Siopa yn y Gorffennol
, 18 Awst 2026
Eleni cafodd siop yr Amgueddfa’r trawsnewidiad mwyaf yn ei hanes, i greu siop sy’n cynrychioli Sain Ffagan a’i chasgliadau’n wirioneddol ac yn caniatáu i’n hymwelwyr fynd â darn o Sain Ffagan adref gyda nhw.
Un o'r pethau mwyaf arbennig am Sain Ffagan yw'r amrywiaeth o adeiladau ac arddangosfeydd, felly penderfynon ni droi siop yr Amgueddfa yn siop wedi'i hysbrydoli gan siop fawr. Yn hytrach nag adrannau traddodiadol fel teganau neu fwyd, mae pob ardal o'n siop yn cynrychioli adeilad neu arddangosfa wahanol o bob rhan o'r Amgueddfa. Rydyn ni hyd yn oed wedi creu trac sain fel y gall ymwelwyr glywed synau o iard yr ysgol, y fferm neu'r siop losin wrth iddyn nhw siopa o'r adrannau hynny.
Gan weithio gyda llawer o gyflenwyr lleol a chymreig, rydyn ni wedi creu dros 230 o gynhyrchion newydd wedi'u hysbrydoli gan yr Amgueddfa. Maen nhw'n llawn straeon; o gacennau y mae perthnasau pobydd gwreiddiol Siop Gwalia wedi'u gwneud i glytwaith anorffenedig o'r casgliad sydd wedi ysbrydoli amrywiaeth o fagiau llaw a phyrsiau. O lwyau cariad i bicau ar y maen, eitemau wedi'u gwneud â llaw gan ein crefftwyr i ddeunydd ysgrifennu o'r ysgol, mae'r siop yn brofiad ynddo'i hun.
Gobeithiwn y bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau siop yr Amgueddfa fel profiad arbennig; holl uchafbwyntiau ymweliad â Sain Ffagan wedi’u cynrychioli drwy amrywiaeth enfawr o gynhyrchion, ac yn well fyth, mae popeth sy'n cael ei brynu'n cefnogi’r Amgueddfa.
Serch hynny, nid ydyn ni wedi bod yn datblygu siop yr Amgueddfa yn unig, draw yn Siop Losin rydyn ni wedi creu profiad siopa wedi'i ysbrydoli gan y 1920au. Gall ymwelwyr nawr fwynhau’r arddangosfeydd wedi'u hysbrydoli gan y 1920au, cwrdd â staff mewn gwisg hanesyddol a dewis o ddetholiad enfawr o losin traddodiadol sy’n cael eu pwyso o flaen eu llygaid! Mae arogleuon, golygfeydd a synau’r gorffennol wedi’u hail-greu drwy ymchwil hanesyddol, ac rydyn ni wedi gweithio gyda chrefftwyr bach a busnesau o Gymru i ganiatáu i ymwelwyr gael blas ar y gorffennol nawr hefyd!
Mae pecynnau a dyluniadau'r cynhyrchion i gyd wedi'u hysbrydoli gan felysion y 1920au ac mae bag siopa Siop Losin wedi dod yn eitem boblogaidd.
Gobeithiwn y byddwch chi'n gallu ymuno â ni am ddiwrnod mas llawn hwyl dros yr haf a dewch draw i Siop Losin a siop yr Amgueddfa i gael blas o’r gorffennol!