Cymru Hynafol

Castell Rhaglan

22 Mawrth 2022

Castell Rhaglan yw un o adeiladau canoloesol diweddar gorau Ynysoedd Prydain ac, er ei fod yn adfail bellach, mae’n nodwedd drawiadol yn nhirwedd de-ddwyrain Cymru.

Lle mae Castell Rhaglan?

Mae Castell Rhaglen i’r gogledd o bentref Rhaglan yn Sir Fynwy, oddi ar yr A40 rhwng Trefynwy a’r Fenni. Am fanylion ymweld ewch i wefan Cadw.

Cafodd y castell fel y mae heddiw ei godi mewn tri chyfnod. Yn y cyfnod cyntaf, yn y 15fed ganrif, adeiladwyd y Tŵr Mawr chweochrog, pum llawr, wedi’i amgylchynu gan ffos. Yn wreiddiol, pont godi o’r castell oedd yr unig ffordd i fynd i’r tŵr. Yn yr ail gyfnod, ychwanegodd Syr William Herbert, Iarll cyntaf Penfro, ystafelloedd moethus. Yn olaf, cafodd y castell ei droi’n blasty gan Ieirll Caerwrangon yn y 16eg ganrif.

Y Porthdy Mawr, Rhaglan.

Y Porthdy Mawr, Rhaglan. Codwyd y porthdy rhwng 1460 a 1469 ac fe'i cynlluniwyd i wneud argraff ar ymwelwyr ac i'w dychryn drwy gynnwys rhesi o gloerdyllau, tyllau arllwys, porthcwlisau a drysau. Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron).

Pwy adeiladodd Castell Rhaglan?

Mae rhywfaint o ddadlau ynghylch pwy adeiladodd ran gyntaf y castell. Fe’i codwyd naill ai gan William Herbert, Iarll cyntaf Penfro, neu ei dad, William ap Thomas, a brynodd Rhaglan ym 1432.

Roedd William Herbert yn ŵr allweddol yng ngwleidyddiaeth diwedd y 15fed ganrif. Yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau rhoddodd ei gefnogaeth i Edward IV. Yn wobr am ei deyrngarwch cafodd deitl Iarll Penfro a digon o adnoddau ariannol i droi Rhaglan yn gaer-blasty.

Byrhoedlog, fodd bynnag, oedd llwyddiant yr Iarll. Ym 1469 cafodd ei gipio gan gefnogwyr y Lancastriaid ym Mrwydr Edgecote a chafodd ei ladd.

Cadwodd teulu Herbert eu rheolaeth ar Gastell Rhaglan tan 1492, pan gafodd ei drosglwyddo i deulu Somerset. William Somerset, trydydd Iarll Caerwrangon (1526–1589), oedd yr aelod cyntaf o’i deulu i newid adeiladau’r castell yn sylweddol.

Gastell Rhaglan, tua 1620

Adluniad o Gastell Rhaglan, tua 1620, yn dangos y gerddi ffurfiol yn ystod dyddiau gorau'r castell. Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron).

Canolbwyntiodd yr Iarll William ar wella ansawdd y neuadd a’r ceginau er mwyn bodloni disgwyliadau cymdeithasol ei gyfnod. Yn ogystal, sefydlodd y gerddi, oedd yn cynnwys cyfres o derasau, llyn artiffisial, ffownten, gwelyau blodau a gerddi perlysiau.

Adluniad o fywyd yng Nghastell Rhaglan

Adluniad o fywyd yng Nghastell Rhaglan yn yr unfed ganrif ar bymtheg, yn ystod cyfnod Trydydd Iarll Caerwrangon. Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron).

Beth ddigwyddodd i Gastell Rhaglan?

Erbyn canol y 17eg ganrif, roedd Rhaglan ym mlodau ei ddyddiau. Cyrhaeddodd lefel o soffistigedigrwydd ac ysblander tebyg i blastai gorau’r wlad. Fodd bynnag, daeth Rhyfel Cartref Lloegr i darfu ar bopeth.

Ym 1642, cyhoeddodd pumed Iarll Caerwrangon ei gefnogaeth i achos y Brenhinwyr, gan gynnig cymorth ariannol sylweddol i’r Brenin Siarl I. O ganlyniad, roedd Rhaglan yn darged i luoedd y Seneddwyr, a roddodd y castell dan warchae ym Mehefin 1646. Llwyddodd ei amddiffynwyr i ddal eu gafael arno yn ystod yr haf ond erbyn canol Awst roedd y Seneddwyr o fewn 60 llath i’r castell. Ildiodd ei amddiffynwyr ar 19 Awst.

Ar ôl cael ei gipio, cafodd y castell ei ddifrodi’n fwriadol er mwyn sicrhau na ellid ei amddiffyn eto. Dyma pryd y cafodd y twll anferth ei greu yn y Tŵr Mawr.

Gadawyd Castell Rhaglan yn wag a dirywiodd; yna, daeth yn ffynhonnell gyfleus ar gyfer cerrig adeiladu ac yn atyniad pictiwrésg i dwristiaid. Bellach, diolch i waith Cadw a’i ragflaenwyr, mae’r adeilad yn cael ei warchod.

Pwy sydd biau Castell Rhaglan?

Mae Castell Rhaglan yn dal yn eiddo i deulu Somerset, a ddaeth yn Ddugiaid Beaufort ym 1682. Ym 1938 cafodd ei roi yng ngofal y Weinyddiaeth Waith, ac erbyn hyn mae yn nwylo Cadw.

Pa ffilmiau sydd wedi defnyddio Castell Rhaglan?

Ymddangosodd Castell Rhaglan yn ffilm Terry Gilliam, Time Bandits (1981), lle cafodd ei ffilmio fel castell Eidalaidd dan warchae yn ystod Rhyfeloedd Napoleon.

Darllen cefndir

Addaswyd y llun ar y blaen o Castell Rhaglan gan Steve Slater, CC BY 2.0

Pwy oedd y Celtiaid?

5 Mehefin 2021

Llun o ryfelwyr yn ymladd. Mae’r llun hwn yn nodweddiadol o’r darlun clasurol o Geltiaid fel ymladdwyr ffyrnig.

Ychydig iawn oedd y Celtiaid cynnar yn ysgrifennu am eu hunain. I’r Groegiaid, y Keltoi, Keltai neu’r Galatai oeddent. Roedd y Rhufeiniaid yn eu galw yn Celti, Celtae a Galli.

Y Groegiaid oedd y cyntaf i sôn am y Celtiaid, rhwng 540 CC a 424 CC. Ond tystiolaeth y Rhufeiniaid sydd fwyaf defnyddiol. Wrth i’r Rhufeiniaid ymestyn eu tiriogaeth, daethant ar draws y Celtiaid yn y gogledd. Fodd bynnag, mae’r testunau clasurol yn anghyflawn gan eu bod wedi cael eu copïo ymhell ar ôl y cyfnod. Felly darlun pytiog sydd gennym o’r Celtiaid.

Mae haneswyr yn credu bod y Celtiaid yn gasgliad o lwythau o ganolbarth Ewrop yn wreiddiol. Er eu bod yn perthyn i wahanol lwythau, roedd ganddynt rywfaint yn gyffredin o ran diwylliant, traddodiadau, credoau ac iaith.

Beth oedd y Celtiaid yn galw eu hunain?

Dydyn ni ddim yn gwybod beth oedd y Celtiaid yn galw eu hunain. Rydyn ni’n defnyddio’r enw ‘Celtiaid’ heddiw i ddisgrifio nifer o lwythau oedd yn byw yn ystod Oes yr Haearn. Nid yw’r testunau Clasurol yn cyfeirio at bobl Prydain ac Iwerddon fel Celtiaid. Casgliad o lwythau oedd y Celtiaid, ac roeddent yn tueddu i gael eu nabod yn ôl enw’r llwyth penodol yn hytrach na fel un genedl neu ymerodraeth fawr.

O ble oedd y Celtiaid yn dod?

Darn arian y Weriniaeth Rufeinig

Un o geiniogau Gweriniaeth Rhufain yn dangos pen Galiad gyda gwallt gwyngalchog. Mae’r hanesydd Rhufeinig Diodorus Siculus yn disgrifio’r traddodiad hwn. Mae ffynonellau o’r fath yn cynnig cipolwg camarweiniol o’r Celtiaid.

Mae ffynonellau cynnar yn dweud bod y Celtiaid yn byw yng ngorllewin Ewrop a hefyd yn y canolbarth, o gwmpas tarddle’r afon Donaw (Danube). Roedd eu tiriogaeth yn ymestyn ar draws canol a dwyrain Ffrainc, de’r Almaen a’r Weriniaeth Tsiec.

Yn 279 CC, gwyddom fod y Celtiaid wedi ysbeilio Delphi, un o lefydd sanctaidd y Groegiaid. Cofnododd Strabo (daearyddwr Groegaidd) gyfarfod rhwng y Celtiaid ac Alecsander Fawr yn y Balcanau yn 335 CC. Yn ôl testunau Clasurol, symudodd llawer o’r Celtiaid o ganol Ewrop i ogledd yr Eidal a dwyrain Ewrop ar ôl 400 CC.

Y Celtiaid ym Mhrydain

Mae’n debyg bod y Celtiaid wedi cyrraedd Prydain tua 1,000 CC, ac wedi byw yma yn ystod Oes yr Haearn, Oes y Rhufeiniaid a’r cyfnod ar ôl y Rhufeiniaid. Mae dylanwad y Celtiaid yn dal yn gryf heddiw, ac i’w weld yn ein iaith, diwylliant a thraddodiadau.

Celtiaid Cymru

Rydyn ni’n ystyried Cymru yn wlad Geltaidd heddiw, ac mae bod yn Geltiaid yn rhan o hunaniaeth fodern Cymru. Ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, fodd bynnag, llwythau ac arweinwyr penodol oedd yn bwysig. Erbyn i’r Rhufeiniaid oresgyn Prydain, roedd pedwar llwyth yn byw yn nhiroedd Cymru:

  • Ordoficiaid (gogledd-orllewin)
  • Deceangli (gogledd-ddwyrain)
  • Demetae (de-orllewin)
  • Silwriaid (de-ddwyrain)

I ddeall sut y cafodd y Celtiaid eu cysylltu â Chymru, rhaid i ni edrych ar ddatblygiad yr ieithoedd Celtaidd.

Pa ieithoedd oedd y Celtiaid yn eu siarad?

Archaeologia Britannica

Archaeologia Britannica Edward Lhuyd (1707). Astudiaeth arloesol a arweiniodd at gydnabod dau deulu o ieithoedd Celtaidd.

Mae olrhain dechreuadau ieithoedd Celtaidd yn anodd. Mae’r rhan fwyaf yn cytuno eu bod yn deillio o iaith gynharach o’r enw ‘proto-Indo-Ewropeg’. Mae’n debyg i’r iaith hon gyrraedd gorllewin Ewrop rhwng 6000 CC a 2000 CC, wrth i bobl symud o ganol Asia. Ond ni wyddom yn iawn pryd yn union y digwyddodd hyn, a phryd a sut y datblygodd yr ieithoedd Celtaidd.

Rydyn ni’n credu fod yr ieithoedd Celtaidd wedi datblygu ryw bryd yn y cyfnod 6000 CC i 600 CC. Cafodd yr arysgrif cynharaf mewn iaith Geltaidd ei ddarganfod yng ngogledd yr Eidal, ac mae’n dyddio i’r 6ed ganrif CC.

Awgrymodd George Buchanon, ysgolhaig o’r 16eg ganrif, bod pobl cyfandir Ewrop ar un adeg yn siarad casgliad o ieithoedd Galaidd cysylltiedig. Gan fod Cymraeg, Gwyddeleg a Gaeleg yr Alban yn debyg i’r ieithoedd hynafol hyn, y ddadl oedd bod pobl Prydain wedi dod o Ffrainc a Sbaen yn wreiddiol.

Datgelodd gwaith ymchwil arloesol Edward Lhuyd ym 1707 fod dau deulu o ieithoedd Celtaidd: Celteg P neu Frythoneg (Cymraeg, Llydaweg, Cernyweg); a Chelteg Q neu Goideleg (Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban, Manaweg). Tybiwyd fod yr ieithoedd Brythoneg yn dod o Gâl (Ffrainc), a’r ieithoedd Goedeleg o Iberia (Sbaen a Phortiwgal).

Yn ystod y 18fed ganrif, câi siaradwyr ieithoedd Celtaidd eu hystyried yn Geltiaid. Felly daeth pobl Cymru i gael eu nabod fel Celtiaid.

Ieithoedd Celtaidd

Mae’r Gymraeg – iaith frodorol Cymru – yn cael ei siarad gan tua 20% o boblogaeth Cymru, a gan filoedd o bobl eraill ar hyd a lled y byd. Bu farw siaradwyr brodorol olaf y Gernyweg yn y 19eg ganrif, ond cafwyd adfywiad yn y 20eg ganrif ac erbyn hyn mae ychydig gannoedd yn ei siarad. Mae miloedd yn siarad Llydaweg, ond mae’r iaith dan fygythiad mawr.

Mae Gaeleg yr Alban yn dal i gael ei siarad hefyd, ond mae ganddi lawer llai o siaradwyr na’r Gymraeg. Mae gan Gaeleg yr Alban sianel deledu, sef BBC Alba, a sefydlwyd yn 2008.

Sut oedd y Celtiaid yn edrych?

Mae'r darlun hwn yn nodweddu'r ddelwedd glasurol o'r Celtiaid cynnar a ystyriwyd yn ymladdwyr unigol a ffyrnig.

Yn ôl y Rhufeiniaid, roedd y Celtiaid yn gwisgo dillad llachar, ac roedd rhai yn defnyddio lliw y planhigyn glaslys i baentio patrymau ar eu cyrff.

Beth oedd y Celtiaid yn wisgo?

Mae’r Celtiaid yn adnabyddus am wisgo dillad gwlân lliwgar, a phatrymau sydd yn dal i’w gweld yn nillad Tartan yr Alban. I’r Celtiaid roedd dillad yn arwydd o statws a phwysigrwydd o fewn y llwyth. Byddai gwisg arferol yn cynnwys tiwnig a belt, yn ogystal â chlogyn hir a throwsus gâi eu clymu gyda ‘ffibwla’ – math o fwcl. Yn wir, yn ôl haneswyr, roedd y Celtiaid ymysg y bobl gyntaf yn Ewrop i wisgo trowsusau.

Beth oedd y Celtiaid yn ei fwyta?

Doedd dim siopau yn oes y Celtiaid – byddent yn tyfu planhigion, ac yn ffermio a hela anifeiliaid i’w bwyta.

Byddent yn bwyta bwydydd gwyllt fel madarch, aeron, danadl poethion, garlleg gwyllt ac afalau, yn ogystal â sbigoglys, cennin, moron, pannas, mwyar duon, eirin Mair a llus. Roedd cnau cyll a chnau Ffrengig yn rhan o’u diet, yn ogystal â grawn i wneud bara ac uwd.

Byddent yn hela carw, llwynog, afanc, baedd gwyllt ac arth; yn ffermio ieir, geifr, defaid, moch a gwartheg; ac yn pysgota eog, brithyll a macrell. Roedd yr ieir yn dodwy wyau, a byddent hefyd yn bwyta wyau adar gwyllt, ynghyd â thrychfilod a mêl gan wenyn.

Mae mwy o wybodaeth am fwyd y Celtiaid yn ystod Oes yr Haearn yn ein hadnodd addysg Bywyd Bob Dydd y Celtiaid.

Celf ac Archaeoleg y Celtiaid

Manylyn o drisgel

Manylyn trisgell, tua 11cm (4.3 modfedd) ar draws, ar blac o Lyn Cerrig Bach (Ynys Môn). Mae’r enghraifft drawiadol hon o gelf La Tène yn cael ei hystyried yn dystiolaeth o draddodiad celfyddydol y Celtiaid.

Datblygodd arddull newydd o gelf yn ystod y 5ed ganrif CC, ac ymledodd ar draws Ewrop. Mae llawer o archaeolegwyr wedi dehongli hyn fel tystiolaeth o ddiwylliant neu hunaniaeth Geltaidd unedig.

Cafodd celf Geltaidd ei chydnabod a’i henwi gan ysgolheigion Prydeinig tua chanol y 19eg ganrif. Ym 1910-14, cafodd y gwrthrychau cynharaf i gael eu haddurno yn yr arddull hon eu holrhain i un ardal ddiwylliannol yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc, de’r Almaen a Gweriniaeth Tsiec.

Cafodd ei enwi yn ddiwylliant La Tène, ar ôl casgliad pwysig o waith metel addurnedig gafodd ei ddarganfod ar lan Llyn Neuchâtel yn y Swistir. Am gyfnod hir, câi lledaeniad celf La Tène ar draws Ewrop, gan gynnwys Prydain ac Iwerddon, ei ddehongli fel goresgyniad gan bobl Geltaidd.

Yn fwy diweddar, mae archaeolegwyr Prydeinig wedi bod yn cwestiynu’r syniad o Geltiaid yn goresgyn Prydain, ac o ‘gymdeithas Geltaidd’ oedd yn rhannu iaith, celf, credoau a hunaniaeth. Ychydig o dystiolaeth archaeolegol gadarn sydd i ddangos fod pobl wedi cyrraedd ar raddfa eang o’r cyfandir.

Mae archaeoleg Oes yr Haearn ym Mhrydain yn awgrymu clytwaith o gymdeithasau rhanbarthol, bob un â’i hunaniaeth unigryw. Mae hyn yn gwbl groes i’r syniad o un diwylliant Celtaidd.

Mae archaeolegwyr erbyn hyn yn cwestiynu mwy ar eu tybiaethau eu hunain wrth ddehongli safleoedd Oes yr Haearn. Nid yw celf La Tène yng Nghymru o reidrwydd yn dystiolaeth o Geltiaid yn goresgyn. Gallai hefyd ddangos lledaeniad ffasiwn ar draws cymdeithasau, neu gallai fod yn awgrym o gysylltiadau a chyfnewid rhwng llefydd pell. Rydyn ni hefyd yn gwybod fod arddull benodol Brydeinig i lawer o gelf La Tène ddiweddarach, a’i bod yn absennol o gyfandir Ewrop.

Crynodeb

Mae’r Celtiaid wedi bod yn bwnc dadleuol ers i ysgolheigion ddechrau ei astudio, ac mae’r dadlau’n parhau.

Mae’n bosibl y gall astudiaethau genetig o DNA pobl hynafol a modern wella ein dealltwriaeth o’r pwnc. Ond mae astudiaethau hyd yma wedi tueddu i ddefnyddio samplau hynod fach o bobl a hen dybiaethau ynghylch iaith ac archaeoleg, gan arwain at gasgliadau annhebygol.

Darllen pellach

Exploring the World of the Celts gan S. James. Thames & Hudson (1993).

The Celts: Origins, Myths and Inventions gan J. Collis. Tempus Publishing Ltd (2003).

The Ancient Celts gan B. Cunliffe. Oxford University Press (1997).

Datguddio Hanes Cymru: Lansio Casgliadau Arlein

26 Mawrth 2018

Wrth i ni ddatguddio hanner miliwn o gofnodion casgliadau am y tro cyntaf, dyma rai o’r gwrthrychau rhyfedda' a mwya' diddorol o’n gwasanaeth Casgliadau Arlein newydd.

Mae’r erthygl hon yn cynnwys llun o ran o sgerbwd dynol.

Y Mwyaf

Mae ambell i wompyn yn y casgliad – gan gynnwys Tram Ceffyl maint llawn o Gaerdydd a hofrennydd achub môr – ond y mwya’ o bell ffordd yw Institiwt y Gweithwyr o Oakdale.

Agorwyd yr adeilad ym 1917, gyda neuadd ddawns, stafell gemau a llyfrgell – erbyn heddiw fe ddowch chi o hyd i’r adeilad yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Ffotograff o 1908 yn dangos Horace Watkins mewn awyren gynnar, fregus yr olwg

Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908

Mae rhan helaeth o adeiladau Sain Ffagan yn rhan o’r casgliad cenedlaethol – ac yn meddu ar yr un statws cyfreithiol ag un o gampweithiau Monet neu gelc o drysor. Mae’r adeiladau’n cael eu datgymalu, eu symud a’u hail-adeiladau yn defnyddio technegau traddodiadol gan dîm o grefftwyr arbenigol.
 

Yr Hynaf


ffotograff o ddau ddant bachgen Neanderthalaidd 8 mlwydd oedd

Rhain yw olion dynol hynaf Cymru

Dannedd bachgen wyth oed yw’r rhain. Mae’n nhw dros 230, 000 mlwydd oed – yr olion dynol hynaf a ddarganfyddwyd yng Nghymru.

Datguddiwyd nhw gan archaeolegwyr yn archwilio Ogof Pontnewydd, ger Cefn Meiriadog, ble darganfyddwyd olion arth, llew, llewpart, a dant rheinosorws.

Bydd y dannedd yma i’w gweld yn arddangosfeydd newydd Sain Ffagan o Hydref 2018.
 

Y Mwya Sgleiniog

Mae pobl yng Nghymru wedi bod yn creu, ffeirio a gwisgo trysorau aur ers miloedd o flynyddoedd – fel yr addurn gwallt yma o’r Oes Efydd, a’r fodrwy enfawr hon.


ffotograff o ddisg aur gyda chynllun addurniadol

'Disgen haul' yw'r enw ar y math hwn o addurn, ond nid yw pwrpas y gwrthrych yn hollol glir

Mae’r Ddisgen Haul hon yn un o’r esiamplau cynharaf o addurn aur o Gymru, a darganfyddwyd hi yng Nghwmystwyth yng Ngheredigion.

Credir mai addurn angladdol oedd y ddisgen hon, a'i bod yn debygol i'r ddisgen gael ei phwytho ar ddillad y person marw cyn eu hangladd. Dim ond chwech o'r disgiau yma sydd wedi eu canfod yn y DU yn gyfan.
 

Mwyaf Dadleuol

Ar yr olwg gynta, set de capel gyffredin yw hon. Ond o edrych yn agosach, fe welwn ni’r geiriau ‘Capel Celyn’ arni. Mae’r Capel a’i chymuned, wrth gwrs, o dan ddyfroedd Llyn Celyn erbyn hyn.


Ffotograff yn dangos cwpan a soser â'r geiriau 'Capel Celyn' a chynllun rhuban arnynt

Casglodd guraduron esiamplau o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn, cyn i'r cwm gael ei foddi yn 1965

Pan foddwyd cwm Tryweryn ym 1965 gan Gorfforaeth Lerpwl, daeth y digwyddiad yn drobwynt yn hanes ymgyrchu Cymreig. Crewyd cenhedlaeth newydd o brotestwyr, a hawliodd well triniaeth i gymunedau Cymreig gan y llywodraeth a chan gorfforaethau.

Casglwyd y cwpanau hyn fel esiampl o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn – i’n atgoffa o gymuned wedi ei dadleoli, ac i goffau un o ddigwyddiadau gwleidyddol mwyaf pwysig Cymru’r 20ed ganrif.
 

Gwobr Arbennig: Awyren wedi’i gwneud o Sedd Stafell Fwyta

Adeiladwyd y Robin Goch ym 1909 – o gadair stafell fwyta, weiren biano ac injan 40 horsepower. Amserwr wy ger yr olwyn yrru sy’n mesur faint o danwydd sydd ar ôl yn yr awyren.


ffotograff o awyren fechan o'r ugeinfed ganrif, ag iddi adennydd coch

Y Robin Goch wedi'i harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Bu'r awyren hon yn hedfan o gwmpas Caerdydd rhwng 1909 a 1916 - dyma lun o Horace Watkins, a adeiladodd y Robin Goch, mewn fersiwn gynharach, hyd yn oed yn fwy bregus, o’r awyren.
 

Ffotograff o 1908 yn dangos Horace Watkins mewn awyren gynnar, fregus yr olwg

Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908

Mae ein casgliadau yn llawn straeon sy’n olrhain hanes a dangos cymeriad unigryw pobl Cymru. Mae’r Robin Goch yn un o drysorau’r casgliad, ac yn eisampl o ddyfeisgarwch a menter Cymru ar ei orau.

Hanner miliwn o eitemau i’w chwilio

Mae lansiad Casgliadau Arlein yn datguddio hanner miliwn o gofnodion casgliad, sydd nawr ar gael ar lein i’w chwilio am y tro cyntaf.

“Mae Casgliadau Arlein yn garreg filltir enfawr yn ein gwaith, wrth i ni geisio dod â rhagor o’n casgliadau arlein, i gynulleidfa ehanach, fyd eang.

Dim ond dechrau’r gwaith yw hyn. Mae hi mor gyffrous meddwl beth y bydd pobl Cymru a thu hwnt yn ei wneud gyda’r cofnodion yma – archwilio gwrthrychau, llunio straeon ac ychwanegu at ein dealltwriaeth ni o’r casgliad cenedlaethol” – Chris Owen, Rheolwr y We
 

Chwilio Casgliadau Arlein

I’r dyfodol...

Ein gwaith ni ‘nawr fydd i fynd trwy’r hanner miliwn o gofnodion, a’u gwella. Ysgrifennwyd rhai yn y 1940au ac felly byddwn yn ychwanegu gwybodaeth a lluniau wrth i ni fynd yn ein blaen.

Fe fyddwn ni’n dadansoddi sut y mae pobl yn defnyddio’r casgliadau, i weld be sy’ fwya’ poblogaidd ymysg ein hymwelwyr, neu beth sy’n sbarcio trafodaeth. Bydd hyn yn rhoi syniad i ni o beth i dynnu llun ohono nesaf, neu beth i’w ystyried ar gyfer arddangosfeydd yn y dyfodol.

Mae paratoi gwrthrychau a thynnu eu lluniau yn broses sydd angen gofal, am fod llawer o'r gwrthrychau yn fregus neu'n sensitif i olau. Os hoffech chi ein cefnogi yn y gwaith yma, gwnewch rodd heddiw - mae pob cyfraniad yn cyfri.

 

Cyfrannu Heddiw

 

Rydym ni'n eithriadol o ddiolchgar i'r People's Postcode Lottery am eu holl gefnogaeth wrth i ni weithio i rannu'n casgliadau arlein.
 

Dagr Bae Abertawe

Abigail Dickinson a Roqib Monsur, 21 Mehefin 2017

Dagr Bae Abertawe
Dagr Bae Abertawe

Yn 1971, ychydig a wyddai myfyriwr Pensaernïaeth o’r enw Paul Tambling y gallai fod ar fin gwneud darganfyddiad archaeolegol mwyaf ei fywyd ac y byddai i Ddagr Bae Abertawe (fel y’i gelwir erbyn hyn) arwyddocâd arbennig yn ei fywyd.

Wrth gerdded ar draeth Abertawe, sylwodd Paul a’i bartner Angela ar yr hyn oedd yn ymddangos fel darn o fflint yn ymwthio allan o’r tywod. Mewn gwirionedd, roeddent wedi darganfod, trwy hap a damwain, ‘ddagr fflint 4200 o flynyddoedd oed’.

Dywedodd Paul wrthym: “Pan godais y dagr, roeddwn i’n methu deall sut roedd wedi cyrraedd yno, yn enwedig gan nad yw fflint yn brigo’n naturiol yn unman yng Nghymru. Roedd y fflint mewn cyflwr ardderchog ac nid oedd yn ymddangos bod symudiadau’r môr wedi amharu arno. Yn ogystal â bod yn waith celf cain, mae’n grefftwaith gwych ac mae’n fy ysbrydoli wrth i mi gynllunio adeiladau, a minnau’n gwneud fy ngorau i gyrraedd yr un safon uchel yn fy nghrefft bob amser.

Bron 46 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae’r dagr gan y pâr o hyd. Mae'n agos at eu calonnau a chredant ei fod yn symbol unigryw o'u perthynas hirhoedlog.

Dywedodd Paul: “Byth er pan oeddwn yn fyfyriwr, mae’r fflint wedi symud gyda mi fwy na chwech o weithiau mewn hen amlen er bod cyfnodau yn fy mywyd pan oeddwn yn meddwl fy mod wedi'i golli. Serch hynny, ers i mi ddarganfod yn ddiweddar bod iddo bwysigrwydd hanesyddol enfawr, prin y mae allan o’m golwg.”

Erbyn hyn, gwyddom mai ‘Dagr y Bicerwyr’ yw’r fflint a’i fod yn dyddio o’r Oes Efydd gynnar, tua 2250 i 2000 o flynyddoedd Cyn Crist, sy’n golygu ei fod tua 4200 o flynyddoedd oed. Yn ei ddydd, roedd iddo arwyddocâd symbolaidd mawr gan y byddai wedi’i gladdu gyda rhywun uchel ei statws er mwyn bod gydag ef yn y byd a ddaw. Darganfuwyd ychydig o ddagerau eraill yng Nghymru ond does dim un cystal â dagr Bae Abertawe. Yn ne-ddwyrain Lloegr y canfuwyd y nifer fwyaf o ddagerau o’r cyfnod hwn.

Mae i Ddagr y Bicerwyr werth archaeolegol a symbolaidd enfawr ond beth y mae’n ei olygu i Paul ac Angela fel teulu?

“Mae’r dagr yn symbol o hyd ein bywyd priodasol. Mi ddes i o hyd iddo dair blynedd cyn i ni briodi ac mae’n ein hatgoffa o’r penwythnosau hyfryd hynny roedden ni’n eu treulio yn Abertawe slawer dydd, ac yn ein clymu’n nes at ein gilydd. Roedd yn amser hudolus a does dim modd ei ailadrodd.”

Mae Paul ac Angela Tambling yn rhedeg ymgynghoriaeth bensaernïol yn Aberhonddu. Nid oeddent yn sylweddoli pa mor bwysig oedd y dagr i ddechrau ond ers i’w arwyddocâd archaeolegol ddod yn amlwg, mae arbenigwyr yn dweud wrthynt yn aml pa mor lwcus oeddent i ddod o hyd i beth mor bwysig mewn lle mor annisgwyl. “Rwy’n berson lwcus,” meddai Paul. “Roeddwn i’n lwcus i briodi Angela ac yn lwcus i ddod o hyd i’r dagr pan oeddwn yng nghwmni Angela.”

Dywedodd Paul wrthym ei fod yn gwybod yn reddfol bod y dagr yn beth rhyfeddol cyn gynted ag y cododd ef, ond nid oedd yn siŵr ai dagr ynteu blaen gwaywffon ydoedd. Ar hyd y blynyddoedd, mae Angela wedi bod yn dweud wrtho, “Pam nad ei di i holi?” Ar ôl cael ei blagio’n ddi-baid, penderfynodd Paul yn y diwedd fynd i Amgueddfa Brycheiniog ond pan gyrhaeddodd, gwelodd ei bod wedi cau ar gyfer gwaith adnewyddu mawr.

Dagr Bae Abertawe

Tua dechrau 2016, aeth y pâr i arddangosfa naddu fflint yn Amgueddfa Cyfarthfa, Merthyr Tudful, gan Phil Harding o’r Time Team. Yno, ar ôl siarad â Phil y daeth yn amlwg pa mor bwysig oedd y dagr a chyngor Phil oedd y dylai’r eitem hon o bwysigrwydd archaeolegol gael ei chofnodi gan Amgueddfa Cymru. Yn fuan wedyn, cysylltodd Mark Lodwick, Cydlynydd Darganfyddiadau Cynllun Henebion Cludadwy Cymru, yn Amgueddfa Cymru, â’r cwpwl ac yn dilyn hynny cawsant gyfarfod.

Pan esboniodd Mark arwyddocâd y dagr, dywedodd Paul: “Roedd blew fy ngwegil yn sefyll i fyny pan ges i wybod am wahanol haenau arwyddocâd y dagr, wrth feddwl bod gen i rywbeth yr oedd rhywun wedi'i wneud 4200 o flynyddoedd yn ôl”.

Aeth Paul ymlaen, “Roeddwn i’n dal y peth ’ma yn fy llaw, gan feddwl cyn lleied o barch roedd wedi'i gael ers 1971 a minnau'n ei gadw mewn hen amlen yng nghefn rhyw ddrôr.”

Ers y cyfarfod gyda Phil Harding a Mark Lodwick, mae’r dagr wedi cael llawer mwy o sylw ac mae hyn wedi annog Paul ac Angela i gymryd mwy o ddiddordeb mewn archaeoleg a’r Bicerwyr.

Ar hyn o bryd, does dim bwriad i amgueddfa gaffael dagr Bae Abertawe oherwydd mae’n eiddo i Paul ac Angela ond maen nhw wedi gwneud eu gorau, gyda help Mark Lodwick, i sicrhau bod y cyhoedd yn gwybod am bwysigrwydd y dagr.

‘Carwch yr hyn sy’n Hardd’: Canfod Ystyr Modrwyau

Rhianydd Biebrach, 9 Mai 2017

Yn y gorffennol, roedd llawer o bobl, cyfoethog a thlawd, yn gwisgo modrwyau. Byddai’r modrwyau wedi’u gwneud o fetalau gwerthfawr neu ddiwerth, yn blaen neu’n addurnedig, a byddai gemau neu enamelau wedi’u mewnosod mewn rhai ohonynt. Mewn darluniau o'r Canol Oesoedd a chyfnod y Dadeni, gwelir dynion a menywod yn gwisgo sawl modrwy ar yr un llaw, weithiau uwchlaw’r migwrn canol. Weithiau, daw pobl â datgelyddion metal o hyd i fodrwyau oedd yn eiddo i ddynion a menywod o Gymru sydd wedi hen farw ac maent yn mynd â nhw at Gynllun Henebion Cludadwy Cymru. Os yw’r modrwyau wedi’u gwneud o fetal gwerthfawr, maent yn cyfrif fel trysor ac, fel rheol, maent yn mynd i amgueddfeydd ledled Cymru fel y gall pobl leol ac ymwelwyr fwynhau gweld yr olion gwerthfawr hyn o’n gorffennol. Hyd yn oed heddiw, gallwn werthfawrogi eu harddwch a’u crefftwaith a theimlo cysylltiad â'r bobl oedd wedi'u colli amser maith yn ôl.

Ond nid eu harddwch yw eu hunig werth ac mae mwy iddynt na’r aur a’r arian a ddefnyddiwyd i’w gwneud. Heddiw, rydym yn aml yn dweud bod i ddarn o emwaith ‘werth sentimental’. Hynny yw, mae iddo werth emosiynol i’r perchennog sydd y tu hwnt i werth ei ddeunydd neu ei harddwch. Mae hyn yn wir am y gorffennol hefyd. Ers canrifoedd, bu i fodrwyau ystyron ac arwyddocâd arbennig i’r bobl oedd yn eu rhoi a’r rhai oedd yn eu gwisgo. Yma, byddwn yn trafod rhai o’r ystyron hyn - a'r modrwyau eu hunain.

Gallwn feddwl am yr holl fodrwyau hyn, ynghyd â llawer o rai eraill y mae pobl wedi dod o hyd iddynt â datgelyddion metal neu wedi dod ar eu traws ar hap, fel darnau o emosiynau dwys. Caiff hyn ei gyfleu yn glir yn nyluniad y modrwyau arysgrif, y modrwyau galar a’r modrwyau eiconograffig sy’n dal i gyfleu’r cariad, y galar a’r ysbrydolrwydd a deimlai eu perchnogion. Gallwn feddwl hefyd fod y sêl-fodrwyau yn ymgorffori rhywbeth o hunaniaeth bersonol y perchnogion gwreiddiol. Mae’n eithaf posib bod hyd yn oed i’r modrwyau hollol addurnol yr hyn a ddisgrifiwn heddiw fel ‘gwerth sentimental’ yn ogystal â gwerth ariannol eu defnydd. Yn achos y saffir, cawn ein hatgoffa bod Cymru, er ei bod ar ymylon pellaf Ewrop, yn cysylltu â’r Dwyrain Pell trwy fasnach.

Efallai mai’r peth pwysicaf i’w gofio yw bod rhywun wedi colli pob modrwy y cafwyd hyd iddi. Ar y cyfan, nid yw pobl yn taflu eitemau aur ac arian a gemau gwerthfawr, hyd yn oed os nad oes iddynt arwyddocâd emosiynol iddynt bellach. Felly, gallwn dybio bod y modrwyau hyn wedi cael eu colli ar ddamwain, gan lithro oddi ar fys neu syrthio o bwrs, a’r perchennog heb sylwi tan ei bod yn rhy hwyr. Ar draws y canrifoedd, mae’n hawdd i ni ddychmygu’r torcalon a deimlai rhywun o sylweddoli eu bod wedi colli modrwy briodas, modrwy i’w hatgoffa am rywun annwyl a fu farw, neu fodrwy oedd yn dod â chysur ysbrydol iddynt. Mae’r emosiynau hyn yn ddolen gyswllt rhyngom ni â pherchnogion y trysorau colledig hyn, er eu bod wedi hen farw.

+ ieme la belle, neu carwch yr hyn sy’n hardd,/em>, yw’r arysgrif ar ochr allanol Modrwy Ewenni o’r 15fed ganrif, a ganfuwyd ger Priordy Ewenni gan Mr G. Gregory yn 1988 ac sydd erbyn hyn yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru.