'Ei harddwch a rydd urddas arni': Gorsedd y Beirdd 25 Gorffennaf 2010 Edward Williams, Iolo Morganwg, Bardd Braint a Defod, portread gan George Cruickshank. Beth yw'r Orsedd? Cymdeithas o feirdd, llenorion, cerddorion, artistiaid ac unigolion sy wedi gwneud cyfraniad nodedig i'r genedl, ei hiaith a'i diwylliant yw Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Mae'n gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg. Gorsedd y Beirdd sy'n gyfrifol am basiantri Eisteddfod Genedlaethol Cymru a hi sy'n trefnu a chynnal seremonïau lliwgar a dramatig y Cyhoeddi a defodau Cylch yr Orsedd, a seremonïau'r Coroni, y Fedal Ryddiaith a'r Cadeirio ar lwyfan y Brifwyl. Mae iddi hanes ddifyr ac unigryw, o'r cychwyn cyntaf yn 1792 hyd at heddiw. Nid ei chledd ond ei gweddi - a'i harddwch A rydd urddas arni; Mae nodded tu mewn iddi I'r Gymraeg rhag ei marw hi. Tim Ymryson y Beirdd Sir Aberteifi Y dechreuadau: Iolo Morganwg Edward Williams neu Iolo Morganwg (1747-1826) oedd crewr a thad Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Cafodd Iolo ei eni ym mhlwyf Llancarfan, Morgannwg ac er mai Saesneg oedd iaith yr aelwyd dechreuodd ymddiddori yn yr iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a'i hanes. Saer maen oedd e wrth ei grefft a theithiodd ledled Cymru ac i Lundain yn arbennig. Yno, daeth i gysylltiad â Chymdeithas y Gwyneddigion a dechreuodd droi mewn cylchoedd diwylliannol a radical. Roedd Iolo Morgannwg yn athrylith — yn un o sefydlwyr mudiad yr Undodiaid yng Nghymru, yn radical gwleidyddol a oedd yn cefnogi'r Chwyldro Ffrengig, yn heddychwr, yn hynafiaethydd, yn emynydd ac yn fardd telynegol a oedd yn ei alw'i hun yn 'The Bard of Liberty'. Breuddwydiwr a Ffugiwr Ond roedd e'n freuddwydiwr ac yn ffugiwr hefyd. Roedd yn gaeth i'r cyffur laudanum ac mae'n siwr i hynny effeithio ar gyflwr ei feddwl. Rhan o'i freuddwyd a'i weledigaeth ar gyfer Cymru a Morgannwg oedd creu Gorsedd Beirdd Ynys Prydain a llwyddodd i dwyllo ysgolheigion ei oes ei bod yn sefydliad cwbl ddilys. Ond pam aeth e i'r fath drafferth? Mae nifer o resymau posibl: Roedd e wedi cael ei swyno gan ramantiaeth Derwyddiaeth newydd y ddeunawfed ganrif ac roedd e'n credu fod beirdd Cymru wedi etifeddu rôl y derwyddon Celtaidd. Pan oedd e'n Llundain roedd e wedi sylwi fod y Saeson yn dirmygu iaith a diwylliant y Cymry ac felly aeth e ati i greu gorffennol llachar a hynafol i'w genedl trwy Orsedd Beirdd Ynys Prydain. Roedd Iolo yn genfigennus o hyder y Gwyneddigion mai yng Ngwynedd yr oedd barddoniaeth a thraddodiadau Cymru ar eu puraf, felly aeth ati i geisio profi mai ym Morgannwg yn unig yr oedd traddodiadau derwyddiaeth wedi goroesi. Fel y dwedodd yr ysgolhaig G.J.Williams, 'Math o ymgais i dynnu'r gwynt o hwyliau pobl y Gogledd oedd yr Orsedd... math o ymgais i ddangos eu bod nhw ym Morgannwg wedi cadw hen sefydliad y Cymry yn ei burdeb cysefin ...'. Ac wrth gwrs, roedd Iolo yn ganolog i'w weledigaeth ei hun. Roedd e eisiau diffinio rôl arbennig iddo'i hun yn hanes Cymru trwy greu Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Crisialodd yr hanesydd Gwyn A. Williams gymhellion cymhleth Iolo trwy ddweud ei fod yn cael ei yrru gan 'a Welsh resentment against arrogant English, a south Wales resentment against arrogant northerners, a Glamorgan resentment against the rest and a Iolo resentment against any who snubbed him'. Pan fu Iolo farw yn 1826 doedd Cymru ddim wedi dechrau amgyffred natur na maint ei ddyfeisgarwch a'i dwyll. 'An Archdruid in his Judicial Habit' o Costume of the Original Inhabitants of the British Isles (1815) gan Samuel Rush Meyrick a Charles Hamilton Smith. Braslun o Gylch yr Orsedd (y Cylch Cynghrair) yn llawysgrifen Iolo Morganwg. Noder y sylw 'the Bards stand unshod and uncovered within the circle'. Derwyddiaeth O'r ail ganrif ar bymtheg hyd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd diddordeb mawr iawn gan ysgolheigion Prydain ym mhopeth Celtaidd a druidmania yn fyw ac yn iach. Un o'r cyntaf i ymddiddori oedd yr hynafiaethydd, John Aubrey, a awgrymodd yn 1659 fod cylchoedd cerrig Côr y Cewri ac Avebury wedi'u hadeiladu gan y Celtaidd i fod yn demlau i'w derwyddon. Yn sgil hynny cynhaliodd y Gwyddel, J.J.Tolland gyfarfod i dderwyddon ar Primrose Hill (Bryn y Briallu) yn Llundain yn 1717 a sefydlodd urdd The Ancient Order of Druids. Yng Nghymru roedd Henry Rowlands (1655-1723), hynafiaethydd o Fôn, wedi ceisio profi yn ei lyfr Mona Antiqua Restaurata (1723) mai olion temlau'r derwyddon oedd y cromlechi ar yr ynys. Ond pan deithiodd Iolo Morgannwg i Fôn ddiwedd y ddeunawfed ganrif cafodd ei siomi gan 'the exceedingly pitiful monuments of that Island' a gwelodd e gyfle i ganu clodydd hynafiaethau Morgannwg yn eu lle. Nid yw Archdderwydd na Derwyddon Gorsedd Beirdd Ynys Prydain heddiw yn olrhain eu hachau yn ôl i fyd y derwyddon Celtaidd ond mae'r ffaith fod yr Orsedd yn cyfarfod o fewn Cylch o Feini yn brawf o ddylanwad neo-dderwyddiaeth ei gyfnod ar ddychymyg byw Iolo Morganwg. Gorsedd Beirdd Ynys Prydain 1792 Ar Fehefin 21, 1792 ar Fryn y Briallu yn Llundain y cynhaliwyd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain am y tro cyntaf erioed. Yna, cynhaliwyd ail Orsedd ar Fedi 22 ac mae gennym adroddiad ardderchog o'r seremoni hon o bapur newydd y Morning Chronicle: 'Saturday, Sept 22, being a day on which the autumnal equinox occurred ... some Welch Bards, resident in London, assembled in Congress on Primrose Hill, according to ancient usage, which required that it should be in the eye of the public observation, in the open air, in a conspicuous place, and whilst the sun is above the horizon. The wonted ceremonies were observed. A circle of stone was formed, in the middle of which was the Maen Gorsedd, or altar, on which a naked sword being placed, all the bards assisted to sheathe it. ... On this occasion the Bards appeared in the insignia of their various Orders. ...' Cafwyd sawl seremoni arall yn Llundain ac yn 1795 dychwelodd Iolo i Forgannwg a chynnal ei Orsedd gyntaf yno. Ond roedd yr awdurdodau yn amheus ei fod yn hyrwyddo syniadau gwleidyddol chwyldroadol ac felly bu'n rhaid aros tan ddiwedd y rhyfel, yn 1815, cyn i Orsedd Beirdd Ynys Prydain gael cyfle i fwrw gwreiddiau yn iawn. Coelbren y Beirdd Gwyddor ffug a ddyfeisiwyd gan Iolo Morganwg tua 1791 oedd Coelbren y Beirdd. Roedd e'n honni mai dyma wyddor y derwyddon Celtaidd a bod iddi 20 'llythyren' ac 20 arall i gynrychioli llafariaid hir a threigladau. Roedd yn cael ei naddu ar ddarn o bren pedair ochr a châi'r prennau hyn eu gosod mewn ffram fel y gellid troi pob pren i ddarllen y pedair ochr. Yr enw ar y 'llyfr' hwn oedd 'peithynen'. Cyhoeddodd Taliesin ab Iolo lyfr Coelbren y Beirdd yn 1840 yn seiliedig ar lawysgrifau ei dad. Bu'r wyddor yn boblogaidd gan rai beirdd a derwyddon gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg er bod ambell un, fel Edward (Celtic) Davies (1756-1831), yn amau ei dilysrwydd. Erbyn 1893 yr oedd yr oedd sylwadau J.Romilly Allen, cydolygydd yr Archaeologia Cambrensis mewn llythyr at Arwyddfardd yr Orsedd yn adlewyrchu'r farn gyffredin am Goelbren y Beirdd: 'I think the so-called Bardic Alphabet a gigantic fraud ... I don't believe you will find it repay you to look at these bogus alphabets and pseudo-Druidic antiquities as anything but ... the most bare faced impostures.'
Eisteddfodau hanesyddol ddiddorol 25 Gorffennaf 2010 Mae'r ddol fwdw gwrth-swffragetaidd hon yn wawdlun creulon o ferch sy'n ymgyrchu dros yr hawl i bleidleisio. Defnyddiai'r mudiad gwrth-swffragetiaid ddelweddau fel hyn mewn cartwnau a phosteri i fychanu merched oedd yn mynnu'r bleidlais. Modelau pren o Orsedd Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1914 (ohiriwyd tan 1915) gan Gwmni'r Vale of Clwyd Toys, Trefnant, sir Ddinbych. Poster Eisteddfod a Gorsedd Genedlaethol, Lerpwl, 1900 yn dangos pa mor Seisnig yr oedd yr ŵyl ar droad yr ugeinfed ganrif. Targed i SwffragetiaidMae seremonïau'r Eisteddfod a'r Orsedd yn adlewyrchu digwyddiadau o bwys hanesyddol ar adegau.Cyfnod brwydrau rhyddfreinio menywod oedd blynyddoedd cyntaf yr ugeinfed ganrif a gwelwyd y swffragetiaid yn targedu'r Prif Weinidog, Asquith yn Eisteddfod Llundain yn 1909. Yr oedd ymateb yr Archdderwydd Dyfed i'w 'rhyfyg' yn ei englyn byrfyfyr yn nodweddiadol o agwedd batriarchaidd y sefydliad Cymreig ar y pryd:'Benyw mewn ffrae â'i bonet — yw y fun A wna beirdd yn darget, Un belen o'i gwn bwlet Aiff i'r jael â'r SwffragetYn Wrecsam yn 1912 Lloyd George ei hun oedd y targed yn ei araith brynhawn y Cadeirio. Gwylltiodd y dorf o 13,000 yn y babell fod y menywod yn beiddio herio anwylyn y genedl. Ymosodwyd yn gorfforol arnynt, gan dynnu'u gwalltiau a rhwygo'u dillad; 'yr oedd y pafiliwn yn ferw drwyddo.'Rhyfeloedd a DirwasgiadPan dorrodd y Rhyfel Byd Cyntaf allan yn 1914 gohiriwyd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor tan 1915; yna bu'n Aberystwyth yn 1916, Penbedw yn 1917 a Chastell-nedd yn 1918. Yn ystod y gorseddau rhyfel hyn ni ddadweiniwyd y Cleddyf Mawr ac ni erfyniwyd am 'Heddwch'.Dioddefodd Cymru ddirwasgiad dwys rhwng y rhyfeloedd. Symbol o hynny oedd i Gadair Eisteddfod Genedlaethol 1938 gael ei gwneud yn ffatri ddodrefn Bryn-mawr, ffatri a agorwyd gan y Crynwyr yn y dref honno i geisio lliniaru peth ar y diweithdra enbyd. hithau'n Ail Ryfel Byd gwaharddwyd cynnal Eisteddfod 1940 ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac Aberpennar am eu bod yn ardaloedd peryglus. O'r herwydd cynhaliwyd Eisteddfod radio.Brwydr yr IaithYn ystod degawdau olaf yr ugeinfed ganrif brwydr yr iaith Gymraeg oedd prif gonsýrn llawer o'r Gorseddogion a chlywid sawl Archdderwydd yn lleisio'i farn yn groyw ar y pwnc o'r Maen Llog. Yn ôl Tilsli, Gwyndaf gychwynnodd y dull newydd hwn o areithio 'gan drafod cwestiynau llosg a rhoi arweiniad pendant.'
Yr Eisteddfod a'r Orsedd yn uno 25 Gorffennaf 2010 Cleddyf Iolo Morganwg a ddefnyddiwyd yn seremoni 1819. Copi o drefn seremoni'r Orsedd, Medi 21, 1858 yn Llangollen. AWC Llsgr. 2435 /280 Dr William Price, Llantrisant fel Derwydd T. H. Thomas, Arlunydd Pen-y-garn yr Arwyddfardd (1895-1915) yng ngwisg yr Orsedd. Portread gan C. F. Tunnicliffe o'r Archdderwydd Cynan, 1953. Caerfyrddin 1819Yn 1789 roedd Cymdeithas y Gwyneddigion wedi rhoi hwb a nawdd i eisteddfod yn y Bala er mwyn codi safon a statws eisteddfodau yng Nghymru. O hyn tyfodd mudiad yr eisteddfodau taleithiol ac erbyn 1819 roedd Esgob Tyddewi, Thomas Burgess, yn awyddus iawn i sefydlu eisteddfod o'r fath yng Nghaerfyrddin ac i'w chynnal yng Nghwesty'r Llwyn Iorwg. Enillodd Gwallter Mechain wobr am yr awdl orau a chlymodd Iolo Morganwg ysnoden neu fandyn glas am ei fraich fel arwydd ei fod yn perthyn i Urdd Bardd yng Ngorsedd y Beirdd.Trannoeth, yng ngerddi'r gwesty, cynhaliodd Iolo seremoni orseddol o fewn cylch o gerrig mân a dynnodd o'i boced. Trwy hynny llwyddodd i drawsnewid dyfodol yr Orsedd a'i chysylltu â'r mudiad eisteddfodol. O'r digwyddiad syml hwn y datblygodd Eisteddfodau a Gorseddau Cenedlaethol diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fel y dwedodd G.J. Williams, 'rhoes Iolo i genedl y Cymry sefydliad cenedlaethol'.Dechrau'r Eisteddfod GenedlaetholRhwng 1819 a 1840 câi ambell Orsedd ei chynnal yn yr eisteddfodau taleithiol ond doedd dim ffurf na threfn bendant i'r rhain. Yna, yn 1858, penderfynodd Ab Ithel (John Williams, 1811-1862), rheithor Llanymawddwy a gŵr oedd wedi meddwi'n gorn ar syniadau Iolo Morganwg, geisio sefydlu eisteddfod a gorsedd genedlaethol yn Llangollen yn enw Cadair daleithiol Powys. Heidiodd miloedd yno ac yn yr Orsedd gwelwyd golygfa ryfeddol Myfyr Morganwg fel derwydd ag ŵy derwyddol wrth linyn am ei wddf, a'r Dr William Price, Llantrisant mewn penwisg o groen cadno.Er gwaetha'r olygfa hon bu eisteddfod a gorsedd Llangollen yn drobwynt yn hanes y mudiadau eisteddfodol a gorseddol oherwydd dyma fan cychwyn yr Eisteddfod Genedlaethol â Gorsedd y Beirdd yn rhan ganolog o'i gweithgareddau. Yn Aberdâr, yn 1861, gwireddwyd breuddwyd Ab Ithel a chynhaliwyd yr Eisteddfod a'r Orsedd Cenedlaethol cyntaf.Yn ystod y blynyddoedd canlynol datblygodd seremonïau'r Orsedd ond doedd pawb ddim yn gefnogol iddynt. I Cynddelw (Robert Ellis) roedd y derwyddon fel ' pac o wallgofiaid' ac ofnai eraill nad oedd y defodau hynafol yn gweddu i 'Oes Cynnydd', Oes Victoria. Cafodd gohebydd y Times fodd i fyw yn 1867 yn gwawdio:'This remarkable piece of pantomime ... the puerile fopperies of making Druids in broadcloth and Ovates in crinoline'.Amheuwyr a BeirniaidEr bod cymaint o Gymry wedi llyncu'n ddi-halen honiadau Iolo Morganwg am hynafiaeth a nodweddion Gorsedd Beirdd Ynys Prydain nid oedd pawb, hyd yn oed ymysg ei gyfoedion, mor hygoelus:John Walters (1721-1797) a'i galwodd yn 'a made Dish'Edward (Celtic) Davies (1756-1831), awdur llyfrau ar y DerwyddonWilliam Williams, Llandygái (1738-1817) a gredai 'no vouches can be produced (for it) but the brains of Iolo Morganwg.'J.W. Prichard, Plas-y-brain, Llanbedr-goch (1749-1829) a ffieiddiai Iolo fel 'dyn ar ddrygioni bob amser, ... yn dyfeisio rhyw gelwyddau i geisio twyllo'r byd.'Thomas Stephens (1821 -75) a feirniadodd y gyfundrefn dderwyddol a gorseddol yn Yr Ymofynnydd, 1852-3Yna, cafwyd amheuon ymhlith ysgolheigion ac academwyr prifysgol o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen:John Rhŷs (1840-1915), ysgolhaig Celtaidd a benodwyd yn athro Celteg cyntaf Prifysgol Rhydychen yn 1877. Galwodd e'r Orsedd yn 'antiquarian humbug, positively injurious to the true interests of the Eisteddfod'.John Morris-Jones (1864-1929), Athro Cymraeg Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor o 1895 ymlaen. Mewn cyfres o bump erthygl ddeifiol yn Cymru 1896, taflodd amheuon ar hynafiaeth honedig yr Orsedd a daeth i'r casgliad (cyfeiliornus) i'r seremonïau gael eu cyflwyno gan feirdd Morgannwg yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg. Ychwanegodd 'nid yw'r cyfan ond chwarae plant'.G.J.Williams (1892-1963) Athro Cymraeg Coleg Prifysgol Cymru Caerdydd o 1947 ymlaen. Trwy ei ymchwil manwl i draddodiadau Morgannwg a hanes Iolo ei hun tanseiliodd hynafiaeth a hygrededd yr Orsedd yn llwyr mewn erthygl yn Y Llenor yn 1922. Iddo ef 'noddfa cwacyddiaeth' ydoedd, a'i haelodau 'namyn aelodau difudd o sefydliad a sylfaenwyd ar dwyll ac a gynhaliwyd gan ryfyg ac anwybodaeth'. Ac eto, roedd yn barod i gydnabod 'y geill sefydliad diweddar fod o fendith i genedl.'Mwy o urddas i'r OrseddRoedd hi'n amlwg erbyn yr 1890au bod gwir angen rhoi trefn ar seremonïau'r Orsedd, eu hurddasoli a chyfoethogi'i defodau a'i regalia. Byddai hynny'n gymorth i dawelu'r beirniaid ac i hyrwyddo'i delwedd.Yn 1895 etholwyd T.H.Thomas, Arlunydd Pen-y-garn (1839-1915) yn Arwyddfardd a chyda'i hyfforddiant artistig fel arlunydd proffesiynol aeth ati i'w diwygio. Cefnogodd gynlluniau Hubert Herkomer i ddiwygio urddwisgoedd yr Orsedd a regalia'r Archdderwydd a hynny ar seiliau patrymau Celtaidd. Arlunydd Pen-y-garn gynlluniodd Faner yr Orsedd, dyluniodd Gylch y Meini a gweddnewidiodd safon pasiantri'r Orsedd. Mae llawer o'r elfennau hyn wedi goroesi hyd heddiw ac mae dyled Gorsedd y Beirdd i greadigrwydd a sêl gwladgarol Arlunydd Pen-y-garn yn enfawr.Cynan a phasiantri'r OrseddYn 1935, etholwyd Cynan (Albert Evans-Jones 1895-1970) yn Gofiadur yr Orsedd, swydd a ddaliodd, rhwng bod yn Archdderwydd ddwywaith (1950-54; 1963-66), tan 1970. Roedd gan Cynan ddiddordeb mawr, fel awdur a pherfformiwr, ym maes y theatr a defnyddiodd ei ddawn yn y cyswllt hwn i greu seremonïau mwy lliwgar, dramatig a disgybledig ar gyfer yr Orsedd. Mireiniodd ddefod Cyflwyno'r Aberthged, cyfansoddodd eiriau newydd ar gyfer Cân y Cadeirio a dyfeisiodd ef ac athrawesau bro Machynlleth y Ddawns Flodau yn 1936.Llwyddodd Cynan i gael yr Orsedd a Chyngor yr Eisteddfod i gytuno i greu un corff cenedlaethol, sef Llys yr Eisteddfod, i'w rheoli a thrwy hyn sicrhawyd bod y ddwy elfen allweddol yma yn bartneriaid cyfartal. At hyn yr oedd y Cyfansoddiad newydd y cytunwyd arno yn 1937 ac a ddaeth i oed yng Nghaerffili yn 1950 yn ymgorffori'r Rheol Gymraeg. Fel y nododd Ernest Roberts:'Cynan, a neb arall, a wnaeth yr Orsedd yn un o brif atyniadau ein Gŵyl Genedlaethol'. Dyma wedi'r cyfan, meddai, 'yr unig basiantri cenedlaethol sydd gennym.'
Printiadau a darluniau unigryw T. H. Thomas 20 Medi 2007 T.H.Thomas, 'Mrs Jones, the Devil and the supper beer' (1880), o 58, British Goblins; NMW A 11953, pin, inc a golchiad ar bapur. Yn ystod ei oes, creodd T. H. Thomas (1839-1915) gatalog unigryw o brintiadau, darluniau a dyfrlliwiau yn manylu prif ddiddordebau'r 19eg ganrif. Ym 1915, gadawyd y catalog cyfan mewn ewyllys i Amgueddfa Cymru. Thomas Henry Thomas: y casglwr Ganwyd Thomas Henry Thomas, un o sefydlwyr Amgueddfa Cymru, ym Mhont-y-pŵl ym 1839. Astudiodd yn yr Academi Frenhinol a threuliodd amser yn Ffrainc a'r Eidal. Wedi dychwelyd i Lundain ym 1864, arbenigodd mewn portreadau, cynllunio a darlunio llyfrau. Gweithiodd fel arlunydd ar gyfer The Daily Graphic, ac mae nifer o ddarluniau ohono wedi goroesi, yn amrywio o waith ar dwnnel Hafren ym Mhortskewett i ymweliadau brenhinol. Thomas yng Nghymru Rhwng 1866 a 1878, ymsefydlodd Thomas yng Nghaerdydd, lle'r arhosodd am weddill ei fywyd. Daeth i ymwneud â'r Eisteddfod a'r Orsedd ac ymunodd gyda'r Royal Cambrian Academy. Roedd hefyd yn aelod allweddol o Gymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd, gan ddod yn llywydd ym 1888. Arweiniodd ei ddiddordeb mewn daeareg at ddarganfod ffosil pwysig newydd, mewn llechen garreg fawr yn y fynwent yn Newton Nottage. Fe'i henwyd yn Brontozoum Thomasii fel teyrnged iddo. Y casgliad Derbyniodd Amgueddfa Cymru gasgliad Thomas o dros 1,000 o brintiadau, lluniau a dyfrlliwiau yn dilyn ei farwolaeth ym 1915. Mae'r prif gasgliad yn cynnwys tri blwch, bob un yn cynnwys tua saith deg o ffolderi sy'n dal hyd at ddeg gwrthrych, wedi'u gosod fesul math o bwnc. Hyd yn ddiweddar, tybiwyd mai gwaith Thomas oedd y system drefnu hon, ond datgelodd astudiaeth fanylach o'r llawysgrifen mai gwaith Isaac Williams, Ceidwad Celf cyntaf yr amgueddfa ydoedd. Nid yw'n hysbys, felly, ar ba ffurf y cyrhaeddodd y gweithiau hyn yn y lle cyntaf, er bod cyfeiriad at lyfr sgrap nad yw wedi ei ddarganfod hyn yma. Gan fod dulliau curadu yn wahanol iawn bryd hynny, mae'n debygol bod y llyfr sgrap wedi ei ddatgymalu a'i gynnwys wedi ei ail osod i'r ffolderi sy'n eu dal heddiw. Mae eu cynnwys yn eithriadol o eang, gyda thestunau yn cynnwys bywyd gwledig a diwydiannol, byd natur, archaeoleg, darlunio llyfrau, llên gwerin a darluniau o fywyd cymdeithasol a diwylliannol. Ymysg y gwrthrychau amrywiol yn y casgliadau mae un arbennig o ddiddorol, sef blwch sigaréts wedi'i llenwi gyda darluniau gan blant o ysgol yn Swydd Rhydychen. Ymddengys bod y rhain yn rhan o arbrawf gan Thomas i ddadansoddi techneg darlunio plant. Cadw bywyd diwylliannol a threftadaeth Cymru Tueddodd diddordebau helaeth Thomas i rwystro ei ddatblygiad artistig, a phetai wedi ymrwymo at gelf yn unig, byddai wedi llwyddo i gael cydnabyddiaeth ehangach. Nid yw hyn, fodd bynnag, yn feirniadaeth — nid yn ei safon artistig mae cryfder deunydd Thomas, ond yn ei ryfeddod, ei ehangder, a'r ffaith ei fod yn cynrychioli catalog sydd bron yn llawn o'r prif ddiddordebau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. O'i weld o'r persbectif hwn, gellir edrych ar Thomas yn nhraddodiad J. W. Goethe a John Ruskin, dynion yr oedd eu gwaith yn cwmpasu nifer o ddisgyblaethau amrywiol ac a oedd am bontio'r bwlch rhwng gwyddoniaeth a'r celfyddydau. Hefyd, roedd Thomas yn hyrwyddwr brwd o gelf ac artistiaid Cymreig, ac yn gweithio i gefnogi'r bywyd diwylliannol a chadw etifeddiaeth Cymru lle bynnag yr oedd yn bosibl. Mae Amgueddfa Cymru yn ffodus i fod wedi derbyn cymynrodd mor gynhwysfawr, yn arbennig un sy'n cwmpasu bob un o'i adrannau curadurol. T.H.Thomas, 'Effaith ffrwydrad ym Mhwll Glo "Cwtch"', o 115, Mining, NMWA 12383, pin a golchiad gyda phensil ar bapur.
Bardd Cymraeg yn cwympo yn Flanders 25 Ebrill 2007 "Dydd ola o Orffenna', 'dech chi'n gweld, diwrnod cynta'r frwydyr fwya fuo yn y byd 'ma 'rioed ma'n debyg. Brwydyr Passchendaele". (Simon Jones, 1975). Aeth dros chwarter miliwn o ŵyr o Gymru i ymladd yn rhyfel 1914-1918. Yn eu plith roedd y bardd Ellis Humphrey Evans o Drawsfynydd, neu a rhoi iddo ei enw barddol, Hedd Wyn. Galwyd ef i'r rhyfel ym 1917, a'i anfon i ymladd yn Fflandrys. Yno fe'i lladdwyd ym mis Awst 1917 ar Gefnen enbyd Pilckem, ar ddechrau'r cyrch ar Passchendaele. Y Gadair Ddu Chwech wythnos wedi ei farwolaeth dyfarnwyd iddo'r Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw am ei awdl Yr Arwr, cerdd a gwblhaodd byr amser yn unig cyn ei farw. Yn ystod defod y cadeirio taenwyd gorchudd du dros y Gadair ei hun, a byth ers hynny adwaenir hi fel Y Gadair Ddu. Llygad-dyst Bu Mr Simon B. Jones, Aberangell (ganed 1893), yn gwasanaethu yn yr un gatrawd â Hedd Wyn, a honnai iddo ei weld yn disgyn ar faes y gad. Clywch ei dystiolaeth ef, fel y'i cofnodwyd gan Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ym 1975: AWC 4763. Recordiwyd: 26.9.1975, gan Robin Gwyndaf. AWC 4764. Recordiwyd: 26.9.1975, gan Robin Gwyndaf. Simon Jones, yn y Rhyfel Byd Cyntaf. "Mi gweles o'n syrthio. A mi allaf ddeud mae nosecap shell yn 'i fol lladdodd o, wyddoch chi. Ôch chi'n medru gwbod hynny. O, allech chi ddim sefyll hefo fo mae'n wir. Odd rhaid ichi ddal i fynd, 'de". (Simon Jones, 1975). Cenhedlaeth coll Roedd Hedd Wyn yn un o blith 32,000 o filwyr a laddwyd yn ystod yr ymosodiad ar Gefnen Pilckem. Ni chipiwyd pentref drylliedig Passchendaele hyd Dachwedd 6ed, 98 diwrnod wedi i'r frwydr gychwyn. Talwyd pris uchel am yr ymgripio araf hwn dros brin bum milltir o dir: bu farw 310,000 o luoedd y Cynghreiriaid a 260,000 o Almaenwyr. Erys y Gadair Ddu yn arwydd grymus o effaith ddychrynllyd y Rhyfel Byd Cyntaf ar gymunedau trwy Gymru benbaladr, ac addewid coll cenhedlaeth gyfan o ŵyr ifainc o Gymry.