Telerau ac Amodau Tocynnu

Caiff pob tocyn ei werthu yn unol â'r amodau canlynol. Darllenwch yr amodau hyn yn ofalus cyn archebu. Trwy brynu tocynnau, rydych yn ymrwymo i gytundeb ag Amgueddfa Cymru ar y telerau hyn.

Gwiriwch eich tocynnau yn ofalus. Ni allwn warantu y gellid cywiro camgymeriadau a ni fyddwn yn cynnig ad-daliad tu hwnt i'r Amodau hyn.

Rhaid i bob ymwelydd feddu ar Docyn dilys er mwyn cael mynediad i'r digwyddiad perthnasol. Mae'n bosibl y gofynnir am dystiolaeth o'ch hunaniaeth a/neu hawl i raddau gostyngol wrth i chi gyrraedd.

Os oes problem gyda'ch tocynnau neu os oes gennych gwestiynau neu adborth, cysylltwch â ni ar tocynnau@amgueddfacymru.ac.uk

Polisi ad-dalu

Yn unol â pholisi tocynnau Amgueddfa Cymru, nid ydym yn cynnig ad-daliad. 

Ni fyddwn yn rhoi ad-daliad oni bai fod y diwyddiad neu weithgaredd wedi cael ei ganslo gan yr Amgueddfa, neu os fydd yr Amgueddfa wedi cau oherwydd amgylchiadau tu hwnt i'n rheolaeth.

Os bydd digwyddiad yn cael ei ganslo, mae'n bosibl y bydd yr Amgueddfa yn ei aildrefnu ar gyfer dyddiad newydd. Yn yr achos hwn, byddwn yn anelu at drosglwyddo cynifer o ddeiliaid tocynnau â phosibl i'r dyddiad newydd. Os na fydd y dyddiad newydd yn addas ar gyfer eich parti, byddwn yn cynnig ad-daliad llawn.

Os bydd digwyddiad neu arddangosfa yn cael ei ganslo, byddwn yn ceisio cysylltu â chi (dros e-bost gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost a ddarparwyd gennych wrth archebu) ymlaen llaw er mwyn trefnu tocynnau amgen. Gwiriwch eich e-byst cyn teithio i'r Amgueddfa er mwyn osgoi taith ddiangen.

Sylwer: ni fydd costau teithio neu lety yn cael eu digolledu os bydd rhaid canslo neu drefnu dyddiad newydd ar gyfer digwyddiad neu weithgaredd.

Gostyngiad ar docynnau

P'un a ydych chi wedi archebu tocyn â gostyngiad ar-lein neu dros y ffôn, dewch â thystiolaeth addas o’ch hunaniaeth gyda chi (e.e. ID Myfyriwr) am ei bod yn bosibl y bydd gofyn i chi ei dangos. Ni ellid rhoi gostyngiad wedi i chi brynu'r tocynnau.

Rydym yn eich cynghori i wirio addasrwydd oedran digwyddiad cyn archebu eich tocynnau am nad yw pob digwyddiad yn addas i blant. Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn (18+), rhiant neu warcheidwad ac mae'n rhaid iddynt feddu ar docyn dilys.

Prisiau a ffioedd prosesu

Mae prisiau yn cynnwys unrhyw drethi perthnasol. Wrth archebu ar-lein, mae'n bosibl y bydd rhaid talu ffi archebu. Unwaith y byddwch wedi talu, ni fyddwn yn cynyddu pris eich tocynnau.

Gall prisiau sydd ar ein gwefan newid heb rybudd.

Rhaid talu'n llawn wrth archebu. Nid yw eich archeb na'n cytundeb yn gyflawn tan i'r taliad gael ei wneud yn llwyddiannus.

Amgueddfa Dros Nos

Drwy archebu tocynnau i'r digwyddiad yma rwy'n cadarnhau fod bob plentyn sy'n mynychu rhwng yr oedran 6-12 mlwydd oed.
Bydd pob cysylltiad am y digwyddiad yn cael ei yrru dros ebost.
Bydd angen darpatu g wybodaeth ychwanegol cyn y digwyddiad, yn cynnyws enw ac oedran y rhai sy'n mynychu, anghenion dietegol a dewis iaith.

Eich data

Gall y data a gasglwn er mwyn cyflenwi eich archeb docynnau gynnwys eich enw, cyfeiriad dosbarthu, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn a rhifau cardiau credyd a/neu ddebyd. Nid ydym yn cadw unrhyw wybodaeth am eich cerdyn credyd neu ddebyd.

Mae'n bosibl y byddwn ni yn gofyn i chi ddarparu data ychwanegol yn benodol i'r digwyddiad neu yn gofyn i chi ateb cwesitynau cyffredinol amdanoch gan gynnwys unrhyw weithgareddau neu ddigwyddiadau all fod o ddiddordeb i chi, er mwyn i ni allu teilwra gwybodaeth a chynigion arbennig ar eich cyfer yn y dyfodol.

Mae ein Hysbysiad Preifatrwydd llawn yma

Mae gennym yr hawl i ddiwygio ac addasu'r Amodau hyn o bryd i'w gilydd i adlewyrchu newidiadau yn y farchnad sy'n effeithio ar ein busnes, newidiadau technolegol, newidiadau i ddulliau talu, newidiadau i gyfreithiau perthnasol a gofynion rheoleiddiol a newidiadau yng ngallu ein system.