Pythefnos y Glowyr Ceri Thompson, 24 Gorffennaf 2026 "I remember Miner's Fortnight when I was just a lad, we'd go to Barry Island, the weather always bad."‘Ode to Barry Island’ gan Max BoyceYn draddodiadol, roedd wythnos olaf mis Gorffennaf ac wythnos gyntaf mis Awst yn cael eu hadnabod fel 'Pythefnos y Glowyr'. Rhwng y 1940au a'r 1970au byddai pawb yn teithio o'r meysydd glo i'r arfordir yn ystod y pythefnos hwn, yn enwedig trefi glan môr fel y Barri a Phorthcawl. Roedd y glowyr wedi ymladd i gael gwyliau o ddiwedd y 19eg ganrif. Rhwng 1888 a 1898, sicrhaodd arweinydd glowyr Cymru, William Abraham (Mabon oedd ei enw barddol) ddiwrnod o wyliau. Bwriad y gwyliau misol hyn o'r enw ‘Dydd Mabon’ oedd rhoi diwrnod i ffwrdd o'r gwaith caled i'r glowyr. Ar y dydd hwn, roedd Eisteddfodau mawr yn cael eu cynnal mewn lleoedd fel Blaenafon, Rhisga a'r Rhondda. Bu’n rhaid stopio'r gwyliau hyn yn dilyn y streic a'r cloi allan chwerw yn 1898 pan orfododd y perchnogion y dynion i weithio ar y dydd hwnnw. Yn dilyn y rhwystr hwn, bu’n rhaid i lowyr gymryd absenoldeb di-dâl. Mewn gwirionedd, yn 1924, nododd Adroddiad gan y Llywodraeth ‘nad oes unrhyw daliad i’w wneud am wyliau cyhoeddus nac fel arall yn y diwydiant glo mewn unrhyw achos ac eithrio swyddogion a staff clerigol'.Yn y 1920au a'r 1930au, roedd yn arferol i deuluoedd glowyr wersylla mewn mannau fel y twyni tywod ger Porthcawl. Roedden nhw'n defnyddio pebyll mawr a oedd gynt o'r fyddin ac yn cludo dodrefn o'u tai ar gyfer holl wyliau'r ysgol. Roedd y gwŷr yn gweithio yn ystod yr wythnos ac yn teithio i lawr at eu teuluoedd ar y penwythnosau.Ym 1938 fe wnaeth y Llywodraeth basio Deddf Gwyliau â Thâl a oedd yn rhoi hawl statudol i weithwyr cyflogedig gael gwyliau â thâl. Erbyn y 1940au, roedd gan lowyr hawl i bythefnos o wyliau â thâl. Byddai hyn yn digwydd yn ystod wythnos olaf mis Gorffennaf ac wythnos gyntaf mis Awst a byddai pyllau glo a ffatrïoedd yn atal cynhyrchu am bythefnos, fodd bynnag byddai llawer o ddynion yn gwirfoddoli ar gyfer gwaith diogelwch a chynnal a chadw hanfodol ac yn derbyn tâl ychwanegol am eu haberth.Y ddwy brif dref lan môr yn ne Cymru oedd y Barri a Phorthcawl, yn ogystal â Thraeth Aberafan a Dinbych-y-pysgod, er bod Dinbych-y-pysgod yn cael ei ystyried yn fwy 'dosbarth canol'. Yng ngogledd Cymru, byddai glowyr yn heidio i leoedd fel Prestatyn. Byddai teuluoedd yn heidio i feddiannu pob carafán a gwesty yn y trefi glan môr hyn – roedd Porthcawl yn cael ei adnabod fel ‘Bae Haia Byt!’ oherwydd nifer y glowyr yna ar wyliau. Yn y lleoedd hyn roedd ffair, bwth bocsio, traeth ac, yn y Barri, roedd Butlins, y gwersyll gwyliau enwog. Yn ogystal â thraethau a gweithgareddau, roedd y lleoedd hyn wedi'u cysylltu â threfi a phentrefi'r meysydd glo gan yr un rhwydwaith rheilffyrdd a oedd fel arfer yn cludo glo i lawr i'r dociau.Erbyn y 1970au roedd cymaint o weithwyr ffatri â glowyr ar y traethau ac yn ddiweddarach daeth y gwyliau i gael eu hadnabod fel ‘Factory Fortnight’. Erbyn diwedd y 1970au, roedd llawer o deuluoedd, strydoedd cyfan yn aml, wedi cyfnewid y trefi glan môr yng Nghymru am rai yn Sbaen, er y byddai pobl yn dal i fynd i Borthcawl a'r Barri am y dydd neu am y gwyliau traeth traddodiadol.Er fy mod wedi stopio mynd i Borthcawl am bythefnos erbyn y 1970au, roedd y pythefnos â thâl yn dal yn ddefnyddiol i fi. Fel gyda llawer o rai eraill, byddai priodasau'n cael eu trefnu ar gyfer diwedd mis Gorffennaf fel y gallai'r cwpl hapus fwynhau mis mêl pythefnos o hyd.Ceri ThompsonCuradur Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru Lluniau © David Hurn / Magnum Photos / Amgueddfa Cymru - Museum Wales Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.