Blogiau Amgueddfeydd

Gwaith cadwraeth ar wrthrychau'r Amgueddfa Lechi

16 Ebrill 2026

Mae cadwraeth wrth wraidd prosiect ailddatblygu Amgueddfa Lechi Genedlaethol ac mae'r tîm Cadwraeth eisoes yn gweithio'n galed yn asesu ac yn gweithio ar y casgliadau i'w cadw'n ddiogel a sicrhau eu bod yn edrych ar eu gorau, pan fydd yr Amgueddfa yn ailagor. 

Jennifer Griffiths yw Uwch Gadwraethwr Casgliadau'r Diwydiant ac mae'n un o sawl aelod o'r tîm sy'n gweithio ar gasgliad yr Amgueddfa. Dyma ychydig o hanes y gwaith mae hi'n ei wneud ar hyn o bryd: 

“Rydw i wedi dechrau fy rhan i o’r gwaith cadwraeth drwy drin troli tâliadau" meddai Jennifer. 

"Mae'r cabinet pren yma yn cynnwys 49 o duniau tâl bach wedi’u gwneud o dunplat. Roedd y cabinet a’r holl ddroriau yn y cabinet yn fudr iawn gyda baw ar yr wyneb a baw wedi’i wreiddio, ac roedd y tuniau i gyd wedi cyrydu’n drwm iawn. Gellir gweld y cabinet yma cyn ac ar ôl y gwaith cadwraeth. 

"Hyd yn hyn, mae cadwraeth y cabinet a 7 o’r tuniau wedi cymryd cyfanswm o 45 diwrnod o waith. Mae pob tun tâl yn cymryd 2 ddiwrnod i’w gwblhau, ac mae 7 tun wedi’u cwblhau hyd yn hyn. 

"Dim ond 42 tun i fynd!"

Mae nifer o bobol eraill yn gweithio ar y casgliad hefyd yn cynnwys ein casgliad patrymau pren anferth, dilladau, dodrefn, papur a llawer mwy! 

Dros y misoedd nesaf byddwn yn edrych yn fwy manwl ar y holl elfennau gwahanol o gadwraeth sy'n mynd ymlaen yn rhan o'r project ailddatblygu cyffrous yma felly cadwch lygaid allan am fwy o hanes. 

Noddir y project ailddatblygu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU drwy Cyngor Gwynedd fel rhan o broject Llewyrch o'r Llechi, Llywodraeth Cymru gan gynnwys y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, Sefydliad Wolfson, Sefydliad Garfield Weston a noddwyr eraill. Rydyn ni'n diolch o galon i'n holl noddwyr am eu cefnogaeth. 

Gwanwyn yn Sain Ffagan

Ellen Davies, 18 Mawrth 2026

Mae’r gwanwyn yn gyfnod arbennig yn Sain Ffagan. Mae’r cennin pedr a’r crocysau yn blodeuo ac mae’r fferm yn gwch gwenyn o weithgarwch.  

O fis Chwefror i Ebrill, mae Llwyn-yr-eos yn llawn sŵn brefu wrth i’r defaid gysgodi yn y siediau wyna. Eleni, rydym yn disgwyl dros 350 o ŵyn. Mae 200 o ŵyn wedi’u geni hyd yn hyn ac mae mwy i ddod.  

Rydyn ni’n cadw tri brid prin o ddefaid yn Sain Ffagan:  

  • Llanwenog  
  • Defaid Mynydd Maesyfed
  • Defaid Mynydd Duon Cymreig

Mae cadw bridiau prin yn bwysig oherwydd eu bod yn rhan o dreftadaeth ffermio Cymru.  Gallwch dysgu mwy am y bridiau prin yn y blog hwn

Unwaith mae ŵyn yn cael eu geni, maen nhw’n cael eu marcio gyda’r un rhif a’u mam fel bod modd i’r ffermwyr wybod pa ŵyn sydd yn perthyn i bwy!  

Mae’r ŵyn a’r mamau yn cael eu symud allan o’r sied wyna i ardal dawel cyn iddyn nhw fynd allan i’r caeau. Ydych chi’n gallu dod o hyd i’r mamau a’r ŵyn wrth gerdded o amgylch yr amgueddfa?  

I ddiogelu lles ein defaid, ni chaniateir cŵn ar y fferm yn ystod y tymor wyna.  

Methu ymweld â Sain Ffagan? Does dim ffrwd byw eleni ond gallwch fwynhau uchafbwyntiau’r sied dros y blynyddoedd ar ein gwefan. 

Dathlu Merched sy’n Arwain: Helen Goddard, Cyfarwyddwr Project Ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru. 

6 Mawrth 2026

Dathlu Merched sy’n Arwain: Dyma Helen Goddard, Cyfarwyddwr Prosiect yn Amgueddfa Lechi Cymru.  

Ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched, rydym yn rhoi’r llwyfan i rai o’r merched anhygoel sy’n siapio dyfodol Amgueddfa Lechi Cymru. Heddiw, rydym yn falch o gyflwyno Helen Goddard, Cyfarwyddwr Prosiect ar gyfer ein rhaglen ailddatblygu. 

Arwain gyda Phwrpas 

Fel Cyfarwyddwr Prosiect, mae Helen yn goruchwylio pob agwedd ar ailddatblygiad uchelgeisiol yr Amgueddfa Lechi. Ei rôl yw sicrhau bod y prosiect yn cyflawni ei botensial yn llawn- yn greadigol, yn ddiwylliannol ac o fudd i gymunedau ledled Cymru ac ehangach. 

Dwi’n gyfrifol am y prosiect yn ei gyfanrwydd,” meddai Helen, “a sicrhau ei fod yn cyflawni ei uchelgais.”  

Taith drwy Dreftadaeth 

Cyn ymuno â’r amgueddfa, bu Helen yn gweithio fel archeolegydd ac archeolegydd cymunedol. Treuliodd lawer o’i gyrfa gynnar yn Ynysoedd hardd y Gogledd a’r Gorllewin yn yr Alban, gan weithio’n agos ag ynyswyr ar brosiectau treftadaeth a chymunedol. 

Symudodd Helen i Gymru yn 2011 - gyda’r nod o ddysgu Cymraeg - a chafodd ei chymhwyso’n weithwyr amgueddfeydd wrth weithio i Gyngor Sir Conwy. 

Merched sy’n Arwain y Ffordd 

Mae Helen yn angerddol dros weld mwy o ferched yn camu i mewn i sectorau sydd yn hanesyddol yn cael eu harwain gan ddynion. Er bod cynrychiolaeth dda o ferched ym maes treftadaeth, mae’r sector adeiladu angen dal i fyny. Ond yma yn yr Amgueddfa Lechi, mae’r darlun yn newid. 

“Mae gennym nifer o ferched mewn rolau arweinyddiaeth yma,” meddai.  

“Ein Pennaeth Safle, Elen; y Rheolwr Datblygu Arddangosfeydd, Ulli; ein Curadur, Cadi; a’n Penaethiaid Prosiectau Cyfalaf, Julie a Diane. Maent i gyd yn ferched eithriadol.” 

Ei chyngor i ferched sy’n dymuno dilyn llwybrau tebyg? 

Arwain o’r galon. Ti ddim angen ymddwyn mewn ffordd wrywaidd i arwain. Mae’n iawn i ddangos emosiwn, i gydweithio, ac ymddiried yn dy dîm”. 

Bywyd y Tu Allan i’r Amgueddfa 

Tu hwnt i’r Amgueddfa Lechi, mae gan Helen nifer o straeon annisgwyl - gan gynnwys un bennod gofiadwy yn ei bywyd: 

“Nes i weithio ar gwch pysgota yn Ynysoedd Heibridiau unwaith!” 

Ysbrydoliaeth gan Ddynes Gryf 

Mae Helen yn nodi ei mam fel un o’i dylanwadau mwyaf: 
Daeth fy mam o deulu o 10 o blant yn byw mewn tlodi gwledig, ond gwnaeth hi greu ei llwybr ei hun. Nath hi fyth roi’r gorau i’r freuddwyd o helpu pobl, ac aeth ymlaen i ddod yn Nyrs Ymarferydd tuag at ddiwedd ei gyrfa.” 

Diolch am rannu, Helen, mi wyt yn ysbrydoliaeth ac yn arweinydd bendigedig 

Bywyd gwyllt cudd yng ngardd yr amgueddfa 🐝🌿

Josh David-Read, 3 Mawrth 2026

Cyn 2017 roedd gardd ganolog Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn ardal dywyll, heb unrhywbeth i ddenu bywyd gwyllt. Yna daeth Gradd GRAFT i droi’r pridd a chreu hafan i fywyd gwyllt mewn ardal goncrid yma yn Abertawe.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf rwyf wedi gweld nifer o rywogaethau o bryfed ac adar yn ymweld â’r Ardd, ac mae rhai wedi ymgartrefi yma yn yr Ardd yn gartref iddynt.

Yn Graft nid ydym yn defnyddio unrhyw blaladdwyr, ac rydym yn ceisio datrys problemau gydag atebion naturiol ac organig

Ar gyfer Diwrnod Bywyd Gwyllt y Byd rwy’n tynnu sylw at rai o’r pryfed a’r adar mwyaf diddorol – a hefyd rhai annifyr – sy’n ymweld â’r Ardd, a sut maent yn effeithio ar y gofod.

Brenhiniaeth y compost! 👑🌱

                                                                     

Rydym yn cynhyrchu ein compost ein hunain ar y safle. Dyma’r lle gorau i weld “brenhiniaeth” y domen gompost, a’r pryfed gorau wrth eu gwaith o dorri deunydd organig i lawr yn bridd cyfoethog ar gyfer ein gwelyau tyfu.

Mae gennym y mwydyn pridd gostyngedig, sy’n helpu i awyru’r pridd ac yn torri deunydd organig i lawr yn bridd defnyddiol. Mae gennym gannoedd os nad miloedd ohonynt! A oeddech chi’n gwybod bod dros 16 o rywogaethau gwahanol? 🪱

Peillwyr 🐝🌼

Dyma’r pryfed rydyn ni’n eu caru fwyaf – y peillwyr. Mae’r rhain yn gasgliad o bryfed (ac weithiau adar, ond nid yn ein hachos ni) sy’n cefnogi ein hecosystem.

Wrth gwrs mae gennym ein gwenyn mêl, sy’n cael eu rheoli gan Alyson a grŵp o fyfyrwyr o Ysgol Dylan Thomas. Ar eu hanterth mae gennym dros 100,000 o wenyn yn ein cychod gwenyn!

Mae gwenyn yn chwarae rhan enfawr mewn bioamrywiaeth fyd-eang a chynhyrchu bwyd, ac rydym yn ffodus iawn o’u cael yma ar y safle. Cadwch lygad ar ein rhaglen ddigwyddiadau am gyfle i’w gweld!

Plâu 🐛

Bydd pob garddwr yn cael brwydr gyda phryfed – boed gwyfyn y bresych neu wlithod yn bwyta ein cnydau!

Ond rwy’n mynd i dynnu sylw at bla gardd llai adnabyddus o’r enw llysiau’r dail (aphids). Pryfed du bach yw’r rhain sy’n casglu mewn miloedd ar blanhigion. Mae aphids yn hoff iawn o’n ffa llydain a’n brocoli.

Gallant achosi clefydau mewn planhigion felly mae’n bwysig eu rheoli. Rydym yn defnyddio plannu cydymaith a hefyd cymysgedd o ddŵr a hylif golchi llestri i helpu ein planhigion.

Mae gennym hefyd arwr bach ar ffurf y fuwch goch gota, sy’n bwyta aphids ac yn helpu i greu cydbwysedd. A oeddech chi’n gwybod y gallwch brynu buchod coch gota drwy’r post? Doeddwn i ddim! 🐞

Adar 🐦

Nid wyf yn wyliwr adar, ond pan fyddaf yn gweithio yn yr ardd ac yn gweld adar yn fy nilyn o gwmpas mae’n rhoi tipyn bach o lawenydd i mi.

Daethom o hyd i dystiolaeth o nyth yn ein gwinwydden y llynedd. Nid wyf yn siŵr pa rywogaeth oedd hi, ond mae gennym hefyd robin goch preswyl sy’n galw’r ardd yn gartref ac yn ei “thiriogaeth”.

Mae robin goch yn hynod diriogaethol ac anaml y byddwch yn gweld mwy nag un ar y tro. Nid ydym wedi rhoi enw ar yr un yma eto – ond efallai y dylem ei galw’n Charles Watkins, ar ôl crëwr awyren Y Robin Goch… 😄

Felly tro nesaf byddwch yn ymweld a’r amgueddfa, ewch allan am dro o amgylch ar ardd i weld pa fywyd gwyllt gallwch chi weld. 

Casgliad Stiwdio Gwen John yn Amgueddfa Cymru

Helena Anderson, 3 Mawrth 2026

Cyflwyniad: Taith Casgliad Stiwdio Gwen John

Yn 1976, gan mlynedd ar ôl geni Gwen John, fe brynodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru bron i 1,000 o weithiau'r artist gan ei nai, Edwin. Yn y casgliad roedd llond llaw o baentiadau olew a channoedd o weithiau ar bapur o stiwdio Gwen.

Beth yw Casgliad Stiwdio?

Casgliad stiwdio yw'r gweithiau sydd ar ôl yn stiwdio'r artist ar ôl iddyn nhw farw.

Bu farw Gwen John yn sydyn ym mis Medi 1939, a gadael ei heiddo a'i gweithiau celf i gyd i'w nai. Roedd Ewrop newydd fynd i ryfel a brysiodd Edwin i Baris i ddod â cymaint â phosib o'r gwaith yn ôl i ddiogelwch y DU, cyn dychwelyd am y gweddill ar ôl y Rhyfel. Mae mwyafrif y gweithiau o'r stiwdio nawr yng nghasgliad Amgueddfa Cymru, ond cafodd nifer o weithiau eu gwerthu yn oriel Matthiesen ar Bond Street yn Llundain yn 1946, ac mewn arddangosfeydd diweddarach yn y 50au a'r 60au.

Sut Ddaeth y Casgliad i Amgueddfa Cymru?

Ar ôl prynu gweddill y gweithiau, daeth Amgueddfa Cymru'n gartref i'r casgliad cyhoeddus mwyaf yn y byd o waith Gwen John – casgliad sy'n cynnwys dros 900 darlun, chwe phaentiad olew a nifer o lyfrau braslunio. ⁠Cyn hynny, dim ond tri darlun a phedwar o baentiadau Gwen John oedd yn yr Amgueddfa.

Paentiadau Anorffenedig yn Datgelu ei Thechneg

Mae casgliad stiwdio Gwen John yn taflu goleuni ar y gwahanol destunau y gwnaeth hi eu paentio, a'r amrywiaeth o arddulliau y byddai hi'n arbrofi â nhw. Mae Gwen yn bennaf adnabyddus am ei phaentiadau olew cynnil o ferched a menywod yn eistedd, ac oherwydd bod yr esiamplau yn ei chasgliad stiwdio yn anorffenedig, mae'n nhw'n datgelu mwy am ei thechneg. ⁠Er enghraifft, mae Proffil Merch (NMW A 148) yn dangos sut fyddai Gwen yn crafu arwyneb y paent lle'r oedd y ferch yn wreiddiol yn gwisgo rhuban. Rhaid ei bod hi wedi'i siomi â'r ymdrech gyntaf, ac wedi ei grafu ymaith er mwyn dechrau eto. Mae Astudiaeth o Ferch Noeth yn Eistedd (NMW A 4928) yn anghyffredin am ei fod yn dangos bod Gwen wedi gweithio o'r ymylon tuag at ganol y gwaith, gan baentio’r wyneb olaf. Gwelwn yn y ddau baentiad hyn hefyd y grwnd anarferol o galchog (yr haen waelod y byddai'r artist yn ei ddefnyddio i orchuddio'r gynfas cyn ychwanegu paent olew). Byddai Gwen yn cymysgu'r grwnd hwn ei hun, a dydyn ni ddim yn gwybod yr union gynhwysion hyd heddiw.

Cyfoeth o Frasluniau a Gweithiau ar Bapur

Nodwedd amlycaf y casgliad, fodd bynnag, yw'r cyfoeth o ddarluniau a dyfrlluniau. Tra bod testunau a thechneg llawer mwy bwriadus yn ei phaentiadau, mae gweithiau Gwen ar bapur yn llawn amrywiaeth. Yn eu plith mae tirluniau a golygfeydd stryd, astudiaethau o flodau a choed, brasluniau o gathod a cheffylau, a chopïau o bortreadau ffotograffig. Mae nifer o'r gweithiau yn gyfresi sy'n ailadrodd yr un testun. Gall y rhain fod bron yn unfath (NMW A 15751, NMW A 15752, NMW A 15753), neu'n llawn amrywiaeth lliw a chyfrwng (NMW A 15303, NMW A 15304, NMW A 15305). ⁠

Testunau Mwyaf Cyffredin: Eglwysi, Ffigurau a Bywyd Bob Dydd

Ffigurau yn yr eglwys yw ei thestunau mwyaf cyffredin ar bapur (NMW A 3811). Byddai hi'n aml yn darlunio'r gynulleidfa yn eglwys y plwyf ym Meudon, gan eu copïo’n ddiweddarach yn y stiwdio gan ychwanegu dyfrlliw a phigment gwyn (NMW A 3611). Y ddelwedd fwyaf cyffredin o lawer yw'r portread o Santes Thérèse o Lisieux a'i Chwaer, Céline, yn blant (NMW A 3536, NMW A 15563, NMW A 15565).⁠ Ysbrydolwyd y portread gan ffotograff oedd yn eiddo i Gwen. Ym mhob fersiwn wahanol byddai Gwen yn addasu'r cyfansoddiad, gan ychwanegu a thynnu'r llenni, y papur wal a'r teganau yn y cefndir, arbrofi â graddfa, a newid lliw a phatrwm pob arwyneb yn ei dro. Byddai hi hefyd yn defnyddio lliwiau llawer mwy llachar ar bapur nag y gwnaeth hi erioed yn ei phaentiadau olew.

Beth mae'r Casgliad yn Datgelu am Gwen John

Mae casgliad stiwdio Gwen John yn rhoi cipolwg i ni ar grefft un o hoff artistiaid Cymru, ac mae'r cyfuniad o baentiadau anorffenedig, brasluniau a gweithiau ar bapur yn datgelu proses artistig hynod drefnus ac arbrofol. ⁠Mae hefyd yn codi'r llen ar ei byd: ei chartref, ei ffrindiau a'i chymdogion, ei chathod hoff, ei diddordeb mewn natur a chrefydd, a'i haddysg gelfyddydol. Dyma adnodd amhrisiadwy sy'n dyst i grefft un o artistiaid enwocaf Cymru yr ugeinfed ganrif.