Croeso i Newid Amgueddfeydd

— lle fyddwn ni'n rhannu y syniadau a phrofiadau sy'n llywio'n gwaith.

Dyma'r lle i weld beth rydyn ni wedi bod yn ei wneud i hyrwyddo democratiaeth ddiwylliannol. Ar hyn o bryd mae ein gwaith yn canolbwyntio ar bobl a chymunedau ledled Cymru sy'n profi hiliaeth neu wahaniaethu, er mwyn eu grymuso, a sicrhau bod llais a cynrychiolaeth ganddynt yn niwylliant a threftadaeth Cymru.

Caiff ein gwaith i gyd ei lywio gan ein gweledigaeth o Ysbrydoli Pobl, Newid Bywydau. Mae rhagor o fanylion ar sut fyddwn ni'n cyflawni hyn yn ein strategaeth newydd, Amgueddfa Cymru 2030.

Ein nod yw bod yn agored a thryloyw am ein gwaith, gan rannu ein gwaith meddwl yn ogystal â'r canlyniadau, beth bynnag y bônt.

Sylfaen Newid Amgueddfeydd yw ailddatblygiad Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru (y project Creu Hanes) a’r cynhadledd Hawliau Diwylliannol, Democratiaeth Ddiwylliannol (mis Mehefin 2022). Ond bydd rhagor o wybodaeth am wahanol brojectau yn cael ei gyhoeddi'n rheolaidd.