Curadu yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru: Beth ddysgais i a pham mae’n bwysig Ammah Holder, 30 Gorffennaf 2026 Fel rhan o brosiect REACH Cymru, cawson ni’r pleser o gydweithio gydag ystod o bobl ar draws Cymru. Yn eu plith mae Ammah, Curadur Cymunedol REACH. Darllenwch i glywed beth mae Ammah wedi bod yn gweithio ar fel rhan o raglen REACH Cymru.Pan gefais fy newis gan Hywel Squires, Uwch Gydlynydd Ymgysylltu Amgueddfa Cymru, i fod yn Guradur Cymunedol ar gyfer prosiect REACH, ro’n i’n gwybod ei fod yn gyfle prin.Nid ar chwarae bach mae rhywun yn helpu i ddatblygu arddangosfa yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, un o’r arddangosfeydd byw uchaf ei pharch yng ngwledydd Prydain. Mae hefyd yn brofiad sy’n aros gyda chi.Pam mae’r gwaith hwn yn bwysig i fiMae fy ngwaith fel curadur yn deillio o gred syml: mae gwrthrychau’n helpu pobl i ganfod cysylltiadau ar draws diwylliannau a chymunedau. Y gred honno sydd hefyd yn siapio rhywbeth dw i’n ei adeiladu yn nes at adre: Earthen Acres CIC; cwmni buddiant cymunedol yw hwn sy’n fy ngalluogi i weithio at agor amgueddfa natur yn y de. Mae popeth dw i’n ei ddysgu yma yn bwydo i’r weledigaeth honno.Yr hyn canolbwyntiais i arnoRoedd fy niddordebau curadurol yn golygu fy mod i’n dod yn ôl o hyd at bedwar maes:Gwrthrychau ag ystyrGall eitemau bob dydd adrodd straeon pwerus. Ro’n i am helpu i gyflwyno arteffactau mewn ffyrdd sy’n dangos sut roedden nhw’n cael eu defnyddio, eu gwerthfawrogi a’u trosglwyddo gan bobl go iawn.Crefft a dwyloMae sgiliau traddodiadol yn haeddu cydnabyddiaeth, yn ogystal â’r bobl sy’n eu cadw’n fyw. Ro’n i am i’r ymwelwyr werthfawrogi’r amser, y gofal a’r arbenigedd y tu ôl i’r gwrthrychau sy’n cael eu harddangos.Llais yr ymwelwyrMae amgueddfeydd yn gweithio orau pan fydd pobl yn teimlo’n rhan o’r sgwrs. Archwiliais ffyrdd i ymwelwyr rannu eu straeon, cyfrannu syniadau a rhoi adborth fel bod eu profiadau’n dod yn rhan o’r stori ehangach.Cofnod sy’n paraRoedd gen i ddiddordeb yn y modd gall lleisiau’r gymuned gael eu cofnodi a’u cadw, gan ddod yn rhan o waith parhaus yr amgueddfa yn hytrach nag ond bodoli am gyfnod arddangosfa.Y casgliad ei hunanWna i ddim difetha yr hyn sydd i ddod, ond roedd cael mynediad i’r storfeydd a chael golwg agos ar y gwrthrychau a ddewiswyd yn un o uchafbwyntiau fy mywyd gwaith diweddar.Cefais fy syfrdanu’n llwyr gan y casgliad telynau yn Sain Ffagan, a dim ond cipolwg bach oedd hyn o’r hyn sydd ar gael ar draws saith safle Amgueddfa Cymru a’u pum miliwn o wrthrychau.Mae ymchwilio hanesion gwrthrychau a gweld sut caiff gwybodaeth ei rhannu rhwng gwahanol dimau wedi bod yn hynod ddiddorol. Roedd pawb y gweithiais i gyda nhw yn hael gyda’u hamser, yn hapus i ateb cwestiynau, ac yn awyddus i fy nghysylltu â’r bobl gywir. Mae’n ddull o gydweithio rwy’n gobeithio mynd ag e gyda fi i fy sefydliad fy hunan.Hygyrchedd a chynaliadwyedd: newidiadau bach, effaith go iawnMae amgueddfeydd da yn parhau i wrando ar y bobl sy’n eu defnyddio. Awgrymais i nifer o newidiadau ymarferol, gan gynnwys lleihau llewyrch mewn rhai mannau, creu parthau mwy tawel, a darparu ardaloedd aros sy’n dal i gynnig cyfleoedd i ymgysylltu.Addasiadau cymharol fach yw’r rhain, ond gallant wneud gwahaniaeth go iawn i brofiadau ymwelwyr.Daeth cynaliadwyedd i’r amlwg mewn sawl sgwrs hefyd. Drwy ddysgu am y ffordd mae Sain Ffagan yn rheoli ei choetir ac yn defnyddio’r pren sy’n tyfu ar y safle, des i’n fwy cadarn fy marn y gall amgueddfeydd chwarae rhan bwysig yn dangos cyfrifoldeb amgylcheddol drwy weithredoedd bob dydd.Sut roedd y tîm yn gweithioRoedd tîm arddangosfa REACH yn dod â phobl sydd â gwahanol gefndiroedd, profiadau ac anghenion at ei gilydd. Gweithiodd Hywel yn galed i wneud yn siŵr y gallai pawb gyfrannu, gan ddefnyddio’r cyfleusterau sydd eisoes ar gael yn Sain Ffagan, gan gynnwys mannau tawel, ystafell golau isel, ystafell weddi, a hyblygrwydd yn y ffordd roedd pobl yn cymryd rhan.Helpodd y dull meddylgar hwn i greu amgylchedd lle roedd pobl yn teimlo’n gyfforddus i gyfrannu eu sgiliau a’u syniadau, a dw i’n credu bod yr arddangosfa’n gryfach oherwydd hynny.Edrych tua’r dyfodolMae’r profiad hwn wedi rhoi dealltwriaeth llawer cliriach i fi o sut mae amgueddfeydd yn gweithredu. Dw i wedi dysgu am ofalu am gasgliadau, ymgysylltu â’r gymuned, cynaliadwyedd a hygyrchedd, a sut mae’r meysydd gwahanol hyn yn cysylltu â’i gilydd.Ymunais i â’r prosiect fel curadur cymunedol, a dw i’n gadael gyda dealltwriaeth ddyfnach o’r bobl, y wybodaeth a’r gwaith sydd y tu ôl i bob arddangosfa.Os hoffech gymryd rhan fel gwirfoddolwr yn Amgueddfa Cymru, ewch i: Cymryd Rhan | Amgueddfa Cymru neu anfonwch e-bost i: gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk.Cadwch lygad am flogiau eraill sydd ar ddod, yn arddangos y gwaith anhygoel sydd wedi bod yn digwydd ar draws ein holl gymunedau sy'n cymryd rhan.Mae REACH Cymru yn bosibl diolch i gymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae REACH Cymru yn bartneriaeth rhwng tri ar ddeg o sefydliadau ac yn cael ei arwain gan y Brifysgol Agored ac Amgueddfa Cymru. Mae’n cael ei ariannu gyda grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Dechreuodd y cyfnod presennol yn hydref 2024 ac mae disgwyl iddo barhau tan hydref 2026. Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.