Dysgu ar y Lleuad Heather Jackson, 14 Mai 2026 Wrth i'r tîm technegol straffaglu gyda'r rigin wrth hongian Museum of the Moon gan Luke Jerram, roeddwn i'n taclo her wahanol: sut i greu gweithdai am y Lleuad fyddai'n ysbrydoli, yn cysylltu â'r casgliadau, ac yn apelio at ddisgyblion ar ôl i'r gosodwaith adael yr Amgueddfa.Dyma fi'n dechrau drwy droi at yr arbenigwyr – y gynulleidfa! Roedd Clwb Seryddiaeth Ysgol Stanwell yn allweddol wrth ddatblygu'r gweithdai. Yn ein sesiwn gyntaf dyma fi'n cyflwyno'r holl wrthrychau allen ni eu defnyddio ac fe wnaethon nhw bleidleisio dros y rhai mwyaf diddorol. Yn y sesiwn adborth nesaf dyma nhw'n datblygu cwestiynau oedden nhw am i'r gweithdy eu hateb, ac roedd hi'n amlwg byddai ffotograffau go iawn o alldaith Apollo 12 (wnaeth gasglu'r Garreg Leuad sydd yn oriel Esblygiad Cymru) yn fan cychwyn perffaith. Gyda help Dan Cox, y curaduron Hanes Natur, ac archif NASA dyma fi'n canfod lluniau o'r astronot Alan Bean yn cerdded ar y Lleuad. Fe wnaeth gasglu'r union Garreg Leuad sydd i'w gweld yn oriel Esblygiad Cymru. Ffotograffau o'r gofodwr Apollo 12, Alan Bean, yn casglu samplau o greigiau lleuad, o NASA, a'r Graig Lleuad ar ddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd Mae gan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gasgliad gwych o gerrig a meteorynnau, a dewisodd rhai o'r disgyblion y llwch lleuad replica a'r meteorynnau haearn fel eu hoff wrthrychau. Er mwyn rhoi mwy o flas o'r tirlun dyma fi'n ychwanegu samplau o ddwy garreg sydd i'w canfod ar y Lleuad – basalt olifin a charreg anghyffredin o'r enw anorthosit. Er bod y sampl anorthosit yn y gweithdy o Norwy, cafodd yr un garreg ei chanfod gan alldeithiau Apollo yn ucheldiroedd y Lleuad (y darnau mwy golau ar yr wyneb).Helpodd dau athro uwchradd i ddatblygu naratif ar gyfer y gweithdy, a dyma ni'n gwahodd Clwb Seryddiaeth Stanwell nol i brofi'r gweithgareddau. Profi'r gweithdy gyda Chlwb Seryddiaeth Ysgol Stanwell Roedd hi'n bleser gweld brwdfrydedd y disgyblion dros ein mapiau manwl ni o graterau'r Lleuad. Fe atgynhyrchodd Robin Maggs o'r adran ffotograffiaeth fapiau replica safon uchel o graterau'r lleuad o'r 1970au, er mwyn i'r disgyblion wneud mesuriadau eu hunain a dysgu am ein casgliad mapiau.Dyma ni'n mireinio'r sesiynau gyda help Tim Curtis, Arweinydd Rhifedd yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, a’i ddisgyblion yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, ac rydyn ni'n gobeithio bydd plant yn eu mwynhau nhw am flynyddoedd i ddod.Mae'r gweithdy'n brofiad triw iawn – gall y disgyblion astudio ffotograffau o alldeithiau Apollo, mapiau o'r cyfnod, a samplau o'n casgliadau sydd mor debyg i gerrig o'r lleuad, dim ond daearegydd all ddweud y gwahaniaeth. Profiad go iawn, gyda sbesimenau go iawn, a chanlyniadau gwyddonol go iawn. Disgyblion o Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd yn cymryd rhan yng ngweithdy'r Lleuad, Mapiau a Meteorynnau Dewch o hyd i mwy o wybodaeth am y gweithdy Lleuad, Mapiau a Meteorynnau ar ein tudalennau Addysg Heather Jackson Swyddog Addysg, Cyfranogiad a Dehongli Cysylltwch â Heather Jackson Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.