Digwyddiad:Hwyrnos yr Amgueddfa: Eclips yr Haul
Ymunwch â ni i ddathlu Eclips yr Haul ac aros i fwynhau Helios liw nos!
Ar ddydd Mercher 12 Awst mae croeso i chi ddod i fwynhau cerflun 7 metr Luke Jerram yn y Brif Neuadd, a gwneud gwyliwr eclips eich hun yn Ystafell Addysg Clore (10am – 5pm) i ddathlu'r eclips fydd yn digwydd yn ddiweddarach yn y noson.
Bydd cyfle i ymwelwyr sy'n ymuno'n hwyrach (6pm – 10pm) i grwydro'r orielau a mwynhau celf a hanes natur rhyngwladol bwysig, cyn gwylio'r eclips tua 7pm. Ar ôl gwylio'r machlud, mae croeso i chi ddychwelyd i'r adeilad i fwynhau Helios liw nos. Os ydych chi am fwynhau ychydig oriau gyda chydweithwyr ar ôl gwaith, neu gael amser i 'w gofio gyda theulu a ffrindiau, bydd y caffi'n gwerthu amrywiaeth o ddiodydd er mwyn i chi allu ymlacio dan olau'r Haul. Mae'r tocynnau am ddim, ond rhaid archebu ymlaen llaw. Os ydych chi am aros drwy'r dydd, rhaid archebu tocyn dydd a thocyn nos. Bydd yr Amgueddfa hefyd ar gau rhwng 5 a 6pm wrth i ni baratoi ar gyfer y noson.
Bydd yr eclips yn dechrau yn y DU am 6.17 ac yn gorffen tua 8.07pm. Bydd yr eclips llawn am 7.13pm. Fyddwn ni ddim yn gallu gweld yr haul o fynedfa'r Amgueddfa, felly Gerddi Alexandra yw'r lle gorau i wylio os ydych chi am aros gerllaw."
Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi’n hael gan chwaraewyr Postcode Lottery.
Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi’n hael gan chwaraewyr Postcode Lottery.
Gwybodaeth
Digwyddiadau perthnasol
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd