Telerau ac Amodau Noddwyr

Trwy ymaelodi â chynllun Noddwyr Amgueddfa Cymru, rydych yn cytuno i gydymffurfio â'r telerau ac amodau Aelodaeth a nodir isod.

Lefelau aelodaeth

  • Unigolyn
  • Aelodaeth ar y cyd
  • Unigolyn Oes
  • Aelodaeth ar y cyd Oes

Mae manteision pob lefel Aelodaeth i’w gweld isod.

TELERAU AC AMODAU AR GYFER NODDWYR AMGUEDDFA CYMRU

Trwy ymaelodi â chynllun Noddwyr Amgueddfa Cymru, rydych yn cytuno i gydymffurfio â'r Telerau ac Amodau Aelodaeth a nodir isod.

1 CYMHWYSEDD A BUDDION AELODAETH

1.1 CYFFREDINOL

1.1.1 Mae Amgueddfa Cymru’n cadw'r hawl i newid neu amrywio’r pris aelodaeth a hysbysebir.
1.1.2 Nid oes modd trosglwyddo aelodaeth Noddwr nac unrhyw fuddion.
1.1.3 Mae Noddwyr yn ymrwymo i gontract 12 mis.
1.1.4 Gellir canslo aelodaeth Noddwr o fewn 14 diwrnod o gofrestru, ond dim ond os nad oes unrhyw fuddion wedi'u defnyddio.
1.1.5 Mae aelodaeth ar y cyd Noddwyr ar gyfer dau oedolyn sy'n byw yn yr un cyfeiriad. Bydd y ddau Noddwr yn derbyn cerdyn aelodaeth, byddant yn gallu prynu tocynnau dan y drefn blaenoriaeth wrth archebu ac yn gallu manteisio ar gynigion a thocynnau rhatach.
1.1.6 Mae Amgueddfa Cymru’n cadw'r hawl i dynnu buddion yn ôl ar unrhyw adeg heb rybudd ymlaen llaw.
1.1.7 Mae Amgueddfa Cymru'n cadw'r hawl i wneud addasiadau i gynlluniau Aelodaeth Amgueddfa Cymru heb rybudd ymlaen llaw.

1.2 CYMHWYSEDD

1.2.1 Rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn i wneud cais am aelodaeth Noddwr neu adnewyddu aelodaeth Noddwr.
1.2.2 Rhaid i ymgeiswyr a derbynwyr rhodd aelodaeth Noddwr ar y cyd fod yn ddau oedolyn sy'n byw yn yr un cyfeiriad, a byddant yn derbyn un ohebiaeth fesul aelwyd, oni bai bod y ddau wedi dewis derbyn gohebiaeth.
1.2.3 Mae Amgueddfa Cymru yn cadw'r hawl i wrthod cais am aelodaeth Noddwr neu derfynu aelodaeth Noddwr ar unrhyw adeg oherwydd camymddwyn neu ymddygiad annerbyniol ar safle Amgueddfa Cymru neu mewn digwyddiad sy'n ymwneud ag Amgueddfa Cymru. Mae'n bosib y bydd camau cyfreithiol yn cael eu cymryd hefyd.

1.3 CYMALAU BUDDION CYFFREDINOL

1.3.1 Mae holl fuddion Noddwyr yn para am gyfnod o flwyddyn neu oes gan ddibynnu ar y math o aelodaeth (oni nodir yn wahanol).
1.3.2 Nodwch y gallwch ddiweddaru eich manylion a'ch dewisiadau ar unrhyw adeg trwy fynd i'ch cyfrif Noddwr ar-lein neu drwy gysylltu â ni.
1.3.3 Nid oes modd trosglwyddo eich aelodaeth Noddwyr a enwir.
1.3.4 Ni ellir cyfuno cynigion Noddwyr ag unrhyw gynigion, gostyngiadau neu gonsesiynau eraill ac ni ellir eu defnyddio ar gyfer tocynnau sydd eisoes wedi'u prynu.
1.3.5 Mae gostyngiadau a chynigion arbennig eraill yn amodol ar argaeledd.
1.3.6 Mae gan Noddwyr hawl i ostyngiad o 10% ym mhob un o'n siopau a'n caffis. Ni ellir defnyddio'r cynnig hwn ar y cyd ag unrhyw gynigion eraill (megis: eitemau sêl, 3 am bris 2 a chynigion 'prynu un a chael un am ddim').

2 COFRESTRU AC ADNEWYDDU

2.1 SUT I GOFRESTRU

2.1.1 Mae modd cyflwyno cais am aelodaeth Noddwyr newydd ar-lein yn https://fy.amgueddfa.cymru
2.1.2 Mae modd adnewyddu aelodaeth Noddwyr ar-lein drwy fewngofnodi i'ch cyfrif aelod ar-lein yn https://fy.amgueddfa.cymru

2.2 TALU

1.7.1 Gellir talu gyda cherdyn credyd neu gerdyn debyd.
1.7.2 Bydd y taliad yn cynnwys y dyddiau sy'n weddill yn y mis a brynwyd ac yn cael ei adnewyddu'r mis canlynol. Er enghraifft os yw'r taliad yn cael ei wneud ar 22 Ionawr 2023, bydd yr Aelodaeth yn dod i ben ar 1 Chwefror 2024.

2.3 CANSLO AC AD-DALIADAU

2.3.1 Mae aelodaeth Noddwr yn ffordd o gefnogi Amgueddfa Cymru. Gellir canslo aelodaeth Noddwr o fewn 14 diwrnod o'r dyddiad cofrestru, ond dim ond os na ddefnyddiwyd unrhyw fuddion. Unwaith y bydd y cyfnod hwn yn dod i ben ni ellir gwneud unrhyw ad-daliad.
2.3.2 Mae'r aelodaeth Noddwyr yn para blwyddyn ac mae'n rhaid ymrwymo i gwblhau'r amserlen dalu.
2.3.3 Mae buddion aelodaeth Noddwr yn ddilys tra bod eich aelodaeth yn weithredol. Mae buddion aelodaeth Noddwr yn darfod pan fydd aelodaeth Noddwr yn cael ei chanslo neu'n dod i ben.

2.4 CYNIGION RECRIWTIO AC ANRHEGION ATEGOL AELODAETH

2.4.1 O bryd i'w gilydd, gall Amgueddfa Cymru gyflwyno cynigion arbennig i hyrwyddo aelodaeth Noddwyr. Ni chaniateir unrhyw geisiadau swmp neu drydydd parti, ac ni ellir defnyddio cynigion gydag ag unrhyw gynigion neu hyrwyddiadau eraill.

3 Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data

3.1.1 Bydd enwau a manylion cyswllt Noddwyr yn cael eu cadw mewn cronfa ddata er mwyn i ni anfon gwybodaeth atoch yn ymwneud ag Amgueddfa Cymru. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn, trwy'r post a thrwy e-bost i roi'r newyddion diweddaraf i chi gan gynnwys gwybodaeth am arddangosfeydd a digwyddiadau sydd ar y gweill.
3.1.2 Bydd Amgueddfa Cymru yn cadw ac yn prosesu eich data personol yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth Diogelu Data berthnasol.
3.1.3 Mae gan Noddwyr hawl i benderfynu a ydyn nhw eisiau derbyn rhagor o wybodaeth gan Amgueddfa Cymru. Os ydych yn newid eich meddwl ar unrhyw adeg yn ystod eich aelodaeth Noddwyr, rhowch wybod i ni.
3.1.4 Os ydych yn dymuno peidio â derbyn gwybodaeth o'r fath ar unrhyw adeg, cofiwch ddiweddaru gosodiadau eich cyfrif trwy ddefnyddio Mewngofnodi | Amgueddfa Cymru yn yr adran 'Fy Nghyfrif'.

4. AMRYWIO'R TELERAU AC AMODAU HYN

Mae Amgueddfa Cymru yn cadw'r hawl i amrywio'r telerau ac amodau hyn o bryd i'w gilydd. Bydd amrywiadau o'r fath yn dod i rym yn syth ar ôl eu rhoi ar wefan Amgueddfa Cymru.

Darllenwch y telerau ac amodau hyn yn ofalus cyn gwneud cais am aelodaeth Noddwr, adnewyddu aelodaeth Noddwr neu brynu aelodaeth Noddwr fel anrheg.

Dylech ddeall, drwy gyflwyno'r cais ar-lein, dros y ffôn neu drwy'r post, eich bod yn cytuno i gael eich rhwymo gan y telerau ac amodau hyn a'n hysbysiad preifatrwydd.

Dylid darllen y telerau ac amodau aelodaeth Noddwr hyn ar y cyd â thelerau ac amodau gwerthu Telerau ac Amodau Tocynnu | Amgueddfa Cymru

Noder: Os ydych yn defnyddio aelodaeth Noddwr a brynwyd i chi gan rywun arall, trwy eich gweithred rydych yn cytuno ac yn derbyn bod y telerau ac amodau hyn yn berthnasol rhyngom.

Mae Amgueddfa Cymru yn elusen wedi'i chofrestru yng Nghymru gyda rhif elusen 525774 ac mae wedi'i chofrestru gyda'r Rheoleiddiwr Codi Arian.