: Y Rhufeiniaid

Datguddio Hanes Cymru: Lansio Casgliadau Arlein

26 Mawrth 2018

Wrth i ni ddatguddio hanner miliwn o gofnodion casgliadau am y tro cyntaf, dyma rai o’r gwrthrychau rhyfedda' a mwya' diddorol o’n gwasanaeth Casgliadau Arlein newydd.

Mae’r erthygl hon yn cynnwys llun o ran o sgerbwd dynol.

Y Mwyaf

Mae ambell i wompyn yn y casgliad – gan gynnwys Tram Ceffyl maint llawn o Gaerdydd a hofrennydd achub môr – ond y mwya’ o bell ffordd yw Institiwt y Gweithwyr o Oakdale.

Agorwyd yr adeilad ym 1917, gyda neuadd ddawns, stafell gemau a llyfrgell – erbyn heddiw fe ddowch chi o hyd i’r adeilad yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Ffotograff o 1908 yn dangos Horace Watkins mewn awyren gynnar, fregus yr olwg

Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908

Mae rhan helaeth o adeiladau Sain Ffagan yn rhan o’r casgliad cenedlaethol – ac yn meddu ar yr un statws cyfreithiol ag un o gampweithiau Monet neu gelc o drysor. Mae’r adeiladau’n cael eu datgymalu, eu symud a’u hail-adeiladau yn defnyddio technegau traddodiadol gan dîm o grefftwyr arbenigol.
 

Yr Hynaf


ffotograff o ddau ddant bachgen Neanderthalaidd 8 mlwydd oedd

Rhain yw olion dynol hynaf Cymru

Dannedd bachgen wyth oed yw’r rhain. Mae’n nhw dros 230, 000 mlwydd oed – yr olion dynol hynaf a ddarganfyddwyd yng Nghymru.

Datguddiwyd nhw gan archaeolegwyr yn archwilio Ogof Pontnewydd, ger Cefn Meiriadog, ble darganfyddwyd olion arth, llew, llewpart, a dant rheinosorws.

Bydd y dannedd yma i’w gweld yn arddangosfeydd newydd Sain Ffagan o Hydref 2018.
 

Y Mwya Sgleiniog

Mae pobl yng Nghymru wedi bod yn creu, ffeirio a gwisgo trysorau aur ers miloedd o flynyddoedd – fel yr addurn gwallt yma o’r Oes Efydd, a’r fodrwy enfawr hon.


ffotograff o ddisg aur gyda chynllun addurniadol

'Disgen haul' yw'r enw ar y math hwn o addurn, ond nid yw pwrpas y gwrthrych yn hollol glir

Mae’r Ddisgen Haul hon yn un o’r esiamplau cynharaf o addurn aur o Gymru, a darganfyddwyd hi yng Nghwmystwyth yng Ngheredigion.

Credir mai addurn angladdol oedd y ddisgen hon, a'i bod yn debygol i'r ddisgen gael ei phwytho ar ddillad y person marw cyn eu hangladd. Dim ond chwech o'r disgiau yma sydd wedi eu canfod yn y DU yn gyfan.
 

Mwyaf Dadleuol

Ar yr olwg gynta, set de capel gyffredin yw hon. Ond o edrych yn agosach, fe welwn ni’r geiriau ‘Capel Celyn’ arni. Mae’r Capel a’i chymuned, wrth gwrs, o dan ddyfroedd Llyn Celyn erbyn hyn.


Ffotograff yn dangos cwpan a soser â'r geiriau 'Capel Celyn' a chynllun rhuban arnynt

Casglodd guraduron esiamplau o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn, cyn i'r cwm gael ei foddi yn 1965

Pan foddwyd cwm Tryweryn ym 1965 gan Gorfforaeth Lerpwl, daeth y digwyddiad yn drobwynt yn hanes ymgyrchu Cymreig. Crewyd cenhedlaeth newydd o brotestwyr, a hawliodd well triniaeth i gymunedau Cymreig gan y llywodraeth a chan gorfforaethau.

Casglwyd y cwpanau hyn fel esiampl o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn – i’n atgoffa o gymuned wedi ei dadleoli, ac i goffau un o ddigwyddiadau gwleidyddol mwyaf pwysig Cymru’r 20ed ganrif.
 

Gwobr Arbennig: Awyren wedi’i gwneud o Sedd Stafell Fwyta

Adeiladwyd y Robin Goch ym 1909 – o gadair stafell fwyta, weiren biano ac injan 40 horsepower. Amserwr wy ger yr olwyn yrru sy’n mesur faint o danwydd sydd ar ôl yn yr awyren.


ffotograff o awyren fechan o'r ugeinfed ganrif, ag iddi adennydd coch

Y Robin Goch wedi'i harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Bu'r awyren hon yn hedfan o gwmpas Caerdydd rhwng 1909 a 1916 - dyma lun o Horace Watkins, a adeiladodd y Robin Goch, mewn fersiwn gynharach, hyd yn oed yn fwy bregus, o’r awyren.
 

Ffotograff o 1908 yn dangos Horace Watkins mewn awyren gynnar, fregus yr olwg

Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908

Mae ein casgliadau yn llawn straeon sy’n olrhain hanes a dangos cymeriad unigryw pobl Cymru. Mae’r Robin Goch yn un o drysorau’r casgliad, ac yn eisampl o ddyfeisgarwch a menter Cymru ar ei orau.

Hanner miliwn o eitemau i’w chwilio

Mae lansiad Casgliadau Arlein yn datguddio hanner miliwn o gofnodion casgliad, sydd nawr ar gael ar lein i’w chwilio am y tro cyntaf.

“Mae Casgliadau Arlein yn garreg filltir enfawr yn ein gwaith, wrth i ni geisio dod â rhagor o’n casgliadau arlein, i gynulleidfa ehanach, fyd eang.

Dim ond dechrau’r gwaith yw hyn. Mae hi mor gyffrous meddwl beth y bydd pobl Cymru a thu hwnt yn ei wneud gyda’r cofnodion yma – archwilio gwrthrychau, llunio straeon ac ychwanegu at ein dealltwriaeth ni o’r casgliad cenedlaethol” – Chris Owen, Rheolwr y We
 

Chwilio Casgliadau Arlein

I’r dyfodol...

Ein gwaith ni ‘nawr fydd i fynd trwy’r hanner miliwn o gofnodion, a’u gwella. Ysgrifennwyd rhai yn y 1940au ac felly byddwn yn ychwanegu gwybodaeth a lluniau wrth i ni fynd yn ein blaen.

Fe fyddwn ni’n dadansoddi sut y mae pobl yn defnyddio’r casgliadau, i weld be sy’ fwya’ poblogaidd ymysg ein hymwelwyr, neu beth sy’n sbarcio trafodaeth. Bydd hyn yn rhoi syniad i ni o beth i dynnu llun ohono nesaf, neu beth i’w ystyried ar gyfer arddangosfeydd yn y dyfodol.

Mae paratoi gwrthrychau a thynnu eu lluniau yn broses sydd angen gofal, am fod llawer o'r gwrthrychau yn fregus neu'n sensitif i olau. Os hoffech chi ein cefnogi yn y gwaith yma, gwnewch rodd heddiw - mae pob cyfraniad yn cyfri.

 

Cyfrannu Heddiw

 

Rydym ni'n eithriadol o ddiolchgar i'r People's Postcode Lottery am eu holl gefnogaeth wrth i ni weithio i rannu'n casgliadau arlein.
 

Ci Da yn Gwella

Penny Hill, 5 Mawrth 2014

Cerflun bach manwl o gi

Cerflun bach manwl o gi heb fod dros 5cm o daldra fyddai wedi’i orchuddio â haen o dun neu arian mwy na thebyg. Mae tyllau yn y gwaelod metel yn awgrymu ei fod yn esitedd ar blinth.

Un o ddau gerflun bach o gŵn a ganfuwyd yn Llys Awel

Un o ddau gerflun bach o gŵn a ganfuwyd yn Llys Awel. Mae ei dafod allan yn barod i lyfu.

Mae’r ci wedi bod yn gyfaill mynwesol i ddyn ers cyn cof. Gwelwyd straeon eto’n ddiweddar am gŵn yn achub bywydau drwy ffroeni cancr, neu wella cylchrediad gwaed drwy lyfu coesau a breichiau.

Ond nid darganfyddiad newydd yw’r cysylltiad rhwng pobl, cŵn ac iechyd. Yn y casgliad archaeoleg, ymhlith grŵp o wrthrychau a ganfuwyd yn llys Awel, Conwy mae dau ffigwr bychan o gŵn. Mae dau blac aloi copr yno hefyd. Addurn pwnsh dot o amlinell ci sydd ar y cyntaf, ond mae’r ail wedi dirywio a gallai fod yn gi arall, neu’n enw duw. Y gred yw taw allor wedi’i gysegru i dduw iachaol oedd y safle, ac mae’r gwrthrychau eu hunain wedi’u dyddio i gyfnod y Rhufeiniaid ym Mhrydain, rhwng diwedd y ganrif 1af AD a diwedd y 4edd ganrif AD. Mwy na thebyg i bobl adael y gwrthrychau yn offrwm i’r duw yn y gobaith y byddai’n sicrhau iechyd da ac yn eu gwella rhag afiechyd.

Pam cŵn?

Cai’r duw meddyginiaeth Groegaidd Asklepios (Aesculapius oedd enw’r Rhufeiniaid arno) ei ddangos yn aml yng nghwmni ci. Mwy na thebyg bod pobl wedi gweld cŵn yn iachau eu hunain drwy lyfu a’r cysylltiad wedyn wedi tyfu. Adeiladwyd noddfa fawr i’r cwlt yn y 4edd ganrif CC yn Epidaurus, Groeg. Tyfodd hon yn un o ganolfannau iachau mwyaf yr hen fyd. Un elfen o’r ddefod iachau oedd derbyn llyfiad gan gi dwyfol y noddfa. Yr unig esiampl gyffelyb y gwyddir amdani ym Mhrydain yw cwlt Nodens, y duw Romano-Brydeinig oedd â’i noddfa yn Lydne, Swydd Gaerloyw. Canfuwyd 9 portread o gŵn yno, ac fel yn Llys Awel mwy na thebyg taw pererinion yn chwilio am wellhad rhag afiechyd a’u gadawodd.

Yn 5cm o daldra ac wedi’u gwneud o aloi copr, eistedda’r ddau gi â’u cynffonau rhwng eu coesau a’u tafodau allan yn barod i lyfu. Mae’r manyldeb arnynt yn hynod, gyda’r llygaid a’r clustiau, y trwynau, y pawennau a’r ffwr i gyd yn amlwg. Mwy na thebyg iddynt gael eu creu drwy ddefnyddio’r dull colli cwyr, felly dim ond un cyfle oedd i gastio’r metel. Castiwyd un ci mewn un darn ond mae’r llall yn fwy cymhleth.

Wrth wneud gwaith cadwraeth, dysgwyd sut y cynhyrchwyd y cerflun

Wrth wneud gwaith cadwraeth, dysgwyd sut y cynhyrchwyd y cerflun. Castiwyd darnau ar wahân cyn eu sodro at eu gilydd.

Darlun o blac offrwm gydag arlliwio ychwanegol yn amlygu amlinell ci.

Darlun o blac offrwm gydag arlliwio ychwanegol yn amlygu amlinell ci.

Darlun o blac offrwm

Darlun o blac offrwm. Yw’r llinellau toredig yn yr hanner gwaelod yn sillafu enw duw sydd bellach yn angof, neu ai ci arall sydd yma?

Cadwraeth

Yn ystod gwaith cadwraeth, gwelwyd bod pedwar cast – pen, corff, cynffon a thafod – wedi’u sodro at eu gilydd i greu cyfanwaith. Awgrym pellach o hyn yw’r rhigolau yn y metel ger uniad y pen a’r corff, fyddai’n gymorth i’r sodrwr ddal y ddwy ran wrth weithio. Ceir tystiolaeth hefyd bod castio’r ffigwr wedi achosi cryn drafferth i’r crefftwr, a’r aloi copr ddim yn llifo ac yn llenwi’r mowld bychan. Bu’n rhaid trwsio’r trwyn a’r goes flaen dde gan dorri’r deunydd oedd heb gastio’n gywir a sodro rhannau newydd yn eu lle. Mae’r trwyn newydd wedi diflannu ond mae’r goes newydd gyda ni o hyd, a gellir gweld nad yw’r gwaith mor gywrain â’r goes chwith.

Mwy na thebyg i’r cerflun gael ei orchuddio mewn tun neu arian i guddio’r camgymeriadau a gwella’r golwg terfynol er mwyn dyrchafu pedigri’r ci bach. Ni chafwyd canlyniadau pendant o ddadansoddi’r arwyneb fodd bynnag ac nid yw’r gorchudd, os oedd un yn bodoli erioed, wedi goroesi. Bydd yn rhaid i ni ddychmygu sut olwg oedd ar y ci ar ei newydd wedd, ac a wnaeth yr offrwm ennyn trugaredd y duwiau?

Celc arian Llanfaches

15 Gorffennaf 2011

Llanvaches coin hoard

Yn 2006, daeth un o'r casgliadau gorau o geiniogau arian o Brydain Rufeinig yr ail ganrif i'r wyneb ger Llanfaches, Casnewydd.

Darganfuwyd celc o 599 denarii arian wedi'u cuddio mewn llestr coginio a wnaed yn lleol. Maen nhw'n cael eu harddangos yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru bellach.

Saif Llanfaches rhwng caer yr ail lynges Awgwstaidd yng Nghaerllion a phencadlys y llwythi lleol, Venta Silurum, yng Nghaerwent.

Mae'r 599 denarii arian, sy'n dangos Ymerawdwyr Rhufeinig fel Hadrian a Nero, yn dyddio'n ôl i OC 160, a chyhoeddwyd eu bod yn drysor ym mis Gorffennaf 2007.

Y Denarius, neu Denarii (lluosog), yw'r darn arian Rhufeinig enwocaf, mwy na thebyg. Dyma'r llythyren 'd' a oedd yn rhan o hen system arian '£-s-d' Prydain. Roedd 1 denarius rywbeth tebyg i gyflog diwrnod ar y pryd, i weithiwr cyffredin (meddyliwch am ddameg y winllan yn y Beibl) neu lengfilwr Rhufeinig. Roedd y denarius, felly, yn ddarn gwerthfawr o arian.

Byddai 600 denarii yn swm aruthrol - tybed faint o amser fyddai hi'n ei gymryd i chi gynilo gwerth dwy flynedd o gyflog gros, tybed?

Cliciwch ar y mân-luniau isod i bori trwy ddetholiad o'r celc arian.

Llanvaches coin hoard

Pegasus

Pennau

Yn wahanol i'n darnau arian ni heddiw - sydd ag un llywodraethwr yn unig arnynt ac ychydig iawn o gynlluniau gwahanol - roedd arian bath ymerodraeth Rhufain yr ail ganrif yn llawn amrywiaeth: mae celc Llanfaches yn cynnwys ceiniogau â llun 12 ymerawdwr gwahanol a phedair o'u gwragedd neu gariadon.

Cynffonnau

Roedd dwsinau o gynlluniau gwahanol ar gefnau'r ceiniogau - a oedd fel cronicl o amcanion, gwerthoedd a llwyddiannau ymerodrol (i'r rhai a oedd yn ddigon brwd neu lythrennog hyd yn oed, i'w deall). Roeddynt yn cynnwys: hanes a chwedloniaeth, yr ymerawdwr a'i orchestion, y fyddin, yr ymerodraeth, duwiau Rhufeinig, ymgnawdoliad o gysyniadau haniaethol, a'r byd naturiol hyd yn oed.

Felly, dyma gyfle i ddod i adnabod y llywodraethwyr Rhufeinig, eu gwragedd a'u cariadon yn well, a deall y negeseuon y tu ôl i rai o'r ceiniogau mwyaf diddorol yn y casgliad.

Y cyd-destun ehangach

Mae'n ymddangos mai arian wedi'i gynilo oedd celc Llanfaches (yn hytrach nag arian nad oedd mewn defnydd ar y pryd) - felly ai rhan o gynilion gorfodol a dewisol ychwanegol milwr Rhufeinig oedden nhw? Neu gynilion yn sgil oes o fasnachu yn nhref gyfagos Caerwent? Beth bynnag oedden nhw, roedd cyflog milwrol yn hollbwysig i wasgaru'r arian bath newydd; mae wyth celc o gyfnod Antoninus Pius (138-61 OC) wedi'u darganfod yma yng Nghymru, a chelc Llanfaches yw'r mwyaf o bell ffordd.

Mwy craff na'r Edwardiaid? Canfod bwcl gwregys Rhufeinig

Evan Chapman, 14 Medi 2010

Bwcl gwregys o'r cyfnod Rhufeinig hwyr o Gaerwent

Bwcl gwregys o'r cyfnod Rhufeinig hwyr o Gaerwent

Yr unig esiampl arall o Gymru y gwyddom amdani — o fryngaer Pen y Corddyn, Conwy.

Yr unig esiampl arall o Gymru y gwyddom amdani — o fryngaer Pen y Corddyn, Conwy. Addurn o bysgod a phâr o beunod yn wynebu coeden arddulliedig.

Datglodd yng Nghaerwent yn gynnar yn yr 20fed ganrif

Datglodd yng Nghaerwent yn gynnar yn yr 20fed ganrif

Ail-ddatgloddio y ffosydd Edwardaidd yng Nghaerwent

Ail-ddatgloddio y ffosydd Edwardaidd yng Nghaerwent

Dechreuodd Archeolegwyr ddatgloddio'r forum-basilica yng Nghaerwent yn Sir Fynwy ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Dychwelodd staff yr Amgueddfa yn ddiweddar i ddatgloddio'r safle eto, a chanfod eitemau gafodd eu methu yn wreiddiol, yn cynnwys y bwcl a phlât aloi copr o ddiwedd y bedwaredd ganrif.

Mae pâr o bennau dolffin yn wynebu am i mewn ar ddolen y bwcl ynghyd â phâr o bennau ceffyl yn wynebu am allan. Yn wreiddiol byddai'r plât llenfetel wedi'i glymu i wregys ledr gyda dau rybed ar y pen. Mae border o gebl addurniadol iddo a thri motif cylchog gyda rhosglwm melyn Mair ar gefndir o ddotiau. Mae'r ymwthiadau crwm sy'n codi o'r rhain yn edrych fel pennau a gyddfau adar, sy'n awgrymu taw peunod yw'r motifau.

Ar ragfur gorllewinol bryngaer Pen y Corddyn, Conwy y canfuwyd yr unig blât bwcl tebyg yng Nghymru. Addurniadau o bysgod a phâr o beunod yn wynebu coeden arddulliedig sydd ar yr esiampl honno.

Peunod anfarwol a phren y bywyd

Mae peunod yn symbol o anfarwoldeb (dywedir bod eu cnawd yn anllygradwy), a gellir dehongli'r pysgod a phren y bywyd fel symbolau Cristnogol. Mae hyn wedi arwain rhai i feddwl taw byclau Cristnogol yw'r rhain, ond mae'n bosib taw motifau addurniadol cyffredin ydyn nhw.

Gwregys Filwrol Rufeinig

Mae'n debyg bod platiau bwcl fel hwn yn offer milwrol swyddogol. Roedd y 'wregys filwrol' yn symbol bwysig o reng, er ei bod yn amlwg i wregysau o'r un arddull ddod yn boblogaidd y tu hwnt i'r fyddin. Gallai'r esiampl hon fod yn fersiwn lled swyddogol ar gyfer y 'gwasanaeth sifil', yn hytrach na'r fyddin. Mae'n debyg fodd bynnag, i'w poblogrwydd ledu ymhellach fel symbol o statws i rai oedd yn gweld eu hunain fel gweision y wladwriaeth. Maent wedi cael eu canfod mewn beddrod sawl gwraig, sy'n awgrymu bod merched yn eu gwisgo hefyd.

Ni ddylid ystyried bwcl Caerwent yn ddim mwy nag eitem ddillad sy'n dangos chwaeth bersonol y perchennog. Nid yw'n dangos rheng na chenedl y perchennog yn uniongyrchol hyd yn oed, er y gall awgrymu bod gan y perchennog awydd i edrych fel un o 'fawrion y gymdeithas'.

Atgynhyrchu Pennau Saethau Rhufeinig

Evan Chapman, 14 Medi 2010

Pen saeth Rhufeinig â thair asgell o Dinorben, gogledd Cymru

Pen saeth Rhufeinig â thair asgell o Dinorben, gogledd Cymru

Pen saeth Rhufeinig â phedai asgell o Gaerllion, de Cymru

Pen saeth Rhufeinig â phedai asgell o Gaerllion, de Cymru

Copïau o bennau saethau

Copïau o bennau saethau

Jig a ddefnyddiwyd i ffurfio pen saeth â phedair asgell.

Jig a ddefnyddiwyd i ffurfio pen saeth â phedair asgell.

Defnyddiai'r Rhufeiniaid sawl math gwahanol o bennau saethau. Roedd gan y rhai mwyaf nodweddiadol gyfres o esgyll: tair asgell oedd gan rai cynnar, ond mae enghreifftiau o rai â phedair asgell wedi'u canfod sy'n perthyn i'r drydedd ganrif OC. Un rheswm posibl am y newid hyn yw ei bod hi'n haws cynhyrchu'r fersiwn â phedair asgell.

Yn 2008 cynhaliwyd Pencampwriaeth Saethyddiaeth Maes y Byd yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, a cynhaliodd yr Amgueddfa sawl arddangosfa fach ar saethyddiaeth. Cynhyrchwyd nifer o bennau saethau Rhufeinig yn arbennig ar gyfer yr arddangosfa saethyddiaeth Rufeinig i ddangos sut fyddai pennau saethau Rhufeinig newydd sbon yn edrych.

Yn sgil gwaith cadwraeth gofalus ar rai o bennau saethau Rhufeinig yr Amgueddfa, gwelwyd digon o fanylion gwreiddiol i ddatgelu'r broses gynhyrchu a ddefnyddiodd y Rhufeiniaid. Roedd gof Amgueddfa Sain Ffagan am greu copïau yn yr un modd a bu'n arbrofi nes ei fod yn medru creu copïau oedd yn debyg iawn i'r gwreiddiol.

Dangosodd y gwaith arbrofol hyn ei bod yn haws ac yn gynt cynhyrchu'r math â phedair asgell oherwydd bod modd creu'r esgyll mewn jig. Gan fod mwy o ofod rhwng yr esgyll ar y fersiwn tair asgell roedd yn rhaid taro'r esgyll i siâp yn unigol, ac roedd un asgell yn y ffordd wrth geisio gweithio ar un arall. Ai dyma pam y dechreuwyd cynhyrchu fersiynau pedair asgell?

Os yw hyn yn wir, pam oedd y Rhufeiniaid yn cynhyrchu pennau saethau â thair asgell yn y lle cyntaf? Seiliwyd offer saethyddiaeth Rhufeinig ar dechnoleg y Dwyrain Agos. Yno, cai'r pennau saethau metel gwreiddiol eu castio mewn efydd. Copïo ffurf tair asgell y pennau saethau efydd yma wnaeth y Rhufeiniaid yn syml iawn.

Andrew Murphy yn defnyddio'r jig i greu pennau saethau Rhufeinig yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Andrew Murphy, gof Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn defnyddio'r jig i greu pennau saethau Rhufeinig

Darllen Pellach

Bishop, M.C.&Coulston, J.C.N. 2006 Roman Military Equipment, from the Punic Wars to the Fall of Rome (Rhydychen: Oxbow Books)

Chapman, E.M. 2005 A Catalogue of Roman Military Equipment in the National Museum of Wales, BAR British Series 388 (Rhydychen)