: Celf Hynafol

Datguddio Hanes Cymru: Lansio Casgliadau Arlein

26 Mawrth 2018

Wrth i ni ddatguddio hanner miliwn o gofnodion casgliadau am y tro cyntaf, dyma rai o’r gwrthrychau rhyfedda' a mwya' diddorol o’n gwasanaeth Casgliadau Arlein newydd.

Mae’r erthygl hon yn cynnwys llun o ran o sgerbwd dynol.

Y Mwyaf

Mae ambell i wompyn yn y casgliad – gan gynnwys Tram Ceffyl maint llawn o Gaerdydd a hofrennydd achub môr – ond y mwya’ o bell ffordd yw Institiwt y Gweithwyr o Oakdale.

Agorwyd yr adeilad ym 1917, gyda neuadd ddawns, stafell gemau a llyfrgell – erbyn heddiw fe ddowch chi o hyd i’r adeilad yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Ffotograff o 1908 yn dangos Horace Watkins mewn awyren gynnar, fregus yr olwg

Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908

Mae rhan helaeth o adeiladau Sain Ffagan yn rhan o’r casgliad cenedlaethol – ac yn meddu ar yr un statws cyfreithiol ag un o gampweithiau Monet neu gelc o drysor. Mae’r adeiladau’n cael eu datgymalu, eu symud a’u hail-adeiladau yn defnyddio technegau traddodiadol gan dîm o grefftwyr arbenigol.
 

Yr Hynaf


ffotograff o ddau ddant bachgen Neanderthalaidd 8 mlwydd oedd

Rhain yw olion dynol hynaf Cymru

Dannedd bachgen wyth oed yw’r rhain. Mae’n nhw dros 230, 000 mlwydd oed – yr olion dynol hynaf a ddarganfyddwyd yng Nghymru.

Datguddiwyd nhw gan archaeolegwyr yn archwilio Ogof Pontnewydd, ger Cefn Meiriadog, ble darganfyddwyd olion arth, llew, llewpart, a dant rheinosorws.

Bydd y dannedd yma i’w gweld yn arddangosfeydd newydd Sain Ffagan o Hydref 2018.
 

Y Mwya Sgleiniog

Mae pobl yng Nghymru wedi bod yn creu, ffeirio a gwisgo trysorau aur ers miloedd o flynyddoedd – fel yr addurn gwallt yma o’r Oes Efydd, a’r fodrwy enfawr hon.


ffotograff o ddisg aur gyda chynllun addurniadol

'Disgen haul' yw'r enw ar y math hwn o addurn, ond nid yw pwrpas y gwrthrych yn hollol glir

Mae’r Ddisgen Haul hon yn un o’r esiamplau cynharaf o addurn aur o Gymru, a darganfyddwyd hi yng Nghwmystwyth yng Ngheredigion.

Credir mai addurn angladdol oedd y ddisgen hon, a'i bod yn debygol i'r ddisgen gael ei phwytho ar ddillad y person marw cyn eu hangladd. Dim ond chwech o'r disgiau yma sydd wedi eu canfod yn y DU yn gyfan.
 

Mwyaf Dadleuol

Ar yr olwg gynta, set de capel gyffredin yw hon. Ond o edrych yn agosach, fe welwn ni’r geiriau ‘Capel Celyn’ arni. Mae’r Capel a’i chymuned, wrth gwrs, o dan ddyfroedd Llyn Celyn erbyn hyn.


Ffotograff yn dangos cwpan a soser â'r geiriau 'Capel Celyn' a chynllun rhuban arnynt

Casglodd guraduron esiamplau o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn, cyn i'r cwm gael ei foddi yn 1965

Pan foddwyd cwm Tryweryn ym 1965 gan Gorfforaeth Lerpwl, daeth y digwyddiad yn drobwynt yn hanes ymgyrchu Cymreig. Crewyd cenhedlaeth newydd o brotestwyr, a hawliodd well triniaeth i gymunedau Cymreig gan y llywodraeth a chan gorfforaethau.

Casglwyd y cwpanau hyn fel esiampl o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn – i’n atgoffa o gymuned wedi ei dadleoli, ac i goffau un o ddigwyddiadau gwleidyddol mwyaf pwysig Cymru’r 20ed ganrif.
 

Gwobr Arbennig: Awyren wedi’i gwneud o Sedd Stafell Fwyta

Adeiladwyd y Robin Goch ym 1909 – o gadair stafell fwyta, weiren biano ac injan 40 horsepower. Amserwr wy ger yr olwyn yrru sy’n mesur faint o danwydd sydd ar ôl yn yr awyren.


ffotograff o awyren fechan o'r ugeinfed ganrif, ag iddi adennydd coch

Y Robin Goch wedi'i harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Bu'r awyren hon yn hedfan o gwmpas Caerdydd rhwng 1909 a 1916 - dyma lun o Horace Watkins, a adeiladodd y Robin Goch, mewn fersiwn gynharach, hyd yn oed yn fwy bregus, o’r awyren.
 

Ffotograff o 1908 yn dangos Horace Watkins mewn awyren gynnar, fregus yr olwg

Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908

Mae ein casgliadau yn llawn straeon sy’n olrhain hanes a dangos cymeriad unigryw pobl Cymru. Mae’r Robin Goch yn un o drysorau’r casgliad, ac yn eisampl o ddyfeisgarwch a menter Cymru ar ei orau.

Hanner miliwn o eitemau i’w chwilio

Mae lansiad Casgliadau Arlein yn datguddio hanner miliwn o gofnodion casgliad, sydd nawr ar gael ar lein i’w chwilio am y tro cyntaf.

“Mae Casgliadau Arlein yn garreg filltir enfawr yn ein gwaith, wrth i ni geisio dod â rhagor o’n casgliadau arlein, i gynulleidfa ehanach, fyd eang.

Dim ond dechrau’r gwaith yw hyn. Mae hi mor gyffrous meddwl beth y bydd pobl Cymru a thu hwnt yn ei wneud gyda’r cofnodion yma – archwilio gwrthrychau, llunio straeon ac ychwanegu at ein dealltwriaeth ni o’r casgliad cenedlaethol” – Chris Owen, Rheolwr y We
 

Chwilio Casgliadau Arlein

I’r dyfodol...

Ein gwaith ni ‘nawr fydd i fynd trwy’r hanner miliwn o gofnodion, a’u gwella. Ysgrifennwyd rhai yn y 1940au ac felly byddwn yn ychwanegu gwybodaeth a lluniau wrth i ni fynd yn ein blaen.

Fe fyddwn ni’n dadansoddi sut y mae pobl yn defnyddio’r casgliadau, i weld be sy’ fwya’ poblogaidd ymysg ein hymwelwyr, neu beth sy’n sbarcio trafodaeth. Bydd hyn yn rhoi syniad i ni o beth i dynnu llun ohono nesaf, neu beth i’w ystyried ar gyfer arddangosfeydd yn y dyfodol.

Mae paratoi gwrthrychau a thynnu eu lluniau yn broses sydd angen gofal, am fod llawer o'r gwrthrychau yn fregus neu'n sensitif i olau. Os hoffech chi ein cefnogi yn y gwaith yma, gwnewch rodd heddiw - mae pob cyfraniad yn cyfri.

 

Cyfrannu Heddiw

 

Rydym ni'n eithriadol o ddiolchgar i'r People's Postcode Lottery am eu holl gefnogaeth wrth i ni weithio i rannu'n casgliadau arlein.
 

Teils llawr addurnedig o Gastell Rhaglan

6 Medi 2007

Castell Rhaglan.

Castell Rhaglan. Sefydlwyd amddiffynfeydd y castell, gan gynnwys y Tŷr Mawr a welir yng nghanol y llun, yn y bymthegfed ganrif. [Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron)].

Teilsen yn dyddio o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg neu ddechrau'r bedwaredd ganrif

Teilsen yn dyddio o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg neu ddechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg o gapel Castell Rhaglan; fe'i cynhyrchwyd gan Ysgol Wessex.

Teilsen Ysgol Malvern, o'r bymthegfed ganrif, a ddefnyddiwyd yn Rhaglan.

Teilsen Ysgol Malvern, o'r bymthegfed ganrif, a ddefnyddiwyd yn Rhaglan.

Teilsen faiolica

Teilsen faiolica, yn dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg, o lawr y capel a osodwyd gan yr Iarll William, cyn 1572 yn ôl pob tebyg.

Adluniad o fywyd yng Nghastell Rhaglan

Adluniad o fywyd yng Nghastell Rhaglan yn yr unfed ganrif ar bymtheg, yn ystod cyfnod Trydydd Iarll Caerwrangon. Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron).

Gellir gweld tair canrif o ffasiwn a dylunwaith mewn casgliad o deils llawr addurnedig a ddarganfuwyd yn ystod gwaith adeiladu ar safle Castell Rhaglan ym 1947.

Ym 1549 olynodd William Somerset (1526-1589) ei dad gan ddod yn drydydd Iarll Caerwrangon a pherchennog Castell Rhaglan. O'i ganolfan yn ne-ddwyrain Cymru dechreuodd ar yrfa a sicrhaodd lwyddiant iddo yn llysoedd Edward VI (1547-53), Mari (1553-58) ac Elisabeth I (1558-1603). Fe'i claddwyd yn eglwys y plwyf yn Rhaglan.

Nid yw'n syndod fod y fath gymeriad amlwg wedi ceisio ffordd o fyw oedd yn gydnaws â'i statws cymdeithasol uchel, ac arwydd o'r uchelgais hwn oedd y gwaith ailadeiladu helaeth a wnaed ganddo ar y gaer-blasty roedd wedi ei hetifeddu.

Aeth ati i weddnewid y castell drwy fabwysiadu rhaglen foderneiddio gynhwysfawr oedd yn effeithio ar bob rhan o'r adeilad a'r tir: cafodd y neuadd a'r llety, y gegin a'r ystafelloedd gwasanaeth eu gwella, ychwanegwyd oriel hir a chrëwyd gardd yn null y Dadeni.

Cafodd celfi'r castell eu gwella hefyd drwy ychwanegu eitemau oedd yn adlewyrchu ffasiwn Ewropeaidd y dydd. Mae'r thema hon i'w gweld yn glir yng nghapel y castell.

Mae'r capel yn dyddio o'r drydedd ganrif ar ddeg o leiaf, pan roedd ganddo lawr deils priddwaith coch trwchus ag addurn wedi'i fewnosod ar eu hwynebau mewn lliw gwahanol. Yn aml, roedd gan deils deuliw o'r fath gynlluniau wedi'u mewnosod â chlai gwyn - yn achos Rhaglan, tarianau a monogramau yn bennaf - a byddai gwydredd clir yn cael roi drostynt cyn eu tanio. Y teils hyn oedd y ffasiwn diweddaraf yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a cheir hyd i enghreifftiau nodedig ym Mhalas Clarendon yn Wiltshire ac, yn fwy lleol, yn Abaty Tyndyrn.

Tua 1460 disodlwyd y rhain gan deils deuliw ac arnynt gynlluniau nodweddiadol o un o ddiwydiannau cynhyrchu teils Dyffryn Hafren - ac un o'r rhai sydd wedi'i ddyddio orau - ym Malvern, Swydd Caerwrangon. Mae'n rhaid bod y lliwiau melyn llachar a brown euraid wedi creu cefndir cyfoethog ar gyfer trysorau'r capel.

Nid oedd yr Iarll William yn hoff o'r fath gynlluniau. Gan dynnu ar ei brofiad o ffasiynau'r cyfandir, cafodd ei ysbrydoli gan gynnyrch yr Iseldiroedd Sbaenaidd a manteisiodd ar ei gyfoeth sylweddol i brynu teils priddwaith wedi'u gwydro ag alcam a'u peintio mewn dull unlliw a oedd yn boblogaidd yn ystod cyfnod y Dadeni.

Y canlyniad oedd trawsffurfio'r capel mewn modd dramatig, gan oleuo'r tu mewn ac ychwanegu cywreinrwydd i'w addurnwaith.

Gwaetha'r modd, ar ôl i Raglan gael ei adael yn wag yn sgil Rhyfel Cartref Lloegr, ychydig iawn o newidiadau eraill yr Iarll i gelfi'r castell a phryd a gwedd ei ystafelloedd, sydd wedi goroesi. Yn hytrach, dyfalu'n unig a fedrwn ynglŷn â'r moethusrwydd y bu'n gyfrifol amdano, a myfyrio ar natur fyrhoedlog y cyfoeth hwnnw, sydd wedi goroesi ar ffurf casgliad bach o deils llawr peintiedig a llond dwrn o eitemau eraill.

Manylion am y Teils

  • Teilsen yn dyddio o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg neu ddechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg o gapel Castell Rhaglan; fe'i cynhyrchwyd gan Ysgol Wessex. Mae'n portreadu dau aderyn yn bwydo o goeden ganolog. Defnyddiwyd teils ac arnynt yr un cynllun yn Abaty Tyndyrn a Chastell Gwyn gerllaw.
  • Teilsen Ysgol Malvern, o'r bymthegfed ganrif, a ddefnyddiwyd yn Rhaglan. Dyma a ddywed y testun Lladin: 'Bydded i heddwch Christ drigo yn eich plith hyd byth. Amen'.
  • Teilsen faiolica, yn dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg, o lawr y capel a osodwyd gan yr Iarll William, cyn 1572 yn ôl pob tebyg. Yn ôl pob tebyg, mewnforiwyd y teils hyn o'r Iseldiroedd Sbaenaidd, Antwerp efallai, lle sefydlwyd diwydiant cynhyrchu teils maiolica yn gynnar yn yr unfed ganrif ar bymtheg.

Darllen Cefndir

Raglan Castle gan J. R. Kenyon. Cadw: Cofadeiliau Hanesyddol Cymru (2003).

'The chapel at Raglan Castle and its paving tiles' gan J. M. Lewis. Yn Castles in Wales and the Marches gan J. R. Kenyon a R. Avent, tt143-60. Gwasg Prifysgol Cymru (1987).

The medieval tiles of Wales gan J. M. Lewis. Amgueddfa Cymru (1999).

Croes bren a arferai ddisgleirio gan aur

4 Medi 2007

Y groes o Gemais, Sir Fynwy

Y groes o Gemais, Sir Fynwy

Manylyn o ben ffigwr y groes.

Manylyn o ben ffigwr y groes.

Manylyn o'r corff a'r lliain lwynau mewn golau wedi'i adlewyrchu.

Manylyn o'r corff a'r lliain lwynau mewn golau wedi'i adlewyrchu.

Manylyn o'r corff a'r lliain lwynau mewn golau uwch fioled.

Manylyn o'r corff a'r lliain lwynau mewn golau uwch fioled.

Dengys archwiliad gwyddonol o groes ganoloesol o Gemais, De Cymru, fod y gwrthrych pren a welwn heddiw wedi cael ei addurno'n wreiddiol â lliwiau llachar coeth a haenau aur godidog.

Tua 1850, darganfuwyd gweddillion ffigwr pren cerfiedig o Grist yn eglwys Cemais, rai cilomedrau i'r gorllewin o Gaerllion, de Cymru.

Gwrthrych o bwysigrwydd eithriadol

Cyn y Diwygiad Protestannaidd yn yr unfed ganrif ar bymtheg (pan newidiodd Cymru a Lloegr yn swyddogol o fod yn genedl Gatholig i un Protestannaidd), roedd ffigyrau o Grist o'r math hwn yn gyffredin trwy Loegr a Chymru, a'r Crist o Gemais yw'r esiampl mwyaf cyflawn o'r ychydig ddarnau canoloesol sydd wedi goroesi ym Mhrydain, ac felly mae o bwys eithriadol.

Darganfuwyd darnau o ffigwr Cemais 'gyda phenglog ac esgyrn', yng 'ngrisiau'r grog caeedig' yn ystod gwaith atgyweirio a newid yr eglwys tua 1886. Trosglwyddwyd ef i Amgueddfa Cymru ym 1930.

Tybir bod y ffigwr yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar ddeg, ond nid yw'r dadleuon sy'n cefnogi'r farn hon erioed wedi cael eu mynegi'n fanwl. Mae dyddio'r ffigwr yn dibynnu ar gymharu cerfluniau eraill, a'r gred bellach yw ei fod yn dyddio o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg.

Gan fod ffigyrau sydd wedi goroesi o'r cyfnod hwn yn brin, rhaid astudio gwrthrychau o'r cyfandir am gliwiau pellach. Mae ffigyrau croes o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg o Sweden, er enghraifft, yn rhannu nifer o nodweddion tebyg, ond mae'r Crist o'r bedwaredd ganrif ar ddeg o Fochdre, Sir Ddinbych, sef yr unig ffigwr pren cyffelyb o Gymru, yn dra gwahanol. Mae'n debygol iawn bod Crist Cemais wedi cael ei wneud yn Lloegr neu yng Nghymru.

Ymchwilio a dadansoddi'r groes

Ychydig iawn o'r lliw a arferai orchuddio'r ffigwr pren a welir heddiw, ond arweiniodd gwaith rheolaidd Amgueddfa Cymru at ymchwiliad manwl o arwynebedd y gwrthrych ym 1999.

Cymerwyd darlun pelydr-x o'r ffigwr ac edrychwyd arno o dan olau uwch-fioled (UV) a golau is-goch (IR) cyn ei archwilio o dan y microsgop. Datgelodd hyn batrwm y lliwiau gwreiddiol, a'r gwahaniaethau rhwng y corff â'r breichiau, yr ystyriwyd yn flaenorol eu bod yn ychwanegiadau diweddarach.

Lliwiau cyfoethog a llachar

Yn wahanol i'w gyflwr presennol, yn wreiddiol roedd Crist Cemais yn gyfoethog a llachar ei liw, yn unol â'r hyn a oedd yn boblogaidd drwy'r Oesoedd Canol. Cymerwyd gofal mawr wrth addurno'r ffigwr. Pan oedd yn newydd, byddai wedi disgleirio o dan haenau aur.

Wrth archwilio'r ffigwr datgelwyd tystiolaeth sylweddol o aml-liwiogrwydd (defnyddio nifer o liwiau), a throsbeintio, fel y gwelir mewn enghreifftiau eraill o gerflunwaith canoloesol. Er nad oes llawer wedi goroesi ar y breichiau, mae'r fraich dde'n cynnwys dwy haenen, sy'n awgrymu, efallai, bod y fraich chwith wedi cael ei hailosod, naill ai yn ystod hanner cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg, neu'n gynharach hyd yn oed.

Datgelwyd o leiaf tair haen o baent, ond tasg anodd oedd eu dyddio. Ymddengys bod yr ail gynllun lliwiau wedi cynnwys eurwaith ar y gwallt; aur, coch a glas ar du fewn y lliain lwynau; manylion brown tywyll a du ar yr wyneb; coron o ddrain gwyrdd; a lliwiau cnawd pinc gwelw, a choch yn pwysleisio'r clwyfau.

Byddai gwaith aml-liwiog o'r math yma wedi bod yn arferol ar gerflun mor bwysig â hwn. Mae ffigwr Cemais yn cynrychioli Crist ar y groes yn glir, ac fe'i portreadir yn fyw, â'i lygaid ar agor.

Mae Crist Cemais yn enghraifft anghyffredin o ffigwr defosiynol, o'r cyfnod cyn y Diwygiad, a fu unwaith yn gyffredin ar Ynysoedd Prydain. Uchder gwreiddiol y ddelwedd drawiadol o ddioddefaint Crist oedd tua 94cm, felly byddai wedi bod yn weledol iawn ac yn destun gweddi, gan chwarae rhan bwysig iawn ym mywydau pobl bob dydd.

Celfyddyd Geltaidd yng Nghymru'r Oes Haearn

3 Mai 2007

Arian Celtaidd

Darn arian Celtaidd, Sir Fynwy.

Plac cilgantaidd

Plac cilgantaidd o Lyn Cerrig Bach, Ynys Môn.

Plac o Dal-y-Llyn

Plac o Dal-y-Llyn, Gwynedd, sy'n dyddio o'r ganrif 1af OC yn ôl pob tebyg.

Mownt bwced Pen Ych

Mownt bwced Pen Ych a gafwyd yn Nant y Gamar, Conwy.

Celfyddyd Geltaidd

Mae celfyddyd Geltaidd yn adlewyrchu sut roedd pobl yr Oes Haearn yn dehongli eu byd. Mae'r dyluniadau roedden nhw'n eu defnyddio yn ein helpu ni i ddeall sut roedden nhw'n eu gweld eu hunain, eu hamgylchfyd a'u duwiau.

Mae'r gelfyddyd Geltaidd a gafwyd yng Nghymru yn rhan o draddodiad ehangach o lawer ym Mhrydain ac Ewrop. Datblygodd yn ystod yr

Oes Haearn o tua 500CC ymlaen ac fe'i gelwir yn aml yn gelfyddyd La Tène.

Yr enghraifft gynharaf o Gymru yw bowlen

Cerrig-y-Drudion a ddarganfuwyd ym 1924 mewn beddrod cerrig yn sir Conwy. Dyma un o'r ychydig arteffactau o'r 4ydd ganrif CC addurnedig a ddarganfuwyd ym Mhrydain ac mae'n debygol iddi gael ei gwneud gan grefftwyr Brythonaidd o dan ddylanwad traddodiadau Cyfandirol.

Gwyddom am lawer iawn mwy o wrthrychau addurnedig o tua 200CC, ac erbyn hynny roedd y Brythoniaid wedi datblygu eu harddull unigryw eu hunain. Roedd crefftwyr ym Mhrydain yn dal i gynhyrchu cleddyfau, dagrau, gwaywffyn, tlysau ac offer ar gyfer ceffylau, ond roeddent hefyd yn ychwanegu pethau fel tancardiau, drychau a llwyau at eu stoc.

Nodwedd o'r arddull yw cyflwyno motiffau a'u hailadrodd yn aml i bwysleisio eu hystyr. Mae archaeolegwyr yn dehongli'r rhain fel pethau symbolaidd a phwerus â chanddynt arwyddocâd crefyddol. Er enghraifft gallai cymeriad triphlyg y trisgel (patrwm â thri choes yn codi o darddiad canolog) gynrychioli'r berthynas rhwng y byw, y meirwon a'r duwiau neu gylch oesol geni, byw a marw.

Lyn Cerrig Bach

Gweler y plac cilgantaidd o Lyn Cerrig Bach (Ynys Môn). Addurnwyd y plac hwn â thrisgel cymhleth, ac ar ben pob coes mae utgorn a chylch sy'n awgrymu pen aderyn arddulliol.

Daw portreadau arddulliol o bobl ac anifeiliaid yn fwy cyffredin ar ôl 100CC gyda'r wynebau'n aml yn cael eu cuddio o fewn patrymau dyrys. Gellir gweld pennau dynol mewn dyluniadau llifeirol tebyg i blanhigion ar blaciau celc Tal-y-Llyn tra bod amrywiaeth o wartheg, ceffylau, baeddod ac adar yn addurno amrywiaeth eang o arteffactau eraill. Cafwyd hyd i fowntiau bwced siâp pen ych yng Nghymru (gweld y llun - roedd y celc Nant y Gamar (Conwy) hefyd yn cynnwys dau dlws utgorn Rhufeinig, gan ddangos bod yr arddull Geltaidd yn dal i gael ei defnyddio ar ôl y goncwest Rufeinig), sy'n dangos nodweddion arddulliol a'r llinellau llifeiriol oedd yn perthyn i arddulliau artistig Prydeinig. Ceir ambell i awgrym am fwystfilod chwedlonol hefyd, er enghraifft y pennau ceffyl-gwartheg sy'n addurno brigwn Capel Garmon.

Ni ddiflannodd dyluniadau Celtaidd gyda'r goncwest Rufeinig. Cafodd trulleus (sosban) o Wersyll Coygan yn sir Gaerfyrddin ei drwsio rhywbryd yn ystod y 3ydd ganrif OC. Ni chafodd ei addurno â dyluniad Rhufeinig nodweddiadol, ond â motiff trisgel, sy'n dangos bod celfyddyd Geltaidd yn dal i gael ei gwerthfawrogi.

Darllen Cefndir

Early Celtic art in Britain and Ireland gan Ruth a Vincent Megaw. Cyhoeddwyd gan Shire Archaeology (1986)

Symud murlun ffresgo cain i'w gadw

30 Mawrth 2007

Dyfrlliw gan F.G. Newton, 1905

Dyfrlliw gan F.G. Newton, 1905

Tynnu un o'r paneli

Tynnu un o'r paneli

Ym 1988, yn ystod cloddfa archeolegol ar safle siambr y cyngor ym masilica (neuadd ymgynnull) tref Rufeinig Caerwent, datguddiwyd murlun cain sydd bellach wedi cael ei symud i'w gadw a'i arddangos.

Roedd y plastr paentiedig, neu'r ffresgo, sydd 5 metr o hyd ac l metr o uchder, wedi'i gysylltu â wal ddeheuol y siambr. Cofnodwyd ef yn flaenorol mewn darlun dyfrlliw gan F.G. Newton ym 1905, cyn iddo gael ei orchuddio eto.

Mae'r ffresgo'n dangos persbectif pensaernïol, gyda philastrau melyn neu baneli uwchben dado pinc â gwythiennau brown. Mae'n bosib bod y darn brown tywyll ynghanol y pilastr canolog yn rhan o banel addurnedig, a oedd, o bosib, yn cynnwys corff dyn.

Penderfynwyd tynnu'r ffresgo er mwyn atal dirywiad pellach gan fod y plastr yn hynod o fregus.

Ar ôl gorchuddio'r gwaith celf cain yn ofalus gyda mwslin a glud, torrwyd y paentiad yn pum panel - pob un wedi'i gau mewn bocs pwrpasol.

Roedd tynnu'r paentiad o'r wal yn broses anodd, a bu'n rhaid defnyddio amrywiaeth o lifiau a chynion i wneud y gwaith. Gan nad oedd modd cael mynediad at gefn pob panel ond trwy'r pen uchaf ac un o'r ochrau'n unig, roedd y broses yn anodd ac roedd angen cryn dipyn o amynedd a dyfeisgarwch.

Cymerodd gyfanswm o naw niwrnod i symud y paentiad, ac aeth nifer o flynyddoedd heibio cyn i'r gwaith cadwraethol, a'r gwaith o ailosod cefn y paentiad ddod i ben. Bellach, mae'r ffresco'n cael ei gadw a'i storio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Darllen cefndir: