Gorchestion barddol 25 Gorffennaf 2010 Coroni Dilys Cadwaladr am ei phryddest 'Y Llen', yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl, 1953. Hi oedd y fenyw gyntaf i ennill y Goron. Enillwyd y dwbl-dwbl sef y Gadair a'r Goron yn yr un flwyddyn ddwywaith gan T.H.Parry-Williams — 1912 ac 1915 Alan Llwyd — 1973 ac 1976 Donald Evans — 1977 ac 1980 Cyn sefydlu'r rheol na ellir ennill y Gadair, y Goron na'r Fedal Ryddiaith fwy na dwywaith cafwyd sawl buddugwr gorchestol:p> Crwys — y Goron deirgwaith (1910, 1911 ac 1919); Cynan — y Goron deirgwaith (1921, 1923, 1931) a'r Gadair unwaith (1924); Caradog Prichard — y Goron deirgwaith (1927, 1928, 1929) - pob un yn amrywiaeth ar thema gwewyr gwallgofrwydd ei fam; a'r Gadair unwaith (1962); Dewi Emrys — y Goron unwaith (1926) a'r Gadair bedair gwaith (1929, 1930, 1943, 1948). Dywedir iddo geisio gwerthu'i Goron i siop pôn. Dilys Cadwaladr, yn Eisteddfod y Rhyl 1953, oedd y fenyw gyntaf i ennill y Goron. Ers hynny enillodd Eluned Phillips hi ddwywaith (1967, 1983) ac Einir Jones hi unwaith (1991). Yn Eisteddfod Aberteifi 1976 dyfarnodd y beirniaid awdl gan Dic Jones ar y testun 'Gwanwyn' yn fuddugol ond oherwydd tor-rheol bwriwyd hi o'r gystadleuaeth a chadeiriwyd Alan Llwyd yn ei le. Robat Powell o Lyn Ebwy oedd y dysgwr cyntaf i ennill Cadair yr Eisteddfod, yn y Rhyl yn 1985 am ei awdl 'Cynefin'. Caradog Pritchard, yn 22 oed, oedd y bardd ieuengaf i ennill un o brif wobrau'r Eisteddfod pan enillodd y Goron ym 1927. Pan oedd y Prifardd John Gwilym Jones yn Archdderwydd (1993-96) cafodd y fraint o goroni'i frawd Aled Gwyn a chadeirio'i fab, Tudur Dylan, yn Eisteddfod Bro Colwyn, 1995. At hyn roedd brawd arall, T.James Jones, wedi ennill y Goron ddwywaith - yn Abergwaun 1986 a Chasnewydd 1988. Roedd T. James Jones wedi cystadlu am y Goron gyda bardd o Americanwr, John Dressel yn 1979, dan y ffugenw 'Ianws', ond pan sylweddolwyd mai cywaith oedd y bryddest fuddugol ni ddyfarnwyd y Goron iddynt.. Mererid Hopwood oedd y fenyw gyntaf i ennill y gadair yn Eisteddfod Dinbych, 2001 ac enillodd y Goron ddwy flynedd yn ddiweddarach yn Eisteddfod Maldwyn, 2003.
Pwy yw pwy yn yr Orsedd? 25 Gorffennaf 2010 Portread mewn olew o'r Archdderwydd Hwfa Môn gan Christopher Williams. Eifionydd (John Thomas) - Cofiadur yr Orsedd, 1881-1922. T.H.Thomas, Arlunydd Pen-y-garn, yr Arwyddfardd (1895-1915) yn arwain gorymdaith Gyhoeddi Llangollen 1907. 'Mam o Nedd', Winifred Coombe Tennant, Meistres y Gwisgoedd tua 1923-34. Cario'r Cleddyf Mawr yn ystod Seremoni'r Cadeirio, 2009. Menywod yn smwddio gwisgoedd yr gorseddogion, Dolgellau, 1949. Yr ArchdderwyddYr Archdderwydd yn ei regalia ysblennydd yw canolbwynt holl ddefodau'r Orsedd ac ef/hi sy'n llywyddu'i seremonïau. Mae ef/hi yn oruchaf yn yr holl Orseddau eraill ac ef/hi sy'n cadeirio Bwrdd yr Orsedd.Nid oedd Iolo Morganwg, tad Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, yn arddel y teitl hwn ei hun. Wrth gynnal ei Orsedd gyntaf yn 1792 galwai'i hun yn 'Brif Fardd' a'r 'Bardd Gweinyddol' ydoedd yng Ngorsedd Caerfyrddin, 1819.Cyn hir, er hynny, dechreuodd ambell lywydd yng ngorseddau'r eisteddfodau taleithiol ddefnyddio'r term 'archdderwydd' ond Clwydfardd a gyfrifir yr Archdderwydd swyddogol cyntaf. Mynnai ef:'Penodwyd fi yn Archdderwydd ... yn y flwyddyn 1860; ond yn Eist. Wrexham yn y fl. 1876 y cefais fy nhrwyddedu yn Archdderwydd Gorsedd ... Beirdd Ynys Prydain.'Bu'n dal y swydd am weddill ei oes.Mae'r llu delweddau gweledol o'i olynydd, Hwfa Môn, (Rowland Williams) (1895-1915) yn tystio iddo dyfu'n eicon cenedlaethol. Ers 1936 tair blynedd yw hyd tymor swydd archdderwydd ond dros gyfnod yr Ail Ryfel Byd bu Crwys (W.Crwys Williams) yn Archdderwydd am wyth mlynedd. Dim ond un Archdderwydd, sef Cynan (1950-54; 1963-66) sy wedi gwasanaethu am fwy nag un tymor. Fel y dwedodd Tilsli amdano, 'i lawer o bobl ef yn wir oedd Gorsedd y Beirdd' ac ef a wnaeth ddefodau'r Orsedd 'yn gredadwy a lliwgar'. Trwy ddylanwad Cynan yn Abergwaun, 1936, y cafwyd trefn ar seremoni urddo'r Archdderwydd pryd y caiff ei h/arwisgo â choron, dwyfronneg, teyrnwialen a modrwy ei swydd.Yn 1932 sefydlwyd rheol fod yn rhaid i Archdderwydd fod yn brifardd cadeiriog neu goronog. Erbyn dechrau'r unfed ganrif ar hugain cytunwyd i gynnwys Prif Lenorion ymysg yr ymgeiswyr posibl a'r cyntaf i'w ethol o dan y drefn hon oedd Robyn Llŷn (Robyn Léwis) (2002-2005). Tua'r un cyfnod newidiwyd y drefn bleidleisio i gynnwys holl aelodau'r Orsedd ac nid Bwrdd yr Orsedd yn unig. (2002-05).Y CofiadurCofiadur Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yw Ysgrifennydd Bwrdd yr Orsedd ac ef/hi sy'n ei harolygu. Mae'n un o'r prif swyddogion ar y Maen Llog ac ef/hi sy'n gyfrifol am drefniadau'r seremonïau ar lwyfan y Brifwyl. Fe/hi sy'n Cyhoeddi Eisteddfod a Gorsedd flwyddyn a diwrnod ymlaen llaw. Ymddengys fod llyfrgell Gwynfe, (Cofiadur 1922-27), gan gynnwys Llyfr Cofnodion yr Orsedd rhwng 1888 a 1921, wedi'i gwerthu i'r Unol Daleithiau ac y mae'r ddogfen hanesyddol bwysig hon bellach yn Llyfrgell Prifysgol Havard a chopi ohoni gan y Llyfrgell Genedlaethol. Heb amheuaeth Cynan (1935-50; 1954-63; 1966-70) oedd Cofiadur mwya dylanwadol yr Orsedd yn yr ugeinfed ganrif. Tystiodd Ernest Roberts iddo droi'r Orsedd 'o fod yn rhyw bantomeim o weinidogion ac eraill i fod yn basiant urddasol'; ac 'o fod yn destun gwawd a chwerthin i fod yn sefydliad a ddenodd ysgolheigion Cymraeg a gwŷr proffesiynol o lawer cylch i dderbyn eu hanrhydeddu ac i gefnogi ei dibenion.' Ers ei ddyddiau ef mae'r Cofiaduron gwahanol wedi cynnal y safonau uchel hyn.Yr ArwyddfarddYr Arwyddfardd sy'n gofalu am ddodrefn a regalia'r Orsedd. Mae'n gyfrifol am orymdeithiau'r Orsedd a chynorthwyo'r Cofiadur gyda chyfarwyddo'r seremonïau. Caiff yntau'i gynorthwyo gan swyddogion eraill yr Orsedd: y Trefnydd Arholiadau, Meistres y Gwisgoedd a'i benodiadau ei hun - y Disteiniaid. Swydd a ddatblygodd yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg ydoedd. Yn sicr T.H. Thomas, Arlunydd Pen-y-garn, a'r Arwyddfardd rhwng 1895-1915 a ddylanwadodd fwyaf ar seremonïau'r Orsedd. Trwy ei chwaeth artistig neilltuol diwygiodd a thrawsnewidiodd ei gwisgoedd a'i regalia a Chylch yr Orsedd.Arweiniai Sieffre o Gyfarthfa (y Capten Geoffrey Crawshay), Arwyddfardd 1925-1947, orymdeithiau'r Orsedd yn ddramatig iawn ar gefn ceffyl a gwisgai wisg marchogaeth ysblennydd. Cyhoeddodd nifer o bamffledi, â'r teitlau 'Aelodaeth', 'Seremoni'r Urddo' a.y.y.b. yn ystod ei dymor. Ar ei ymddeoliad yn 1947 cyflwynodd wialen bwrpasol at ddefnydd yr Arwyddfardd.Cyhoeddodd Dilwyn Cemais, Arwyddfardd 1966-1996 lyfr gwerthfawr yn Saesneg ar hanes Gorsedd y Beirdd, The Secret of the Bards of the Isle of Britain (Gwasg Dinefwr Press, 1992) a llyfr o'i atgofion, Atgofion Hen Arwyddfardd (Gwasg Gee, 1997).Meistres y GwisgoeddYn ei gwisg werdd-las lachar saif Meistres y Gwisgoedd ar wahân i aelodau a swyddogion eraill Gorsedd y Beirdd. Ei chyfrifoldeb hi yw gofalu am ansawdd yr urddwisgoedd ar gyfer pob seremoni orseddol gydol y flwyddyn ynghyd ag arwisgo'r beirdd a'r llenorion buddugol cyn eu cyrchu o gorff y Pafiliwn i lwyfan y Brifwyl ar gyfer eu seremonïau priodol.Daeth galw am swyddog o'r fath wedi i'r Orsedd fabwysiadu urddwisgoedd safonol tua 1900 a Mair Taliesin (Gwenddydd Morgan) oedd y gyntaf i gyflawni'r swyddogaeth.Fe'i holynwyd hi tua1923 gan Mam o Nedd - Winifred Coombe-Tennant (1874-1956), gwraig o Swydd Gaergrawnt a briododd â Charles Tennant, Cadoxton Lodge, Llangatwg. Buasai hi'n Gadeirydd Pwyllgor Celf a Chrefft Eisteddfod Castell-nedd 1918 a bu'n hallt ei beirniadaeth o ddiffyg urddas a blerwch Gorsedd y Beirdd yn ystod yr Ŵyl Gyhoeddi yn 1917. Gadawodd Mam o Nedd £5000 yn ei hewyllys tuag at drwsio ac adnewyddu'r gwisgoedd a'r regalia.Dengys adroddiadau blynyddol Siân Aman (Meistres y Gwisgoedd 1983 ymlaen) i Fwrdd yr Orsedd natur y swydd gyfrifol hon - nid yn unig y rheidrwydd i adnewyddu gwisgoedd yn flynyddol ond hefyd y galw cyson arni i siarad mewn cymdeithasau diwylliannol ledled Cymru am ei gwaith ac i egluro'i swyddogaeth.Ceidwad y CleddGofalu am Gleddyf yr Orsedd yn y gorymdeithiau a'r seremonïau yw swyddogaeth Ceidwad y Cledd. Mae'n cario'r Cleddyf o flaen yr Archdderwydd yn holl orymdeithiau'r Orsedd, a hynny bob amser gerfydd ei lafn ac nid gerfydd ei garn. Dyma'r swyddog cyntaf i'w enwi o blith y Gorseddogion oherwydd nodir yn 1819 mai Gwilym Morganwg (Thomas Williams) oedd y 'Cledd-gludydd' yng ngorsedd bwysig eisteddfod daleithiol Caerfyrddin. Yr enwocaf o Geidwaid diweddar y Cledd oedd y diweddar Ray Gravell.Menywod a'r OrseddO'r cychwyn cyntaf, o gofio ymlyniad Iolo Morganwg wrth egwyddor cydraddoldeb, ymdengys fod croeso i fenywod yn rhengoedd Gorsedd y Beirdd. Pan gynhaliwyd yr Orsedd gyntaf yn Llundain, ym Mehefin 1792, urddwyd Sarah Elizabeth Owen i Urdd Ofydd, yn anffodus, mae'n debyg, nid am ei bod yn fardd na llenor, ond am ei bod yn wraig i William Owen (Pughe).Y gyntaf i'w hurddo mewn Gorsedd yng Nghymru, yng Nghaerfyrddin yn 1819, oedd Elizabeth Jones, Eos Bele, eto nid oherwydd ei dawn fel bardd ond am fod Ifor Ceri y trefnydd â'i fryd ar ei phriodi! Yn eisteddfod daleithiol Powys yn 1821 urddwyd tair arall - Angharad Llwyd, hynafiaethydd galluog o Gaerwys, Hester Cotton, dysgwraig a hynafiaethydd a Mair Richards, telynores o Ddarowen. Mae adroddiadau'r eisteddfodau a'r gorseddau taleithiol wedi hyn yn nodi'n gyson fod menywod wedi'u hurddo a dilynwyd yr un patrwm gyda'r Gorseddau Cenedlaethol. Yn sgil hynny mae menywod wedi gwasanaethu fel cantorion, telynorion, cyflwynwyr y Corn Hirlas a'r Aberthged / Flodeuged, noddwyr, meistresi'r gwisgoedd, a merched y Ddawns Flodau yn seremonïau a defodau'r Orsedd.
Cleddyfau, cyrn a nodau cyfrin 25 Gorffennaf 2010 Cynllun T.H.Thomas, Arlunydd Pen-y-garn, yr Arwyddfardd, o Gylch Meini'r Orsedd, 1901 Y Corn Gwlad 'A oes heddwch?' Y Cleddyf Mawr yn cael ei ddefnyddio yn Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod 2010 yng Nglyn Ebwy. Yr Archdderwydd Brinli (1972-75); Brinley Richards. Baner yr Orsedd yng Ngŵyl Cyhoeddi Eisteddfod 2011 yn Wrecsam Symbolau a regalia'r OrseddYn ystod y ddwy ganrif ers sefydlu'r Orsedd gyntaf, fe ddatblygodd yn ei seremoniau nifer o symbolau a regalia sydd wedi ychwanegu'n sylweddol at liw a chymeriad yr Eisteddfod.Yn y seremoni i gyhoeddi y bydd Eisteddfod a Gorsedd yn cael eu cynnal mewn man penodol ar ôl blwyddyn a diwrnod bydd Cofiadur yr Orsedd yn darllen Sgrôl y Cyhoeddi.Defnyddiwyd Sgrôl yn 1791 cyn yr Orsedd gyntaf un. Yn y Sgrôl gyntaf hon gwelir nifer o nodweddion sgroliau diweddarach; nodir:y flwyddyn a'r tymor;ymhle y cynhelir yr Orsedd;na fydd 'noeth arf' yn erbyn y beirdd;rhai o'r cyswyneiriau a ddaeth yn rhan anhepgor o seremonïau'r Orsedd wedi hynny, megis: 'Yn Llygad Haul, wyneb Goleuni'; 'Duw a phob Daioni'.Ychwanegwyd y 'Nod Cyfrin' at Sgrôl y Cyhoeddi gan Talieisn ab Iolo yn 1833. Yn 1946 lluniodd yr arlunydd, Meirion Roberts, Sgrôl newydd hardd a rhoddwyd hi i'r Orsedd gan Mam o Nedd. Wrth ei dylunio mewn du, coch ac aur, llwyddodd Meirion Roberts i ymgorffori Cleddyf Mawr a Chorn Gwlad yr Orsedd ac arfbais Tywysogion Gwynedd yn y brif lythyren Geltaidd addurniedig. O amgylch y testun cyflwynodd arfbeisiau tair sir ar ddeg Cymru (cyn 1974); dail derw, mes a draig goch ond nid yw'r Nod Cyfrin ar y Sgrol o gwbl.Y Corn GwladMae seiniau'r ddau Gorn Gwlad yn rhan anhepgor o ddefodaeth yr Orsedd yng nghylch yr Orsedd ac yn arbennig wrth iddynt alw'r buddugwyr i lwyfan y genedlaethol.Does dim sicrwydd pryd y cynhwyswyd ffanffer Corn Gwlad gyntaf yn y seremonïau ond erbyn yr 1860au roedd 'udganiad yr udgorn' yn rhan 'arferol' o ddefod y Maen Llog.Yn Eisteddfod Wrecsam, 1888, cyflwynodd Edward Jones, Maer Pwllheli, Gorn Gwlad arian at ddefnydd yr Orsedd. Yna, yn 1900 nododd Alicia A. Needham, cyfansoddwraig Wyddelig ei bod wedi archebu trwmped arian newydd ag arno faner y ddraig goch. Meddai:'I know it will look much more dignified and appropriate than the Cornet which was used at Cardiff, and which seemed altogether too modern.'Cynlluniwyd gŵn a chapan yr utganwr gan Isaac Williams, Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn 1923.Bu aelodau o'r Gwarchodlu Cymreig yn utganwyr cyson wedi'r Ail Ryfel Byd ac yn 1947 cyfansoddodd Haydn Morris (Haydn Bencerdd) ffanffer ar gyfer yr amryfal seremonïau. Ers hynny gwasanaethwyd yr Orsedd gan nifer o utganwyr. Erbyn hyn roedd pâr o utgyrn arian o seremoni Goroni'r Frenhines (1953) yn cael eu defnyddio. Cyflwynwyd hwy i'r Orsedd gan Gronfa Goffa y cyn-Arwyddfardd, Sieffre o Gyfarthfa a brodiwyd y banerigau pendant gan Miss Iles, Brynsiencyn.Y Cleddyf MawrUn o ddefodau hynaf yr Orsedd yw seremoni dadweinio'r Cleddyf Mawr yn rhannol. Bydd yr Archdderwydd yn datgan y cyswyneiriau canlynol a'r gynulleidfa yn ateb 'Heddwch' iddynt deirgwaith:'Y gwir yn erbyn y byd, A oes Heddwch? Calon wrth galon, A oes Heddwch? Gwaedd uwch adwaedd, A oes Heddwch?'Yr oedd cario cleddyf yn rhan o ddefodaeth Gorsedd gyntaf Iolo Morganwg yn 1792. Fel heddychwr pwsyleisiai Iolo mai mewn heddwch yr ymgynullai beirdd Gorsedd Ynys Prydain a phan osodwyd cleddyf noeth ar Faen yr Orsedd cynorthwyodd y beirdd oedd yn bresennol i wisgo'r wain amdano fel arwydd o Heddwch yng Ngorsedd. Defod ar wahân oedd yr un lle gelwid allan am 'Heddwch' ar y dechrau ond yn raddol daethpwyd i'w chysylltu â defod y cleddyf.Yn Eisteddfod Wrecsam, 1888, cyflwynodd Phillip Yorke o Blas Erddig gleddyf seremonïol a ddefnyddiwyd tan droad y ganrif. Yna, yng Nghaerdydd, 1899, cynlluniodd yr Athro Hubert Herkomer Gleddyf Mawr ar gyfer Gorsedd y Beirdd. Eglurodd symboliaeth y cynllun:crisial naturiol y carn yn cynrychioli cyfriniaeth;y tair llinell sanctaidd yn cynrychioli'r ymdrech gyntaf i ysgrifennu 'Iehofa';y ddraig - i'w gwarchod.Ar y wain roedd y cyswyneiriau: 'Y gwir yn erbyn y byd' (cyswynair Gorsedd Beirdd Ynys Prydain) 'Duw a phob Daioni' (Cadair Morgannwg a Gwent) 'Calon wrth Galon' (Cadair Dyfed) 'A Laddo a Leddir' (Cadair Powys) 'Iesu na ad gamwaith' (Cadair Gwynedd).Dyma'r Cleddyf Mawr a ddefnyddir heddiw.Y Nod CyfrinY Nod Cyfrin neu y Nod Pelydr Goleuni - symbol /|\ a ddyfeisiwyd gan Iolo Morganwg i gynrychioli rhinweddau Cariad, Cyfiawnder a Gwirionedd.Eto, ni wnaeth Iolo ei hun fawr ddefnydd o'r symbol, ond wedi iddo farw daeth yn fwyfwy poblogaidd. Fe'i gwelwyd am y tro cyntaf ar Sgrôl y Cyhoeddi yng Nghaerdydd, 1833. Erbyn 1850 roedd ar y baneri a welid mewn gorseddau ac o tua 1860 ymlaen ar dystysgrifau urddo aelodau newydd.Erbyn diwedd y ganrif yr oedd yn symbol cymeradwy ar gyfer Gorsedd y Beirdd ac yn ymddangos ar drefnlenni'i seremonïau, ar y Faner newydd ac weithiau hyd yn oed ar feini'r Orsedd.Ers y 1950au penderfynwyd fod yn rhaid cynnwys symbol y Nod Cyfrin ar bob Cadair a Choron genedlaethol.Baner yr OrseddYmddengys rhyw fath o faner yn nifer o seremonïau gorseddol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gellir gweld baner syml ag arni 'Gorsedd Beirdd Ynys Prydain' mewn darlun o Orsedd Aberhonddu, 1889.Fodd bynnag, y Faner swyddogol gyntaf oedd yr un a ddyluniwyd gan yr Arwyddfardd, T.H.Thomas, Arlunydd Pen-y-garn, ar gyfer Gorsedd Llandudno yn 1896. Meddai:'In the upper part is seen the sun symbolising celestial light, bearing upon it the golden dragon, at once a symbol of energy and the badge of Cambrian nationality; from the sun emerge golden rays, three of which are prolonged downwards forming the 'Nod Cyfrin' of the 'Awen'. ... The lower part of the design represents, in symbol, the Gorsedd of the Bards of the Isle of Britain ... Around the 'Maen Llog' are the twelve 'meini gwynion'; ... Upon the 'Maen Llog' may rest a sheathed sword... Around the Gorsedd Circle are deposited the plants representing the 'Alban' - trefoil, vervain, corn and mistletoe. The whole design is surrounded by a wide decorative border of oak leaves with acorns from which at parts mistletoe arises.'Mae'r holl ddelweddau ar gefndir o sidan asur a cheir y cyswyneiriau 'Y gwir yn erbyn y byd'; 'Yn Wyneb Haul Llygad Goleuni'; a 'Heddwch' arni mewn aur. Miss Lena Evans (Brodes Dâr) a'i brodiodd ac fe'i noddwyd gan Syr Arthur Stepney, Llanelli.Erbyn hyn mae'r faner wreiddiol wedi'i hadnewyddu sawl tro ond erys yn ffyddlon i'r cynllun hwn. Lerpwl, 1884 - y gorseddogion mewn ffedogau a sasys fel rhai'r Cymdeithasau Cyfeillgar. Yn y canol mae: Hwfa Môn a Clwydfardd. Braslun o wisg a phenwisg newydd yr Orsedd yn llawysgrifau T.H.Thomas, Arlunydd Pen-y-garn, c.1895.
Gorseddau y tu hwnt i Gymru 25 Gorffennaf 2010 Cyfarfod cyhoeddus cyntaf Gorsedd Llydaw, Brignogan, 1903. Gorseddau y tu hwnt i Gymru Seremonïau lliwgar a deniadol yw'r rhai a gynhelir yng Nghylch yr Orsedd fore Llun ac ar lwyfan y Pafiliwn yn y prynhawn, cyn y Coroni (ers 1954), pan groesewir cynrychiolwyr o'r Gwledydd Celtaidd a chyfeillion eraill i ymuno yn nefodau'r Orsedd. Bydd cynrychiolwyr yn bresennol gan amlaf o Lydaw, Cernyw, Iwerddon, yr Alban, Ynys Manaw ac hefyd o Batagonia a bydd cynrychiolwyr o Orsedd Beirdd Ynys Prydain yn mynychu eu gwyliau hwy yn eu tro. Dim ond mewn dwy o'r gwledydd Celtaidd er hynny y mae Gorsedd gyffelyb i un Cymru, sef yn Llydaw a Chernyw. Fe'u cyfrifir yn is-Orseddau ac mae Archdderwydd Cymru yn bennaeth dros y gorseddau hyn i gyd. Gorsedd Llydaw Roedd y diddordeb yn y byd Celtaidd yn Llydaw wedi'i ail-gynnau ers ymweliad le Villemarqué ag Eisteddfod y Fenni yn 1838 a defod priodi'r ddau hanner cleddyf eisoes yn boblogaidd cyn i ddirprwyaeth o Lydaw ymweld ag Eisteddfod Caerdydd yn 1899. Yna, yn 1900, penderfynwyd sefydlu Gorsedd Llydaw - ,em>Gorsedd Barzed Gourenez Breiz-Izel - ac apwyntiwyd Ar Fusteg yn Dderwydd Mawr a Taldir yn Arwyddfardd. Yn 1903, yn Brignonan y gwelwyd seremoni gyhoeddus gyntaf Gorsedd Llydaw. Am resymau gwleidyddol a chrefyddol bu cryn ymgecru yn rhengoedd yr Orsedd ar hyd y daith. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cyhuddwyd rhai o'r Llydawyr, gan gynnwys Taldir, o gydweithio â llywodraeth Vichy ac ar derfyn y Rhyfel fe'u carcharwyd. Pan rhyddhawyd Taldir bu'n rhaid iddo ymneilltuo i Ogledd Africa a daeth Eostig Sarzhaw yn Dderwydd Mawr (dirprwyol) yn ei le. Ond roedd tuedd rhai aelodau fwyfwy at Dderwyddiaeth a mynychu cyfarfodydd Côr y Cewri, yn hytrach nag at Gymru bellach. I ddyfynnu Zonia Bowen am 'hanes trychinebus' Gorsedd Llydaw - nid oes ganddi "raison d'être" tebyg i draddodiad barddol Cymru na chyswllt â chorff tebyg i'r Eisteddfod Genedlaethol. Eto yr Orsedd yw'r gymdeithas hwyaf ei pharhâd yn hanes cythryblus y genedl Lydewig. Gwisga Derwydd Mawr Llydaw goron arian o ddail uchelwydd. Gorsedd Gâl Sefydlwyd yr Orsedd yn 1923 ar y sail fod Gâl yn rhanbarth Celtaidd cyn dyfodiad y Rhufeiniaid ond erbyn 1939 roedd wedi chwythu'i phlwc. Gorsedd Cernyw Ers troad yr ugeinfed ganrif roedd rhywfaint o adfywiad wedi bod yn yr iaith Gernyweg yn enwedig trwy waith Henry Jenner, Ceidwad Llawysgrifau'r Amgueddfa Brydeinig. Sefydlwyd nifer o gymdeithasau 'Old Cornwall' ac yn Eisteddfod Treorci yn 1928 derbyniwyd wyth o wŷr o Gernyw yn aelodau o Orsedd y Beirdd. Ym mis Medi 1928 yn Boscawen Un y cynhaliwyd seremoni gyntaf Gorsedd Cernyw - Gorseth Kernow - ac urddwyd Henry Jenner yn Fardd Mawr cyntaf Cernyw. Un urdd, Urdd Bardd, mewn gwisg las, yn unig sy yng Ngorsedd Cernyw. Gwisga'r Bardd Mawr goron o ddail derw a dwyfronneg. Gorsedd Gogledd America Sefydlwyd Is-Orsedd Gogledd America yn Eisteddfod Pittsburg gan yr Archdderwydd Dyfed yn 1913 a'i Harchddewrydd dirprwyol oedd Thomas Edwards - Cynonfardd o Lan-dŵr, Abertawe. Erbyn 1946 yr oedd wedi dod i ben. Gorsedd y Wladfa Gutyn Ebrill (Griffith Griffiths, 1829-1909) oedd syflaenydd Gorsedd y Beirdd yn y Wladfa. Bu Caeron (W.H.Hughes) a Prysor (William Williams) yn gwasanaethu ar ei ôl ond ystyrient hwy mai dirprwy-archdderwyddon oeddynt, o ran statws, i archdderwyddon Cymru. Wedi marw Prysor yn 1945 ymddangosai fel petai Gorsedd y Wladfa am fynd i'r gwellt. Yna, ddechrau'r unfed ganrif ar hugain, dan archdderwyddiaeth Meirion, gwelwyd adferiad a dechreuodd cynrychiolwyr o'r Wladfa fynychu Eisteddfodau a Gorseddau Cenedlaethol Cymru drachefn.
Cenedl sy'n anrhydeddu beirdd 25 Gorffennaf 2010 Seremoni'r Cadeirio, Eisteddfod Genedlaethol Meifod a'r Cyffiniau, 2009. Nid oedd neb yn deilwng o'r brif wobr y flwyddyn honno. Cadair Wag Wrecsam, 1876. Roedd yr enillydd, Thomas Jones (Taliesin o Eifion), wedi marw rai wythnosau ynghynt. Eluned Phillips, enillydd y Goron, y Bala, 1967. Gwyndaf oedd yr Archdderwydd. Y Prif Lenor, Elfyn Pritchard, enillydd y Fedal Ryddiaith, Dinbych a'r Cylch, 2001. Y Cleddyf Mawr ar draws y gadair - neb yn deilwng am y Goron, Aberdâr, 1956. Yn y llun mae Erfyl Fychan, Arwyddfardd; Trefin, Ceidwad y Cledd; Dyfnallt, Archdderwydd; Cynan, Cofiadur. Y CadeirioMae seremoni cadeirio'r bardd buddugol am gyfansoddi casgliad o gerddi, awdl neu gerdd mewn cynghanedd gyflawn ar destun arbennig yn un o uchelfannau pasiantri Gorsedd y Beirdd ym mhob Eisteddfod Genedlaethol. Caiff ei chynnal ar ddydd Gwener.Mae'n seremoni hynafol iawn. Yr oedd yr arfer o gystadlu am gadair yn llys y Brenin eisoes yn hen yng nghyfnod Hywel Dda yn y ddegfed ganrif a phan gynhaliodd yr Arglwydd Rhys ei 'lys yn ardderchog' yn Aberteifi yn 1176, cadair yr un oedd gwobrau'r prif fardd a'r prif gerddor. Yna, tua 1451, yn eisteddfod Caerfyrddin cadeiriau arian a enillwyd a thrachefn yn eisteddfodau Caerwys yn 1523 a 1567. Wedi ail-sefydlu'r mudiad eisteddfodol yn y Bala yn 1789 ennill y Gadair oedd uchelgais pob bardd ond nid oedd seremoni orseddol ynghlwm wrth hyn eto. Yn eisteddfod daleithiol Dyfed / Dinefwr yng Nghaerfyrddin yn 1819 llwyddodd Iolo Morganwg i gysylltu'r mudiad eisteddfodol â defod Gorsedd y Beirdd ac â chadeirio'r bardd buddugol.Yn 1867 y penderfynwyd neilltuo'r Gadair ar gyfer awdl yn y mesurau caeth a chael Coron am bryddest yn y mesur rhydd.Cadeiriau NodedigRoedd seremoni gadeirio Wrecsam 1876 yn drist a chofiadwy oherwydd roedd y bardd buddugol, 'Eurebius', sef Thomas Jones (Taliesin o Eifion), wedi marw ychydig wythnosau ynghynt. Mewn poster coffa am y digwyddiad anffodus dwedir mai 'A ydyw yr awdl wedi ei danfon yn saff?' oedd ei eiriau olaf un. Ar lwyfan yr ŵyl gwisgodd y Gorseddogion arwyddion galar ac i sain y 'Dead March' gorchuddiwyd y gadair â brethyn du.Ymhlith y cadeiriau mwyaf arwyddocaol y mae: Cadeiriau yn arddull yr Adfywiad Celtaidd: Eugene Vanfleteren - Penbedw 1917 (y bardd buddugol - Hedd Wyn) J.Kelt Edwards ac Elias Davies - Corwen 1919 (Cledlyn Davies) Llew Hughes - Barry 1920 (neb yn deilwng)Cadair Wrecsam 1933 - rhodd gan J.R.Jones, Shanghai, brodor o Lanuwchllyn (Trefin)Cadair Bro Dinefwr 1996 gan y Parchedig T.Alwyn Williams o dderw olion Pont Llandeilo a olchwyd ymaith yn llifogydd mawr 1845. Bu'r saer-weinidog farw ychydig oriau wedi cwblhau'r gwaith (R.O.Williams)Cadair arbrofol Sir Benfro a Thyddewi 2002 gan Robert Jones yn llawn symbolau trawiadol megis y ddraenen (Myrddin ap Dafydd).Y CoroniUn o'r tair prif seremoni sy dan ofal Gorsedd y Beirdd ar lwyfan y Brifwyl, pan goronir y bardd buddugol am gyfansoddi pryddest neu ddilyniant o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn. Ar ddydd Llun y cynhelir seremoni'r Coroni.Yn 1867 cyhoeddodd Hwfa Môn oddi ar y Maen Llog: 'bod urdd newydd i gael ei ffurfio i'r Bryddest, a hono yn urdd coronog ...' Erbyn troad yr ugeinfed ganrif yr oedd y patrwm hwn o gadair a choron wedi ymsefydlu.Disgrifia Eluned Phillips, bardd coronog 1967 a 1983, y profiad o orfod 'Cadw'r Gyfrinach' iddi ennill y brif wobr:'Gorfu i mi droi'n feudwy absoliwt. Collais o leiaf 12 pwys o gnawd ... Doeddwn i ddim am ddweud celwydd felly rhaid oedd turio o'r goleuni fel gwahadden'. Ac ar y llwyfan ei hun, 'Fedrwn i yn fy myw beidio â cholli deigryn ... Rhaid byw trwy'r profiad cyn amgyffred yr ecstasi eithaf.'Ers yr 1950au rhaid cynnwys y Nod Cyfrin ymhob cynllun ar gyfer Coron Genedlaethol.Y Fedal RyddiaithCymer seremoni anrhydeddu'r Prif Lenor ei lle bellach ar brynhawn Mercher ac mae'n un o brif seremonïau Gorsedd y Beirdd ar lwyfan y Brifwyl.Yn Eisteddfod Machynlleth 1937 y dyfarnwyd Medal Ryddiaith am y tro cyntaf ac fe'i henillwyd gan J.O.Williams, Bethesda am y gyfrol Tua'r Gorllewin ac Ysgrifau eraill. Yn 1966 y rhoddwyd i'r gystadleuaeth seremoni safonol gyflawn i ddathlu'r dyfarniad.Yna, yn Aberystwyth, yn 1992 daeth yn un o seremonïau llawn Gorsedd y Beirdd. Cyflwynir y Fedal am gyfrol o ryddiaith, weithiau ar thema benodol neu mewn cyfrwng penodol megis nofel, dyddiadur neu straeon byrion. Yn union wedi'r seremoni bydd y gyfrol fuddugol ar werth ar faes yr Eisteddfod.Neb yn DeilwngYn achlysurol dyfarna beirniaid y prif gystadlaethau nad oes bardd neu lenor yn deilwng o ennill y wobr genedlaethol. Mewn erthygl yn y National Geographic yn 1965 disgrifiodd yr Awstraliad, Alan Villiers, effaith hyn ar gynulleidfa pafiliwn Llandudno yn ystod defod y Cadeirio yn 1963:'No event symbolizes more vividly the poetic soul of the Welsh and the unyielding pride and integrity that accompany it than the ceremony of Chairing the Bard. This is the high point of the annual National Eisteddfod. ... The large stage of an enormous prefabricated pavilion was banked with robed bardic dignitaries and the television lights stabbed at them like searchlights.' ... Ond wedi dyfarniad y beirniaid Thomas Parry, T.H.Parry-Williams a William Morris, 'No poem submitted was deemed worthy, ... the ritual Chairing of the Bard would not take place. Merit before ritual - no ritual for its own sake! ... The 8,000 still sat there in the huge pavilion, as if they had been stunned. Where else, I thought, would people feel so intensely about poetry?'Fel arwydd o'r diffyg teilyngdod bydd yr Arwyddfardd a Cheidwad y Cledd yn gosod y Cleddyf Mawr i orffwys ar draws breichiau'r gadair wag lle byddai'r bardd neu'r llenor arobryn wedi eistedd. Y Ddawns FlodauHeb os dyma un o ddefodau mwyaf poblogaidd seremonïau Gorsedd y Beirdd yng Nghylch yr Orsedd ac ar lwyfan y Brifwyl. Cymer rhyw 24 o ferched oedran ysgol gynradd ran ynddi; gwisgant wisgoedd gwyrddion â blodau'r maes yn eu haddurno a blodau yn goronau yn eu gwalltiau a chariant duswau o flodau. Dawns i gyfleu casglu blodau'r maes yw hi a chyfunir Cyflwyno'r Flodeuged â hi trwy i ddwy o'r dawnswyr ychwanegu'u tuswau hwy at y Flodeuged ei hun.Eto, defod gymharol ddiweddar yw hi. Yng Ngorsedd Gyhoeddi Machynlleth, 1936 y gwelwyd hi gyntaf a gellir ei phriodoli i ddychymyg y Cofiadur, Cynan ac athrawesau ysgolion cynradd y fro. Nid ymddangosodd y dawnswyr ar lwyfan y Brifwyl tan ddefod y Cadeirio yn Eisteddfod Ystradgynlais, 1954.