Polisi Iechyd a Diogelwch

Polisi’r Amgueddfa yw sicrhau, i’r graddau y bo hynny’n rhesymol ymarferol, iechyd, diogelwch a lles ei holl staff yn y gweithle yn unol â’r gofynion statudol perthnasol.

Fel rhan o’r polisi cyffredinol uchod, polisi penodol yr Amgueddfa yw:

  • darparu a chynnal a chadw offer a systemau gwaith sydd, i’r graddau y bo hynny’n rhesymol ymarferol, yn ddiogel a heb beryglu iechyd;
  • gwneud trefniadau i sicrhau, i’r graddau y bo hynny’n rhesymol ymarferol, ddiogelwch a diffyg peryglon i iechyd wrth ddefnyddio, trin, storio a chludo eitemau a sylweddau;
  • darparu’r wybodaeth, y cyfarwyddyd, yr hyfforddiant a’r oruchwyliaeth, i’r graddau y bo hynny’n rhesymol ymarferol, i sicrhau iechyd a diogelwch ei gweithwyr yn y gweithle;
  • cynnal unrhyw le neu waith o dan reolaeth yr Amgueddfa mewn ffordd ddiogel nad yw’n peryglu iechyd, i’r graddau y bo hynny’n rhesymol ymarferol, a sicrhau bod modd cyrraedd a gadael yn ddiogel heb y cyfryw beryglon;
  • darparu a chynnal a chadw amgylchedd gwaith sydd, i’r graddau y bo hynny’n rhesymol ymarferol, yn ddiogel, yn rhydd o beryglon iechyd, ac yn ddigonol o safbwynt cyfleusterau a threfniadau ar gyfer lles yn y gweithle;
  • darparu’r cyfarpar diogelu sydd ei angen i sicrhau, i’r graddau y bo hynny’n rhesymol ymarferol, iechyd a diogelwch ei staff yn y gweithle;
  • annog staff i osod safon ddiogelwch o’r radd flaenaf drwy esiampl bersonol gan dderbyn lefel resymol o gyfrifoldeb tros eu hiechyd a’u diogelwch eu hunain ac iechyd a diogelwch eu cydweithwyr;
  • mae’r Grŵp Iechyd a Diogelwch yn gyfrifol trwy ei Gadeirydd am 
    • weithredu polisi diogelwch yr Amgueddfa a darparu cyngor ar holl faterion diogelwch yr Amgueddfa;
    • annog staff i ymgymryd â hyfforddiant Cymorth Cyntaf cydnabyddedig. Yn ogystal, trefnir hyfforddiant a chyrsiau diweddaru Cymorth Cyntaf rheolaidd, a gall unrhyw aelod o staff eu mynychu;
    • yn ogystal â’r uchod, mae’r Amgueddfa yn darparu hyfforddiant staff perthnasol ac mae’n cynnal adolygiadau rheolaidd fel rhan o’i hymrwymiad cyson i nodi a bodloni anghenion hyfforddiant pryd bynnag maent yn codi;
    • hyrwyddo ffordd o fyw iach ymysg ei staff.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynglŷn ag Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle dylech gysylltu â’ch rheolwr llinell. Os oes modd datrys perygl neu broblem bosibl ar unwaith, dylid gwneud hynny. Fodd bynnag, os oes problem fwy cyffredinol rydych am ei chodi, dylech sicrhau bod eich rheolwr llinell yn dweud wrth y Grŵp Polisi Iechyd a Diogelwch amdani.

Polisi Iechyd a Diogelwch (PDF)