: Eisteddfod

Yn y Ddaear: O dan Eisteddfod 2012, mae tir sanctaidd

3 Awst 2012

sketch from Cyril Fox archive notebooks

Yn yr union fan hwn, 4,000 o flynyddoedd yn ôl, claddodd trigolion Bro Morgannwg rai aelodau o'u cymuned. Adeiladwyd casgliad o domenni claddu cymhleth a thrawiadol i nodi man gorffwys neu fan preswyl eu (ac ein?) cyndeidiau.

Yn ystod gaeaf garw 1939-40, datgloddiwyd yr henebion archaeolegol hyn gan Syr Cyril Fox, Cyfarwyddwr yr Amgueddfa Genedlaethol.

O'i gwmpas, roedd y teirw dur eisoes yn paratoi'r tir cyn adeiladu maes awyr yr Ail Ryfel Byd yma yn Llandaw. Syr Cyril Fox, y Foneddiges Fox a "hanner dwsin o ddynion caib a rhaw" yn archwilio olion y gorffennol.

Roedd y gaeaf hwnnw ym 1939-40 gyda'r oeraf ar gofnod. Roedd y dyfodol yn edrych yn llwm iawn.

Oedd pobl yr Oes Efydd yn dathlu cylch bywyd, neu'n galaru?

A yw'r cylchoedd defodol hyn yn cynrychioli cylchoedd bywyd a marwolaeth?

 

Cylch yr Orsedd

25 Gorffennaf 2010

Seremoni yng Nghylch yr Orsedd yn y Castell, Aberystwyth, tua 1916.

Tyrfa enfawr yn gwylio seremoni yng Nghylch yr Orsedd yn y Castell, Aberystwyth, naill ai adeg y Cyhoeddi yn 1914 neu yn ystod wythnos yr Eisteddfod ei hun yn 1916.

Y Maen Chwŷf a Chylch yr Orsedd, Pontypridd

Y Maen Chwŷf a Chylch yr Orsedd, Pontypridd

Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Casnewydd a'r Cylch, 1987

Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a'r Cylch, 1987 gyda Elerydd (W.J.Gruffydd) yn Archdderwydd a Gwyn Tre-garth yn arwain y canu ar y Maen Llog.

Aelodau newydd o'r Orsedd a urddwyd yn Abertawe, 1962

Ymgeisiwyr ifanc llwyddiannus (13-14 oed) yn arholiadau'r Orsedd a urddwyd yn aelodau yn Abertawe, 1962.

Gŵyl y Cyhoeddi

Mae'n rhaid cyhoeddi bod Eisteddfod Genedlaethol a Gorsedd y Beirdd yn ymweld â bro arbennig o leia flwyddyn a diwrnod ymlaen llaw. Yn ystod y seremoni bydd y Cofiadur yn darllen Sgrôl y Cyhoeddi a chyflwynir y copi cyntaf o Restr Testunau Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn ganlynol i'r Archdderwydd.

Pan gynhaliodd yr Arglwydd Rhys ymryson rhwng beirdd a cherddorion yng nghastell Aberteifi yn 1176 nodwyd i'r cyfarfod gael ei gyhoeddi ledled Cymru, yr Alban, Iwerddon, Lloegr a'r ynysoedd eraill, flwyddyn ymlaen llaw. Pan ail-sefydlwyd eisteddfodau ddiwedd y ddeunawfed ganrif penderfynwyd mabwysiadu'r drefn o gyhoeddi ymlaen llaw ac yn 1791 dewisodd Iolo Morganwg yntau gyhoeddi y byddai seremoni gyntaf Gorsedd y Beirdd yn cael ei chynnal ymhen blwyddyn a diwrnod ar Fehefin 21, 1792 ar Fryn y Briallu yn Llundain. Mae'r patrwm hwn wedi parhau hyd heddiw.

O gerrig mân i gerrig ffug

O fewn cylch Meini'r Orsedd y cynhelir yr Ŵyl Gyhoeddi a'r seremonïau gorseddol yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Mae'n debygol fod beddfeini trawiadol Avebury yn Wiltshire a Dyffryn Golych yn ei gynefin wedi dylanwadu ar weledigaeth Iolo Morganwg o gylch meini derwyddol Celtaidd ac felly roedd cylch o feini â Maen Gorsedd yn ei ganol yn yr Orsedd gyntaf yn 1792. Fodd bynnag, wrth iddo geisio cyplysu'r Eisteddfod â'r Orsedd yng Nghaerfyrddin yn 1819 y cyfan oedd gan Iolo wrth law oedd dyrnaid o gerrig mân. Dim ond Beirdd oedd yn cael mentro i mewn i gylch cyfrin y meini.

Ym Morgannwg gwelwyd fod gorsedd naturiol o gwmpas y Maen Chwŷf, darn anferth o graig llechfaen, ger Eglwysilan, a chynhaliwyd sawl gorsedd yn enw Cadair Morgannwg arni yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ddiwedd y ganrif, er mwyn cael trefn ar bethau, aeth yr Arwyddfardd - Arlunydd Pen-y-garn, ati i lunio cynllun manwl o Gylch yr Orsedd a dilynwyd hwn yn Eisteddfod Caerdydd, 1899. Yn ôl y cynllun hwn roedd y maen tua'r dwyrain, y Maen Cyfamod a'r ddau Faen Porth i ffurfio siap y Nod Cyfrin. Am gyfnod bu'n ffasiynol i wisgo'r meini â deiliach derw ac uchelwydd.

I hwyluso cynnal seremonïau'r Orsedd ar y maes ei hun yn ystod wythnos yr Eisteddfod, penderfynwyd, yn 2004, defnyddio meini plastig ond realistig yr olwg.

Y Cylch yn ystod wythnos y Steddfod

Defodau bore Llun

Cyflwynir y Corn Hirlas i'r Archdderwydd a chroesewir y Celtiaid a chynrychiolwyr tramor eraill gan yr Orsedd. Bydd y Cofiadur yn coffáu'r Gorseddogion sy wedi marw yn ystod y flwyddyn a chenir emyn coffa. Yna daw defod urddo aelodau newydd trwy arholiad neu radd - i Urdd Ofydd neu Urdd Bardd, Cerddor neu Lenor.

Defodau bore Gwener

Cyflwynir y Flodeuged i'r Archdderwydd a pherfformir y Ddawns Flodau. Yna derbynnir aelodau newydd trwy anrhydedd i Urdd Derwydd yng Ngorsedd.

Urddo aelodau newydd

Mae tair Urdd yng Ngorsedd y Beirdd:

  • Urdd Ofydd: y wisg werdd. Bydd ymgeiswyr sy'n pasio Lefel 1 a 2 yn arholiadau'r Orsedd, mewn barddoniaeth, rhyddiaith, cerddoriaeth neu brofion i delynorion a datgeiniaid yn cael eu derbyn i'r urdd hon. Gellir urddo aelodau er anrhydedd am gyfraniad o safon cenedlaethol i'r wisg werdd hefyd. Urddwyd sawl aelod o'r teulu brenhinol, yn eu plith y Frenhines, Dug Caeredin, a'r Brenin Siôr i'r urdd hon.
  • Urdd Bardd, Cerddor neu Lenor: y wisg las. Ar ôl pasio arholiad terfynol yr Orsedd y ceir mynediad i'r Urdd hon. Gall y sawl sy wedi graddio mewn Cymraeg neu gerddoriaeth (ac sy'n gallu siarad Cymraeg) wisgo'r wisg las yn ogystal.  
    Ar fore dydd Llun yr urddir y rhain i'r Orsedd. Bydd yr Arwyddfardd a Cheidwad y Cledd yn mynd at borth y Cylch ac yn dal y Cleddyf ar ei draws a chael gan bob aelod newydd i osod ei law dde ar lafn y Cledd. Ar ôl eu hurddo arweinir hwy gan y Disteiniaid at Feistres y Gwisgoedd i'w harwisgo â phenwisg eu hurdd.
  • Urdd Derwydd - y wisg wen. Mae enillwyr y prif gystadlaethau - y Gadair, y Goron a'r Fedal Ryddiaith yn cael eu hurddo yn awtomatig i'r Wisg Wen. Bydd eraill yn cael eu 'dyrchafu' yn Dderwyddon o'r wisg werdd neu'r wisg las. Bob blwyddyn hefyd bydd cymwynaswyr arbennig y genedl yn cael eu hanrhydeddu - yn eu plith cantorion ac actorion byd-enwog fel Bryn Terfel, Sian Phillips ac Ioan Gruffudd; enwogion fel Archesgob Caergaint, y Gwir Barchedig Rowan Williams a chwaraewyr rygbi a phel-droed enwog.

Roedd urddau gwahanol yng Ngorsedd gyntaf Iolo Morganwg yn 1792 ond pwysleisiai Iolo bod yr urddau yn gyfartal o ran statws. Erbyn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd consýrn gwirioneddol am deilyngdod yr urddau a dechreuodd yr ysgolhaig, John Morris-Jones, feirniadu'r graddau oherwydd, meddai, 'derbynnir ymgeiswyr yn aelodau drwy arholiad sydd bum gwaith yn haws nag arholiad isaf Prifysgol Cymru, ...'. Ar ôl hyn aethpwyd ati o ddifrif i arholi ymgeiswyr yn ofalus i godi safonau.

Gwnaed yn Tseina: cadair Eisteddfod 1933

25 Gorffennaf 2010

Gwnaed yn Tseina: Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, 1933

Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, 1933; rhodd J.R.Jones, Shanghai. Yn y llun gwelir y crefftwyr a luniodd y gadair.

Fe gymerodd dros flwyddyn i'r crefftwyr yn y llun i gerfio'r gadair eisteddfodol hon. Fe'i gwnaed yn amddifaty Catholig T’ou-se-we, ar gyrion Shanghai. Roedd gan yr amddifaty hwn, a sefydlwyd gan genhadon Catholig ym 1852, nifer o weithdai lle dysgid crefftau megis cerfio pren, paentio, argraffu, gwaith tun a gwaith gwydr lliw a ffotograffiaeth.

Cyflwynwyd y gadair yn wobr ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ym 1933 gan Gymro llwyddiannus oedd yn byw yn Shanghai. Roedd Dr John Robert Jones(g. Llanuwchllyn 1887,m. Hong Kong 1976) yn fargyfreithiwr ac yn eisteddfodwr brwd a oedd hefyd yn ymddiddori'n fawr yn niwylliant a chelfyddyd Tseina. Aeth i Shanghai ym 1924, a dyfod yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Cyngor Rhyngwladol ym 1928. Roedd yn un o hoelion wyth cangen Shanghai o'r Royal Asiatic Society a Chymdeithas Dewi Sant. Ei syniad ef oedd comisiynu crefftwyr T’ou-se-we i wneud y gadair.

Enillydd y gadair ym 1933 oedd Trefin (Edgar Phillips) am ei awdl 'Harlech'. Enillwyd cadair debyg iawn, hefyd wedi'i gwneud yn T'ou-se-we, gan y bardd Gwenallt Eisteddfod Abertawe, 1926.

A oes heddwch? Ailgydio wedi rhyfel Napoleon

25 Gorffennaf 2010

O chwyldro i bersoniaid llengar

A oes heddwch? Nag oedd, yn ystod y rhyfeloedd yn erbyn Napoleon [1803-1815] pan darfwyd ar batrwm Eisteddfodau’r Gwyneddigion. Bu’r awdurdodau yn amau rhai o Gymry Llundain oherwydd eu radicaliaeth. Roedd gan nifer o Gymry amlwg eu dydd oedd â chysylltiadau â’r Gwyneddigion – fel y Dr Richard Price a John Jones (Jac Glan Gors) – syniadau cryf iawn o blaid y Chwyldro yn Ffrainc. Yn wir, roedd yr awdurdodau yn Llundain wedi cynnal cyrch ar y Caradogion, chwaer gymdeithas i’r Gwyneddigion. Pan gafodd Gorsedd Beirdd Ynys Prydein ei chreu ym 1792 gan Iolo Morganwg (Edward Williams, 1747-1826) roedd cryn amheuaeth felly ynglŷn â’i chysylltiadau bradwrus.

Pan ddaeth y rhyfel i ben ailgydiwyd yn y diddordebau Eisteddfodol, yn arbennig felly gan gwlwm o glerigwyr dan arweiniad Ifor Ceri (Y Parchedig John Jenkins, 1770-1829). Roedd yn un o’r ‘hen bersoniaid llengar,’ fel y gelwid y clerigwyr Anglicanaidd hynny oedd yn ymhyfrydu yn iaith a diwylliant Cymru. Dyma pryd y dechreuwyd meddwl o ddifrif am ailgydio yn y mudiad Eisteddfodol a chreu Eisteddfodau go iawn. Cynhaliwyd yr Eisteddfod daleithiol gyntaf ym 1819 yng Nghaerfyrddin.

Medal ar gyfer Eisteddfod y Bala, 1789

Medal Cymdeithas y Gwyneddigion ar gyfer Eisteddfod y Bala, 1789. Dylunydd y fedal oedd Augustus Duprê, Ysgythrwr Cyffredinol Arian Ffrainc i'r Cynulliad Cenedlaethol ym Mharis. Ym mlwyddyn y Chwyldro Ffrengig, roedd hwn yn gomisiwn nodedig.

Cleddyf Iolo Morganwg a ddefnyddiwyd yn seremoni 1819

Cleddyf Iolo Morganwg a ddefnyddiwyd yn seremoni 1819.

Iolo a’i rubannau a’i gleddyf

Roedd yr Eisteddfod yng Nghaerfyrddin ym 1819 yn hynod am mai hi oedd y gyntaf o ddeg o Eisteddfodau taleithiol a weddnewidiodd holl hanes y mudiad. Un o’r rhesymau pennaf dros hyn oedd yr Orsedd. Er iddi gael ei chynnal am y tro cyntaf ar 21 Mehefin 1792 ar Primrose Hill yn Llundain doedd dim cysylltiad rhyngddi a’r Eisteddfod nes i Iolo Morganwg weld ei gyfle yng Nghaerfyrddin ym 1819.

Yn saithdeg oed, teithiodd bob cam o Ferthyr lle'r oedd yn aros ar y pryd. Wedi cyrraedd Caerfyrddin lluniodd gylch Gorsedd ar lawnt Gwesty’r Ivy Bush gyda mân gerrig o’i boced a dechrau urddo beirdd a derwyddon, gan roi rhubanau gwyn, glas a gwyrdd iddynt yn ôl eu gradd. Yn ystod seremoni’r cadeirio cyflwynwyd defod newydd wrth i’r beirdd sefyll o boptu’r gadair yn gweinio ac yn dadweinio cleddyf uwch ben y bardd buddugol. Mae’r cleddyf a ddefnyddiwyd gan Iolo yn ystod seremonïau’r flwyddyn honno i’w weld yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru o hyd.

Awdl i arwr Waterloo

Roedd Gwallter Mechain (un arall o’r ‘hen bersoniaid llengar’) yn dal i fod wrthi yn cystadlu ac yn ennill. Yn Eisteddfod Caerfyrddin enillodd y gadair am ei awdl farwnad i arwr mawr Caerfyrddin a maes Waterloo, Syr Tomos Picton. Gwobrwywyd y bardd â medal arian gydag ysgythriad o’r union gadair arni, a wnaed gan Hugh Hughes. Roedd yr arlunydd hwn newydd ddychwelyd i Gymru o Lundain, ac yr oedd ganddo gysylltiadau gyda nifer o fewn y mudiad eisteddfodol. Mae medalau fel y rhain yn siarad cyfrolau am y math o urddas roedd y Cymry yn ei chwennych i’w diwylliant o fewn y cyd-destun eisteddfodol.

Medal ar gyfer yr awdl orau, Caerfyrddin, 1819 (tu blaen)

Y 'Cadair Arian' a enillwyd gan Wallter Mechain yn eisteddfod Caerfyrddin, 1819 (tu blaen)

Cyngerdd er budd '<em>decayed harpists</em>', Caerfyrddin 1819

Cyngerdd er budd 'decayed harpists', Caerfyrddin 1819

Stumog a steil

Gydag amser fe ddaeth yr eisteddfodau taleithiol yn gyfarfodydd rhyfeddol o ffasiynol, lle gwelwyd dau ddiwylliant, y Gymraeg a’r Seisnig, yn dod benben â’i gilydd. Cafodd yr hen feirdd, a oedd yn ystyried eu hunain yn geidwaid yr hen draddodiad eisteddfodol, eu gyrru i'r cysgodion. Yn wir, galwodd Ifor Ceri’r eisteddfodau hyn yn 'Anglo-Italian farce', oherwydd yr artistes o Lundain a wahoddwyd i berfformio yno yn Saesneg.

Gwelwyd her y diwylliant Seisnig, sef diwylliant y cyngerdd, i’r diwylliant Cymraeg traddodiadol ar waith yng Nghaerfyrddin ym 1819, pan ddaeth y Parchedig John Bowen â chôr, rhan o’r Bath Harmonic Society, i’r Eisteddfod. Fe wnaeth y côr gynnal dau gyngerdd, y naill er budd gweddwon a phlant i offeiriaid a’r llall er budd “decayed harpists,” neu hen delynorion oedd wedi mynd yn rhy fusgrell i'w cynnal eu hunain. Tyrrodd parchusion tref Caerfyrddin a’r cylch i’r cyngherddau ffasiynol hyn. O’r foment honno dyma ddechrau’r frwydr yn yr Eisteddfod rhwng y ddau ddiwylliant.

Pethau peryglus yw geiriau: Eisteddfodau'r Gwyneddigion

25 Gorffennaf 2010

Medal y Gwyneddigion a enillwyd gan Gwallter Mechain, Corwen, 1789 (blaen)

Gwnaethpwyd y fedal hon yng Nghaer ar draul Cymdeithas y Gwyneddigion ar gyfer Eisteddfod Corwen ym 1789, a chyfeirir ati yn yr ohebiaeth gyfoes fel Cadair Arian. Fe'i cynigiwyd am gyfansoddi penillion ar y pryd, a dyfarnwyd Gwallter Mechain yn fuddugol dros Twm o'r Nant a Jonathan Hughes. Cythruddwyd Dr David Samwell gymaint gan y penderfyniad hwn nes iddo fynnu ymladd un o elynion Twm. Ond ni fu tywallt gwaed wedi'r cwbl, a rhoddodd Samwell ysgrifbin arian i'w ffefryn i gofnodi'r achlysur.

Edward Williams, Iolo Morganwg; portread gan George Cruickshank.

Edward Williams, Iolo Morganwg, Bardd Braint a Defod, portread gan George Cruickshank.

Bronfollt arian a enillwyd yn eisteddfod Corwen, 1789

Bronfollt arian a enillwyd gan Gwallter Mechain yn eisteddfod Corwen ym 1789, digwyddiad a ddechreuodd ddadeni eisteddfodau yng Nghymru.

Ysgrifbin arian a roddwyd i Twm o'r Nant gan Dr David Samwell

Ysgrifbin arian a roddwyd i Twm o'r Nant gan Dr David Samwell (Dafydd Ddu Feddyg) fel gwobr gysur wedi iddo gael ei drechu trwy dwyll, yn ôl y sôn, gan Gwallter Mechain yn eisteddfod Corwen, 1789.

Pwy oedd y Gwyneddigion?

Sefydlwyd Cymdeithas y Gwyneddigion yn Llundain ym 1770. Er bod iddi gysylltiad agos ag Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, roedd y gymdeithas ei hun yn ymateb i’r hyn a welwyd fel agweddau uchel-ael a diog aelodau’r Cymmrodorion. Cymdeithas fywiog oedd y Gwyneddigion, yn prisio dadlau deallusol ar bynciau diwylliannol trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd llenyddiaeth Gymraeg o’r pwys mwyaf i’w haelodau a noddodd a hybodd y gymdeithas nifer o gyfrolau pwysicaf y Gymraeg, fel Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (1789) a The Myvyrian Archaiology of Wales (1801-7).

Cymeriadau mawr oedd llawer o garedigion eisteddfodau’r Gwyneddigion, ac ymhlith y mwyaf oll oedd Dafydd Samwell a Twm o’r Nant.

Adar brith

Byddai bardd o Gymro heddiw ar ben ei ddigon pe bai cyfrol o’i gerddi yn gwerthu pum cant o gopïau. Ymhyfrydai Twm o’r Nant (Thomas Edwards, 1738-1810) bod ei gyfrol Gardd o gerddi (1790) wedi gwerthu cymaint â 2000 o gopïau. Aderyn digon brith oedd Twm. Yn fab i dyddynwr, bach iawn o addysg a gafodd – ychydig wythnosau yn Ysgol Rad Nantglyn a phythefnos yn dysgu Saesneg yn Ninbych. Ond roedd ganddo feddwl chwim ac awen chwimach fyth. Er mwyn osgoi ei gredydwyr bu’n symud o fan i fan, gan geisio ennill ei damaid trwy ysgrifennu anterliwtiau. Roedd y creadigaethau poblogaidd hyn yn cynnig sylwebaeth fyw a deifiol ar ddrygau cymdeithasol ei oes, fel y tirfeddiannwr barus, y clerigwr rhagrithiol a’r twrnai diegwyddor.

Roedd gyrfa Dafydd Samwell (Dafydd Ddu Feddyg, 1751-1798) yn fwy byrlymus a chrwydrol na bywyd ei gyfaill hyd yn oed. Bu’n llawfeddyg ar fordaith olaf Capten Cook ac mae ei ddyddiadur yn gofnod gwych o’r daith, gan gynnwys disgrifiad fforensig o fanwl, bron, o lofruddiaeth Cook yn Hawaii. Roedd ganddo ddiddordeb byw yn yr iaith Faori hefyd – ef oedd y cyntaf i lunio cofnod ysgrifenedig o’r iaith, gan drawsgrifio chwe siant Maori yn Swnt y Frenhines Charlotte, ymhlith enghreifftiau eraill.

Rhwng ei fordeithiau roedd yn ffigwr canolog ym mywyd diwylliannol a chymdeithasol Cymry Llundain (Samwell oedd yn darparu’r cyffur laudanum i Iolo Morgannwg, er enghraifft). Roedd iddo enw am fod yn hynod o gymdeithasol, yn hoff o’i ddiod ac yn dymhestlog ei natur. Roedd hefyd yn ymfflamychol o barod i gynnig ymladd gydag unrhyw feirniad a oedd wedi amharchu ei gyfeillion llenyddol. Digon hawdd deall felly iddo ddigio’n yfflon pan gafodd Twm o’r Nant gam yn Eisteddfod gyntaf y Gwyneddigion ym 1789.

Dechreuadau’r Eisteddfod fodern

Dywedir bod gwreiddiau’r traddodiad Eisteddfodol yn deillio o gyfarfod a gynhaliwyd yng Nghastell Aberteifi ym 1176, dan nawdd yr Arglwydd Rhys. Cyhoeddwyd yr ymryson ‘drwy Gymru a Lloegr a’r Alban ac Iwerddon a’r Ynysoedd eraill i gyd’, gyda chadair y prifardd yn mynd i ogledd Cymru a chadair y prif delynor i’r de.

Ond gellid dadlau mai yn y flwyddyn 1789 y gwelwyd dechreuadau’r Eisteddfod fodern, pan gysylltodd Thomas Jones, seismon o Gorwen, â’r Gwyneddigion gan ofyn iddynt noddi'r Eisteddfod yng Nghymru. Er na chytunodd y Gwyneddigion i noddi Eisteddfod Corwen, dyma’r cam cyntaf at sefydliad a fyddai’n adfer ychydig o urddas a safon – ac efallai gymeriad cenedlaethol – i ddiwylliant yr Eisteddfod. Er bod gwesty Owain Glyndŵr lle’i cynhelid yn ddigon annhebyg i’r pafiliwn pinc presennol, teg dweud bod Eisteddfod Corwen ym mis Mai 1789 yn rhyw fath o lasbrint i’r Eisteddfod fodern.

Doedd dim testun penodol ar gyfer y gadair yn Eisteddfod Corwen. Cystadlodd y beirdd yn ôl yr hen drefn, yn fyrfyfyr. Roedd Jonathan Hughes a Twm o’r Nant yn cystadlu, yn ogystal â Gwallter Mechain. Cafodd ef fantais bendant, oherwydd roedd Thomas Jones wedi rhoi gwybod iddo ymlaen llaw beth fyddai’r testunau byrfyfyr. Felly Gwallter Mechain a enillodd y wobr, sef bronfollt arian hardd. Afraid dweud nad oedd y beirdd eraill yn fodlon ar y sefyllfa o gwbl.

Twm yn cael cam!

Y tro cyntaf i’r Gwyneddigion noddi Eisteddfod yn swyddogol oedd yn Y Bala ym mis Medi 1789. Wrth gytuno i noddi, fe fynnodd y gymdeithas mai y nhw oedd piau’r hawl i ddewis y beirniaid a’r prif destunau. Testun y gadair oedd awdl ar Ystyriaeth ar Oes Dyn. Unwaith eto cafodd Gwallter Mechain fantais: rhoddodd Owain Myfyr wybod iddo ba fath o gerdd roedd y Gwyneddigion yn gobeithio ei gweld. Pan gyhoeddwyd ffugenw Gwallter Mechain yn Y Bala – ac yn eironig ddigon, ‘Anonymous’ oedd ei nom-de-plume – cerddodd y beirdd eraill allan mewn protest a Twm o’r Nant, a oedd wedi cystadlu hefyd, yn eu plith.

Bu bron i bethau fynd yn ffradach pan wnaeth Dafydd Samwell fygwth ymladd gornest gydag un o’r beirniaid am beidio â rhoi’r fedal i’w ffefryn, Twm. Yn y diwedd perswadiwyd ef i beidio, a bodlonodd Samwell ar roi ysgrifbin arian i Twm yn wobr gysur. Ef hefyd a fathodd yr ymadrodd ‘the Cambrian Shakespeare’ i ddisgrifio Twm – disgrifiad hael ond cwbl amhriodol i’w ddoniau arbennig ef.