Cynllun Aelodaeth Amgueddfa Cymru – Telerau ac Amodau

Trwy ymaelodi â chynllun Aelodaeth Amgueddfa Cymru, rydych yn cytuno i gydymffurfio â'r telerau ac amodau Aelodaeth a nodir isod.

Lefelau aelodaeth

  • Unigolyn
  • Aelodaeth ar y cyd
  • Teulu

Mae manteision pob lefel Aelodaeth i’w gweld isod.

TELERAU AC AMODAU AR GYFER AELODAU AMGUEDDFA CYMRU

Trwy ymaelodi â chynllun Aelodaeth Amgueddfa Cymru, rydych yn cytuno i gydymffurfio â'r Telerau ac Amodau Aelodaeth a nodir isod.

1 CYMHWYSEDD A BUDDION AELODAETH

1.1 CYFFREDINOL

1.1.1 Mae Amgueddfa Cymru’n cadw'r hawl i newid neu amrywio’r pris aelodaeth a hysbysebir.
1.1.2 Nid oes modd trosglwyddo aelodaeth nac unrhyw fuddion.
1.1.3 Mae aelodau’n ymrwymo i gontract 12 mis.
1.1.4 Gellir canslo aelodaeth o fewn 14 diwrnod o gofrestru, ond dim ond os nad oes unrhyw fuddion wedi'u defnyddio.
1.1.5 Mae aelodaeth ar y cyd ar gyfer dau oedolyn sy'n byw yn yr un cyfeiriad. Bydd y ddau aelod yn derbyn cerdyn aelodaeth, byddant yn gallu prynu tocynnau dan y drefn blaenoriaeth wrth archebu ac yn gallu manteisio ar gynigion a thocynnau rhatach.
1.1.6 Mae aelodaeth teulu ar gyfer hyd at ddau oedolyn a nifer diderfyn o blant sy'n byw yn yr un cyfeiriad. Bydd y ddau aelod yn derbyn cerdyn aelodaeth, byddant yn gallu prynu tocynnau dan y drefn blaenoriaeth wrth archebu ac yn gallu manteisio ar gynigion a thocynnau rhatach.
1.1.7 Mae Amgueddfa Cymru’n cadw'r hawl i dynnu buddion yn ôl ar unrhyw adeg heb rybudd ymlaen llaw.
1.1.8 Mae Amgueddfa Cymru'n cadw'r hawl i wneud addasiadau i gynlluniau Aelodaeth Amgueddfa Cymru heb rybudd ymlaen llaw.

1.2 CYMHWYSEDD

1.2.1 Rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn i wneud cais am aelodaeth neu adnewyddu aelodaeth.
1.2.2 Rhaid i ymgeiswyr a derbynwyr rhodd aelodaeth ar y cyd fod yn ddau oedolyn sy'n byw yn yr un cyfeiriad, a byddant yn derbyn un ohebiaeth fesul aelwyd, oni bai bod y ddau wedi dewis derbyn gohebiaeth.
1.2.3 Mae Amgueddfa Cymru yn cadw'r hawl i wrthod cais am aelodaeth neu derfynu aelodaeth ar unrhyw adeg oherwydd camymddwyn neu ymddygiad annerbyniol ar safle Amgueddfa Cymru neu mewn digwyddiad sy'n ymwneud ag Amgueddfa Cymru. Mae'n bosib y bydd camau cyfreithiol yn cael eu cymryd hefyd.

1.3 CYMALAU BUDDION CYFFREDINOL

1.3.1 Mae holl fuddion aelodau yn para am gyfnod o flwyddyn (oni nodir yn wahanol).
1.3.2 Nodwch y gallwch ddiweddaru eich manylion a'ch dewisiadau ar unrhyw adeg trwy fynd i'ch cyfrif aelodaeth ar-lein neu drwy gysylltu â ni.
1.3.3 Nid oes modd trosglwyddo eich aelodaeth a enwir.
1.3.4 Ni ellir cyfuno cynigion aelodau ag unrhyw gynigion, gostyngiadau neu gonsesiynau eraill ac ni ellir eu defnyddio ar gyfer tocynnau sydd eisoes wedi'u prynu.
1.3.5 Mae gostyngiadau a chynigion arbennig eraill yn amodol ar argaeledd.
1.3.6 Mae gan aelodau hawl i ostyngiad o 10% ym mhob un o'n siopau a'n caffis. Ni ellir defnyddio'r cynnig hwn ar y cyd ag unrhyw gynigion eraill (megis: eitemau sêl, 3 am bris 2 a chynigion 'prynu un a chael un am ddim').

2 COFRESTRU AC ADNEWYDDU

2.1 SUT I GOFRESTRU

2.1.1 Mae modd cyflwyno cais am aelodaeth newydd ar-lein yn https://fy.amgueddfa.cymru
2.1.2 Mae modd adnewyddu aelodaeth ar-lein drwy fewngofnodi i'ch cyfrif aelod ar-lein yn https://fy.amgueddfa.cymru

2.2 TALU

1.7.1 Gellir talu gyda cherdyn credyd neu gerdyn debyd.
1.7.2 Bydd y taliad yn cynnwys y dyddiau sy'n weddill yn y mis a brynwyd ac yn cael ei adnewyddu'r mis canlynol. Er enghraifft os yw'r taliad yn cael ei wneud ar 22 Ionawr 2023, bydd yr Aelodaeth yn dod i ben ar 1 Chwefror 2024.

2.3 CANSLO AC AD-DALIADAU

2.3.1 Mae aelodaeth yn ffordd o gefnogi Amgueddfa Cymru. Unwaith y bydd y tâl aelodaeth wedi'i dalu'n llawn a cherdyn wedi'i gyhoeddi, ni ellir gwneud unrhyw ad-daliad.
2.3.2 Mae'r aelodaeth yn para blwyddyn ac mae'n rhaid ymrwymo i gwblhau'r amserlen dalu.
2.3.3 Mae buddion aelodaeth yn ddilys tra bod eich aelodaeth yn weithredol. Mae buddion aelodaeth yn darfod pan fydd aelodaeth yn cael ei chanslo neu'n dod i ben.

2.4 CYNIGION RECRIWTIO AC ANRHEGION ATEGOL AELODAETH

2.4.1 O bryd i'w gilydd, gall Amgueddfa Cymru gyflwyno cynigion arbennig i hyrwyddo aelodaeth. Ni chaniateir unrhyw geisiadau swmp neu drydydd parti, ac ni ellir defnyddio cynigion gydag ag unrhyw gynigion neu hyrwyddiadau eraill.

3 Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data

3.1.1 Bydd enwau a manylion cyswllt aelodau’n cael eu cadw mewn cronfa ddata er mwyn i ni anfon gwybodaeth atoch yn ymwneud ag Amgueddfa Cymru. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn, trwy'r post a thrwy e-bost i roi'r newyddion diweddaraf i chi gan gynnwys gwybodaeth am arddangosfeydd a digwyddiadau sydd ar y gweill.
3.1.2 Bydd Amgueddfa Cymru yn cadw ac yn prosesu eich data personol yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth Diogelu Data berthnasol.
3.1.3 Mae gan aelodau'r hawl i benderfynu a ydyn nhw eisiau derbyn rhagor o wybodaeth gan Amgueddfa Cymru. Os ydych yn newid eich meddwl ar unrhyw adeg yn ystod eich aelodaeth, rhowch wybod i ni.
3.1.4 Os ydych yn dymuno peidio â derbyn gwybodaeth o'r fath ar unrhyw adeg, cofiwch ddiweddaru gosodiadau eich cyfrif trwy ddefnyddio Mewngofnodi | Amgueddfa Cymru yn yr adran 'Fy Nghyfrif'.

4. AMRYWIO'R TELERAU AC AMODAU HYN

Mae Amgueddfa Cymru yn cadw'r hawl i amrywio'r telerau ac amodau hyn o bryd i'w gilydd. Bydd amrywiadau o'r fath yn dod i rym yn syth ar ôl eu rhoi ar wefan Amgueddfa Cymru.

Darllenwch y telerau ac amodau hyn yn ofalus cyn gwneud cais am aelodaeth, adnewyddu aelodaeth neu brynu aelodaeth fel anrheg.

Dylech ddeall, drwy gyflwyno'r cais ar-lein, dros y ffôn neu drwy'r post, eich bod yn cytuno i gael eich rhwymo gan y telerau ac amodau hyn a'n hysbysiad preifatrwydd.

Dylid darllen y telerau ac amodau aelodaeth hyn ar y cyd â thelerau ac amodau gwerthu Telerau ac Amodau Tocynnu | Amgueddfa Cymru

Noder: Os ydych yn defnyddio aelodaeth a brynwyd i chi gan rywun arall, trwy eich gweithred rydych yn cytuno ac yn derbyn bod y telerau ac amodau hyn yn berthnasol rhyngom.

Mae Amgueddfa Cymru yn elusen wedi'i chofrestru yng Nghymru gyda rhif elusen 525774 ac mae wedi'i chofrestru gyda'r Rheoleiddiwr Codi Arian.