Diflaniad y bwthyn gwledig Cymreig 6 Gorffennaf 2007 Waliau mwd a thoeau gwellt Erbyn heddiw, ychydig iawn o'r bythynnod gwledig a godwyd cyn canol y deunawfed ganrif sydd ar ôl yng Nghymru. Y gred gyffredinol oedd na allai'r bobl dlawd fforddio defnyddiau a fyddai'n para. Mae gwaith ymchwil newydd yn awgrymu'n wahanol. Mewn gwirionedd, roedd bythynnod yn cael eu codi mewn ffordd glyfar iawn, gan dalu sylw i'r manylyn lleiaf a defnyddio'r stwff lleol gorau. Aeth Amgueddfa Cymru ati i astudio bythynnod Cymreig ac adroddiadau o'r cyfnod, a daethom i'r casgliad mai'r hyn a arweiniodd at eu diflaniad oedd diffyg cynnal a chadw ac, yn bennaf oll, newidiadau yn y ffasiwn o ganlyniad i'r Chwyldro Diwydiannol. Adeiladau cynaliadwy Roedd hi'n costio'n ddrud i gludo defnyddiau ac felly byddai adeiladwyr slawer dydd yn hen lawiau ar ddefnyddio'u hamgylchedd lleol mewn ffordd gynaliadwy. Er enghraifft, defnyddient dom da i wrteithio'r caeau, i wneud lloriau clai, i helpu i rwymo waliau bythynnod ac i helpu i gadw simneiau a wnaed o blethwaith rhag mynd ar dân. Pridd a thywyrch Gan na allai pobl dlawd fforddio brics, roedd waliau bythynnod yn cael eu gwneud o gerrig, pridd neu goed. Roedden nhw'n defnyddio'r hyn oedd ar gael yn hwylus ac yn rhad. Yn iseldiroedd gorllewin Cymru — Ynys Môn, Pen Llŷn, Ceredigion a Sir Benfro er enghraifft — pridd oedd y defnydd hwnnw. Ychydig iawn o fythynnod pridd sydd ar ôl yng Nghymru heddiw; ceir llawer mwy mewn rhannau sychach o Loegr. Yn yr uwchdiroedd gwlyb, byddai'r bobl yn codi bythynnod â waliau tywyrch gan fod tywyrch yn para'n hirach o lawer na phridd. Tai to gwellt Yn y cyfnod cyn datblygiad chwareli llechi mawr y gogledd yn y 19eg ganrif a dyfodiad y rheilffyrdd, roedd tai to gwellt yn gyffredin iawn. Erbyn heddiw, mae llawer mwy o dai to gwellt i'w gweld yn Lloegr nag yng Nghymru. Roedd pedwar dull gwahanol o doi â gwellt yn gyffredin yng Nghymru. Dim ond un ohonynt sy'n dal hyd heddiw a hynny yn y dwyrain. Yng ngorllewin a gogledd Cymru, roedd yr haen uchaf yn cynnwys dyrneidiau o wellt wedi'u clymu a'u gwthio â theclyn fforchiog i haen isaf o wellt. Yn aml, byddai'r haen isaf yn cael ei gosod ar wely o blethwaith. Mewn ardaloedd agored, gellid defnyddio rhwydwaith o raffau wedi'u rhoi'n sownd wrth begiau ym mhen y wal neu wedi'u dal yn eu lle â cherrig trymion i ddal y to i lawr. Simneiau gwellt a phlethwaith O bridd neu laid y gwnaed lloriau bythynnod yn aml. Gellid defnyddio plethwaith neu raff wellt wedi'u gorchuddio â dwb i wneud y parwydydd. Yn aml, hefyd, roedd y corn simnai a'r lwfer uwch ei ben wedi'u gwneud o blethwaith a dwb. Does dim rhyfedd bod cynifer o'r bythynnod hyn yn llosgi i'r llawr. Er bod defnyddiau adeiladu'r bythynnod hyn yn rhai cynaliadwy, daethant i ddiwedd eu hoes oherwydd newidiadau cymdeithasol a ffasiynau newydd. Newid yn y ffasiwn Wrth i'r Chwyldro Diwydiannol fynd rhagddo ac i fwydydd gael eu mewnforio, roedd mwy a mwy o bobl yn gadael eu bythynnod yng nghefn gwlad i fyw yn y dref. Aeth mwy a mwy o fythynnod yn eiddo i'r stadau mawr ac fe ddechreuodd y rheini godi tai mwy o faint ar gyfer eu gweithwyr. Yn aml, roedd yn haws dymchwel y bythynnod gwreiddiol nag ychwanegu ail lawr atynt neu eu haddasu. Erbyn heddiw, ychydig iawn o'r bythynnod traddodiadol cynnar sydd ar ôl ac mae'r enghreifftiau gorau i gyd wedi'u rhestru fel rhai sydd o bwysigrwydd pensaernïol arbennig.
Ailwampio Cerbyd Rhif 238 o Rheilffyrdd y Cambrian 4 Gorffennaf 2007 Y cerbyd cyn dechrau ar y gwaith Y tu mewn i brif ran y cerbyd Y cerbyd wedi'i gwblhau Mae cerbyd trên o'r 19 eg ganrif yn ganolbwynt i un o raglenni gwarchod ac ail-greu mwyaf Amgueddfa Cymru. Rheilffyrdd teithwyr y 19eg ganrif Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd Rheilffyrdd y Cambrian yn gwasanaethu rhan fawr o'r Canolbarth. Yn wahanol i reilffyrdd y De, a oedd yn cludo haearn a glo yn bennaf ar daith fer o'r cymoedd i'r arfordir, roedd Rheilffyrdd y Cambrian yn cario pobl ar deithiau pell. Roeddent yn cysylltu trefi glan môr fel Aberystwyth â dinasoedd mawr Lerpwl, Manceinion, Birmingham a Llundain. Moethusrwydd O'u cymharu â threnau heddiw, roedd cerbydau teithwyr y 19eg ganrif yn eithaf cymhleth. Roedd gan gerbyd rhif 238 le bach i gadw bagiau yn un pen, yna dwy adran ddosbarth cyntaf a phedair adran trydydd dosbarth. Roedd yno dri thoiled, un ar gyfer teithwyr dosbarth cyntaf yn unig. Er mwyn cadw teithwyr y gwahanol ddosbarthiadau ar wahân, roedd coridor y teithwyr dosbarth cyntaf ar un ochr i'r cerbyd a choridor y teithwyr trydydd dosbarth ar yr ochr arall. Adeiladwyd cerbyd rhif 238 yn Birmingham ym 1895 i safonau uchel iawn. Yn ôl y cynllun gwreiddiol: "Interior panelling of polished sycamore framed with walnut wood and gold lined". O gerbyd moethus i gragen wag Dechreuwyd defnyddio'r cerbyd ym 1895 a bu'n teithio'n bennaf rhwng Aberystwyth a Manceinion rhwng hynny a 1939. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd ei droi'n fan radio. Wedyn, cafodd ei gadw mewn storfa cyn ei drosglwyddo i Amguddfa Genedlaethol Cymru ym 1991. Erbyn hynny, nid oedd fawr mwy na chragen wag. Penderfynodd yr amgueddfa adfer un adran dosbarth cyntaf ac un adran trydydd dosbarth yn y naill ben a'r llall i'r cerbyd, a defnyddio gweddill y lle ar gyfer grwpiau o ymwelwyr. Codwyd canopi arbennig i dros y cerbyd fel y gellid gweithio arno hyd yn oed mewn tywydd drwg. Gwaith adfer y cerbyd I ddechrau, rhoddwyd to newydd ar y cerbyd ac wedyn llawr newydd o estyll 'tafod a rhigol'. Gwelwyd bod un set o estyll yn yr adran dosbarth cyntaf wedi'i gosod ar ongl o 45 gradd i gorff y cerbyd a bod yr haen uchaf ar ongl o 90 gradd i'r haen isaf. Mae'n debyg bod hyn yn gwneud y daith yn llai swnllyd i'r teithwyr dosbarth cyntaf. Ar ôl hynny, adnewyddwyd y panelau allanol a'r mowldiadau, ac yna'r parwydydd mewnol a fframiau'r seddau. Dilynwyd y cynlluniau gwreiddiol trwy'r amser hyd yn oed wrth lunio'r bracedi metal a oedd yn dal y rac fagiau. Gwnaed copïau o un o'r bracedi gwreiddiol yn y ffowndri bres yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis. Yn wreiddiol, cafodd y cerbyd 14 côt o baent. Yn ffodus, does dim angen cynifer o gotiau o baent modern. Cambrian Green yw lliw hanner isaf y cerbyd a defnyddiwyd sampl o'r paent gwreiddiol i greu'r lliw cywir. Manylion Defnyddiwyd arfbais y Cambrian Railway Company a phlu Tywysog Cymru i addurno'r cerbyd. Cafodd ffotograffau o'r rhai gwreiddiol eu sganio a'u hargraffu i sicrhau eu bod yn union yr un fath. Bydd y cerbyd godidog hwn yn ein hatgoffa o oes aur y rheilffyrdd ar ddechrau'r 20fed ganrif pan oedd pobl yn dod o bob rhan o Loegr ar eu gwyliau i Fae Ceredigion.
Caer Rufeinig Brynbuga 10 Mai 2007 Cloddio'r ysguboriau ym Mrynbuga. Y llinellau llorweddol sy'n croesi'r llun yw sylfeini'r ysguboriau pren, ac yng ngwaelod y ffosydd gwelir tyllau ar gyfer pyst fertigol. Ar yr ochr chwith, gellir gweld pydew diweddarach yn torri drwy un o ffosydd y sylfeini. Llefydd na chafodd eu cloddio yw'r llinellau fertigol. Adluniad o'r Porth Dwyreiniol, Brynbuga (gan Martin Dugdale). Roedd y porth, a godwyd o bren yn yr un ffordd â gweddill y gaer, yn cynnwys dau dŵr y naill ochr a'r llall i lôn ddwbl, oedd wedi'u cysylltu â thramwyfa uwchlaw'r ffordd. Adluniad o'r tair ysgubor fawr ym Mrynbuga (gan Martin Dugdale). Roedd lloriau'r adeiladau hyn uwchlaw'r ddaear er mwyn atal tamprwydd, llygod a phryfetach rhag cyrraedd y grawn a bwydydd eraill a gâi eu storio ynddynt. Cedwir darganfyddiadau'r cloddiadau ym Mrynbuga yn Amgueddfa'r Lleng Rufeinig yng Nghaerllion. Datgelodd cloddiadau yn y 1960au gaer oedd unwaith yn gartref i Ugeinfed Leng Rhufain. William Camden (1551-1623) oedd y cyntaf i gofnodi'r cysylltiad rhwng y Rhufeiniaid a Brynbuga (Sir Fynwy), gan gyfeirio at y dref fel safle Burrium. Fodd bynnag, dim ond ar ddiwedd y 1960au y daethpwyd o hyd i leng-gaer gynnar o dan ran ddeheuol y dref. Yn ôl pob tebyg, fe'i codwyd tua OC55 gan yr Ugeinfed Leng fel canolfan ar gyfer goresgyniad de Cymru, ac fe'i lleolwyd i reoli'r llwybrau i'r gwastadeddau arfordirol tua'r de ac i fryniau a mynyddoedd Brycheiniog tua'r gogledd. Arwynebedd y gaer oedd 19.5 hectar (48 erw) a châi ei hamddiffyn gan ffos allanol ar ffurf V, a rhagfur o glai a thywyrch â ffesin o bren. Ar ben y rhagfur roedd llwybr, ambell i dŵr pren a phorth ar y naill ochr a'r llall. Datgelodd cloddiadau helaeth rhwng 1965 a 1976 ddau grŵp o ysguboriau - a ddefnyddiwyd i storio'r nwyddau angenrheidiol i fwydo byddin fawr y goresgyniad - gweithdy a rhan o dŷ swyddog, i gyd wedi'u codi o bren. Awgryma gwaith mwy diweddar efallai fod catrawd o farchfilwyr cynorthwyol (a elwid yn ala) wedi'i lleoli yma gyda milwyr y lleng. Yn dilyn ad-drefnu'r fyddin Rufeinig yn OC66 neu 67, trosglwyddwyd yr Ugeinfed Leng o Frynbuga i Wroxeter (Sir Amwythig). Sefydlodd y symudiad hwn linell o gaerau yn ymestyn o Gaer-wysg i Lincoln, ac o ganlyniad disodlwyd y gaer ym Mrynbuga. Fodd bynnag, roedd Brynbuga yn nwylo a than ofal garsiwn bach tan OC74-75, pan sefydlwyd lleng-gaer newydd wyth milltir i lawr y dyffryn yng Nghaerllion (Casnewydd) - man oedd yn llai tebygol o ddioddef llifogydd ac yn haws i'w gyflenwi o'r môr. Hyd yn oed wedyn, ni chefnodd y Rhufeiniaid yn gyfan gwbl ar Frynbuga, ac ar safle'r gaer sefydlwyd caer atodol/uned waith fach. Daeth oes y gaer i ben cyn diwedd y ganrif gyntaf OC, ond mae'n ymddangos y bu'r uned waith yn weithredol dros gyfnod hirach o lawer. Heddiw, nid oes unrhyw ran o'r gaer wedi goroesi uwchlaw'r ddaear i ddynodi'r rhan y chwaraeai'r dref fach hon yng ngoresgyniad Cymru. Cafodd y gaer ei ddatgymalu'n systematig gan y Rhufeiniaid ac mae unrhyw ddarnau o bren a adawyd ar ôl wedi hen bydru a diflannu. Darllen Cefndir Report on the Excavations at Usk 1965-1976: The Fortress Excavations 1968-71 gan W. H. Manning. Gwasg Prifysgol Cymru (1981). Report on the Excavations at Usk 1965-1976: The Fortress Excavations 1972-74 and Minor Excavations on the Fortress and Flavian Fort gan W. H. Manning. Gwasg Prifysgol Cymru (1989).
Segontium - Y Rhufeiniaid yng Ngogledd Cymru 10 Mai 2007 Awyrlun o Segontium yn dangos ei ffurf hirsgwar sy'n nodweddiadol o gaerau Rhufeinig. Mae nifer o'i hadeiladau cerrig wedi'i datgladdu fel y gall y cyhoedd eu gweld. Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron). R. E. M. Wheeler yng nghwmni'r Foneddiges Lloyd George (de pellaf) yn Segontium ym 1922. Llun © Casgliad preifat. Yn gynnar yn y bedwaredd ganrif dechreuwyd codi baddondy yng nghornel dde-ddwyreiniol y gaer. Ni chwblhawyd yr adeilad. Addolai milwyr Rhufeinig nifer o dduwiau. Mae'r gerfwedd hon o Segontium yn portreadu Mawrth, duw rhyfel ac, ar rai adegau, dduw iachau. Sefydlwyd caer Rufeinig Segontium yn OC77 ac roedd garsiwn yno hyd tua OC394. Ni feddiannwyd unrhyw gaer Rufeinig arall yng Nghymru am gymaint o amser. O'r afon y daw enw Segontium: 'grymus' yw ystyr 'sego-', elfen sydd ynghudd yn yr enw Seiont. Mae i'r gaer, un o'r enwocaf ym Mhrydain, leoliad allweddol yn y rhwydwaith milwrol Rhufeinig, gan ei bod mewn man canolog ar brif ffyrdd arfordir y gogledd a'r gorllewin. Mae'r gaer yn sefyll ar gopa bryn llydan a chrwn sy'n edrych dros afon Menai ac Ynys Môn. Datgelodd gwaith cloddio archaeolegol a wnaed rhwng 1975 a 1979 nifer o flociau o farics pren yn y chwarter de-ddwyreiniol oedd yn dyddio o ddiwedd y ganrif gyntaf a blynyddoedd cynnar yr ail ganrif OC. Mae hyn yn dangos bod y gaer wedi cael ei chynllunio i letya 'cohors milliaria', sef catrawd o filwyr traed cynorthwyol oedd yn cynnwys hyd at 1,000 o ddynion. Mae tystiolaeth bendant fod maint y garsiwn yn llai o lawer erbyn tua OC 120. Ganol yr ail ganrif codwyd tŷ cwrt mawr, a chanddo'i faddondy bach ei hun, yn y gornel dde-ddwyreiniol. Mae'n bosibl mai cartref swyddog pwysig a oedd, efallai, yn gyfrifol am gloddio mwynau yn yr ardal oedd y tŷ trawiadol hwn. Yn gynnar yn y drydedd ganrif, y garsiwn oedd Cohort Cyntaf Sunici, catrawd o 500 o filwyr traed gafodd ei recriwtio yn yr Almaen. Mae enw'r uned yn ymddangos mewn arysgrif sy'n cofnodi atgyweirio traphont ddŵr y gaer tua OC200. Roedd y garsiynau ar gyfer y rhan fwyaf o'r drydedd a'r bedwaredd ganrif yn llai o lawer. Yn ystod y cyfnod hwn prif swyddogaeth Segontium oedd amddiffyn arfordir gogledd Cymru rhag ysbeilwyr a môr-ladron o Iwerddon. Mae darnau arian a ffeindiwyd yn Segontium yn dangos bod milwyr yn y gaer allweddol hon tan OC394. Yr angen i amddiffyn tiroedd ffrwythlon a llawn mwynau Môn sy'n esbonio'r preswyliad anarferol o hir hwn. Segontium oedd pencadlys milwrol a gweinyddol y gogledd-orllewin drwy gydol y cyfnod Rhufeinig. Sicrhaodd adfeilion Segontium le iddi mewn chwedlau, ymhell ar ôl i'r milwr Rhufeinig olaf gefnu ar y gaer. Cyfeirir at Segontium ym Mreuddwyd Macsen, un o chwedlau'r Mabinogion. Ni ddaeth arwyddocâd milwrol Caernarfon i ben ar ddiwedd y cyfnod Rhufeinig, oherwydd yn yr Oesoedd Canol sefydlwyd mwnt (twmpath y codwyd castell arno) Normanaidd ar lan aber afon Seiont ac yna, ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg, adeiladwyd castell enwog Edward I ynghyd â'r dref furiog sydd ynghlwm wrtho; ac yn olaf ym 1775 codwyd caer fach ger aber afon Menai. Darllen Cefndir Excavations at Segontium (Caernarfon) Roman Fort, 1975-1979', gan P. J. Casey a J. L. Davies. Cyhoeddwyd gan Council for British Archaeology (1993). 'Roman & Early Medieval Wales' gan C. J. Arnold a J. L. Davies. Sutton Publishing (2000). 'Segontium and the Roman Occupation of Wales' gan R. E. M. Wheeler. Yn Y Cymmrodor, cyf. 33 (1923).
Crochenwaith Rhufeinig yng Nghaerllion 10 Mai 2007 Crochenwaith Rhufeinig Jar, powlen a chostrel o lestri slipiog coch Caerllion. Mae natur y pridd wedi dinistrio'r rhan fwyaf o'r arwynebau slipiog coch, er bod clytiau sylweddol wedi goroesi ar y gostrel sydd i'w gweld yng nghefn y grŵp hwn. Mae astudiaeth o fath unigryw o grochenwaith a ddaeth i'r amlwg yn bwrw goleuni ar y berthynas rhwng y boblogaeth sifil a'r fyddin Rufeinig yng Nghymru. Roedd crochenwaith yn gynnyrch a fasgynhyrchwyd yn y byd Rhufeinig ac mae'n darparu ffynhonnell gwybodaeth bwysig ar gyfer archaeolegwyr sy'n ymchwilio i hanes y cyfnod hwn. Mae gwahanol ffasiynau o ran ffurfiau a deunyddiau crai crochenwaith Rhufeinig yn caniatáu i archaeolegwyr ail-greu diwydiannau crochenwaith y gorffennol: ble câi'r llestri eu cynhyrchu, y llwybrau masnachol, a chronoleg anterth a thranc y diwydiannau. Roedd Cymru'n gartref i nifer o'r diwydiannau crochenwaith hyn ac mae un ohonynt wedi bod yn destun sylw a thrafodaeth ers diwedd y 1920au. Yn ystod y gwaith cloddio yn amffitheatr Rhufeinig Caerllion y darganfu'r archaeolegydd arloesol Syr Mortimer Wheeler, gasgliad o lestri cain o wneuthuriad da, a oedd, yn ôl pob golwg, yn gysylltiedig â'r garsiwn Rhufeinig. Amffitheatr Rhufeinig Caerllion Cloddiadau Syr Mortimer Wheeler yn amffitheatr Rufeinig Caerllion. Mae'r casgliad yn cynnwys amrywiaeth o jygiau, powlenni, platiau a biceri ac roedd nifer ohonynt fel pe baent yn efelychu ffurfiau'r crochenwaith metel a Samiaidd oedd yn cael fewnforio o'r cyfandir. Gan mai Caerllion oedd cartref yr Ail Leng Awgwstaidd roedd hi'n rhesymol i dybio bod y potiau yn uniongyrchol gysylltiedig â'r fyddin Rufeinig. Mewn gair, credai Wheeler ei fod wedi darganfod y llestri a ddefnyddiodd y lleng yn ystod yr ail ganrif OC. Yn ystod gwaith cloddio diweddarach cafwyd hyd i'r math yma o grochenwaith ar nifer o wahanol safleoedd Rhufeinig yng nghyffiniau Caerllion ac, wrth i gymaint ohono ddod i'r fei, daeth yn weddol amlwg ei fod wedi cael ei gynhyrchu'n lleol. Ond y cwestiwn oedd, ble? Cymerodd saith deg mlynedd o waith ychwanegol yng Nghaerllion cyn cael ateb i'r cwestiwn hwn. Archaeolegwyr oedd yn cadw llygad barcud ar ddatblygiad cwrs golff 2.6km (1.6 milltir) i'r gogledd-ddwyrain o'r gaer gafodd hyd i'r ateb. Cwrs golff Celtic Manor Yr odyn yn Aber-nant yn ystod gwaith cloddio Cwrs Golff Celtic Manor 1966. Câi'r crochenwaith i'w danio ei bentyrru ar lawr clai llosg dros y pydew yng nghanol y llun. Llun © Peter Webster. O ganlyniad i'w gwaith ym 1996 darganfuwyd odyn a gweddillion sawl adeilad - cytiau sychu, o bosibl. Roedd yr odyn, oedd yn ôl pob tebyg yn un o blith nifer o odynau bach a ddefnyddiwyd i gynhyrchu'r math yma o grochenwaith, gan gynnwys amrywiaeth o botiau toredig Llestri Caerllion. Yn odyn Aber-nant cafwyd tystiolaeth bod y crochenwaith yr oedd Wheeler wedi ei osod mewn un grŵp, o wneuthuriad lleol. Ond roedd un cwestiwn arall heb ei ateb: pwy oedd y crochenwyr? Credai Wheeler mai llengfilwyr oedd y crochenwyr. Fodd bynnag, awgrymai astudiaeth fanwl o'r argraffnodau 'enw' oedd ar y powlenni cymysgu mawr (mortaria) fod y crochenwyr yn anllythrennog - yn wahanol i'r argraffnodau a welwyd ar deils, oedd yn amlwg lythrennog. Os oedd gwneuthurwyr y potiau'n anllythrennog, mae'n debyg mai aelodau o'r boblogaeth sifil oeddynt, ac mae hyn yn gyson â'r ffaith fod y crochenwaith yn cael ei gynhyrchu ar adeg (o flynyddoedd cynnar hyd ganol yr ail ganrif) pan roedd nifer fawr o'r llengfilwyr i ffwrdd yng ngogledd Loegr. Mae'n annhebygol, felly, mai llengfilwyr oedd gwneuthurwyr crochenwaith Caerllion ond, heb os nac oni bai, cynhyrchwyd y crochenwaith ar gyfer llengfilwyr. Mae'n ymddangos yr aeth rhai aelodau mentrus o'r boblogaeth sifil ati i gyflenwi'r farchnad leol â chrochenwaith ar batrwm a oedd yn adnabyddus iddi. Darllen Cefndir Câi rhai darnau o Lestri Caerllion eu cynhyrchu fel copïau o grochenwaith cyfandirol, megis powlenni Samiaidd. Ar y chwith mae powlen Samiaidd ddilys, ac ar y dde y copi llai celfydd ar ffurf Llestr Caerllion. 'Bulmore, Celtic Manor golf course, No. 3' gan B. C. Burnham. Yn Brittania, cyf. 28, tt401-2 (1997). 'The Roman amphitheatre at Caerleon, Monmouthshire' gan T. V. a R. E. M. Wheeler. Yn Archaeologia, cyf. 78, tt111-218 (1928).