Polisi Ffotograffiaeth

Polisi Amgueddfa Cymru yw caniatáu ffotograffiaeth heb fflach at ddibenion personol neu astudio ym mhob oriel, oni bai bod rhesymau gwirioneddol dros wahardd hynny, er enghraifft am resymau cadwraeth neu warchod hawlfraint.

O bryd i’w gilydd, bydd Amgueddfa Cymru’n cynnal arddangosfeydd dros dro lle na chaniateir ffotograffiaeth. O dan yr amgylchiadau hyn, bydd symbol ‘Dim Ffotograffiaeth’ clir wrth fynedfa’r arddangosfa.

Bydd gofyn i ymwelwyr sydd am dynnu lluniau lenwi Datganiad, sydd ar gael o’r Dderbynfa. Mae’r ffurflen yn nodi y bydd yr ymwelydd yn defnyddio’r ddelwedd ar gyfer astudiaeth bersonol ac ni fydd yn arddangos y ddelwedd er mwyn gwneud elw, na chaniatáu iddi gael ei chyflwyno ar unrhyw wefan. Caiff ymwelwyr sy’n llofnodi’r ffurflen fathodyn a fydd yn dangos i staff eu bod wedi cael y caniatâd angenrheidiol i dynnu lluniau.

Mae’r Amgueddfa’n cadw’r hawl i wrthod cais ymwelydd. Mewn achosion o’r fath, bydd staff yr Amgueddfa’n rhoi gwybod i’r ymwelydd pam eu bod nhw wedi gwrthod y cais.

Bydd yr Adran Addysg yn rhoi gwybod i grwpiau ysgol am y trefniadau hyn.

Caiff y polisi ei gyhoeddi ar wefan yr Amgueddfa hefyd. Croeso i ymwelwyr ofyn i staff am ragor o wybodaeth.

Ni chaniateir ffotograffiaeth fasnachol heb gael caniatâd ymlaen llaw gan

Swyddog Trwyddedu Delweddau

.

Gellir cael atgynyrchiadau o brintiau ffotograffig lliw o’ch hoff ddarnau yn y Casgliad Cenedlaethol drwy’r Swyddog Trwyddedu Delweddau. Cymrwch daflen Argraffu yn ôl y Galw o’r Dderbynfa i gael rhagor o fanylion.

Dronau

Ni chaniateir hedfan dronau dros unrhyw ran o’n hamgueddfeydd – gan gynnwys ein safleoedd awyr agored – ar unrhyw adeg. Os oes angen ffilmiau neu ffotograffau arnoch, cysylltwch â’r Swyddog Cyfathrebu.