Diwrnod Cenedlaethol y Ddôl, 4 Gorffennaf 2026 Hannah Jenkins, 8 Gorffennaf 2026 I ddathlu Diwrnod Cenedlaethol y Ddôl, rydyn ni’n rhannu stori’r Ddôl Drefol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, sy’n 13 oed eleni!Mae dolydd yn gynefinoedd sy’n gyforiog o laswelltau a blodau brodorol, sy’n cael eu rheoli’n draddodiadol gan un toriad gwair blynyddol a’u pori gan anifeiliaid yn ystod yr hydref a’r gaeaf. Ond er eu bod nhw’n gynefinoedd amrywiol sy’n cynnal amrywiaeth eang o blanhigion, anifeiliaid a ffyngau, mae cyfanswm y tir sy’n cael ei reoli yn y modd hwn wedi gostwng yn sylweddol. Yng Nghymru, mae dolydd yn enghraifft o gynefin â blaenoriaeth o bwysigrwydd pennaf gan eu bod nhw dan fygythiad gan newidiadau i’r ffordd mae tir yn cael ei reoli, newid yn yr hinsawdd a rhywogaethau goresgynnol.Cafodd y ddôl drefol wrth ymyl Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ei chreu yn 2013. Mae’r clwt o laswellt hwn wedi cael ei drawsnewid o ardal a ddisgrifiwyd unwaith fel un prin o rywogaethau i un sy’n gyforiog o wahanol rywogaethau o laswelltau a blodau gwyllt brodorol. Mae’n cynnig hafan i fywyd gwyllt, yn cyfoethogi’r fioamrywiaeth o amgylch ein safle ac, o fewn y ddinas, mae hefyd yn helpu i greu coridor gwyrdd ar gyfer natur, gan gysylltu mannau gwyrdd eraill ledled Caerdydd a thu hwnt. Dyddiau cynnar trawsnewid y ddôl Dyddiau cynnar trawsnewid y ddôl Mae’r ddôl bellach yn enghraifft hyfryd o laswelltir niwtral wedi’i led-wella yng nghanol Caerdydd. Mae briallu Mair (Primula veris), cennin Pedr (Narcissus) a blodau llefrith (Cardamine pratensis) yn y gwanwyn yn rhagflaenu rhywogaethau dolydd cyfarwydd fel llygad llo mawr (Leucanthemum vulgare), meillion (Trifolium spp.), blodau ymenyn (Ranunculus acris) a’r bengaled (Centaurea) ynghyd â gweiriau fel perwellt y gwanwyn (Anthoxanthum odoratum), rhonwellt y ci (Cynosurus cristatus) a maswellt penwyn (Holcus lanatus). Y llynedd, cofnodwyd cegiden Mynwy (Oenanthe pimpinelloides), rhywogaeth newydd yn y Ddôl Drefol, ac un sy’n anghyffredin yng Nghymru. Y Ddôl Drefol yn yr haf Pryf hofran ar flodyn ymenyn Mae angen rhywfaint o waith cynnal a chadw blynyddol ar unrhyw ddôl er mwyn ei chadw mewn cyflwr da, ac er ein bod wedi dilyn y drefn draddodiadol o dorri’r gwair unwaith y flwyddyn, mae rhai gweiriau trech wedi dechrau sefydlu wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, gan gynnwys ceirchwellt tal (Arrhenatherum elatius).Yn ystod hydref 2024, ychwanegwyd hadau cribell felen (Rhinanthus minor) gyda chymorth cyllid ganbrosiect TYFU Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae’r planhigyn blynyddol hwn yn lled-barasitig, ac mae’n gallu chwarae rhan bwysig o ran cynnal cydbwysedd iach rhwng gweiriau a blodau gwyllt.Wrth iddo dyfu, mae’n cymryd maetholion o wreiddiau gweiriau cyfagos, gan wanhau a lleihau eu goruchafiaeth a gadael lle i rywogaethau blodau gwyllt ledaenu. Eginblanhigyn cribell felen ym mis Mai 2025 Blodau cribell felen ym mis Mehefin 2025 Mae’r blodau gwyllt brodorol ar y ddôl yn ffynhonnell bwysig o baill a neithdar i bryfed a gloÿnnod byw, ond mae’r cyfuniad o weiriau a blodau amrywiol yn sicrhau ei bod yn cynnig bwyd, lloches a chynefin i lawer o rywogaethau eraill hefyd! Gall y dail, y coesynnau a’r gwreiddiau fod yr un mor bwysig.Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi cofnodi pob math o bryfed peillio, gan gynnwys pryfed hofran, gwenyn unigol, gwenyn mêl a chacwn, gwenyn meirch, gloÿnnod byw, gwyfynod a chwilod. Rydyn ni hefyd wedi gweld pryfed cop, ceiliogod rhedyn, lindys, gweision y neidr, pryfed lludw, gwlithod a malwod... i enwi dim ond rhai! Chwilen goesdew wrywaidd Maen nhw'n bryfed peillio da, ac yn ymweld â blodau wyneb agored amrywiol, gan gynnwys y llygad llo mawr Mae rhai cofnodion diweddar yn cynnwys y chwilen goesdew (Oedemera nobilis), lindys teigr y benfelen (Tyria jacobaeae) sy’n bwydo’n bennaf ar ddail llysiau’r gingroen (Jacobaea vulgaris) a’r gwibiwr bach cornddu (Thymelicus lineola). Mae gwyfynod sy’n hedfan yn ystod y dydd wedi ymweld hefyd, yn cynnwys y bwrned chwe smotyn (Zygaena filipendulae), ac ar fwy nag un achlysur y llynedd, gwelwyd y gwalch-wyfyn hofrol (Macroglossum stellatarum), sy’n ymweld â Chymru o dde Ewrop yn ystod yr haf. Lindys teigr y benfelen Gwibiwr bach cornddu Bwrned chwe smotyn Mae nifer o wahanol gynefinoedd wedi’u creu hefyd er mwyn cynnig mwy o gyfleoedd i fywyd gwyllt o amgylch y ddôl. Nid dim ond pryfed sy’n ymweld â’r ddôl. Mae heidiau drudwy (Sturnus vulgaris) i’w gweld yn aml yn crwydro drwy’r ddôl yn chwilio am bryfed, ac un min nos yn ddiweddar, gwelwyd draenog (Erinaceus europaeus) wrth ymyl y ddôl.Mae ein Curaduron Gwyddorau Naturiol wedi creu adnoddau i’ch helpu i adnabod planhigion, anifeiliaid, creigiau a ffosiliau ar garreg eich drws. Mae’r rhestr ar gael ar ein gwefan: Taflen Sylwi | Museum Wales Hannah Jenkins Curadur Cynorthwyol: Botaneg Gweld Proffil Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.