Hawliau Diwylliannol, Democratiaeth Ddiwylliannol

Gweithdy lle fu gweithwyr amgueddfeydd, gwleidyddion a damcaniaethwyr o Gymru, Éire, Alba, Kernow, Breizh ac America Ladin yn ystyried sut beth fyddai amgueddfa sy’n bodoli nid o fewn ei waliau ond yn ein cymunedau.

Yn benodol, trafodwyd:

  • rhai o heriau mwyaf dybryd ein cymdeithas y gall amgueddfeydd helpu i’w taclo
  • beth sy’n atal newid rhag digwydd
  • profiadau, syniadau a chanlyniadau.

Roedd y prif gyfranwyr yn cynnwys yr arweinwyr amgueddfa byd-enwog Elaine Heumann Gurian, Americo Castilla, James Volkert a Karin Weil González.

9-10 Mehefin 2022, yn Galeri, Caernarfon, Gwynedd.

Rhaglen