Ystlumod yn Amgueddfa Lechi Cymru: Gwarchod ein preswylwyr lleiaf yn ystod y gwaith ail-ddatblygu 3 Mawrth 2026 Wrth i waith ailddatblygu ar y safle fynd yn ei flaen, mae cymuned bwysig o greaduriaid bach yn cymeryd blaenoriaeth yn ein cynlluniau - ein ystlumod bach! Gan weithio yn agos gyda'r Ecolegydd Carola Hoskins o SK Environmental Solutions Ltd, rydym wedi bod yn cadw llygaid ar yr ystlumod i gyd ar y safle a rydym yn gwarchod 10 clwyd ar y safle. Ystlumod soprano pipistrelle a pipistrelle cyffredinol yw rhain, sef dau o’r mathau lleiaf o ystlumod yn y DU. Mae 7 clwyd yn cael eu defnyddio gan ystlumod gwrywiadd, neu ystlymod benywaidd sydd ddim yn cario babi ond mae un yn arbennig iawn gan ei fod yn glwyd famolaeth sy’n cefnogi 65 ystlym yn ystod cynfod prysur yr haf.Lle Diogel i Groesawu Bywyd NewyddMae’r ystlymod yn cysgu mewn lleoliadau gwahanol ar hyn o bryd ond rydym yn digswyl iddynt ddychwelyd i'r safle tua diwedd Ebrill pan fydd 35 ystlym benywaidd yn setlo mewn i’w clwyd mamolaeth. Erbyn diwedd Mai neu dechrau Mehefin, bydd bob Mam yn rhoi genedigaeth i un cenau gan ddwblu maint y gytref dros nos! Er bod 65 ystlum yn swnio fel nifer da, mae hyn mewn gwirionedd yn gytref famolaeth fach, sy’n ei wneud yn un pwysig iawn. Addasiad Natur bendigedig"Er bod gan yr ystlumod nifer o nodweddion difyr, un o’r pethau mwyaf diddorol ydi’r ffaith ei bod yn gallu oedi beichiogrwydd." meddai Carola. "Byddant yn gwneud hyn drwy storio’r sberm o’r hydref drwy’r gaeaf oer. Mae hyn yn galluogi nhw eni yn ystod tywydd cynhesach y gwanwyn, ble mae mwy o fwyd ar gael iddynt a gwell siawns o oroesi. Dyma un o’r prif resymau pam fod yr ystlumod yn ffynnu yn y DU."Cadwraeth yn Ganolog i’n Gwaith Ail DdatblyguMae ystlumod a’u clwydi yn cael eu gwarchod yn gyfreithiol, sy’n golygu fod unrhyw waith i’r toeau neu leoliadau posib i ystlumod ymgartrefu yn gorfod digwydd dan drwydded. Mae’r gwaith hwn yn gorfod digwydd yn ystod y gaeaf, tra bod yr ystlumod yn cysgu mewn lleoliad arall. Mae Carola yn gweithio gyda’n tîm ni er mwyn cynghori a rhoi arweiniad ar y gwaith yma er mwyn sicrhau fod y mynedfaoedd dal ar agor, fod y strwythur yn ddiogel a bod y gofodau yn rhydd i’r ystlumod ddychwelyd yn y gwanwyn. Rydym yn falch iawn o warchod y mamaliaid bychain yma, sydd wedi bod yn ymgartrefu yn yr amgueddfa ers amser maith.Ariannwyd y project gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU drwy Gyngor Gwynedd fel rhan o’r prosiect Llewyrch o'r Llechi, Llywodraeth Cymru yn cynnwys Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, Sefydliad Wolfson, Sefydliad Garfield Weston ac arianwyr eraill. Rydym yn ddiolchgar iawn i’n cyllidwyr i gyd am eu cefnogaeth. Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.