Datganiadau i'r Wasg

Popeth dan Haul – tocynnau ar gael ar doriad gwawr ar gyfer haf heulog yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Yn dilyn llwyddiant ysgubol Museum of the Moon yn gynharach eleni bydd yr artist Luke Jerram yn dychwelyd i Gaerdydd gyda Helios, gosodwaith trawiadol saith metr o led o'r Haul wedi'i greu gyda delweddau manwl o NASA.

Helios

Llun (c) Delweddau Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Anthony Chappell-Ross

Bydd tocynnau ar gael ar doriad gwawr yfory [30 Ebrill] ar gyfer Helios, y gwaith syfrdanol fydd yn tywynnu yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd dros yr haf. Hawliwch gyfle i ymgolli yng ngoleuni, cynhesrwydd a rhyfeddod y gosodwaith hynod hwn.

Bydd Helios i'w weld rhwng 21 Gorffennaf a 30 Awst gan roi cyfle i ymwelwyr o bob oed gamu dan ei gromen eirias a phrofi holl liwiau a gweadau arwyneb ein seren agosaf.

Yn y cefndir bydd gosodwaith sain atmosfferig yn creu gofod tawel lle gall teuluoedd ymgolli, a mwynhau edrych ar yr Haul mewn ffordd gwbl unigryw. ⁠

'Ar ôl gweld cymaint wnaeth pobl fwynhau Museum of the Moon, mae'n bleser cynnig profiad hudolus arall i'n hymwelwyr' meddai Mared Maggs, Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. ⁠'Mae na gynhesrwydd gwirioneddol i Helios – ymdeimlad adfywiol sy'n ffordd ddelfrydol i groesawu misoedd yr haf. ⁠Bydd yn brofiad rhyfeddol, rhad ac am ddim i deuluoedd dros wyliau'r haf.'

I ategu'r gosodwaith, mae'r Amgueddfa wedi creu rhaglen ddigwyddiadau llawn hwyl i'r teulu cyfan, gan gynnwys sesiynau Yoga Machlud, perfformiadau Science of the Sun gyda'r rapiwr gwyddoniaeth Jon Chase, ac Amgueddfa Dros Nos arbennig.

Dywedodd yr Artist, Luke Jerram: 'Roedd hi'n hyfryd rhannu'r Lleuad gyda Chaerdydd ddechrau'r flwyddyn, ac mae'n bleser dychwelyd nawr gyda'r Haul. Mae Helios yn gyfle i ymwelwyr brofi rhywbeth cynnes, llachar, llawn manylion. ⁠

Mae mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ac rydyn ni'n annog ymwelwyr i archebu ymlaen llaw er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau dros yr haf. Mae rhagor o wybodaeth ar Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd | Museum Wales.

Mae rhaglen arddangosfeydd ac ymgysylltu cyhoeddus Amgueddfa Cymru yn bosib diolch i gefnogaeth chwaraewyr y Postcode Lottery.

-DIWEDD-