Cadw Casgliad Tegeirian Cŵyr Gerddi Kew Annette Townsend, 2 Tachwedd 2011 Mae Gerddi Botaneg Brenhinol Kew yn galw ar arbenigwyr cadwraeth Amgueddfa Cymru i ofalu am gasgliad o 25 replica Tegeirian cain wedi'u gwneud o gŵyr gwenyn, sidan, weiren, plu a gwallt. Annette Townsend yn gwneud gwaith cadwraeth ar y modelau tegeirian cwyr Spathglotis lobbi Rchb.f. in W.G.Walpers & Oncidium varicosum Lindl. Modelau mewn deunydd pacio archifol Yn 2005, gofynnwyd i gadwraethwyr Amgueddfa Cymru Annette Townsend a Vicky Purewal i wneud arolwg o gasgliad o fodelau cŵyr ym meddiant Gerddi Botaneg Brenhinol Kew, Llundain. Yn y casgliad roedd 25 model tegeirian naturiol a gopïwyd o gasgliad planhigion byw Kew gan yr artist botanegol Edith Delta Blackman (1868-1947). Gwnaed o modelau o gŵyr gwenyn, sidan, weiren, plu a gwallt, gan amrywio mewn maint o grŵp bychan o flodau 10cm x 10cm, i dusw mawr bwaog dros fetr o led. Dangosodd gohebiaeth yn archif Gerddi Kew i'r modelau gael eu comisiynu ym 1893 gan y cyn Gyfarwyddwr William Thiselton-Dyer ar gost o 4 punt a 4 swllt y model. Niwed ac esgeulustod Cafodd y modelau eu harddangos yn Kew am flynyddoedd cyn cael eu storio, Doedd atmosffer cynnes, sych y stordy ddim yn ddelfrydol ac achoswyd niwed i'r modelau. Perodd y gwres i'r cwyr feddalu, pilio a hollti, gan alluogi llwch a baw i gronni dan arwyneb y modelau. Y project cadwraeth Yn ffodus, dyma ymwelydd â'r gerddi yn ffoli ar y modelau a ddifrodwyd a phenderfynu noddi gwaith cadwraeth ar yr holl gasgliad. Mae gan Annette a Vicky brofiad di-ail yn y DU ym maes cadwraeth modelau cwyr botanegol o'r fath, wedi gweithio gyda'u gilydd am flynyddoedd ar gasgliad unigryw Amgueddfa Cymru o dros 1000 o fodelau cwyr. Dyma Kew yn gofyn iddynt ymgymryd â'r gwaith. Gwaith araf a thrylwyr Gwnaed y gwaith mewn rhannau dros sawl blwyddyn. Mae gwaith cadwraeth ar fodelau cwyr yn broses araf a thrylwyr iawn ac mae'n anodd symud y gwrthrychau am eu bod mor fregus. Yn 2007, paciwyd y grŵp cyntaf o fodelau a'u cludo ar hyd yr M4 i Gaerdydd er mwyn dechrau ar y gwaith. Er mwyn canfod cyfansoddiad y cwyr, dadansoddwyd darnau bychan drwy ddefnyddio techneg Fourier Transform Infra Red (FTIR), fel y gellid dewis deunyddiau addas ar gyfer y gwaith atgyweirio. Tynnwyd ffotograffau o bob model, cyn eu dogfennu, eu glanhau a'u hadfer. I gwblhau'r broses, paciwyd pob un mewn blychau pwrpasol, a phrofwyd sadrwydd pob pecyn cyn eu cludo yn ôl i Kew. Cwblhawyd y gwaith atgyweirio olaf yn 2010 a dychwelwyd y model olaf i Kew. Ailarddangos y Tegeirianau Mae’r tegeirian i’w gweld ar hyn o bryd yn Llysieufa gerddi Kew, ac ar gael i’w gweld gan ymwelwyr. Cymbidium lowianum (Rchb. f.) Rchb. f. Model wedi'i bacio mewn blwch pwrpasol Caularthron bicornutum (Hook.) Raf. Rhan o'r model cyn y gwaith cadwraeth. Vanda coerulea Griff. ex Lindl. Modelau cyn gwaith cadwraeth. Vanda coerulea Griff. ex Lindl. Modelau wedi'r gwaith cadwraeth. Vanda coerulea Griff. ex Lindl. Golwg fanylach ar ddail wedi'u difrodi cyn y gwaith cadwraeth. Bulbophyllum grandiflorum Blume. Deilen yn dangos lle mae llwch wedi cael ei waredu Cysylltiadau Gerddi Botaneg Brenhinol, Kew
Palazzo Loredan dell'Ambasciatore ar y Gamlas Fawr yn Fenis gan Francsesco Guardi Anne Pritchard, 6 Medi 2011 Delwedd wedi'i hadfer yn rhannol o Golygfa o'r Palazzo Loredan dell'Ambasciatore ar y Gamlas Fawr yn Fenis Mae golau uwch-fioled yn dangos gwaith adfer blaenorol Mae'r paentiad bychan hwn gan Francesco Guardi yn dangos llysgenhadaeth yr Ymerodraeth Lân Rufeinig yn Fenis mewn manyldeb rhagorol. Saif yr adeilad yng nghanol prysurdeb bywyd bob dydd y Gamlas Fawr. Mae dillad yn sychu ar falconïau, cychod gondolïwyr yn pasio wrth eu gwaith a diplomyddion yn eu gwisgoedd drudfawr yn syllu o'u ffenestri neu'n cerdded ar y cei. Yng nghanol y môr o ffigyrau gwelwn fonheddwr mewn gwisg las — y llysgennad ei hun mwy na thebyg — yn sefyll ger mynedfa'r palazzo yn dal teyrnwialen aur. Uwch ei ben, gwelwn arfbais y gyfundrefn bwerus fu'n rheoli rhannau helaeth o ganolbarth Ewrop am ganrifoedd. Mae Guardi yn enwog fel un o beintwyr tirluniau Fenisaidd mwyaf y ddeunawfed ganrif; fe'u gelwid yn beintwyr veduta. Roedd ei weithiau yn hynod boblogaidd a cawsant ddylanwad ar artistiaid a chasglwyr Prydeinig a ymwelodd â Fenis yn ystod y Daith Fawr. Mae'r gwaith hwn yn esiampl dda o'i dechneg aeddfed ac yn cyfuno'r manyldeb cywrain a feistrolodd dan ddylanwad Canaletto â gwaith brws cynyddol fynegiannol, atmosffer a golau. Datgelodd gwaith glanhau gan gadwraethwyr yr Amgueddfa lewych syfrdanol yr effeithiau gwreiddiol yma. Pan ddaeth y paentiad hwn i feddiant yr Amgueddfa'n wreiddiol, doedd effaith y dechneg ryfeddol ddim yn gyflawn. Roedd yr haen uchaf o farnais a orchuddiai'r paentiad wedi afliwio'n ddrwg, gan droi'n frown dros amser. Drwy edrych ar y llun dan olau uwch-fioled, gwelwyd hefyd bod gwaith adfer gormodol wedi cael ei wneud ar yr awyr. Glanhaodd cadwraethwr yr Amgueddfa arwyneb y paent gan dynnu'r hen farnais a gwaith adfer blaenorol. Gwelwyd taw darnau bychan o bigment oedd y gronynnau du pitw yn y paent, yn hytrach na baw fel y tybid cyn hyn. Byddai'r artist wedi cymysgu ei baent ei hun a gellir gweld gronynnau tebyg mewn gweithiau eraill gan Guardi. Gyda llewych gwreiddiol gwaith Guardi bellach yn amlwg, cafodd y paentiad ei ail-farneisio a'i arddangos. Cyn ac wedi glanhau Mae cadwraethwyr yr Amgueddfa wedi bod wrthi'n brysur yn glanhau'r gwaith, dyma lun o'r gwaith cyn ac ar ôl cael ei adfer: Golygfa o'r Palazzo Loredan dell'Ambasciatore ar y Gamlas Fawr yn Fenis [cyn glanhau] Golygfa o'r Palazzo Loredan dell'Ambasciatore ar y Gamlas Fawr yn Fenis [wedi glanhau]
Casgliad Ymddiriedolaeth Derek Williams 6 Mai 2011 NMW A(L) 606 Ceri Richards The Pianist 1949 Pencil, indian ink and watercolour 38.2 x 56.2 cms On loan from the Derek Williams Trust since 1984 © Estate of Ceri Richards. All rights reserved, DACS 2010 NMW A(L) 561 Josef Herman Three Welsh Miners About 1966 Oil on canvas 66 x 51 cms On loan from the Derek Williams Trust since 1984 Copyright of Artist's Estate NMW A(L) 577 Ben Nicholson 1944-45 (Painting) 1944-45 pencil and watercolour on board 17.2 x 16.8 cms On loan from the Derek Williams Trust since 1984 © Angela Verren Taunt 2010. All rights reserved, DACS. Derek Mathias Tudor Williams F.R.I.C.S. (1929-1984) yw cymwynaswr mwyaf Amgueddfa Cymru ers Gwendoline a Margaret Davies. Dyn diymhongar, preifat oedd Derek Williams, a weithiai fel syrfëwr siartredig yng Nghaerdydd a Phontypridd. Mwynhâi lawer o weithgareddau hamdden, gan gynnwys golff, opera, ffotograffiaeth, ond yn fwy na dim, casglu celfyddyd gyfoes oedd yn mynd â’i fryd. Cafodd foddhad aruthrol yn datblygu ei gasgliad a'i arddangos yn ei gartrefi niferus. Mae'r casgliad yn cynnwys nifer fawr o weithiau gan arlunwyr neo-ramantaidd Prydeinig, gan gynnwys Ceri Richards, John Piper, David Jones a Keith Vaughan. I gefnogi'r rhain, ceir gweithiau gan arlunwyr eraill o'r un cyfnod, megis Lucian Freud, Josef Herman, Ivon Hitchens, Graham Sutherland, Ben Nicholson a Henry Moore. Bu farw Derek Williams yn 1984, a galwai ei ewyllys am i'w gasgliad a gweddill ei ystâd gael eu cadw mewn ymddiriedolaeth, gan adael i'w ymddiriedolwyr ofalu am y gweithiau celf a'u harddangos yn gyhoeddus, ynghyd â chyfrannu at y gwaith o ehangu'r casgliad. Ffurfiwyd Ymddiriedolaeth Derek Williams gan ei ysgutorion ym 1992, a lluniwyd cytundeb ffurfiol rhyngddynt a'r Amgueddfa yn y flwyddyn ganlynol i gydweithio er mwyn cyflawni dymuniadau Derek Williams. Ers hynny, bu casgliad yr Ymddiriedolaeth ar fenthyg hirdymor i'r Amgueddfa ac ychwanegwyd dros hanner cant o weithiau gyda mwy'n parhau i gael eu prynu bob blwyddyn. Nifer o luniau gan arlunwyr blaenllaw'r 1970au, 80au a'r 90au, gan gynnwys Michael Craig-Martin, Craigie Aitchison, Sean Scully a Howard Hodgkin yw nifer dda o'r ychwanegiadau newydd. Caiff casgliad gwreiddiol Derek Williams ei ymestyn a'i gryfhau o hyd drwy brynu gweithiau pwysig gan arlunwyr canol yr ugeinfed ganrif, yn eu plith Ceri Richards, Henry Moore, John Minton ac Edward Burra. Dangoswyd diddordeb mewn celfyddyd gyfoes ryngwladol drwy brynu gweithiau'n gyson gan arlunwyr y gwelir eu gwaith yn Artes Mundi. Nid yw Ymddiriedolaeth Derek Williams yn anghofio'r celfyddydau cymhwysol ac mae ganddi ddiddordeb byw yn y maes hwn. Prynodd unarddeg o weithiau celfyddyd gymhwysol dros yr un mlynedd ar bymtheg ddiwethaf, a chynorthwyodd yr Amgueddfa i brynu nifer o ddarnau celf, yn enwedig ym maes cerameg. Hefyd, mae gan yr Ymddiriedolaeth ddiddordeb mewn gwaith gan arlunwyr cyfoes Cymreig ac arlunwyr sy'n gweithio yng Nghymru, gan gynnwys prynu gwaith gan enillwyr Medal Aur yr Eisteddfod. Mae haelioni a chefnogaeth mawr Ymddiriedolaeth Derek Williams wedi arwain at alluogi yr Amgueddfa i brynu sawl darn o gelfyddyd ôl-1900 i'w chasgliad celfyddyd fodern, yn cynnwys David Hockney, Stanley Spencer a Pablo Picasso.
Pysgod Morol Egsotig — tystiolaeth o gynnydd yn nhymheredd y môr o amgylch Cymru? Graham Oliver, 16 Mawrth 2011 Teircwtiad yr Iwerydd (Lobotes surinamensis) a ddaliwyd ger Peterstone, i'r dwyrain o Gaerdydd. Y pysgodyn gwreiddiol wedi'i gadw mewn gwirod. Paratoi model o Deircwtiad yr Iwerydd mewn labordy yn Amgueddfa Cymru. Y model gorffenedig o Deircwtiad yr Iwerydd. Yn y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi clywed adroddiadau gan bysgotwyr ac aelodau o'r cyhoedd o bob cwr o'n glannau am ddaliadau anghyffredin a physgod morol wedi'u gadael — pysgod fyddai'n byw mewn dyfroedd tipyn cynhesach, trofannol. A yw hyn yn dystiolaeth bellach o gynnydd yn nhymheredd y môr o amgylch glannau Cymru? Mae'r sbesimenau yma yn cael eu cludo i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i gael eu henwi, cyn cael eu hymgorffori i'r casgliadau cenedlaethol. Er mwyn arddangos eu lliwiau naturiol, mae castiau wedi'u peintio yn cael eu creu a'u harddangos ochr yn ochr â'r pysgod eu hunain sy'n cael eu cadw mewn hylif. Gweld y Teircwtiad trofannol ym moroedd y DU am y tro cyntaf Yn 2006, daliwyd Teircwtiad yr Iwerydd (Lobotes surinamensis) yn rhwyd pysgotwr ym Môr Hafren, ger Peterstone, i'r dwyrain o Gaerdydd. Gan nad oedd y pysgotwr yn adnabod y sbesimen oedd yn 60cm o hyd, daeth ag ef i'r Amgueddfa i'w enwi. Mae Teircwtiaid i'w gweld fel arfer mewn dyfroedd trofannol ac isdrofannol, a dyma'r cofnod cyntaf ohono yn nyfroedd y DU. Rydyn ni'n gwybod bod y pysgod yma yn hoff o aberoedd mwdlyd, sy'n esbonio i raddau pam ei fod wedi cyrraedd Môr Hafren. Mae nhw'n lled ymfudol ac i'w gweld yn aml gyda sbwriel sy'n arnofio, ac mae'n bosibl ei fod wedi teithio yma yn nyfroedd cynnes Llif y Gwlff. Jacs, Cleddbysgod a Chrwbanod Cefn Lledr Cafwyd daliad egsotig arall wrth geg Aberdaugleddau yn Awst 2007, pan ddaliwyd Jac ifanc. Mae'n anodd adnabod Jacs ifanc ac roedd yn rhaid tynnu delwedd pelydr X i gadarnhau taw dyma'r cofnod cyntaf o Jac Almaco yng Nghymru (Seriola rivoliana). Mae'r rhywogaeth hon i'w gweld fel arfer yn nyfroedd cynnes y Caribî, ond rhwng Gorffennaf a Medi 2007 gwelwyd chwech ar arfordir de a gorllewin Prydain, gan ddyblu nifer y cofnodion ers y cyntaf ym 1984. Yna yn 2008 darganfuwyd Cleddbysgodyn (Xiphias gladius) marw 2.2 metr o hyd ar draeth ger y Barri yn ne Cymru. Er nad oedd hyn yn record newydd, prin y caiff y rhywogaeth gefnforol hon ei dal yn nyfroedd Cymru. Mae'n ymddangos bod yr adroddiadau yma am bysgod dyfroedd cynnes yn dystiolaeth bellach o gynnydd yn nhymheredd y môr. Mae'r canfyddiadau yn cyd-fynd â chynydd yn niferoedd crwbanod ym Môr Iwerddon, yn enwedig Crwbanod Cefn Lledr. Nid yw canfod y rhywogaethau morol egsotig yma'n beth newydd fodd bynnag, ac mae Llif y Gwlff wedi dod ag anifeiliaid dŵr cynhesach i'n harfordiroedd yn gyson. Canfuwyd dwy rywogaeth o longbryfed (Bankia gouldi a Uperotus lieberkindii) mewn pren a ddaeth i'r lan ar Benrhyn Llŷn yng ngogledd Cymru. Mae'r rhain yn rhywogaethau tymheredd cynnes a trofannol, a does dim cofnod ohonynt yn y DU cyn hyn. Mae canfod rhywogaethau mor egsotig ar arfordir Prydain, neu eu canfod yn fwy cyson beth bynnag, yn adlewyrchu newid gwirioneddol yn eu hamrediad daearyddol. Mae cofnodi rhywogaethau morol yn hanfodol i'n dealltwriaeth o newidiadau o'r fath, ac mae pysgotwyr a'r cyhoedd yn chwarae rôl bwysig yn hyn — rydyn ni'n croesawu eu cymorth ac yn edrych ymlaen at y creadur rhyfedd nesaf i lanio ar ein desg ymholiadau. Sbesimen Jac Almaco ifanc (Seriola rivoliana) a ddaliwyd yn Aberdaugleddau. Delwedd pelydr X o'r Jac Almaco ifanc a ddefnyddiwyd i'w enwi. Y Cleddbysgodyn (Xiphias gladius) marw a ganfuwyd ar draeth y Barri. Sylwch ar y niwed i ystlys y pysgodyn, a achoswyd wedi iddo farw mwy na thebyg. Baedd Môr (Capros aper) a ganfuwyd oddi ar arfordir Cymru. Er nad yw'n bysgodyn prin, anaml y caiff ei weld ac mae'n byw mewn dyfroedd dyfnion gan amlaf.
Hen foddion: Casgliad Materia Medica Amgueddfa Cymru Victoria Purewal, 22 Hydref 2010 Rhai esiamplau o'r casgliad materia medica, wedi'u storio mewn poteli gwydr. Mae pob budd neu foddion meddygol bron yn dod o fyd natur. Cafodd un o'r clefydau dynol mwyaf marwol, malaria, ei drin am y tro cyntaf gydag echdynnyn o goeden yn Ne America. Mae gan Amgueddfa Cymru gasgliad anhygoel o ddeunyddiau a ddefnyddiwyd mewn moddion dros y canrifoedd. Mae Amgueddfa Cymru wedi derbyn casgliad o 469 sbesimen materia medica, rhodd yn 2007 gan yr Athro T. Turner OBE, cyn ddarlithydd yn Ysgol Fferylleg Cymru, Prifysgol Caerdydd. Mae'n cynnwys deunyddiau o blanhigion ac anifeiliaid, megis resin a chwyr, a ddefnyddid yn eu ffurf grai i greu cyffuriau meddygol traddodiadol. Bydd y casgliad o gymorth i ymwelwyr a myfyrwyr sydd am ddysgu mwy am y deunyddiau crai a welir mewn moddion hanesyddol. Byw neu Farw Gall maint y cynhwysyn actif ym mhob sbesimen amrywio, ond dyma'r gwahaniaeth rhwng byw neu farw yn aml. Cai'r cyfansoddion cemegol actif megis alcaloidau, glycosidau neu dannin eu rhyddhau drwy ddistyllu, mwydo neu gnoi y deunydd er enghraifft. Erbyn heddiw, mae nifer o'r cyfansoddion hyn wedi eu hadnabod a'u hynysu ac maent bellach yn cael eu defnyddio yn eu ffurf bur mewn fferylleg fodern. Cnau Kola, cynhwysyn gwreiddiol Coca Cola meddyginiaethol 1886. Cnau Kola a dail Coca Dyfeisiwyd Coca Cola gan John Pemberton, yn wreiddiol fel moddion patent fyddai'n gweithio fel tonig ac yn gymorth i setlo'r stumog. Dail coca a chnau kola oedd y cyfansoddion. Mae cnau Kola yn uchel mewn caffein, ac er bod cynhwysion eraill yn cael eu defnyddio heddiw, mae caffein yn parhau yn gynhwysyn pwysig mewn Coca Cola. Cai cneuen Kola Gorllewin Affrica (Cola acuminata) ei chnoi neu ei berwi mewn te ysgogol. Byddai'r ddeilen Coca (Erythroxylum coca), oedd yn hanu'n wreiddiol o ucheldir mynyddoedd yr Andes yn Ne America, yn cael ei chnoi hefyd i leihau teimladau llwglyd neu flinder, ac i wella traul. Credir i'r Asteciaid roi dail coca i'w caethweision i'w helpu i symud cerrig anferth er mwyn adeiladu eu pyramidiau. Defnyddir dail coca gan bobl Periw hyd heddiw i wrthsefyll salwch uchder. Rhisgl Cinchona o Drofannau de America, yn cynnwys cwinin gwrth-falaria. Rhisgl coed i drin malaria Defnyddiwyd rhai rhisglau at ddibenion meddyginiaethol. Ym Mhrydain, mae'n debyg taw'r mwyaf cyfarwydd yw rhisgl helyg (Salix alba), ffynhonnell asbirin. Mae dail yr helygen hyd yn oed wedi bod o gymorth i ladd poen — roedd Hippocrates yn argymell eu defnyddio yn y flwyddyn 5CC. Gellir dadlau taw gan risgl y goeden Cinchona mae'r budd mwyaf i ddynolryw fodd bynnag. Mae'r Cinchona yn genws o tua 25 rhywogaeth a welir yn Ne America. Mae'r rhisgl yn ffynhonnell sawl alcaloid, a'r mwyaf cyfarwydd yw'r cyfansoddyn gwrth-falaria a gwrth-dwymyn, cwinin. Mae'r cyfansoddion yma'n amharu ar barasitiaid protosoaidd genws Plasmoidium, sy'n achosi malaria. Ffa Calabar, o Calabar yn ne-orllewin Nigeria. Ffa Ffawd: Yr euog sy'n marw, a'r dieuog yn chwydu Daw'r enw Ffa Calabar (Physostigma venosum) o ardal Calabar yn ne-ddwyrain Nigeria, lle caiff ei ddefnyddio mewn diheurbrawf, yn enwedig mewn achosion o brofi gwrachod — a dyna lle daw ei enw arall Ordeal Bean. Cai'r ffeuen ei malu'n fan a'i rhoi i'r diffynnydd mewn diod. Tybid y byddai rhywun euog yn llymeitian y gymysgedd yn nerfus, fyddai'n achosi marwolaeth sicr. Byddai person dieuog yn llyncu'r ddiod i gyd ar ei phen, fyddai'n ormod i'r stumog, a byddai'n chwydu'r gwenwyn allan yn gyflym. Cymrwyd marwolaeth felly fel arwydd o euogrwydd a chwydu fel arwydd eich bod yn ddieuog. Canfuwyd ei phriodweddau meddyginiaethol ym 1885 ac mae'n sylfaen i'r cyffur pwysig physostigmine, a ddefnyddir i drin rheolaeth wael o'r bledren, glaucoma a diffyg traul. Gwelir Chwilod Chwysigen ym mhob math o lefydd megis de Ewrop, Canolbarth Asia a Siberia. Chwilod Chwysigen Gelwir y chwilod yma yn Cantharides neu Chwilod Chwysigen (Lytta vesicatoria). Drwy wasgu corff y chwilen rhyddheir y cemegyn cantharidin, sy'n ysgogiad ymosodol i groen mamaliaid ac organau mewnol. Canfuwyd ei fod yn gweithio fel affrodisiad drwy achosi llid neu ysgogi'r llwybr wrinol. Mae wedi cael ei ddefnyddio'n llwyddiannus i annog gwartheg i gyplu hyd yn oed. Heddiw, fe'i defnyddir mewn dos fach i drin llid y bledren a phoenau eraill y bledren. Gellid ei ddefnyddio hefyd i drin hylif sy'n cronni yn y corff (oedema), yn enwedig yn dilyn y dwymyn goch, camau olaf diabetes a chlefydau'r ymennydd a madruddyn y cefn. Gall fod yn angheuol fodd bynnag, gan achosi llid ffyrnig ar y sustem draul, yn enwedig yr arennau, y bledren a'r llwybr wrinol. Gall ymosod ar yr ymennydd hefyd gan achosi iddo deimlo fel petai'n berwi, gan achosi gwallgofrwydd llym a marwolaeth os na chaiff ei drin mewn da bryd. Y nytmeg, credir ei fod yn edrych fel ein hymennydd. Nytmeg Os oedd planhigyn yr un siâp neu ffurf â rhan o'r corff dynol, arferid credu bod y planhigyn hwnnw yn gwella'r rhan honno o'r corff. Gan fod y nytmeg cyffredin (Myristica fragrans) yn edrych fel ymennydd dynol ar adegau, mae wedi bod yn gysylltiedig â phwerau'r ymennydd a'r meddwl. Derbyniwyd hyn drwy lên gwerin hefyd gan fod gan nytmeg gyfansoddion psychoactif. Mae nytmeg yn cynnwys yr alcaloid myristicin sy'n narcotig a gwenwynig, a gall dos fawr achosi rhithwelediadau, cyfog, chwydu a chwymp cylchredol o fewn 6 awr; gall dos anferth fod yn angheuol. Mae Nytmeg yn had sy'n endemig i Banda, ynys fwyaf Ynysoedd Sbeis Indonesia. Roedd galw mawr amdano oherwydd ei nodweddion meddygol (credwyd ei fod yn cadw'r pla draw), ac fel arwydd o gyfoeth a golud; byddai person â llond llaw o nytmeg yn y 1600au hwyr yn medru byw yn braf am weddill eu dyddiau. Lladdwyd 6,000 o drigolion Banda yn y rhyfeloedd gwaedlyd dros reolaeth y planhigfeydd nytmeg. Thwng y 17eg ganrif a chanol yr 20fed ganrif, roedd yr Ynysoedd Sbeis yn gyfan gwbl yn nwylo'r Iseldiroedd. Cadwent bris y sbeis yn uchel yn fwriadol weithiau drwy losgi eu storfeydd nytmeg yn ulw. Ymladdodd Prydain yn galed dros Run, un o'r ynysoedd Sbeis lleiaf, arweiniodd at i'r Iseldiroedd roi Ynys Manhattan i Brydain yn gyfnewid. Ystyrid nytmeg yn feddyginiaeth ddefnyddiol mewn sawl cymdeithas Asiaidd. Cafodd ei ddefnyddio i drin problemau traul ac fel affrodisiad; honnir ei fod yn gwella asthma ac yn helpu'r galon, ac fe'i defnyddir hyd heddiw fel lleddfolyn. Coeden Anis Siapaneaidd, sy'n edrych yn debyg i'r sbeis coginiol Coeden Anis Tsieineaidd. Coeden Anis Mae dau fath o Goeden Anis: defnyddir y sbeis Tsieineaidd yn aml (Illicium verum) tra mai Coeden Anis Siapaneaidd (Illicium anisatum) yw'r llall. Mae'n anodd gwahaniaethu rhyngddynt wedi iddynt gael eu sychu, ond mae un yn iawn i'w fwyta tra bo'r llall yn wenwynig. Yr unig ffordd i wahaniaethu'n bendant rhwng y ddau yw drwy gynnal arbrawf cemegol neu astudio siâp eu crisialau ocsalad. Mae'r coed yn edrych yn debyg hefyd, felly mae'n hawdd gweld sut y cafodd y ddau sbeis eu cymysgu a'u gwerthu fel bwyd yn y gorffennol. Mae sawl cyfansoddyn actif mewn coed anis Siapaneaidd sy'n medru achosi llid i'r arennau, y llwybr wrinol a'r organau traul. Mae pobl wedi mynd i'r ysbyty yn arddangos symptomau niwrolegol wedi cael dos ormodol o goeden anis Siapaneaidd neu ddos llai o gynhyrchion wedi'u difwyno gan y ffrwyth. Ceir adroddiadau am achosion o salwch, yn cynnwys effeithiau niwrolegol difrifol megis ffitiau, wedi defnyddio te coeden anis, a hyn o bosib am fod y rhywogaethau Siapaneaidd a Tsieineaidd wedi'u cymysgu. Defnyddir y Goeden Anis Siapaneaidd yn feddygol i godi gwynt, i leddfu dannoedd ac i symbylu'r arennau a hybu wrineiddio. Mae gan y dail a'r hadau hefyd nodweddion gwrth-facteria. Mae sach gastor Afanc Gogledd America (Castor Canadensis) aeddfed. Sach gastor afanc Sach gastor Afanc Gogledd America (Castor Canadensis) aeddfed yw'r eitem anarferol hon. Caiff ei hadnabod hefyd fel Ffibr Castor ac mae'n debyg i chwarren anws ci. Mae'r sach gastor yn dal sylwedd melynaidd o'r enw castoreum, a ddefnyddir gan yr afanc, ynghyd â'i droeth, i farcio'i diriogaeth. Mae pâr o sachau castor gan y gwryw a'r benyw a gedwir mewn gofod o dan y croen rhwng y pelfis a bôn y gynffon. Yn draddodiadol, defnyddiwyd castoreum i drin hysteria a phoenau mislifol, a bu'n llwyddiannus wrth drin clefyd y galon. Fe'i defnyddir heddiw i ddal afancod, fel lliw mewn persawrau a hyd yn oed fel affrodisiad. Defnyddir symiau bach o gastoreum hefyd i wella blas ac arogl sigarennau. Gobeithiwn y caiff casgliad materia medica Amgueddfa Cymru ei ymestyn yn y dyfodol ac y caiff bas data o'r cynnwys ei gwblhau a'i gyhoeddi ar ein gwefan. Mae'r casgliad ar agor i'r cyhoedd, ond drwy apwyntiad yn unig. Cysylltwch ar (029) 2057 3224 neu (029) 2057 3119 cyn ymweld.