Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Caiff pob tocyn ei werthu yn unol â'r amodau canlynol. Darllenwch yr amodau hyn yn ofalus cyn archebu. Trwy brynu tocynnau, rydych yn ymrwymo i gytundeb ag Amgueddfa Cymru ar y telerau hyn.
Gwiriwch eich tocynnau yn ofalus. Ni allwn warantu y gellid cywiro camgymeriadau a ni fyddwn yn cynnig ad-daliad tu hwnt i'r Amodau hyn.
Rhaid i bob ymwelydd feddu ar Docyn dilys er mwyn cael mynediad i'r digwyddiad perthnasol.
Os oes problem gyda'ch tocynnau neu os oes gennych gwestiynau neu adborth, cysylltwch â ni ar tocynnau@amgueddfacymru.ac.uk
Yn unol â pholisi tocynnau Amgueddfa Cymru, nid ydym yn cynnig ad-daliad.
Ni fyddwn yn rhoi ad-daliad oni bai fod y diwyddiad neu weithgaredd wedi cael ei ganslo gan yr Amgueddfa, neu os fydd yr Amgueddfa wedi cau oherwydd amgylchiadau tu hwnt i'n rheolaeth.
Os bydd digwyddiad yn cael ei ganslo, mae'n bosibl y bydd yr Amgueddfa yn ei aildrefnu ar gyfer dyddiad newydd. Yn yr achos hwn, byddwn yn anelu at drosglwyddo cynifer o ddeiliaid tocynnau â phosibl i'r dyddiad newydd. Os na fydd y dyddiad newydd yn addas ar gyfer eich parti, byddwn yn cynnig ad-daliad llawn.
Os bydd digwyddiad neu arddangosfa yn cael ei ganslo, byddwn yn ceisio cysylltu â chi (dros e-bost gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost a ddarparwyd gennych wrth archebu) ymlaen llaw er mwyn trefnu tocynnau amgen. Gwiriwch eich e-byst cyn teithio i'r Amgueddfa er mwyn osgoi taith ddiangen.
Sylwer: ni fydd costau teithio neu lety yn cael eu digolledu os bydd rhaid canslo neu drefnu dyddiad newydd ar gyfer digwyddiad neu weithgaredd.
Rydyn ni bellach yn cynnig tocynnau Gostyngiad Agored i lawer o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd.
Fersiwn fwy hygyrch o docynnau gostyngiad blaenorol yw’r tocyn Gostyngiad Agored. Dewiswch y tocyn yma os fyddech chi fel arfer yn gymwys am ostyngiad. Does dim angen i chi ddangos ID.
Os na allwch chi fforddio ein tocynnau arferol ar hyn o bryd, gallwch ddewis y tocyn gostyngiad agored heb unrhyw gwestiynau.
Ni ellid rhoi gostyngiad wedi i chi brynu'r tocynnau.
Rydyn ni'n eich cynghori i wirio addasrwydd oedran digwyddiad cyn archebu eich tocynnau am nad yw pob digwyddiad yn addas i blant. Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn (18+), rhiant neu warcheidwad ac mae'n rhaid iddyn nhw feddu ar docyn dilys.
Mae prisiau yn cynnwys unrhyw drethi perthnasol.
Gall prisiau sydd ar ein gwefan newid heb rybudd.
Rhaid talu'n llawn wrth archebu. Nid yw eich archeb na'n cytundeb yn gyflawn tan i'r taliad gael ei wneud yn llwyddiannus.
Drwy archebu tocynnau i'r digwyddiad yma rwy'n cadarnhau fod bob plentyn sy'n mynychu rhwng yr oedran 6-12 mlwydd oed.
Bydd pob cysylltiad am y digwyddiad yn cael ei yrru dros ebost.
Bydd angen darpatu g wybodaeth ychwanegol cyn y digwyddiad, yn cynnyws enw ac oedran y rhai sy'n mynychu, anghenion dietegol a dewis iaith.
Gall y data a gasglwn er mwyn cyflenwi eich archeb docynnau gynnwys eich enw, cyfeiriad dosbarthu, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn a rhifau cardiau credyd a/neu ddebyd. Nid ydym yn cadw unrhyw wybodaeth am eich cerdyn credyd neu ddebyd.
Mae'n bosibl y byddwn ni yn gofyn i chi ddarparu data ychwanegol yn benodol i'r digwyddiad neu yn gofyn i chi ateb cwesitynau cyffredinol amdanoch gan gynnwys unrhyw weithgareddau neu ddigwyddiadau all fod o ddiddordeb i chi, er mwyn i ni allu teilwra gwybodaeth a chynigion arbennig ar eich cyfer yn y dyfodol.
Mae ein Hysbysiad Preifatrwydd llawn yma