Arddangosiad:Y Gof yn Yr Efail, Cei Llechi, Caernarfon

Amgueddfa Lechi Cymru

Mae Amgueddfa Lechi Cymru ar gau ar hyn o bryd ar gyfer ailddatblygiad mawr. Tra bod gwaith cadwraeth ac adeiladu yn digwydd yn yr Amgueddfa, rydym yn mynd â'n pobl, ein casgliadau a'n straeon i leoliadau eraill yng nghanol stori'r llechi. 

Mae ein Gof wedi symud i Cei Llechi yng Nghaernarfon i safle hanesyddol Yr Efail yno. 

Bydd yno trwy gydol y flwyddyn yn trafod ei waith ac arddangos ei grefft. Mae hefyd siop bach yma yn llawn nwyddau unigryw arbennig! 

Yr amseroedd agor arferol ydi Dydd Mawrth - Gwener a bob yn ail dydd Sadwrn ond bydd ambell i gyfnod yn wahanol oherwydd gwyliau ac angen mewn lleoliadau eraill. Dyma'r dyddiadau penodol am y misoedd i ddod: 

Ebrill 2026:    21, 22, 23, 24, 27, 28, 29, 30   

Mai 2026:   4, 5, 6, 7, 8, 11, 12, 13, 14, 15, 16, 19, 22 

Mehefin 2026:   1, 2, 4, 5, 8, 9, 10, 13, 16, 17, 18, 19, 22, 23, 24, 25, 26, 27, 30  

*Os hoffech wybod os mae'r Efail ar agor ar ddydiad penodol yn hwyrach yn y flwyddyn ebostiwch llechi@amgueddfacymru.ac.uk

Darllenwch mwy am hanes hynod ddiddorol yr Efail yma

Amgueddfa ar y Lôn 

Castell Penrhyn, Bangor: Mae ein Chwarelwyr llechi wedi ail-leoli yma - dewch i fwynhau arddangosiad o drin y lechfaen a chlywed mwy am pam mae hi'n stori anhygoel o fod yn y Castell! 

Ysbyty Chwarel, Parc Padarn, Llanberis: Dewch i wybod mwy am hanes anhygoel yr adeilad yma, meddygaeth yr ardal a pham oedd angen Ysbyty ar y diwydiant llechi! 

Y Ganolfan Gasgliadau: Ymunwch â ni am daith am ddim o amgylch Canolfan Casgliadau Amgueddfa Lechi Cymru, ble mae ein casgliad diwydiannol yn cael ei storio a'i diogelu tra bo'r amgueddfa ar gau ar gyfer ailddatblygiad sylweddol. Trefnwch eich ymweliad YMA

logo Amgueddafa ar y lon
Logo yn llawn logos ariannwyr

Gwybodaeth

16 Ebrill–30 Mehefin 2026, 10am - 5pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Gof yn yr Efail

Gof Amgueddfa Lechi Cymru yn Yr Efail yn Cei Llechi, Caernarfon

Set o llwyau caru metel

Llwyau caru haearn wedi'u gwneud gan Gof Amgueddfa Lechi Cymru

Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau