Y Gymraeg ac Amgueddfa Cymru
Mae’r iaith Gymraeg yn rhan annatod o dreftadaeth a diwylliant Cymru, felly mae gan Amgueddfa Cymru ran allweddol i’w chwarae wrth feithrin ymwybyddiaeth am hanes yr iaith a’i lle yn niwylliant Cymru, a’i defnyddio a’i dathlu wrth ein gwaith beunyddiol.
Mae gwreiddiau ein polisïau iaith yn Safonau’r Gymraeg a osodir gan Lywodraeth Cymru dan Adran 4A Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ond mae ein gwaith hefyd yn adlewyrchu ein cyfraniad at strategaeth Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050, ynghyd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) ac yn benodol y nod llesiant ‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’.
Polisïau Iaith Amgueddfa Cymru
Dyma bolisïau iaith cyfredol Amgueddfa Cymru.
Polisi Iaith Gymraeg (PDF) Amgueddfa Fyw, Iaith Fyw (PDF)Safonau’r Gymraeg
Mae dyletswydd gyfreithiol ar Amgueddfa Cymru i gydymffurfio â’r Safonau a restrir yn y ddogfen hon.
Hysbysiad Cydymffurfio (PDF)Adroddiad Monitro Blynyddol
Bob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi adroddiad sy’n esbonio sut rydym yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, ynghyd â datblygiadau eraill ynghylch yr iaith a’n gwaith.
Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg 2025/26 (PDF) Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg 2024/25 Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg 2023/24 Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg 2022/23 Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg 2021/22 Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg 2020/21 Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg 2019/20 Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg 2018/19 Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg 2017/18