Hysbysiad Preifatrwydd
Mae Amgueddfa Cymru (yr Amgueddfa) yn casglu gwybodaeth bersonol at ddibenion sy’n ymwneud yn uniongyrchol ag un o wasanaethau, swyddogaethau neu weithgareddau’r Amgueddfa. Mae’r Amgueddfa’n cadw’r wybodaeth hon yn ddiogel yn unol â deddfwriaeth gyfredol y Deyrnas Unedig. Mae’r Amgueddfa’n casglu eich gwybodaeth bersonol at y dibenion canlynol:
- Gweinyddu a Rheoli’r Amgueddfa: er enghraifft, recriwtio, cyflogres, pensiynau, casglu ystadegau am ymwelwyr, contractau gwasanaethu neu sicrhau bod catalogau a chyfeiriaduron yn gywir.
- Ymchwil: er enghraifft, canfod ffyrdd o wella ein gwasanaethau, pa adrannau ar ein gwefan y bydd pobl yn ymweld â nhw, neu ychwanegu at ein gwybodaeth a dealltwriaeth o arddangosfeydd a chasgliadau’r Amgueddfa a sefydliadau eraill.
- Curadurol: er enghraifft, ychwanegu at ein gwybodaeth a dealltwriaeth o arddangosfeydd a chasgliadau’r Amgueddfa.
- Hyrwyddo: er enghraifft, cysylltu â chi i rannu gwybodaeth am arddangosfeydd, digwyddiadau neu weithgareddau eraill yr Amgueddfa.
- Diogelwch: er enghraifft, sicrhau diogelwch ymwelwyr, eiddo, personél, seilwaith a chasgliadau’r Amgueddfa.
- Codi arian: er enghraifft, cysylltu â’n cefnogwyr a’n cymwynaswyr.
Caiff eich gwybodaeth bersonol ei chadw am gyfnod rhesymol. Ar brydiau, byddwn yn gweithio trwy gontract â thrydydd parti i ddarparu’r gwasanaethau hyn, ond ni fyddwn byth yn gadael i unrhyw drydydd parti ddefnyddio eich gwybodaeth chi mewn unrhyw ffordd ar wahân i’r hyn a gontractiwyd gennym ni.
Eich hawliau
Fel gwrthrych data, mae gennych nifer o hawliau. Gallwch wneud y canlynol:
- cael mynediad at a chael copi o’ch data ar gais
- gofyn i ni newid data anghyflawn neu anghywir
- gofyn i ni ddileu neu stopio prosesu eich data, er enghraifft pan nad yw’r data yn angenrheidiol at ddibenion prosesu bellach
- gwrthwynebu i ni brosesu eich data lle byddwn yn dibynnu ar ein diddordeb cyfreithlon fel sail gyfreithiol ar gyfer ei brosesu.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a sut y byddwn yn ei ddefnyddio, cysylltwch â Neil Wicks, Amgueddfa Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NP, neu e-bostiwch swyddogdiogeludata@amgueddfacymru.ac.uk.