Siarter Ymwelwyr Amgueddfa Cyrmu

  • Bydd cynllunio eich ymweliad yn hawdd
  • Byddwch chi’n gweld ac yn clywed y Gymraeg yn iaith fyw
  • Bydd eich amgueddfeydd yn groesawgar ac yn gysurus
  • Bydd eich ymweliad yn gofiadwy ac yn bositif
  • Bydd eich profiad yn llawn hwyl ac yn ennyn chwilfrydedd
  • Bydd eich llais yn cael ei glywed

Byddwn yn disgwyl i chi wneud y canlynol:

  • Bod yn gwrtais tuag at ein staff ac ymwelwyr eraill
  • Ein helpu i ofalu am eich casgliadau a’n hamgueddfeydd er mwyn i bawb gael eu mwynhau
  • Rhoi gwybod i ni os oes angen unrhyw gymorth arnoch
  • Deall ein bod yn gofyn yn garedig i chi barchu ein rheolau
  • er eich diogelwch eich hun ac eraill
  • Cydnabod ein staff sy’n rhoi gwasanaeth da
  • Rhannu eich syniadau adeiladol am wella ein gwasanaeth
  • Dweud wrthym os gwnaethoch chi fwynhau eich ymweliad, ac annog eraill i ymweld hefyd!