Datguddio Hanes Cymru: Lansio Casgliadau Arlein 26 Mawrth 2018 Wrth i ni ddatguddio hanner miliwn o gofnodion casgliadau am y tro cyntaf, dyma rai o’r gwrthrychau rhyfedda' a mwya' diddorol o’n gwasanaeth Casgliadau Arlein newydd. Mae’r erthygl hon yn cynnwys llun o ran o sgerbwd dynol. Y Mwyaf Mae ambell i wompyn yn y casgliad – gan gynnwys Tram Ceffyl maint llawn o Gaerdydd a hofrennydd achub môr – ond y mwya’ o bell ffordd yw Institiwt y Gweithwyr o Oakdale. Agorwyd yr adeilad ym 1917, gyda neuadd ddawns, stafell gemau a llyfrgell – erbyn heddiw fe ddowch chi o hyd i’r adeilad yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908 Mae rhan helaeth o adeiladau Sain Ffagan yn rhan o’r casgliad cenedlaethol – ac yn meddu ar yr un statws cyfreithiol ag un o gampweithiau Monet neu gelc o drysor. Mae’r adeiladau’n cael eu datgymalu, eu symud a’u hail-adeiladau yn defnyddio technegau traddodiadol gan dîm o grefftwyr arbenigol. Yr Hynaf Rhain yw olion dynol hynaf Cymru Dannedd bachgen wyth oed yw’r rhain. Mae’n nhw dros 230, 000 mlwydd oed – yr olion dynol hynaf a ddarganfyddwyd yng Nghymru. Datguddiwyd nhw gan archaeolegwyr yn archwilio Ogof Pontnewydd, ger Cefn Meiriadog, ble darganfyddwyd olion arth, llew, llewpart, a dant rheinosorws. Bydd y dannedd yma i’w gweld yn arddangosfeydd newydd Sain Ffagan o Hydref 2018. Y Mwya Sgleiniog Mae pobl yng Nghymru wedi bod yn creu, ffeirio a gwisgo trysorau aur ers miloedd o flynyddoedd – fel yr addurn gwallt yma o’r Oes Efydd, a’r fodrwy enfawr hon. 'Disgen haul' yw'r enw ar y math hwn o addurn, ond nid yw pwrpas y gwrthrych yn hollol glir Mae’r Ddisgen Haul hon yn un o’r esiamplau cynharaf o addurn aur o Gymru, a darganfyddwyd hi yng Nghwmystwyth yng Ngheredigion. Credir mai addurn angladdol oedd y ddisgen hon, a'i bod yn debygol i'r ddisgen gael ei phwytho ar ddillad y person marw cyn eu hangladd. Dim ond chwech o'r disgiau yma sydd wedi eu canfod yn y DU yn gyfan. Mwyaf Dadleuol Ar yr olwg gynta, set de capel gyffredin yw hon. Ond o edrych yn agosach, fe welwn ni’r geiriau ‘Capel Celyn’ arni. Mae’r Capel a’i chymuned, wrth gwrs, o dan ddyfroedd Llyn Celyn erbyn hyn. Casglodd guraduron esiamplau o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn, cyn i'r cwm gael ei foddi yn 1965 Pan foddwyd cwm Tryweryn ym 1965 gan Gorfforaeth Lerpwl, daeth y digwyddiad yn drobwynt yn hanes ymgyrchu Cymreig. Crewyd cenhedlaeth newydd o brotestwyr, a hawliodd well triniaeth i gymunedau Cymreig gan y llywodraeth a chan gorfforaethau. Casglwyd y cwpanau hyn fel esiampl o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn – i’n atgoffa o gymuned wedi ei dadleoli, ac i goffau un o ddigwyddiadau gwleidyddol mwyaf pwysig Cymru’r 20ed ganrif. Gwobr Arbennig: Awyren wedi’i gwneud o Sedd Stafell Fwyta Adeiladwyd y Robin Goch ym 1909 – o gadair stafell fwyta, weiren biano ac injan 40 horsepower. Amserwr wy ger yr olwyn yrru sy’n mesur faint o danwydd sydd ar ôl yn yr awyren. Y Robin Goch wedi'i harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Bu'r awyren hon yn hedfan o gwmpas Caerdydd rhwng 1909 a 1916 - dyma lun o Horace Watkins, a adeiladodd y Robin Goch, mewn fersiwn gynharach, hyd yn oed yn fwy bregus, o’r awyren. Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908 Mae ein casgliadau yn llawn straeon sy’n olrhain hanes a dangos cymeriad unigryw pobl Cymru. Mae’r Robin Goch yn un o drysorau’r casgliad, ac yn eisampl o ddyfeisgarwch a menter Cymru ar ei orau. Hanner miliwn o eitemau i’w chwilio Mae lansiad Casgliadau Arlein yn datguddio hanner miliwn o gofnodion casgliad, sydd nawr ar gael ar lein i’w chwilio am y tro cyntaf. “Mae Casgliadau Arlein yn garreg filltir enfawr yn ein gwaith, wrth i ni geisio dod â rhagor o’n casgliadau arlein, i gynulleidfa ehanach, fyd eang. Dim ond dechrau’r gwaith yw hyn. Mae hi mor gyffrous meddwl beth y bydd pobl Cymru a thu hwnt yn ei wneud gyda’r cofnodion yma – archwilio gwrthrychau, llunio straeon ac ychwanegu at ein dealltwriaeth ni o’r casgliad cenedlaethol” – Chris Owen, Rheolwr y We Chwilio Casgliadau Arlein I’r dyfodol... Ein gwaith ni ‘nawr fydd i fynd trwy’r hanner miliwn o gofnodion, a’u gwella. Ysgrifennwyd rhai yn y 1940au ac felly byddwn yn ychwanegu gwybodaeth a lluniau wrth i ni fynd yn ein blaen. Fe fyddwn ni’n dadansoddi sut y mae pobl yn defnyddio’r casgliadau, i weld be sy’ fwya’ poblogaidd ymysg ein hymwelwyr, neu beth sy’n sbarcio trafodaeth. Bydd hyn yn rhoi syniad i ni o beth i dynnu llun ohono nesaf, neu beth i’w ystyried ar gyfer arddangosfeydd yn y dyfodol. Mae paratoi gwrthrychau a thynnu eu lluniau yn broses sydd angen gofal, am fod llawer o'r gwrthrychau yn fregus neu'n sensitif i olau. Os hoffech chi ein cefnogi yn y gwaith yma, gwnewch rodd heddiw - mae pob cyfraniad yn cyfri. Cyfrannu Heddiw Rydym ni'n eithriadol o ddiolchgar i'r People's Postcode Lottery am eu holl gefnogaeth wrth i ni weithio i rannu'n casgliadau arlein.
Dannedd Neanderthalaidd o Ogof Pontnewydd 9 Gorffennaf 2013 Adluniad ar ffurf paentiad o trigolion Neanderthalaidd cynnar. Gorfant plentyn tua 9 oed. Dant Neanderthalaidd cynnar (chwith), a llun pelydr-X (dde). Mae'r llun pelydr-X yn dangos ceudod bywyn mawr a fu'n gymorth i archaeolegwyr adnabod dannedd Pontnewydd a'u priodoli i ddynion Neanderthalaidd. Cloddiwyd Ogof Pontnewydd gan archaeolegwyr Amgueddfa Cenedlaethol Cymru rhwng 1978 a 1995. Codwyd y mur ar draws mynedfa'r ogof yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pryd y câi Ogof Pontnewydd ei defnyddio fel storfa arfau. Ogof Pontnewydd Wrth gloddio yn Ogof Pontnewydd, Sir Ddinbych, cafodd archaeolegwyr Amgueddfa Cenedlaethol Cymru hyd i'r gweddillion dynol cynharaf y gwyddys amdanynt yng Nghymru, esgyrn yn dyddio'n ôl tua 230,000 o flynyddoedd. Ym mherfeddion yr ogof y darganfuwyd y rhan fwyaf o'r pedwar dant ar bymtheg a gafodd eu sgubo danddaear gan ddŵr tawdd adeg enciliad y llen iâ a orchuddiai Gymru gyfan, yn ôl pob tebyg, yn ystod Oes yr Iâ. Yn ôl arbenigwyr yn yr Amgueddfa Byd Natur, Llundain, mae'r dannedd yn nodweddiadol o ddynion Neanderthalaidd cynnar. Neanderthalaidd cynnar Roedd y bobl Neanderthalaidd yn un gangen o goeden esblygol yr hil ddynol y credir iddi ddarfod tua 36,000 o flynyddoedd yn ôl. Yr un oedd eu hynafiad hwy â'r rhywogaeth y perthynwn ni iddi, ond ni esblygodd yr hil ddynol bresennol o'r bobl Neanderthalaidd. Roedd y dynion Neanderthalaidd yn gymharol fyr a byrdew a chanddynt wrymiau o dan eu haeliau, genau mawr sgwâr a dannedd sy'n fwy na'n rhai ni heddiw. Drwy astudio'r dannedd a ddarganfuwyd yn Ogof Pontnewydd sylweddolwyd eu bod yn cynrychioli pump o unigolion. Dannedd Neanderthalaidd Dengys lluniau pelydr-X o'r holl ddannedd yr un nodwedd ddiddorol, sef tawrodontiaeth - dannedd ac iddynt geudodau bywyn mawr a gwreiddiau llai. Mae tawrodontiaeth yn nodwedd neilltuol (ond nid unigryw) o ddannedd Neanderthalaidd, a chyffredinolrwydd y cyflwr hwn sydd wedi darbwyllo arbenigwyr mai pobl Neanderthalaidd oedd trigolion Ogof Pontnewydd ac nid bodau dynol cynharach. Roedd plant ifanc ac oedolion ymhlith y rhai oedd yn byw yn Ogof Pontnewydd. Y darganfyddiad mwyaf cyflawn y cafwyd hyd iddo ar y safle yw darn o orfant plentyn tua 9 oed. Yn y rhan hon o'r ên gellir gweld un dant sugno, sydd wedi'i dreulio'n arw, y drws nesaf i gilddant arhosol sydd newydd ymddangos. Bwyd y Neanderthal Ni chafwyd hyd i'r dannedd ar eu pennau eu hunain y tu mewn i'r ogof. Mewn cysylltiad â hwy, darganfuwyd arfau cerrig ac esgyrn anifeiliaid ag olion bwtsiera ar rai ohonynt - tystiolaeth mai'r esgyrn hyn oedd gweddillion prydau bwyd y dynion Neanderthalaidd cynnar a drigai yn yr ogof. Ni wyddys p'un ai a gafodd y bodau dynol hyn eu claddu'n wreiddiol mewn beddau yn yr ogof. Gwaetha'r modd, mae'r grymoedd a fu'n gyfrifol am gadw'r dannedd yng nghrombil Ogof Pontnewydd wedi dinistrio unrhyw olion o'r man lle roeddent yn gorwedd yn wreiddiol. Darllen Cefndir Ice Age hunters: neanderthals and early modern hunters in Wales gan S. Green ac E. Walker. Cyhoeddwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru (1991). In search of the neanderthals: solving the puzzle of human origins gan C. Stringer a C. Gamble. Cyhoeddwyd gan Thames and Hudson (1993). Pontnewydd Cave: a lower Palaeolithic hominid site in Wales: the first report gan H. S. Green. Cyhoeddwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru (1984). Neanderthals in Wales: Pontnewydd and the Elwy Valley Caves gan by Stephen Aldhouse-Green, Rick Peterson and Elizabeth A. Walker. Cyhoeddwyd gan Amgueddfa Cymru a Oxbow Books (2012).
Yn y Ddaear: O dan Eisteddfod 2012, mae tir sanctaidd 3 Awst 2012 Yn yr union fan hwn, 4,000 o flynyddoedd yn ôl, claddodd trigolion Bro Morgannwg rai aelodau o'u cymuned. Adeiladwyd casgliad o domenni claddu cymhleth a thrawiadol i nodi man gorffwys neu fan preswyl eu (ac ein?) cyndeidiau. Yn ystod gaeaf garw 1939-40, datgloddiwyd yr henebion archaeolegol hyn gan Syr Cyril Fox, Cyfarwyddwr yr Amgueddfa Genedlaethol. O'i gwmpas, roedd y teirw dur eisoes yn paratoi'r tir cyn adeiladu maes awyr yr Ail Ryfel Byd yma yn Llandaw. Syr Cyril Fox, y Foneddiges Fox a "hanner dwsin o ddynion caib a rhaw" yn archwilio olion y gorffennol. Roedd y gaeaf hwnnw ym 1939-40 gyda'r oeraf ar gofnod. Roedd y dyfodol yn edrych yn llwm iawn. Oedd pobl yr Oes Efydd yn dathlu cylch bywyd, neu'n galaru? A yw'r cylchoedd defodol hyn yn cynrychioli cylchoedd bywyd a marwolaeth?
Beddrodau Oes y Cerrig yn ne-ddwyrain Cymru 14 Mai 2007 Blaengwrt a siambr Castell Carreg (Bro Morgannwg). Gellir ymweld â siambr y gofeb drawiadol hon a adeiladwyd yn null Cotswold-Severn heddiw. Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron). Adluniad dychmygol o seremoni gladdu yng Nghastell Carreg, gan Alan Sorrell. Plan o feddrod Gwernvale (Powys). Mae'r plan hwn o'r beddrod yn nodweddiadol o'r math Cotswold-Severn, ond yn yr achos hwn, nid oes modd cyrraedd y siambrau drwy'r blaengwrt, ond yn hytrach o ochrau'r beddrod. Powlen o'r Tŷ-Isaf (Powys). 24.6cm (9.8 modfedd) mewn diamedr. Cafwyd hyd i'r bowlen syml hon mewn darnau ac mae'n fwy nodweddiadol o nwyddau claddu'r cyfnod. Mae beddrodau'r Oes Cerrig yn gymharol gyffredin yng Nghymru. Mae'r henebion 6,000 oed hyn yn cynnwys un siambr neu fwy wedi eu hadeiladu o gerrig anferth (megalithau). Byddai'r rhain o dan orchudd o bridd neu gerrig yn wreiddiol, ond anaml iawn mae hyn yn goroesi. Gwnaed llawer o'r beddrodau hyn yn ôl dyluniad cyffredin, ac yn ne-ddwyrain Cymru mae hyn yn aml ar ffurf twmpath trapesoid, gyda'r pen lletaf yn pwyntio tua'r dwyrain ac yn agor i flaengwrt. Mae llwybrau byrion yn arwain at y siambrau mewnol o'r blaengwrt neu ochrau'r twmpath. Mae'r dyluniad hwn i'w weld ledled ardal y Cotswolds (Lloegr), ac ar lanau afon Hafren, a hyn sy'n gyfrifol am yr enw archaeolegol y beddrodau sef Cotswold-Severn. Mae gwaith cloddio ar y beddrodau hyn fel yr un yn Gwernvale (Powys) wedi dangos bod rhai ohonynt wedi cael eu hadeiladu dros ben setliadau cynharach, gan awgrymu y bu'n bwysig claddu'r meirw ar dir a fu ym meddiant y byw yn ystod y cyfnod hwn. Yn Pipton a'r Tŷ-Isaf (y ddau ym Mhowys), mae archaeolegwyr wedi darganfod bod rhai beddrodau wedi cael eu hadeiladu fesul tipyn, gan ymgorffori cofeb lai i un mwy o faint yn aml iawn. Mae rhai o'r cofebion lle digwyddodd hyn yn anferth — er enghraifft, mae Penywyrlod, Talgarth (Powys), yn mesur 60m x 25m x 3m (65 x 27 x 3.2 llathen) i fyny — ac mae'n debygol mai bwriad y tai mawr hyn i'r meirwon oedd hawlio tir, gan bwysleisio i bobl oedd yn pasio bod y tir wedi'i feddiannu. Ar ôl eu hadeiladu, byddai'r beddrodau Cotswold-Severn yn cael eu defnyddio am genedlaethau. Er enghraifft, cafodd cyrff eu claddu ym Mharc le Breos Cwm (Gŵyr) am dros bum can mlynedd. Mae'r safle yn rhoi cip i ni ar ddefodau claddu'r beddrodau hyn, ac mae'n debyg i rai cyrff gael eu cadw y tu allan i'r beddrod nes eu bod wedi pydru rhywfaint — arfer digon erchyll i ni heddiw, ond mae'n debyg iddi fod yn ran cyffredin o'r ddefod gladdu ar y pryd. Adeg eu gadael, roedd y beddrodau Cotswold-Severn yn aml yn dal gweddillion nifer fawr o bobl. Ym Mharc le Breos Cwm, ffeindiodd archaeolegwyr dros 40 o gyrff, ac yn Nhŷ-Isaf a Castell Carreg (Bro Morgannwg) ffeindiwyd dros 30 a 50 yn ôl eu trefn. Mae natur ddarniog y cyrff hyn yn awgrymu nad y gladdedigaeth unigol oedd yn bwysig i adeiladwyr y beddrodau, ond creu pentwr esgyrn teuluol. Prin iawn yw'r nwyddau claddu a geir yn y beddrodau hyn — ychydig o botiau drylliedig a llond dwrn o offer fflint ar y mwyaf. Mae'n debygol y byddai'r seremoni i anrhydeddu'r meirwon yn digwydd y tu allan i'r siambrau eu hunain. Mewn cyfuniad, y nwyddau claddu prin hyn, yr esgyrn a'r beddrodau eu hunain yw un o'r prif ffynonellau gwybodaeth am fywyd a marwolaeth yn ne-ddwyrain Cymru yn ystod y cyfnod anghysbell hwn. Darllen Cefndir The Tomb Builders: In Wales 4000-3000BC gan Steve Burrow. Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 2006. The megalithic chambered tombs of the Cotswold-Severn region by T. C. Darvill. Vorda Publications (1982).
Beddau cyntedd Oes y Cerrig yng Nghymru 14 Mai 2007 Oes y Cerrig O ran ei gyflwr, Bryn Celli Ddu (Ynys Môn) yw un o'r beddau cyntedd gorau yng Nghymru. Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron). 5,500 o flynyddoedd yn ôl lledaenodd diwylliant cyffredin ar hyd a lled arfordir gorllewin Ewrop gan gydgysylltu Llydaw, Cernyw, Cymru, de'r Alban ac Iwerddon. Heddiw, mae'r dystiolaeth am y diwylliant hwn wedi goroesi ar ffurf beddau cyntedd - tomenni claddu crwn ac ynddynt dramwyfeydd wedi'u leinio â cherrig sy'n arwain i siambrau canolog. Adeiladwyd y beddau hyn gan gymunedau amaethyddol cynnar i gadw gweddillion amlosgedig y meirw, ac fe'u defnyddid am genedlaethau. Mae'n rhaid eu bod yn dirnodau pwysig a gysylltai'r byw â'u cyndadau. Yng Nghymru, Ynys Môn yw'r lle gorau i weld beddau cyntedd ac mae Barclodiad y Gawres a Bryn Celli Ddu, dwy enghraifft bwysig, mewn cyflwr mor dda fel bod modd caniatáu mynediad i'r cyhoedd. Barclodiad y Gawres Cynllun Bryn Celli Ddu yn dangos y dramwyfa sy'n arwain i ganol y twmpath crwn. Pan adeiladwyd Barclodiad y Gawres crëwyd un brif siambr ac, o boptu iddi, dair siambr ystlys y câi'r meirw eu gosod ynddynt. Yng nghanol y brif siambr roedd aelwyd a byddai'r tân a gyneuid yma yn goleuo'r bedd yn ystod defodau. Er mawr syndod i'r archaeolegwyr a fu'n cloddio'r bedd, cafwyd hyd i 'gymysgedd anghynnes' o esgyrn ymlusgiaid, pysgod ac amffibiaid ar safle'r aelwyd hon. Er na chawn ni fyth wybod y rheswm am y fath gymysgedd, ceir cipolwg pwysig ar un agwedd ar ddiwylliant adeiladwyr Barclodiad y Gawres drwy astudio'r celfwaith anghyffredin sydd wedi'i naddu ar y meini sy'n leinio'r dramwyfa a'r siambr. Mae'r cynlluniau hyn yn cynnwys troellau a phatrymau igam-ogam dolennog anghyffredin. O ystyried y safle hwn yn unig, gellid diystyru'r patrymau a'u priodoli i ffansi'r adeladwyr, ond ceir cerfiadau o'r math yma mewn beddau cyntedd mor bell i ffwrdd ag Iwerddon a Llydaw. Mae rhai wedi awgrymu bod y cerfiadau, o bosibl, yn cynrychioli'r patrymau chwyrlïol a gysylltir â pherlewygon. Bryn Celli Ddu Maen cerfiedig y tu mewn i siambr Barclodiad y Gawres (Ynys Môn). Mae'r dull o gerfio a welir yn y bedd cyntedd hwn i'w ganfod mewn nifer o feddau yn Iwerddon. Cafwyd hyd i faen patrymog tebyg ym Mryn Celli Ddu (Ynys Môn). Fodd bynnag, yn yr achos hwn cafwyd hyd i'r maen yn gorwedd ar ei wyneb mewn twll o dan siambr y bedd, lle mae'n rhaid y cafodd ei gladdu cyn y dechreuwyd codi'r bedd. A gafodd ei gladdu er mwyn sancteiddio'r safle, neu a gladdwyd y maen er mwyn ei guddio? - dyma ddirgelwch arall sydd heb ei ddatrys. Nid beddau cyntedd Môn yw'r unig rai yng Nghymru. Ceir enghreifftiau eraill yng Ngwynedd a Sir Benfro, er nad yw'r rhain mewn cyflwr mor dda. Am y beddau cyntedd mwyaf a mwyaf cymhleth, y mae'n rhaid teithio i Iwerddon. Yma, dengys safleoedd megis Newgrange a Knowth pa mor uchelgeisiol y gallai cynlluniau adeiladwyr y beddau fod. Iwerddon Maen addurnedig y cafwyd hyd iddo o dan Fryn Celli Ddu (Ynys Môn). 1.5m (4.9 troedfedd) o uchder. Mae'r patrymau chwyrlïol ar y garreg hon yn nodweddiadol o gelfwaith beddau cyntedd. Yn Knowth, gerllaw'r bedd canolog, ceir mynwent ac ynddi o leiaf 18 o enghreifftiau llai, ac yn Newgrange aliniwyd y dramwyfa yn union ar linell codiad yr haul ganol gaeaf (Alban Arthur) gan y peirianwyr medrus a'i cododd. Yn y mannau hynny lle ceir beddau cyntedd, maent i gyd ychydig yn wahanol o ran eu cynllun. Eto i gyd, maent i gyd yn ddigon tebyg i'w gilydd i ddangos bod Môr Iwerddon yn dramwyfa brysur ar ddiwedd Oes y Cerrig, gyda chymunedau o Lydaw hyd yr Alban yn rhannu syniadau a dulliau o barchu'r meirw. Darllen Cefndir Newgrange, Co. Meath (Iwerddon), a chylch pydew yn y blaendir. Mae bedd cyntedd adluniedig Newgrange yn un o blith nifer o feddau enfawr yn Nyffryn Boyne.[Llun © Steve Burrow]. The Tomb Builders: In Wales 4000-3000BC gan Steve Burrow. Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 2006. Barclodiad y Gawres: the excavation of a megalithic chamber tomb in Anglesey, 1952-1953 gan T. G. E. Powell a G. E. Daniel. Gwasg Prifysgol Lerpwl (1956). Irish Passage Graves: Neolithic tomb builders in Ireland and Britain 2500 BC gan M. Herity. Gwasg Prifysgol Dulyn (1974). 'The chambered cairn of Bryn Celli Ddu' gan W. J. Hemp. Yn Archaeologia Cambrensis, cyf. 86, tt216-58 (1931).