Gosod sylfeini: Sefydliadau Gweithwyr 10 Chwefror 2010 Sefydliadau Gweithwyr Institiwt y Gweithwyr, Blaenafon, ar ddechrau'r 20fed ganrif Rhwng y 1880au a'r 1930au, codwyd nifer o Sefydliadau Gweithwyr yn nhrefi a phentrefi diwydiannol de a gogledd-ddwyrain Cymru. Eu diben oedd cynnig cyfleusterau addysgiadol a hamdden i'r gweithwyr a'u teuluoedd. Fel arfer byddent yn cynnwys llyfrgelloedd ac ystafelloedd darllen, lle byddai modd mwynhau'r papurau dyddiol. Gallent hefyd gynnwys ystafelloedd gemau (roedd snwcer, biliards a dominos yn arbennig o boblogaidd) yn ogystal â theatrau a sinemâu. Cynhelid darlithoedd cyhoeddus, ralïau gwleidyddol, cyngherddau, dawnsfeydd ac eisteddfodau yno. Roeddent hefyd yn fannau cyfleus i grwpiau a chymdeithasau i gyfarfod ac i fandiau lleol i ymarfer a pherfformio. Roedd rhai o'r adeiladau hyn gymaint â phedwar neu bum llawr o ran uchder ac roedd ganddynt byllau nofio, hyd yn oed! Oakdale Ystafell Ddarllen Institiwt Oakdale, tua 1946 Roedd Sefydliad y Gweithwyr yn Oakdale yn gwasanaethu'r gymuned o amgylch Glofa Oakdale yn Sir Fynwy. Suddwyd y siafft gyntaf yn y rhan hon o Gwm Sirhywi — a fu hyd hynny’n gymharol ddilychwyn — ym 1906, a suddwyd ail siafft — y Waterloo — bedair blynedd yn ddiweddarach. Gwelwyd bod y gwythiennau glo yn ardderchog o ran safon y glo yn ogystal â thrwch y gwythiennau. Darparwyd llety i'r gweithwyr a'u teuluoedd mewn 'pentref model' pwrpasol o'r enw Oakdale. Gosod sylfeini Canolbwynt y pentref oedd Sefydliad y Gweithwyr. Dechreuwyd adeiladu hwn ym 1917, ac ar 3 Gorffennaf cynhaliwyd seremoni i osod dwy garreg sylfaen. Cyflwynwyd tryweli engrafiedig i'r ddau ŵr blaenllaw, sef Harry Blount, ar ran y gweithwyr, ac Alfred S. Tallis, Rheolwr-gyfarwyddwr Cwmni Haearn a Glo Tredegar a oedd yn berchen ar bwll Oakdale. Cwblhawyd yr adeilad y flwyddyn ganlynol ac mae'n debyg y byddid wedi cynnal seremoni bryd hynny, hefyd, gan osod carreg gopa i nodi bod y gwaith adeiladu wedi dod i ben. Agorwyd yr adeilad yn swyddogol ar 10 Medi 1917, a chyflwynwyd allwedd arbennig i A. S. Tallis yn arwydd o werthfawrogiad y pwyllgor adeiladu am gael benthyg £10,000 gan y cwmni at gost codi'r adeilad. Bywyd newydd yn Sain Ffagan Rhoddwyd Sefydliad Gweithwyr Oakdale i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ym 1987 a chafodd ei ddatgymalu ddwy flynedd yn ddiweddarach. Ailgodwyd ef a'i adfer i'w gyflwr ar ddiwedd y 1930au a'i agor i'r cyhoedd ym 1995. Cyflwynwyd y ddau drywel a ddefnyddiwyd yn y seremoni i osod y garreg sylfaen i'r Amgueddfa yn y misoedd cyn yr agoriad gan berthnasau'r derbynwyr gwreiddiol. Roedd un trywel wedi teithio cyn belled ag Ynys Wyth, a'r llall yn Abertawe. Agorwyd yr adeilad yn swyddogol gan y Gwir Anrhydeddus Neil Kinnock. (Ar y pryd roedd yn Gomisiynydd Trafnidiaeth yr Undeb Ewropeaidd, ond cyn hynny ef oedd arweinydd y Blaid Lafur a'r AS dros etholaeth Bedwellte, yr oedd Oakdale yn rhan ohoni.) Rai dyddiau cyn yr agoriad cyflwynwyd yr allwedd engrafiedig a roddwyd i Gwmni Haearn a Glo Tredegar i'r Amgueddfa hefyd. The 'Stute Animeiddiad gan y cwmni Cinetig ar y cyd â disgyblion o ddwy ysgol yn Ne Cymru. Mae'n dathlu rôl hollbwysig Institiwt y Gweithwyr Oakdale ym mywyd y gymuned lofaol honno. Mae'n tynnu ar dystiolaeth lafar o archifau Sain Ffagan. Animeiddiad gan y cwmni Cinetig ar y cyd â disgyblion o ddwy ysgol yn Ne Cymru. Mae'n dathlu rôl hollbwysig Institiwt y Gweithwyr Oakdale ym mywyd y gymuned lofaol honno. Mae'n tynnu ar dystiolaeth lafar o archifau Sain Ffagan.
Astudiaethau castell yng Nghymru (a'r tu hwnt) John R. Kenyon, 1 Ebrill 2009 Castell Cas-gwent © Cadw, Llywodraeth Cynulliad Cymru (Hawlfraint y Goron) Giatiau pren yn Castell Cas-gwen, wedi'u dyddio i'r 1190au. Mae hyn yn meddwl mai nhw mwy na thebyg yw'r drysau castell hynaf yn Ewrop. © Cadw, Llywodraeth Cynulliad Cymru (Hawlfraint y Goron) Castell Dolforwyn o'r awyr. © Cadw, Llywodraeth Cynulliad Cymru (Hawlfraint y Goron) Castell Dolforwyn. © Cadw, Llywodraeth Cynulliad Cymru (Hawlfraint y Goron) Castell Dolwyddelan. © Cadw, Llywodraeth Cynulliad Cymru (Hawlfraint y Goron) Roedd datblygu astudiaethau canoloesol yn wedd arwyddocaol ar archeoleg yn dilyn yr Ail Ryfel Byd ac roedd gwaith ar gestyll yn nodwedd amlwg ar yr astudiaethau hynny. Os hoffech ddysgu am gestyll canoloesol yng Nghymru, y llyfr i chi yw Castles, town defences and artillery fortifications in the United Kingdom and Ireland: a bibliography 1945-2006 a gasglwyd gan John R. Kenyon. Gwnaethpwyd llawer o waith ar gestyll cyn 1945, er bod ein dealltwriaeth o'r cofadeiliau hyn wedi newid dros y blynyddoedd. Oherwydd y nifer fawr o enghreifftiau ardderchog o gestyll yng Nghymru bu astudiaethau castell yn rhan bwysig yn y ffordd mae'n hymchwil ar yr adeiladau hyn wedi'i datblygu dros y ganrif a hanner ddiwethaf, fwy neu lai. Cestyll maen mawr Cymru Disgrifiwyd George Thomas Clark fel sefydlwr astudiaethau castell. Roedd yn beiriannydd a fu'n gweithio o dan Brunel ar reilffyrdd y Great Western a Chwm Taf yn y 1830au. O'r 1850au bu'n rheoli gweithfeydd haearn Dowlais ym Morgannwg ac roedd mewn lle da i archwilio cestyll Cymru wrth ei bwysau. Ysgrifennodd nifer o bapurau ar y pwnc ac wedyn cyhoeddodd lyfr ohonynt. Cafodd ei ddamcaniaethau ar darddiad gwrthgloddiau cestyll Normanaidd cyntaf Cymru a Lloegr, yn enwedig y myntiau fel sydd i'w weld yng Nghastell Caerdydd, eu gwrthbrofi gan ymchwilwyr diweddarach megis Ella Armitage. Er gwaethaf hynny mae crynswth ei waith ar gestyll maen mawr Cymru a llefydd eraill o werth o hyd. Mae'r Bibliography 1945-2006 gyda 740 tudalen yn brawf o ba mor boblogaidd bu astudiaethau castell er 1945. Mae cloddio'r Castell Baldwyn cyntaf a elwir yn Hen Domen o 1960 i 1992 yn enghraifft dda. Mae wedi rhoi darlun diddorol iawn i ni o sut byddai'r castell pridd a phren hwn ar y Gororau wedi edrych yn y ddeuddegfed ganrif. Y drysau castell hynaf yn Ewrop Mae ymchwil ddiweddar arall wedi newid ein dealltwriaeth o sut mae rhai nodweddion ar y cestyll maen mawr wedi datblygu. Un o'r enghreifftiau gorau o hyn yw Cas-gwent yn ne-ddwyrain Cymru. Yn y gorffennol ystyriwyd cyflwyniad porthdai crwn â dau dŵr fel sydd ym mhorth allanol Cas-gwent yn ddatblygiad o dua'r 1220au. Ond mae giatiau pren a oedd yn hongian yn y porthdy tan 1962, ac erbyn hyn sy'n cael eu harddangos o fewn y castell, wedi'u dyddio drwy ddendrocronoleg (sef dadansoddi cylchoedd coed) i'r 1190au. Mae hyn yn meddwl mai nhw mwy na thebyg yw'r drysau castell hynaf yn Ewrop. Mewn llefydd eraill bu cloddio a gwarchod ar nifer o gestyll arglwyddi Cymreig cynhenid er enghraifft yn Ninefwr a Dryslwyn yn sir Gâr. Mae Dolforwyn ym Mhowys, sef y castell olaf i'w godi gan Lywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru a fu farw ym 1282, wedi ei lwyr ddatguddio. Mae canlyniadau'r gwaith ar y tri chastell wedi ymddangos mewn llyfrau tywys ac adroddiadau academaidd.
Palas ym Mrycheiniog 13 Medi 2007 Llyn Syfaddan a'r crannog yn y cefndir. Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron). Crannog Llyn Syfaddan yn ystod gwaith cloddio. Llun o gloddiadau 1991 yn dangos ystyllod o fur palisâd y crannog. Ystyllen dderw o Lyn Syfaddan, 60 cm (2 droedfedd) o hyd. Roedd ystyllod derw soddedig, megis hon, yn ffurfio rhan o'r palisâd o amgylch crannog Llyn Syfaddan. Adluniad o grannog Llyn Syfaddan, yn seiliedig ar y gwaith cloddio. Mae cloddiadau ar safle ynys artiffisial neu grannog yn Llyn Syfaddan, ger Aberhonddu, wedi cynnig cip unigryw ar lys brenhinol Cymreig. Datgelodd cloddiadau rhwng 1989 a 1993, gan dîm o Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Caerdydd, fod y crannog, yr unig un y gwyddys amdano yng Nghymru, yn safle brenhinol rheolwr teyrnas fewndirol Brycheiniog. Roedd teyrnas gynnar, fach Brycheiniog (Brecheiniauc) yn cyfateb yn fras i sir hanesyddol Brycheiniog yn ne Cymru. Mae enw'r diriogaeth yn dwyn i gof Brychan, sylfaenydd y llinach frenhinol, yn ôl y chwedl. Cafodd y crannog ei adeiladu'n ofalus o brysgwydd a meini tywodfaen, a atgyfnerthwyd ac a amgylchynwyd gan sawl rhes o balisadau a wnaed o ystyllod derw. Mae'r coed mewn cyflwr da ac mae dyddiadau cylch-coeden yn profi eu bod wedi cael eu torri rhwng OC889 a 893. Mae'n debyg fod y safle'n ymgorffori technegau adeiladu Gwyddelig ac mae'n bosibl y cafodd ei godi gyda chymorth crefftwyr o Iwerddon. Mewn testunau achyddol diweddarach, hawliai brenhinoedd Brycheiniog eu bod yn hanu o frenhinlin a oedd yn rhannol Wyddelig, a drwy ddefnyddio'r fath ddulliau adeiladu anarferol a thrawiadol mae'n bosibl y cryfhawyd eu statws gwleidyddol ac atgyfnerthu eu honiad eu bod o dras Wyddelig. Fel safle brenhinol, roedd crannog Llyn Syfaddan yn ganolfan weinyddol a lletygarwch, lle y byddai'r rheolwr wedi derbyn trethi ac ymbleseru mewn hela a physgota. Mae ansawdd da iawn y gwrthrychau y cafwyd hyd iddynt yn dynodi statws aristocrataidd y trigolion. Yn ôl Cronicl yr Eingl-Seisnig, anfonodd Æthelflaed, 'Boneddiges y Mersiaid', fyddin i Gymru yn y flwyddyn OC916, dridiau wedi llofruddiaeth Abad Ecgberht a'i gymdeithion. Dinistriodd y fyddin Brecenanmere (yr enw Sacsonaidd ar Lyn Syfaddan) a chipio 'gwraig y brenin a thair ar ddeg ar hugain o bobl eraill'. Yn ôl pob tebyg, mae'r cofnod sy'n crybwyll y mere (llyn) yn cyfeirio at yr ymosodiad ar y crannog, ac at gipio gwraig y brenin Eliseg ap Tewdwr. Mae'n bosibl fod haenlin ruddedig a gofnodwyd yn ystod y cloddiadau yn cynrychioli'r digwyddiad hwn. Capsiwl amser prin iawn o fywyd ar safle brenhinol ar ddiwedd y nawfed ganrif ac yn gynnar yn y ddegfed ganrif yw'r safle hwn, ac mae'r arteffactau, sy'n cynnwys gweolyn brodiog a rhannau o gysegrfa symudol, yn cadarnhau ei statws arbennig. Llinell Amser 880au: Eliseg ap Tewdwr, rheolwr Brycheiniog, dan orfod gweithrediadau ymosodol Gwynedd, yn ceisio tra-arglwyddiaethu ar Alffred. 889-93: Crannog Llyn Syfaddan yn cael ei godi gan reolwr Brycheiniog. 894: Y Llychlynwyr yn anrheithio Brycheiniog. 916: Brecenanmere (crannog Llyn Syfaddan, yn ôl pob tebyg) yn cael ei ddinistrio gan fyddin Mersiaidd (Sacsonaidd). Darllen Cefndir 'On a crannoge, or stockaded island, in Llangorse Lake, near Brecon' gan E. N. Dumbleton. Yn Archaeologia Cambrensis, 4edd gyfres, cyf. 1, tt2-98 (1870). 'The early medieval crannog at Llanorgse, Powys: an interim statement on the 1989-1993 seasons'. Yn The International Journal of Nautical Archaeology, cyf. 23, tt189-205 (1994).
Teils llawr addurnedig o Gastell Rhaglan 6 Medi 2007 Castell Rhaglan. Sefydlwyd amddiffynfeydd y castell, gan gynnwys y Tŷr Mawr a welir yng nghanol y llun, yn y bymthegfed ganrif. [Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron)]. Teilsen yn dyddio o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg neu ddechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg o gapel Castell Rhaglan; fe'i cynhyrchwyd gan Ysgol Wessex. Teilsen Ysgol Malvern, o'r bymthegfed ganrif, a ddefnyddiwyd yn Rhaglan. Teilsen faiolica, yn dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg, o lawr y capel a osodwyd gan yr Iarll William, cyn 1572 yn ôl pob tebyg. Adluniad o fywyd yng Nghastell Rhaglan yn yr unfed ganrif ar bymtheg, yn ystod cyfnod Trydydd Iarll Caerwrangon. Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron). Gellir gweld tair canrif o ffasiwn a dylunwaith mewn casgliad o deils llawr addurnedig a ddarganfuwyd yn ystod gwaith adeiladu ar safle Castell Rhaglan ym 1947. Ym 1549 olynodd William Somerset (1526-1589) ei dad gan ddod yn drydydd Iarll Caerwrangon a pherchennog Castell Rhaglan. O'i ganolfan yn ne-ddwyrain Cymru dechreuodd ar yrfa a sicrhaodd lwyddiant iddo yn llysoedd Edward VI (1547-53), Mari (1553-58) ac Elisabeth I (1558-1603). Fe'i claddwyd yn eglwys y plwyf yn Rhaglan. Nid yw'n syndod fod y fath gymeriad amlwg wedi ceisio ffordd o fyw oedd yn gydnaws â'i statws cymdeithasol uchel, ac arwydd o'r uchelgais hwn oedd y gwaith ailadeiladu helaeth a wnaed ganddo ar y gaer-blasty roedd wedi ei hetifeddu. Aeth ati i weddnewid y castell drwy fabwysiadu rhaglen foderneiddio gynhwysfawr oedd yn effeithio ar bob rhan o'r adeilad a'r tir: cafodd y neuadd a'r llety, y gegin a'r ystafelloedd gwasanaeth eu gwella, ychwanegwyd oriel hir a chrëwyd gardd yn null y Dadeni. Cafodd celfi'r castell eu gwella hefyd drwy ychwanegu eitemau oedd yn adlewyrchu ffasiwn Ewropeaidd y dydd. Mae'r thema hon i'w gweld yn glir yng nghapel y castell. Mae'r capel yn dyddio o'r drydedd ganrif ar ddeg o leiaf, pan roedd ganddo lawr deils priddwaith coch trwchus ag addurn wedi'i fewnosod ar eu hwynebau mewn lliw gwahanol. Yn aml, roedd gan deils deuliw o'r fath gynlluniau wedi'u mewnosod â chlai gwyn - yn achos Rhaglan, tarianau a monogramau yn bennaf - a byddai gwydredd clir yn cael roi drostynt cyn eu tanio. Y teils hyn oedd y ffasiwn diweddaraf yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a cheir hyd i enghreifftiau nodedig ym Mhalas Clarendon yn Wiltshire ac, yn fwy lleol, yn Abaty Tyndyrn. Tua 1460 disodlwyd y rhain gan deils deuliw ac arnynt gynlluniau nodweddiadol o un o ddiwydiannau cynhyrchu teils Dyffryn Hafren - ac un o'r rhai sydd wedi'i ddyddio orau - ym Malvern, Swydd Caerwrangon. Mae'n rhaid bod y lliwiau melyn llachar a brown euraid wedi creu cefndir cyfoethog ar gyfer trysorau'r capel. Nid oedd yr Iarll William yn hoff o'r fath gynlluniau. Gan dynnu ar ei brofiad o ffasiynau'r cyfandir, cafodd ei ysbrydoli gan gynnyrch yr Iseldiroedd Sbaenaidd a manteisiodd ar ei gyfoeth sylweddol i brynu teils priddwaith wedi'u gwydro ag alcam a'u peintio mewn dull unlliw a oedd yn boblogaidd yn ystod cyfnod y Dadeni. Y canlyniad oedd trawsffurfio'r capel mewn modd dramatig, gan oleuo'r tu mewn ac ychwanegu cywreinrwydd i'w addurnwaith. Gwaetha'r modd, ar ôl i Raglan gael ei adael yn wag yn sgil Rhyfel Cartref Lloegr, ychydig iawn o newidiadau eraill yr Iarll i gelfi'r castell a phryd a gwedd ei ystafelloedd, sydd wedi goroesi. Yn hytrach, dyfalu'n unig a fedrwn ynglŷn â'r moethusrwydd y bu'n gyfrifol amdano, a myfyrio ar natur fyrhoedlog y cyfoeth hwnnw, sydd wedi goroesi ar ffurf casgliad bach o deils llawr peintiedig a llond dwrn o eitemau eraill. Manylion am y Teils Teilsen yn dyddio o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg neu ddechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg o gapel Castell Rhaglan; fe'i cynhyrchwyd gan Ysgol Wessex. Mae'n portreadu dau aderyn yn bwydo o goeden ganolog. Defnyddiwyd teils ac arnynt yr un cynllun yn Abaty Tyndyrn a Chastell Gwyn gerllaw. Teilsen Ysgol Malvern, o'r bymthegfed ganrif, a ddefnyddiwyd yn Rhaglan. Dyma a ddywed y testun Lladin: 'Bydded i heddwch Christ drigo yn eich plith hyd byth. Amen'. Teilsen faiolica, yn dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg, o lawr y capel a osodwyd gan yr Iarll William, cyn 1572 yn ôl pob tebyg. Yn ôl pob tebyg, mewnforiwyd y teils hyn o'r Iseldiroedd Sbaenaidd, Antwerp efallai, lle sefydlwyd diwydiant cynhyrchu teils maiolica yn gynnar yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Darllen Cefndir Raglan Castle gan J. R. Kenyon. Cadw: Cofadeiliau Hanesyddol Cymru (2003). 'The chapel at Raglan Castle and its paving tiles' gan J. M. Lewis. Yn Castles in Wales and the Marches gan J. R. Kenyon a R. Avent, tt143-60. Gwasg Prifysgol Cymru (1987). The medieval tiles of Wales gan J. M. Lewis. Amgueddfa Cymru (1999).
Pwll Glo Nantgarw - y pwll glo dyfnaf yn Ne Cymru 2 Medi 2007 Parc Nantgarw Adeiladu Pwll Glo Nantgarw Mai/Mehefin 1951 Efallai nad yw pawb sy'n ymweld â Chanolfan Gasgliadau Amgueddfa Cymru ym Mharc Nantgarw, i'r gogledd o Gaerdydd, yn sylweddoli ei fod ar un adeg yn safle un o'r pyllau glo enwocaf yn ne Cymru. Y cyfan sy'n parhau yw dau byramid concrit bychan yn nodi safleoedd y siafftiau ac olwyn godi goffaol.Y pwll glo dyfnaf yn Ne CymruPwll glo Nantgarw oedd un o byllau blaenllaw'r Bwrdd Glo Cenedlaethol. Hwn oedd y pwll glo dwfn agosaf i Gaerdydd, ac yn arwydd i deithwyr eu bod wedi cyrraedd meysydd glo de Cymru.Wedi'i agor ym 1911, roedd yno ddwy siafft fawr ac, ar ddyfnder o 782.73m (856 llath), dyma oedd pwll glo dyfnaf de Cymru. Serch hynny, er ymddangos fel esiampl dda o ddiwydiant glo glân ac effeithiol, rhoddwyd y gorau i'r pwll glo ym 1927 yn sgil prinder dynion, perthynas ddiwydiannol wael ac, uwchlaw dim, y lleoliad uwchben daeareg gymhleth iawn o dan y ddaear.Blynyddoedd y RhyfelAgorwyd y pwll eto ym 1937 yn dilyn adrefniant sylweddol, ond gohiriwyd y gwaith pan ddechreuodd y rhyfel ym 1939. Cymeradwywyd cynllun hwyrach i ail agor y pwll gan y Weinyddiaeth Tanwydd a Phŵer ym 1946. Dyma'r cynllun sylweddol cyntaf i gael ei weithredu gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn rhanbarth y de orllewin.Pwll glo modern newydd Nantgarw yn 1974 Er mwyn creu model o bwll glo yn Nantgarw, dinistriwyd pob ôl o'r gwreiddiol a chynlluniwyd adeiladau newydd ar yr wyneb, gydag adnoddau modern. Gosodwyd teclynnau i leihau mwg a mygdarth, ac fe osodwyd yr holl wastraff o dan y ddaear gan gadw'r arwyneb yn glir o domennu gwastraff hyll. Roedd y rhwydwaith tanddaearol cyfan wedi ei gynllunio i leihau perygl damweiniau. Cymerwyd gofal mawr i leihau unrhyw lwch a gynhyrchwyd o dan y ddaear ac ar yr wyneb, er mwyn amddiffyn y gweithlu rhag dal afiechydon megis pneumoconiosis.Dim digon o lowyrYn ystod yr 1940au roedd dirywiad amlwg yn y nifer o ddynion a oedd yn fodlon ystyried gyrfa fel glöwr, hyd yn oed mewn ardaloedd traddodiadol glofaol megis y Rhondda. Roedd problem benodol o brinder dynion ym mhwll Nantgarw, gyda'r boblogaeth waith yn dewis gweithio mewn llefydd eraill. Roedd yn rhaid recriwtio'r gweithlu o ymgeiswyr newydd neu o byllau glo mewn ardaloedd eraill a oedd wedi cau. Erbyn 12 Mawrth 1954 roedd cyfanswm costau'r project wedi cynyddu i £5.25 miliwn. Roedd perthynas lafur hefyd yn peri gofid. Yn ystod 1958 roedd 65 enghraifft o ataliad, gweithio'n araf a cherdded allan o'r pwll.Ffawd yn dirywioGoroesodd Nantgarw'r cyfnod o gau llu o byllau glo yn y 1960au. Ym 1975, unodd gyda Phwll Glo Windsor ger Abertridwr. Erbyn 1979, roedd Pwll Glo Nantgarw / Windsor ar y cyd yn cyflogi tua 650 o ddynion, gan gynhyrchu dros 4,000 tunnell o lo bob wythnos. Yn ystod 1979-80 gwnaethpwyd elw o ychydig dros £0.5 miliwn. Er yr anawsterau datblygu, ymddangosai bod dyfodol y pwll yn weddol sicr.Serch hynny, erbyn dechrau'r 1980au, tarwyd ffawd y pwll eto gan brinder dynion ac amgylchiadau daearegol gwael. Collodd y pwll £7miliwn ym 1981, ac ym 1982 dirywiodd yr allbwn yn sydyn wrth i wythïen lo allweddol ddod yn anweithiadwy. Blwyddyn yn ddiweddarach, arweiniodd gwaharddiad ar oramser yn uniongyrchol at streic deuddeg mis 1984-5. O fewn deunaw mis i ddiwedd y streic, caewyd mwy o byllau glo yn ne Cymru. Y tro hwn, cafodd Pwll Glo Nantgarw ei gynnwys. Daeth bron i 80 mlynedd o hanes glofaol yn Nantgarw i ben.