocking the props out from under it, and, when he knocked out the last, the fall occurred. Its falling so suddenly was due to a “false slip” in the roof, which could not be seen previous to the fall. Two feet nine seam.”

Cyhoeddwyd y newyddion yn yr Aberdare Leader dan y pennawd: “Esyllwg’s Sad Fate”, a disgrifiwyd Thomas fel ‘pêr ganiedydd Pennar’. Daw’r erthygl i ben fel hyn: “The blighting of a budding genius by the grim hand of death is always distressing, but the tragic circumstances make the demise of our friend doubly pathetic. His relatives are the objects of the most sincere sympathy.”

Ym 1904 cyflwynodd chwaer Thomas, Claudia, garreg goffa iddo ar wal allanol capel newydd Soar ar Stryd Fawr, Aberpennar. Mae’r capel yn dal i sefyll, er ei fod wedi cau, ond mae’r garreg wedi gwisgo cymaint nes ei bod bron yn amhosibl i’w darllen.

Mae’r gadair nawr yn rhan o gasgliad glofaol Amgueddfa Cymru.

Pryddest Goffadwriaethol

Pryddest Goffadwriaethol

Pryddest Goffadwriaethol ô'r angladd.

Y Llythyr yn y Lamp: Gorymdaith Newyn Glowyr y De

Ceri Thompson, 15 Gorffennaf 2016

Ar ddechrau 2016, rhoddwyd lamp ddiogelwch math Cambrian a llythyr wedi’i fframio i Big Pit.

Y Llythyr

Daeth y rhoddwr o hyd i’r llythyr, dyddiedig 10 Ionawr 1928, wedi’i guddio yng nghap y lamp. Roedd wedi’i gyfeirio at Mr J. Hawes – perthynas i’r rhoddwr – a’i lofnodi gan D. Lloyd Davies o’r Maerdy, Cwm Rhondda. Yn y llythyr Saesneg, mae Mr Lloyd Davies yn ymddiheuro am oedi cyn anfon lamp glöwr at Mr Hawes oherwydd ei fod yn chwilio am lamp ‘of equal historical distinction for our friend the coroner’.

Mae’r llythyr yn nodi mai’r lamp, a oedd yn barod i’w hanfon at Mr Hawes, oedd un o’r ychydig i gael eu canfod wedi ffrwydrad echrydus Cilfynydd ym mis Mehefin 1894. Nodir hefyd yn y llythyr: ‘things continue very black in this Rhondda area and will confess that the last was the blackest Christmas I’ve ever spent.’

Roedd gan James Hawes, derbynnydd y llythyr, fusnesau angladdau mewn o leiaf pedwar lle yn Llundain. Gwyddwn fod gŵr o'r enw David ‘Dai’ Lloyd Davies yn swyddog yng Nghyfrinfa Glofa’r Maerdy oedd yn rhan o Ffederasiwn Glowyr De Cymru, tua’r adeg honno. Er nad yw’n sôn am hynny yn y llythyr, ymddengys mai Gorymdaith Newyn 1927 yw’r cysylltiad rhwng y ddau ddyn, pan gerddodd 270 o lowyr di-waith yr holl ffordd o dde Cymru i Lundain. Roedd David ‘Dai’ Lloyd Davies yn flaenllaw yn yr orymdaith.

Y llythyr, dyddiedig 10 Ionawr 1928. Roedd wedi’i gyfeirio at Mr J. Hawes a’i lofnodi gan D. Lloyd Davies o’r Maerdy, Cwm Rhondda.

Y llythyr, dyddiedig 10 Ionawr 1928. Roedd wedi’i gyfeirio at Mr J. Hawes a’i lofnodi gan D. Lloyd Davies o’r Maerdy, Cwm Rhondda.

Gorymdaith Newyn 1927

Un o amcanion Gorymdaith Newyn 1927 o gymoedd y De oedd tynnu sylw at drallod y di-waith yn ardal y meysydd glo, a phyllau’n cael eu cau’n gyson, a oedd yn gwaethygu’r tlodi o’r diweithdra ymhellach.

Penderfynodd llawer o lowyr di-waith orymdeithio o’u gwirfodd, ond roedd y rhai a recriwtiwyd i orymdeithio yn ddynion y gwrthodwyd budd-daliadau’r ganolfan waith a chymorth cyfraith y tlodion iddynt. Er mwyn sicrhau digon o ddillad a sgidiau cadarn i bob dyn, cafodd arian a dillad eu casglu yn y pentrefi glofaol. Roedd pob gorymdeithiwr yn mynd i gario lamp glöwr wedi’i goleuo.

Dechreuodd yr orymdaith yn y Maerdy, ym mhen ucha’r Rhondda Fach, ar 8 Mawrth 1927, a chyrraedd Llundain lai na phythefnos wedyn, ar 20 Mawrth. Aethon nhw drwy sawl tref a phentref, gan gynnwys Bryste, Caerfaddon a Swindon, a chawsant eu cyfarch gan dorfeydd o gefnogwyr ar hyd y ffordd. Ar ôl cyrraedd Llundain, daeth miloedd at ei gilydd mewn glaw trwm, wrth i brotest enfawr gael ei chynnal yn Sgwâr Trafalgar fel arwydd o undod gyda’r glowyr di-waith.

Yn anffodus, bu farw dau löwr yn ystod yr orymdaith. Cafodd Mr Arthur Howe o Drealaw ei ladd mewn damwain ffordd a bu farw Mr John Supple o Donyrefail o niwmonia ar ôl cael ei wlychu at ei groen yn y rali yn Sgwâr Trafalgar.

Trefnwr angladdau oedd Mr Hawes, cyn-berchennog y lamp, ac mae’r llythyr yn cyfeirio at grwner: mae’n debyg eu bod nhw wedi cynorthwyo’r gorymdeithwyr yn ystod y digwyddiadau trist hynny.

Disgrifiodd Wal Hannington, un o arweinwyr y National Unemployed Workers Movement ar y pryd, y cyrff yn cael eu dychwelyd adref i’r De yn ei hunangofiant Unemployed Struggles, 1919-1936, EP Publishing, 1973.

opening quotemark

‘In the funeral procession which marched through London the coffins were covered with the red flag of the workers and on each stood an unlighted miner’s lamp.  The silent march to Paddington Station was most impressive; thousands on that great station stood hushed in silence as the marchers bore the bodies of their dead comrades to the van of the train.’

Cafodd Mr Hawes ei lamp yn ôl maes o law, ac mae’r rhoddwr yn ei gofio’n trysori’r lamp am weddill ei oes.

Y Lamp

Lamp ddiogelwch math Cambrian

Lamp ddiogelwch math Cambrian

Digwyddodd ffrwydrad glofa’r Albion, Cilfynydd, ar 23 Mehefin 1894. Yn ôl yr amcangyfrifon, cafodd mwy na 290 o ddynion a bechgyn eu lladd (ni chadwyd cofnodion o’r rhai oedd yn gweithio danddaear), ychydig iawn a ddihangodd, ac o’r rheiny a lwyddodd i ffoi, bu farw’r rhan fwyaf ohonynt o’u hanafiadau.

Roedd nifer fawr o’r rhai a laddwyd yn hanu o’r Gogledd a’r Gorllewin, ac yn lletya yn y pentref er mwyn codi digon o arian i symud eu teuluoedd i lawr i Gilfynydd. Roedd cyfran fawr arall wedi dod o Aberpennar ac wedi dilyn rheolwr yr Albion, Mr Philip Jones, brodor o’r ardal honno. Ffrwydrad yr Albion oedd y trychineb glofaol mwyaf ond un yng Nghymru. Y mwyaf oedd ffrwydrad glofa’r Universal, Senghennydd, a laddodd 439 o fechgyn a dynion.

Lamp ddiogelwch math Cambrian yw hi, yr un math â’r rhai oedd mewn defnydd yng nglofa’r Albion, Cilfynydd, adeg y trychineb. Mae’n ymddangos bod glowyr yr Albion yn prynu eu lampau eu hunain bryd hynny, yn hytrach nag yn eu cael gan y cwmni, ac mae’n debyg bod llawer wedi anwybyddu’r rheol oedd yn gwahardd y dynion rhag mynd â’r lampau gartref.

Yr unig farc adnabod ar y lamp yw ‘A 10C3’ wedi’i stampio ar dop y llestr olew, a’r un rhif ar y plât i’r dde o’r clo plwg plwm. Er gwaethaf hyn, go brin y cawn ni fyth wybod pwy oedd perchennog y lamp hon. Mae cap y lamp wedi’i ddifrodi, gan achosi i’r wyneb rydu, ac mae crac mawr yn y gwydr. Does dim modd dweud a gafodd hyn ei achosi gan y trychineb neu a ddigwyddodd yn ddiweddarach. Fel arall, mae’r lamp yn gyflawn ac mewn cyflwr da.

Y cwestiwn mawr yw, o ble gafodd Mr Davies y lamp? Mae’n debyg bod lampau’r rhai a laddwyd wedi’u cymryd o’r gweithfeydd, ac wedi’u cario i’r wyneb wedi’r trychineb. Ar y llaw arall, gan mai eiddo’r glowyr eu hunain oedd y lampau hyn, mae’n bosibl y cafodd y lamp ei dychwelyd i ddwylo’r teulu. Mae hanes y lamp hon rhwng 1894 a 1928, a sut y daeth i ddwylo Mr Lloyd Davies, yn parhau’n ddirgelwch.

Glo - hanes pobl ar-lein

2 Medi 2014

Cylchgrawn COAL o Bwrdd Glo Cenedlaethol

Cylchgrawn COAL a gynhyrchwyd gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol o fis Mai 1947 ymlaen. Newidiwyd yr enw'n ddiweddarach i COAL NEWS.

Mae'r cylchgrawn Glo ar gael ar Rhagor.

Seiliwyd arddull GLO ar y cylchgrawn ffotonewyddiaduraeth Picture Post, ac mae hefyd yn cydweddu â Ffrynt Cartref, cylchgrawn gwych Sain Ffagan oedd yn cofio bywyd Cymreig yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Mae Glo hefyd yn debyg i COAL, cylchgrawn y Bwrdd Glo Cenedlaethol, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf ym 1947.

Gellid disgrifio Glo orau fel cylchgrawn 'hanes pobl'; gwahoddir pobl i gyfrannu eu barn, delweddau a phrofiadau ar pwnc arbennig.

Mae detholiad o straeon a delweddau o'r cylchgrawn ar gael ar Rhagor fel erthyglau unigol; mae pob un ohonynt yn cysylltu'n ôl i'r rhifyn perthnasol.

Mae'r cylchgronnau ar gael i'w lawrlwytho isod.

Gweithwyr Glo [4.8 MB]

Gweithwyr Glo [PDF 4.8 MB]

Gweithwyr Glo
Glo

Maes glo angof? [PDF 2MB]

Y Gogledd-ddwyrain: Maes glo angof?
Glo - Cadw'r Olwyn i Droi

Cadw'r Olwyn i Droi [PDF 2.4 MB]

Cadw'r Olwyn i Droi
Pwll Mawr [PDF 5.4MB]

Pwll Mawr [PDF 5.4MB]

Pwll Mawr
Dai a Tomi [PDF 5MB]

Dai a Tomi [PDF 5MB]

Dai a Tomi
Glo 10: Lleisiau Cambrian

Lleisiau Cambrian [PDF 2.2MB]

Lleisiau Cambrian
Chwerthin a Chrio - Glo 2016

Chwerthin a Chriö [PDF 7.1MB]

Chwerthin a Chriö