Beddrodau megalithig Oes y Cerrig yng Nghymru 14 Mai 2007 Beddrodau megalithig Pentre Ifan (Sir Benfro), un o'r beddrodau megalithig mwyaf trawiadol yng Nghymru. Yn wreiddiol, roedd ynghladd dan dwmpath o dywyrch a cherrig. Yng Nghymru ceir un o'r casgliadau gorau o feddrodau megalithig yn y Deyrnas Unedig. Yn ogystal â bod yn weledol ddramatig, mae'r henebion hyn yn ffynonellau pwysig o wybodaeth am fywyd a marwolaeth 5,500 o flynyddoedd yn ôl. Mae tirwedd Cymru yn gyforiog o henebion. Fil o flynyddoedd yn ôl, cestyll oedd y nodweddion mwyaf trawiadol; fil o flynyddoedd cyn hynny caerau Rhufeinig oedd amlycaf, a chyn hynny, bryngaerau'r Oes Haearn. Ond yr henebion cynharaf i oroesi hyd heddiw yw beddrodau megalithig - siambrau claddu cerrig sy'n dal i greu ymdeimlad o'r gorffennol pell. Cafodd beddrodau megalithig eu hadeiladu bron 6,000 o flynyddoedd yn ôl, ar adeg pan oedd trigolion Cymru yn byw mewn cymunedau bach, yn defnyddio offer cerrig ac yn rhoi prawf ar ddulliau hollol newydd o ffermio'r tir a chadw da byw. Heddiw, mae'r fath fywyd yn swnio'n syml ac yn ansoffistigedig o'i gymharu â'n ffordd ni o fyw. Fodd bynnag, dengys tystiolaeth y beddrodau megalithig nad oedd bywyd pawb yn syml yn ystod y cyfnod hwn. At ei gilydd, mae beddrodau megalithig Cymru ar ffurf siambrau cerrig sy'n cynnwys maen capan mawr yn gorwedd ar ben nifer o feini unionsyth. Yn wreiddiol, byddai'r rhain wedi'u gorchuddio dan dwmpath o dywyrch a cherrig. Yn fynych, roedd i bob siambr flaengwrt lle arferid cynnal seremonïau. Maint y megalithau yw eu nodwedd amlycaf. I greu siambr Maen Ceti ym Mro Gŵyr bu'n rhaid codi un maen dros 4m (14tr) o hyd a 2m (7ft) o drwch. Mae maen capan enfawr Tinkinswood (Bro Morgannwg) yn pwyso 36 tunnell fetrig. Gartref i gyndadau'r gymuned Adluniad o fywyd bob dydd yng Nghymru 6,000 o flynyddoedd yn ôl, yn seiliedig ar gloddiadau ar safle Clegyr Boia (Sir Benfro). Canolbwyntiai arferion dyddiol y rhan fwyaf o'r bobl ar dyfu cnydau, hel planhigion gwyllt a bugeilio defaid a gwartheg. Mae'r ffaith yr aeth pobl Oes y Cerrig i'r fath drafferth i adeiladu eu beddrodau yn arwydd o'u pwysigrwydd i gymunedau'r cyfnod hwn. Yn orffenedig, gweithredai'r beddrod fel crypt yr oes hon a châi'r siambr ei lenwi'n raddol â chyrff y meirw gyda threiglad y blynyddoedd. Mewn gwirionedd, roedd y siambr yn gartref i gyndadau'r gymuned. Ambell un heb ei ddarganfod? Darlun o Ddyffryn Ardudwy (Gwynedd), gan David Gunning. Adeiladwyd y cofadail hwn fesul cam; y rhan gyntaf a godwyd oedd y siambr ar y chwith. Ceir beddrodau tebyg i'r rhain mewn sawl rhan o Gymru. Yn ne-ddwyrain y wlad mae grŵp pwysig ohonynt i'w gael yng nghyffiniau'r Mynyddoedd Duon yn ogystal ag enghreifftiau eraill ym Mro Morgannwg. Yn ne-orllewin Cymru ceir clystyrau ohonynt yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Ond ceir y beddrodau mwyaf trawiadol ym Môn, ardal sy'n nodedig am eu niferoedd a'u hamrywiaeth. Y beddrodau hyn yw'r ychydig sydd wedi goroesi'r gwaith o glirio'r tir i ateb gofynion byd amaeth, a'r ysbeilio a fu er sicrhau cyflenwadau o gerrig adeiladu - yn ddiau, roedd mwy o lawer yng Nghymru ar un adeg ac mae'n bosibl fod ambell un heb ei ddarganfod. Darllen Cefndir Maen Ceti, ar Benrhyn Gŵyr. Roedd gosod maen capan enfawr y siambr hon ar ben nifer o feini unionsyth llai yn un o gampau peirianyddol mawr Oes y Cerrig. The Tomb Builders: In Wales 4000-3000BC gan Steve Burrow. Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 2006. Megalithic tombs and long barrows in Britain gan F. Lynch. Shire Publications (1997).
Ewyllys Rufeinig 10 Mai 2007 Trawsfynydd yn y cyfnod Rhufeinig 'Tudalen' gyntaf ewyllys Rufeinig a ddarganfuwyd ger Trawsfynydd yn y 19g. Mae nodyn o ganol y 19g. yn nodi bod y tabled eisoes wedi'i dorri yn ei hanner. Darganfuwyd yr unig ewyllys Rufeinig i oroesi ym Mhrydain ger Trawsfynydd, Gwynedd, yn y 19eg ganrif. Mae dau lythyr a ysgrifennwyd ar y pryd yn cofnodi manylion y darganfyddiad a hanes yr ewyllys wedi hynny. Darganfuwyd yr unig ewyllys Rufeinig i oroesi ym Mhrydain ger Trawsfynydd, Gwynedd, yn y 19eg ganrif. Mae dau lythyr a ysgrifennwyd ar y pryd yn cofnodi manylion y darganfyddiad a hanes yr ewyllys wedi hynny. Yn ôl y llythyr cyntaf cafodd y 'llyfr pren', oedd yn cynnwys 10 neu 12 o dudalennau, ei ddarganfod gan weision fferm wrth iddynt ladd mawn i wneud tanwydd ar fferm Bodyfuddau, tua 5km i'r de-ddwyrain o gaer Rufeinig Tomen-y-mur. Nododd awdur y llythyr: "Gwelais i'r llyfr ychydig ddiwrnodau wedi iddo ddod i'r fei – dim ond 2 neu 3 o'r tudalennau oedd yn cynnwys arysgrifen berffaith bryd hynny – roedd wedi'i dileu yn rhannol gan ddiofalwch y gweision fferm ar y lleill. Yn ôl pob tebyg, crair oedd yn eiddo i'r Derwyddon yw'r gwaith. Mae'n bosibl iddyn nhw ddefnyddio rhyw lun ar yr wyddor Rufeinig i ysgrifennu eu hiaith eu hunain." Gwnaeth awdur y llythyr gamgymeriad wrth briodoli'r testun i'r Derwyddon, ond roedd i'w ganmol am adnabod yr elfen Rufeinig, oherwydd roedd ysgrifen redeg Rufeinig (â'r llythrennau wedi'u cysylltu wrth ei gilydd) yn anhysbys ar y pryd. Raglen deledu am y tabledi Pot inc crochenwaith, ysgrifbin haearn i ysgrifennu ar dabledi cwyrog, blwch sêl a marciwr eiddo plwm. Mae'r ail lythyr yn cofnodi rhoi un dudalen i George Carr Pearson, gŵr a chanddo swyddfeydd yn agos i Chancery Lane, Llundain, tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ôl pob tebyg. Astudiodd Pearson y tabled, ond ni ddychwelodd y gwrthrych. Ymhen amser, darganfuwyd y tabled unwaith eto wrth glirio tŷ merch Pearson, Grace, yn West Kensington ym 1991. Daeth yn eiddo i Mr Stafford Ellerman, a welodd raglen deledu am y tabledi ysgrifennu a ddarganfuwyd yng nghaer Rufeinig Vindolanda ar Fur Hadrian yn 2003. Sylweddolodd Ellerman ei fod yntau'n berchen ar dabled ysgrifennu Rhufeinig ac aeth ag ef i'r Amgueddfa Brydeinig er mwyn ei adnabod. Yna, rhoddodd y tabled, yn garedig iawn, i Amgueddfeydd Cymru. Yr ewyllys Manylyn o'r tabled yn datgelu'r ysgrifen Rufeinig sydd wedi'i chadw ar ei wyneb. Tafell hirsgwar denau o bren ffynidwydden arian yr dabled. Nid yw'r ffynidwydden arian yn un o goed brodorol Prydain. Bellach, mae'r gorchudd o gŵyr ar un ochr wedi dirywio. Byddai hyn wedi bod yn orchudd tywyll llyfn o gŵyr gwenyn a deunydd lliwio (huddygl yn ôl pob tebyg) yn wreiddiol. Byddai'r ysgrifennydd yn ysgrifennu ynddo gan ddefnyddio ei 'ysgrifbin' (offeryn metel pigfain) i ddatgelu'r pren golau oddi tano. Erbyn hyn, cafwyd hyd i ryw 300 o dabledi ysgrifbin ar safleoedd ym Mhrydain. Gyda chymorth ffotograffiaeth ofalus ac astudiaeth fanwl o'r gwreiddiol, mae'n bosibl dirnad rhyw gysgod o ysgrifen mewn sawl man. Mae'r testun wedi'i ysgrifennu mewn llythrennau bach Rhufeinig rhedol. Tudalen gyntaf ewyllys Rufeinig wedi'i hysgrifennu mewn Lladin yw'r tabled. Mae awdur yr ewyllys yn enwi etifedd i'w stad, ei wraig neu ei ferch o bosibl, ac yn rhoi'r cyfrifoldeb iddi dderbyn yr etifeddiaeth cyn pen 100 diwrnod ar ôl cael gwybod amdani. Mae'n debyg i enw'r awdur a maint y stad gael eu nodi ar y tabledi eraill sydd ar goll erbyn hyn. Mae ffurf yr ysgrifen yn debyg i honno ar dabledi eraill o Brydain sy'n dyddio o'r cyfnod OC75-125. Mae presenoldeb ewyllys Rufeinig ffurfiol ynddo'i hun yn rhyfeddod yn yr ardal anghysbell hon o Gymru. Ni allwn ond dyfalu sut cyrhaeddodd yr ardal. Ni chafwyd hyd i'r ddogfen yn y gaer neu ei ficws (anheddiad sifil cysylltiedig) fel y byddem wedi disgwyl, o bosibl. Ond, efallai fod yr ewyllys yn gysylltiedig â'r anheddiad cyfagos ar Ffridd Bod y Fyddai. Mae'n bosibl mai fferm hen filwr cynorthwyol oedd y clwstwr hwn o gytiau, milwr a brynodd dir gyda'i gynilion, neu ag arian a gafodd gan ei wraig. Efallai y gallai gwaith cloddio fwrw goleuni ar y ddamcaniaeth. O ystyried y byddai miliynau o ddinasyddion Rhufeinig yn ysgrifennu ewyllysiau ar dabledi cwyrog gyda'r bwriad o'u cadw'n ddiogel, mae'n syndod bod y tabledi mor brin; gwyddom am bedwar o'r Aifft ac yn awr yr enghraifft hon o Gymru. Darllen cefndir ‘A Roman Will from North Wales’ gan R. S. O. Tomlin. Yn Archaeologia Cambrensis, 150 (2004) tt. 143 56 Life and Letters on the Roman Frontier gan A. K. Bowman. Cyhoeddwyd gan Wasg yr Amgueddfa Brydeinig (1994).
Cwpan llewpart y Fenni 9 Mai 2007 Y cwpan llewpart. 115cm (4.5 modfedd) o uchder. Manylyn o'r glust ar ffurf llewpart, yn dangos nodweddion ei chrefftwaith cain a smotiau arian. Y cwpan llewpart yn cael ei osod yn y Microsgop Sganio Electron. Pelydr-X o'r cwpan. Microffotograff o wyneb y llewpart. Darganfuwyd un o'r llestri Rhufeinig gwychaf i'w ddarganfod yng Nghymru ger y Fenni yn 2003, gan Mr Gary Mapps. Mae crefftwaith y cwpan o safon uchel ac, yn ôl pob tebyg, fe'i cynhyrchwyd yn yr Eidal yn ystod y ganrif gyntaf OC. Cafwyd hyd i gwpanau tebyg iawn yn ninas Pompeii, a ddinistriwyd wedi ffrwydrad llosgfynydd Feswfiws yn 79 OC. Gwaith Cloddio Dangosodd gwaith cloddio Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg Gwent fod y cwpan wedi'i osod wyneb i waered mewn pydew bach oedd yn cynnwys corfflosgiad. Roedd y corfflosgiad yn rhan o fynwent ger ffordd Rufeinig, gryn bellter o'r gaer Rufeinig (Gobannium) yn y Fenni, sy'n dyddio o ganol y ganrif gyntaf hyd ddechrau'r ail ganrif. Yn ogystal, yng nghyffiniau'r fynwent hon, ceir mwy a mwy o dystiolaeth am anheddiad sifil sy'n dyddio o'r ail ganrif hyd y bedwaredd. Cwpan Pwy? Nid ydym yn gwybod a oedd y cwpan yn eiddo i aelod o'r fyddin Rufeinig oedd yn gwasanaethu neu'n rhan o'r garsiwn yn Gobannium, neu, efallai, yn eiddo i un o frodorion yr anheddiad sifil gerllaw. Pa esboniad bynnag sy'n gywir, roedd y cwpan hwn o'r ganrif gyntaf yn fewnforyn drud ac yn ôl pob tebyg roedd yn eiddo i rywun o fri. A chymaint oedd meddwl y perchennog ohono, mynnai y câi ei gladdu yn yr un bedd â'i lwch. Gwneuthuriad y Cwpan Castiwyd mewn mowld gan ddefnyddio efydd plwm. Ffurfiwyd mowld clai o amgylch model cŵyr o lewpart. Arllwyswyd efydd i'r gwagle lle fu'r cŵyr, a thorri'r mowld wedi i'r metel oeri. Llenwyd tyllau'r smotiau ar y corff gydag arian, ac mae'n bosib mai ambr oedd y llygaid. Roedd dewis llewpart yn addas iawn ar gyfer cwpan gwin, gan ei fod yn greadur pwysig ym mytholeg y Rhufeiniaid, yn gydymaith i Bacchws, duw gwin, a addolwyd drwy wledda, diota, cerddoriaeth a dawns. Darllen Cefndir Things Fall Apart: museum conservation in practice Amguedddfa Genedlaethol Cymru, 2006
Gwregys Llandoche 2 Mai 2007 Gwaith cloddio ar waith yn 1994 mewn rhan o fynwent mynachlog Dochdwy Sant. Claddiad 631, a ddarganfuwyd. Manylyn o'r gwregysau haearn oedd am ganol y gŵr yng nghladdiad 631. Y gwregysau haearn yn ystod y gwaith cadwraeth y bu tîm o Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru yn gyfrifol amdano. Ym 1994 aeth archaeolegwyr ati i ddatgladdu'r casgliad mwyaf o gladdiadau canoloesol cynnar i'w ddarganfod yng Nghymru hyd yma, yn ogystal â chofnodi tystiolaeth am arfer claddu anghyffredin. Roedd Ideal Homes Cymru Cyf. wedi rhoi contract i archaeolegwyr Cotswold Archaeology i gloddio tir a glustnodwyd ar gyfer codi tai newydd yn Llandoche (Bro Morgannwg). Gorweddai'r safle ar gyrion mynwent yr eglwys blwyf bresennol, a safai, yn ôl y sôn, ar safle mynachlog ganoloesol gynnar Dochdwy Sant. Yma, datgladdwyd dros 800 o gladdiadau yn dyddio o'r bedwaredd ganrif hyd yr unfed ganrif ar ddeg. Mae astudiaeth fanwl o'r sgerbydau gan Louise Loe (Prifysgol Bournemouth) wedi bwrw goleuni newydd ar boblogaeth Cymru yn ystod y cyfnod o dan sylw, ond roedd un bedd yn arbennig yn anarferol iawn. Gorweddai claddiad 631 yng nghanol y fynwent. Sgerbwd gŵr ifanc ydoedd, rhwng 25 a 35 oed, a rhyw 1.75m o daldra (5.75 troedfedd). Awgryma'r arbrofion dyddio radiocarbon, yn seiliedig ar ddarn o'i asgwrn, y bu farw'r gŵr rhwng OC340 a 660. Fodd bynnag, nid ei hynafiaeth oedd yn destun syndod ond yn hytrach y ddau wregys haearn a wisgai am ei ganol. Roedd deupen y ddau wregys yn sownd wrth ei gilydd y tu ôl i'w gefn. Wedi i'r pennau tapr gael eu gwthio drwy glustennau, cawsant eu morthwylio gan rywun arall, a'i gwnâi'n amhosibl i'r wisgwr eu tynnu oddi amdano heb gymorth. Mae'n amlwg nad ategolyn ffasiynol yn unig mo'r gwregys, ond pa ddiben arall oedd iddo? Yn ôl un awgrym, mae'n bosibl y câi'r gwregysau eu gwisgo fel gweithred o edifeirwch - diben nid amhriodol yng nghyd-destun cymuned fynachaidd. Gwyddys am achosion tebyg yn ystod yr Oesoedd Canol. Er enghraifft, arferai Begga, gweledydd o fynach ym mynachlog Much Wenlock (Sir Amwythig) yn gynnar yn yr wythfed ganrif, wisgo 'an iron girdle about his loins for the love of God'. Ceir tystiolaeth o blaid esboniad arall - fod y gwregysau haearn yn fath ar wregys torllengig - ar y cyfandir lle cafodd y defnydd o wregysau torllengig eu cofnodi gyntaf mewn testunau Rhufeinig. Cafwyd hyd i enghreifftiau hefyd mewn claddiadau yn dyddio o'r chweched a'r seithfed ganrif yn Ffrainc, yr Almaen, Swistir a Sbaen. Felly, pa un o'r ddau ddehongliad sy'n gywir - gwregys edifahŷwr neu wasgrwym dorllengig? Ychydig o'r ddau yw'r ateb, mae'n debyg. Yn ystod yr Oesoedd Canol cynnar arferid credu bod y gallu i oddef dioddefaint yn cynnig llwybr tua'r nefoedd. Felly, roedd goddef poen torllengig ynddo'i hunan yn rhan, o bosibl, o weithred edfeiriol y gobeithiai gwisgwr y ddau wregys hyn elwa arno yn y byd a ddaw. Darllen Cefndir 'Llandough' gan A. Thomas a N. Holbrook. Yn Current Archaeology, cyf. 146, tt73-7 (1996). 'An early-medieval girdle from burial 631', gan M. Redknap. Yn N. Holbrook a A Thomas 'An early-medieval monastic cemetary at Llandough, Glamorgan: excavations in 1994', Medieval Archaeology 49 (2005), 53-64.
Datrys dirgelwch llofruddiaeth 1,000 oed 1 Mai 2007 Cloddio'r ffos amgâu a'r sgerbydau yn Llanbedr-goch (Ynys Môn). Ar ochr chwith y llun mae cyrsiau is mur amddiffynnol yr anheddiad. Gellir gweld dau o'r sgerbydau yn gorwedd ar lefelau uwch y ffos oedd y tu allan i'r mur. Penglog claddedigaeth 5. Roedd y benglog mewn darnau pan cafwyd hyd iddi a gwnaed gwaith i'w hailadeiladu. Llun gan Ysgol Celf a Meddygaeth Prifysgol Manceinion. Wyneb claddedigaeth 5 ar ôl ei ail-greu. Llun gan Ysgol Celf a Meddygaeth Prifysgol Manceinion. Pedwar o'r pum wyneb o Lanbedr-goch wedi eu castio mewn pres. Ym 1998-9, gwnaed darganfyddiad annisgwyl ac anodd i'w ddehongli yn anheddiad canoloesol cynnar Llanbedr-goch. Darganfuwyd pum sgerbwd dynol ar lefel uchaf ffos oedd wedi cael ei llenwi, yn union y tu allan i'r mur oedd yn amddiffyn yr anheddiad. Pam fod hyn yn Ddirgelwch? Claddwyd yn ddiseremoni mewn beddi bas. Yn groes i'r arfer Gristnogol, roedd yr holl sgerbydau wedi eu gosod â'u pennau naill ai tua'r gogledd neu'r de yn hytrach na'r dwyrain Taflwyd corff un dyn (tua 25-35 oed) ar ben corff plentyn (tua 10 — 15 oed). Mae'n bosib bod breichiau'r dyn wedi cael eu clymu y tu ôl i'w gefn, ac iddo gael ei daro yn ei lygad chwith â rhywbeth miniog Roedd blociau calchfaen a rwbel llai ar dri o'r cyrff, sy'n awgrymu cwymp y wal Ymosodiad Llychlynnaidd Mae'r gwaith a wnaed i ddyddio'r sgerbydau yn awgrymu eu bod yn dyddio o ail hanner y 10fed ganrif - cyfnod pan roedd Llychlynwyr Ynys Manaw yn rheoli Gwynedd i bob pwrpas - ac mae'n bosibl y bu canolfannau Llychlynaidd ar Ynys Môn hefyd. Mae amgylchiadau'r claddu, a'r ffaith na chyfeiriwyd y cyrff yn y ffordd Gristnogol yn awgrymu hwyrach i'r unigolion hyn farw mewn cyrch ar y pentref. Mae'n debyg na fyddwn ni byth yn gwybod sut yn union y bu farw'r pump, ond mae'n bosibl eu bod wedi cael eu lladd wrth i'r Llychlynwyr chwilio am gyfoeth, ar ffurf gwystlon neu gaethweision yn yr ardal. Perthynas Genetig Mae penglogau Llanbedr-goch i gyd yn dangos nifer o nodweddion tebyg: holltau llygaid llorweddol safnau sgwâr clustiau adlynol (heb labedau) Mae rhai o'r nodweddion hyn yn awgrymu perthynas genetig rhwng yr unigolion (naill ai'n perthyn i'r un teulu neu'n dod o gronfa enynnol gyfyng). Mae'r gwaith yn parhau i astudio'r data a gasglwyd yn ystod y gwaith cloddio, wrth i ni geisio ail-greu'r anheddiad yr oedd perchnogion y sgerbydau hyn yn gyfarwydd ag ef. Yn ogystal â chyfoeth o dystiolaeth am drefn yr anheddiad gan gynnwys adeiladau, arteffactau a safonau byw safle uchel ei statws - mae e wedi darparu gweddillion y bobl oedd gynt yn byw ac yn bod yno. Darllen Cefndir Y Llychlynwyr yng Nghymru: ymchwil archaeolegol gan Mark Redknap. Cyhoeddwyd gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (2000).