Blogiau Amgueddfeydd

Casgliad Stiwdio Gwen John yn Amgueddfa Cymru

Helena Anderson, 3 Mawrth 2026

Cyflwyniad: Taith Casgliad Stiwdio Gwen John

Yn 1976, gan mlynedd ar ôl geni Gwen John, fe brynodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru bron i 1,000 o weithiau'r artist gan ei nai, Edwin. Yn y casgliad roedd llond llaw o baentiadau olew a channoedd o weithiau ar bapur o stiwdio Gwen.

Beth yw Casgliad Stiwdio?

Casgliad stiwdio yw'r gweithiau sydd ar ôl yn stiwdio'r artist ar ôl iddyn nhw farw.

Bu farw Gwen John yn sydyn ym mis Medi 1939, a gadael ei heiddo a'i gweithiau celf i gyd i'w nai. Roedd Ewrop newydd fynd i ryfel a brysiodd Edwin i Baris i ddod â cymaint â phosib o'r gwaith yn ôl i ddiogelwch y DU, cyn dychwelyd am y gweddill ar ôl y Rhyfel. Mae mwyafrif y gweithiau o'r stiwdio nawr yng nghasgliad Amgueddfa Cymru, ond cafodd nifer o weithiau eu gwerthu yn oriel Matthiesen ar Bond Street yn Llundain yn 1946, ac mewn arddangosfeydd diweddarach yn y 50au a'r 60au.

Sut Ddaeth y Casgliad i Amgueddfa Cymru?

Ar ôl prynu gweddill y gweithiau, daeth Amgueddfa Cymru'n gartref i'r casgliad cyhoeddus mwyaf yn y byd o waith Gwen John – casgliad sy'n cynnwys dros 900 darlun, chwe phaentiad olew a nifer o lyfrau braslunio. ⁠Cyn hynny, dim ond tri darlun a phedwar o baentiadau Gwen John oedd yn yr Amgueddfa.

Paentiadau Anorffenedig yn Datgelu ei Thechneg

Mae casgliad stiwdio Gwen John yn taflu goleuni ar y gwahanol destunau y gwnaeth hi eu paentio, a'r amrywiaeth o arddulliau y byddai hi'n arbrofi â nhw. Mae Gwen yn bennaf adnabyddus am ei phaentiadau olew cynnil o ferched a menywod yn eistedd, ac oherwydd bod yr esiamplau yn ei chasgliad stiwdio yn anorffenedig, mae'n nhw'n datgelu mwy am ei thechneg. ⁠Er enghraifft, mae Proffil Merch (NMW A 148) yn dangos sut fyddai Gwen yn crafu arwyneb y paent lle'r oedd y ferch yn wreiddiol yn gwisgo rhuban. Rhaid ei bod hi wedi'i siomi â'r ymdrech gyntaf, ac wedi ei grafu ymaith er mwyn dechrau eto. Mae Astudiaeth o Ferch Noeth yn Eistedd (NMW A 4928) yn anghyffredin am ei fod yn dangos bod Gwen wedi gweithio o'r ymylon tuag at ganol y gwaith, gan baentio’r wyneb olaf. Gwelwn yn y ddau baentiad hyn hefyd y grwnd anarferol o galchog (yr haen waelod y byddai'r artist yn ei ddefnyddio i orchuddio'r gynfas cyn ychwanegu paent olew). Byddai Gwen yn cymysgu'r grwnd hwn ei hun, a dydyn ni ddim yn gwybod yr union gynhwysion hyd heddiw.

Cyfoeth o Frasluniau a Gweithiau ar Bapur

Nodwedd amlycaf y casgliad, fodd bynnag, yw'r cyfoeth o ddarluniau a dyfrlluniau. Tra bod testunau a thechneg llawer mwy bwriadus yn ei phaentiadau, mae gweithiau Gwen ar bapur yn llawn amrywiaeth. Yn eu plith mae tirluniau a golygfeydd stryd, astudiaethau o flodau a choed, brasluniau o gathod a cheffylau, a chopïau o bortreadau ffotograffig. Mae nifer o'r gweithiau yn gyfresi sy'n ailadrodd yr un testun. Gall y rhain fod bron yn unfath (NMW A 15751, NMW A 15752, NMW A 15753), neu'n llawn amrywiaeth lliw a chyfrwng (NMW A 15303, NMW A 15304, NMW A 15305). ⁠

Testunau Mwyaf Cyffredin: Eglwysi, Ffigurau a Bywyd Bob Dydd

Ffigurau yn yr eglwys yw ei thestunau mwyaf cyffredin ar bapur (NMW A 3811). Byddai hi'n aml yn darlunio'r gynulleidfa yn eglwys y plwyf ym Meudon, gan eu copïo’n ddiweddarach yn y stiwdio gan ychwanegu dyfrlliw a phigment gwyn (NMW A 3611). Y ddelwedd fwyaf cyffredin o lawer yw'r portread o Santes Thérèse o Lisieux a'i Chwaer, Céline, yn blant (NMW A 3536, NMW A 15563, NMW A 15565).⁠ Ysbrydolwyd y portread gan ffotograff oedd yn eiddo i Gwen. Ym mhob fersiwn wahanol byddai Gwen yn addasu'r cyfansoddiad, gan ychwanegu a thynnu'r llenni, y papur wal a'r teganau yn y cefndir, arbrofi â graddfa, a newid lliw a phatrwm pob arwyneb yn ei dro. Byddai hi hefyd yn defnyddio lliwiau llawer mwy llachar ar bapur nag y gwnaeth hi erioed yn ei phaentiadau olew.

Beth mae'r Casgliad yn Datgelu am Gwen John

Mae casgliad stiwdio Gwen John yn rhoi cipolwg i ni ar grefft un o hoff artistiaid Cymru, ac mae'r cyfuniad o baentiadau anorffenedig, brasluniau a gweithiau ar bapur yn datgelu proses artistig hynod drefnus ac arbrofol. ⁠Mae hefyd yn codi'r llen ar ei byd: ei chartref, ei ffrindiau a'i chymdogion, ei chathod hoff, ei diddordeb mewn natur a chrefydd, a'i haddysg gelfyddydol. Dyma adnodd amhrisiadwy sy'n dyst i grefft un o artistiaid enwocaf Cymru yr ugeinfed ganrif.

Ystlumod yn Amgueddfa Lechi Cymru: Gwarchod ein preswylwyr lleiaf yn ystod y gwaith ail-ddatblygu

3 Mawrth 2026

Wrth i waith ailddatblygu ar y safle fynd yn ei flaen, mae cymuned bwysig o greaduriaid bach yn cymeryd blaenoriaeth yn ein cynlluniau - ein ystlumod bach! 

Gan weithio yn agos gyda'r Ecolegydd Carola Hoskins o SK Environmental Solutions Ltd, rydym wedi bod yn cadw llygaid ar yr ystlumod i gyd ar y safle a rydym yn gwarchod 10 clwyd ar y safle. 

Ystlumod soprano pipistrelle a pipistrelle cyffredinol yw rhain, sef dau o’r mathau lleiaf o ystlumod yn y DU.  

Mae 7 clwyd yn cael eu defnyddio gan ystlumod gwrywiadd, neu ystlymod benywaidd sydd ddim yn cario babi ond mae un yn arbennig iawn gan ei fod yn glwyd famolaeth sy’n cefnogi 65 ystlym yn ystod cynfod prysur yr haf.

Lle Diogel i Groesawu Bywyd Newydd

Mae’r ystlymod yn cysgu mewn lleoliadau gwahanol ar hyn o bryd ond rydym yn digswyl iddynt ddychwelyd i'r safle tua diwedd Ebrill pan fydd 35 ystlym benywaidd yn setlo mewn i’w clwyd mamolaeth. Erbyn diwedd Mai neu dechrau Mehefin, bydd bob Mam yn rhoi genedigaeth i un cenau gan ddwblu maint y gytref dros nos! Er bod 65 ystlum yn swnio fel nifer da, mae hyn mewn gwirionedd yn gytref famolaeth fach, sy’n ei wneud yn un pwysig iawn. 

Addasiad Natur bendigedig

"Er bod gan yr ystlumod nifer o nodweddion difyr, un o’r pethau mwyaf diddorol ydi’r ffaith ei bod yn gallu oedi beichiogrwydd." meddai Carola. 

"Byddant yn gwneud hyn drwy storio’r sberm o’r hydref drwy’r gaeaf oer. Mae hyn yn galluogi nhw eni yn ystod tywydd cynhesach y gwanwyn, ble mae mwy o fwyd ar gael iddynt a gwell siawns o oroesi. Dyma un o’r prif resymau pam fod yr ystlumod yn ffynnu yn y DU."

Cadwraeth yn Ganolog i’n Gwaith Ail Ddatblygu

Mae ystlumod a’u clwydi yn cael eu gwarchod yn gyfreithiol, sy’n golygu fod unrhyw waith i’r toeau neu leoliadau posib i ystlumod ymgartrefu yn gorfod digwydd dan drwydded. Mae’r gwaith hwn yn gorfod digwydd yn ystod y gaeaf, tra bod yr ystlumod yn cysgu mewn lleoliad arall. 

Mae Carola yn gweithio gyda’n tîm ni er mwyn cynghori a rhoi arweiniad ar y gwaith yma er mwyn sicrhau fod y mynedfaoedd dal ar agor, fod y strwythur yn ddiogel a bod y gofodau yn rhydd i’r ystlumod ddychwelyd yn y gwanwyn. 

Rydym yn falch iawn o warchod y mamaliaid bychain yma, sydd wedi bod yn ymgartrefu yn yr amgueddfa ers amser maith.

Ariannwyd y project gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU drwy Gyngor Gwynedd fel rhan o’r prosiect Llewyrch o'r Llechi, Llywodraeth Cymru yn cynnwys Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol,  Sefydliad Wolfson, Sefydliad Garfield Weston ac arianwyr eraill.                                        Rydym yn ddiolchgar iawn i’n cyllidwyr i gyd am eu cefnogaeth.

Cydweithio i drwsio Una

Chloe Ward, 26 Ionawr 2026

Mae Una wrthi'n cael ei thrwsio yn Boston Lodge, gweithdai peirianyddol Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri. Ym mis Rhagfyr a Ionawr, fu grŵp o wirfoddolwyr draw i helpu efo’r gwaith! 

Adeiladwyd Una ym 1905 gan gwmni Hunslet o Leeds a bu’n gweithio yn Chwarel Mhen-yr-Orsedd tan tua 1960, yn cael ei defnyddio’n bennaf i gludo wagenni o rwbel y tu mewn i’r Chwarel. Yn anffodus methodd ei phrofion perfformiad ychydig flynyddoedd yn ôl ac mae wedi gorfod aros yn segur ers hynny oherwydd rheolau iechyd a diogelwch, er mawr siom i staff ac ymwelwyr.

Fu'r cyfle i helpu gyda'r gwaith atgyweirio yn rhan o'r cydweithrediad rhwng Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri ac Amgueddfa Lechi Cymru - oedden ni'n gwybod byddai pobl yn neidio ar y cyfle i fod yn rhan o stori Una!

Dros ddau benwythnos, helpodd sawl gwirfoddolwr i ‘sandio’, crafu, glanhau a pharatoi darnau metel oddi ar Una, yn barod i'w ail-baentio. Mae hyn yn rhan hanfodol o adfer Una a sicrhau bod yr injan stêm yn cael ei chadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gan fod paent ffres yn helpu i amddiffyn y metel. 

"Mae'r diwrnod a dreuliais yn gweithio ar Una wedi fy arwain at ddilyn y cyfle i wirfoddoli ar brosiectau eraill o fewn Safle Treftadaeth Lechi Gogledd-orllewin Cymru... Fe wnes i fwynhau'r diwrnod yn fawr" 

- David, gwirfoddolwr

Diolch yn fawr i bawb ddoth draw i Finffordd ar ddyddiau oer gaeafol i helpu ni efo Una. Braf oedd cael rhannu hanes yr injan stêm bach, a gweld eich brwdfrydedd.

Wrth i'r gwaith barhau ar Una, rydym yn gobeithio cynnig mwy o gyfleoedd i bobl ymgysylltu â'r daith! Ymunwch â'n rhestr bostio i sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y cyfleoedd diweddaraf:

Tanysgrifiwch i'r rhestr bostio

Ariennir y project gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU drwy Gyngor Gwynedd fel rhan o brosiect Llewyrch o'r Llechi, Llywodraeth Cymru gan gynnwys y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, Sefydliad Wolfson a Sefydliad Garfield Weston a chyllidwyr eraill. Rydym yn hynod ddiolchgar i'n holl gyllidwyr am eu cefnogaeth.

Logo strip Ionawr 2026

Blwyddyn Newydd yn Sain Ffagan

Ellen Davies, 19 Ionawr 2026

Yn draddodiadol, mae mis Ionawr yn gyfnod tawel. Mae cyffro’r Nadolig wedi mynd heibio ac rydyn ni i gyd yn aros yn eiddgar am ddiwedd y gaeaf, ond mae hefyd yn adeg i ddechrau o’r newydd.  

Yma yn Sain Ffagan, rydyn ni wedi dechrau'r flwyddyn ar garlam! Dros y misoedd nesaf, bydd yr Amgueddfa yn fwrlwm o weithgareddau wrth i ni gyflawni projectau i wella profiad ymwelwyr, gan gynnwys: ⁠  

  • Diweddaru'r ardal chwarae  
  • Rhoi to newydd ar Gastell Sain Ffagan  
  • Ailwampio'r Siop Losin a chyflwyno llond siop o gynnyrch newydd  
  • Ailddylunio'r siop yn y prif adeilad  
  • Datblygu siop goffi newydd yn Gweithdy  
  • Adnewyddu'r bloc toiledau ger Tai Teras Rhyd-y-car  

Bydd ymweld yn ystod y cyfnod hwn yn wahanol a bydd rhai mannau ar gau. Byddwn ni'n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ddatblygiadau wrth iddyn nhw ddigwydd.  

Diolch am eich amynedd wrth i ni wneud y gwaith hwn – rydyn ni'n addo y bydd yn werth chweil!  

Os hoffech chi gael y newyddion diweddaraf, gallwch chi gofrestru i dderbyn ein cylchlythyr neu ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol.  

Gwaith y Gaeaf yn Ngerddi Sain Ffagan

Elin Barker, Cadwraethydd Gardd , 9 Ionawr 2026

Efallai bod y gaeaf yn ymddangos yn gyfnod tawel yn yr ardd, ond mae digon yn dal i ddigwydd y tu ôl i'r llenni. Wrth i'r dyddiau fynd yn fyrrach ac yn oerach, mae'r tîm garddio yn dechrau paratoi ar gyfer y tymor sydd i ddod. Rhai o'r ardaloedd prysuraf yw gerddi'r Castell, lle rydym yn tocio rhosod a choed, yn gorchuddio'r gwelyau gyda ‘mulch’, ac yn torri'r gwrychoedd yn ôl.

Mae'r castell wedi'i amgylchynu gan wrychoedd uchel a thrwchus. Maen nhw’n creu ‘ystafelloedd gardd’, gerddi bach gyda themâu gwahanol, wedi’u cuddio oddi wrth ei gilydd. Roedd y steil yma'n boblogaidd iawn yn ystod cyfnod Edwardaidd. Roedd gan bob ardal ei chymeriad ei hun, ac roedd y wrychoedd uchel yn ychwanegu elfen o syndod a diddordeb wrth droi pob cornel.

Yn y gorffennol, roedd y wrychoedd hyn yn cael eu torri i gyd gyda llaw, ond bellach, diolch byth, rydyn ni hefyd yn defnyddio torrwyr trydanol!

Rydyn ni hefyd yn gweithio ar y lôn o goed leim sy’n arwain at y castell, a blannwyd yn 1901. Rydyn ni’n eu pollardio - dull arbennig o docio sy’n golygu torri’r canghennau uchaf i ffwrdd ond cadw’r prif foncyff. Mae’n waith caled, ond mae’n cadw’r siâp trawiadol ac yn helpu’r coed i edrych fel yr oeddent ers canrifoedd.

Yn y gerddi bwthyn, rydym yn dechrau rhoi'r gerddi i'r gwely ar gyfer y gaeaf. Mae hyn yn golygu torri planhigion nôl, tacluso'r gwelyau a throi’r pridd - sy’n dod a llawenydd mawr i’r robin goch lleol, sy’n ein dilyn yn y gobaith o ddod o hyd i fwydyn! Rydyn ni hefyd yn ychwanegu tail sydd wedi pydru'n dda i wella'r pridd, er mwyn tyfu cnydau iach a chryf yn y flwyddyn newydd.

Job arall yw casglu deunyddiau ar gyfer torchau Nadolig. Bob blwyddyn, rydyn ni’n gwneud torchau traddodiadol i addurno drysau ein tai hanesyddol (gallwch ddarllen mwy am hyn yn yr erthygl ar-lein o’r Nadolig diwethaf!). Rydyn ni’n defnyddio deunyddiau naturiol o amgylch y safle.

Rydyn ni’n copïo cyll a helyg i greu sylfeini cryf a hyblyg ar gyfer y torchau. Mae copïo’n ddull traddodiadol a chynaliadwy o reoli coetiroedd, lle mae coed ifanc yn cael eu torri’n ôl i’r ddaear fel bod canghennau newydd yn tyfu. Roedd hyn yn arfer cyffredin yng ngerddi a choetiroedd Cymru. Rydyn ni hefyd yn defnyddio planhigion hyblyg eraill fel wisteria a gwinwydd cochion (crimson glory vine) sy’n creu troellau prydferth ar y torchau.

Er bod y blodau wedi mynd, mae digon o hud dal yn y gerddi. Mae’r rhew yn disgleirio ar benau hadau a choesynnau rydyn ni wedi’u gadael i ddarparu bwyd a lloches i fywyd gwyllt. Mae canghennau wedi'u gorchuddio a chen yn creu patrymau hardd yn erbyn awyr y gaeaf. Mae aeron coch yn tywynnu yng ngolau isel yr haul. Ac os ydych chi'n lwcus, efallai y byddwch chi hyd yn oed yn gweld glas y dorlan yn plymio'n isel dros y pyllau trwy niwl y bore.

Mae cymaint i'w weld a'i fwynhau o hyd wrth i ni groesawu’r gaeaf yng ngerddi Sain Ffagan.