Helios

Digwyddiad:Helios

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen

Gwybodaeth

21 Gorffennaf–31 Awst 2026
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Helios

Llun (c) Delweddau Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Anthony Chappell-Ross

Henffych Helios! Dyma osodwaith rhyfeddol, saith metr o led gan yr artist Luke Jerram sy'n gyfle i'r gwyliwr edrych o'r newydd (yn ddiogel) ar ein Haul hynod.

Mae'r gwaith yn defnyddio delweddau solar gan wyddonwyr NASA i greu pelen olau sy'n dangos yr Haul yn ei holl fanylder – o frychau a ffaglau haul, i'r effaith wnaeth sicrhau bod Golau'r Gogledd i'w weld o'r DU yn 2024. Ar y raddfa hon, mae pob centimedr ar Helios yn 2,000 km ar yr Haul. Mae'n ffordd wych o archwilio'r gofod gyda'n gilydd.

⁠⁠Diolch i'w wawr newidiol ysgafn a chyfeiliant y trac sain atmosfferig, mae Helios yn ofod tawel, llawn ysbrydoliaeth lle gall teuluoedd oedi, edrych, a rhyfeddu ar y seren sy'n rhoi golau, gwres a bywyd i ni. Gydag enw sy'n adleisio duw Groegaidd yr Haul, mae'r gwaith yn cyfuno gwyddoniaeth, chwedleua a'r dychymyg.

Fel profiad hafaidd rhad ac am ddim i'r chwilfrydig – mae Helios yn gyfle rhy dda i'w golli.

Archebwch eich tocyn ymweliad cyffredinol am ddim

Archebu tocynnau

 

Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi’n hael gan chwaraewyr Postcode Lottery. 

 
 
Loteri Cod Post y Bobl mewn llythrennau coch a fras

Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi’n hael gan chwaraewyr Postcode Lottery.

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau