Parti Lleoliad Llyngyr Gwrychog - Straeon gan fyfyrwyr sydd ar leoliadau ac yn gweithio ar lyngyr gwrychog morol Teresa Darbyshire, 26 Awst 2025 Mayu SeguchiHelo, Mayu Seguchi ydw i ac rydw i newydd ennill gradd BSc (Anrh) mewn Bioleg Bywyd Gwyllt Rhyngwladol o Brifysgol De Cymru. Y cwestiwn mwyaf cyffredin yr ydw i wedi ei gael ers symud i ffwrdd o fy nhref fach ym Michigan yw "Pam Cymru"? Rwy’n ateb yn syth, bob tro, drwy ganmol y cwrs prifysgol oherwydd bod cymaint o deithio yn rhan o’r cwricwlwm. Mae gen i straeon am fy mhrofiadau - am y gyr o eliffantod Affricanaidd wnaeth ein bygwth ni yn Ne Affrica, neu am nofio mewn afon hyfryd yng Nghoedwig Law Chiquibul yn Belize, wrth i adar seithliw hedfan uwch ein pennau. A byddaf yn siŵr o sôn wrth unrhyw un sy’n fodlon gwrando sut i mi blymio naw gwaith i’r ail farriff mwyaf yn y byd, a sut y gwnaeth hynny agor llwybr newydd ac annisgwyl i mi i fyd bioleg forol. Mi es i mor bell â dewis traethawd hir ar yr iguana er mwyn i mi allu byw ar ynys fach oddi ar arfordir Honduras am ddau fis, gan blymio a snorclo bob munud sbâr.Felly, pan ddaeth cyfle yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i weithio gyda llyngyr gwrychog morol, aka polychaetes, roedd yn rhaid imi gyflwyno cais. Yn fy niwrnod cyntaf, osgoi mynd ar goll ar hyd llwybrau dryslyd coridorau’r amgueddfa oedd y brif dasg ac yna dechrau dysgu am y dulliau digideiddio y mae’r amgueddfa yn eu defnyddio ar gyfer sbesimenau. Dim ond ar ôl imi gael trefn ar bethau a dechrau gweithio gyda’r casgliad y sylweddolais pa mor anhygoel ydoedd mewn gwirionedd. Cafwyd y samplau gan R. D. Purchon o bum lleoliad ar hyd Môr Hafren: Llan-bedr Gwynllŵg, Ynys Sili, Harbwr y Barri, Breaksea Point, a Thwyni Dale. Mae hyn yn golygu bod pob sbesimen rwy'n ei drin wedi byw yn nyfroedd Cymru o amgylch Caerdydd! A finnau wedi teithio dramor ar gyfer fy ngwaith maes i gyd, roedd yn hawdd cael fy swyno gan farriffiau lliwgar a mamaliaid morol mawr. Ond mae'r casgliad hwn wedi agor fy llygaid i'r bylchau yn fy ngwybodaeth am rywogaethau rydw i’n rhannu fy nghartref â nhw ac sy’n rhoi cyfle i mi ddysgu mwy. Felly, erbyn hyn, pan fydd pobl yn gofyn i mi pam y symudais i Gymru, rwy’n gallu ateb "Pam lai?” Gyda’r holl fywyd gwyllt hardd, o balod i lyngyr gwrychog, mae cymaint i'w ddarganfod.Mewn amgueddfeydd sydd â chasgliadau mawr, fel Amgueddfa Cymru, mae bron yn amhosibl cofrestru pob sbesimen sy'n dod i law. Fodd bynnag, mae hyn yn cyfyngu ar faint o wybodaeth y gallwn ei ganfod am rywogaeth, ac mae hynny'n cynnwys gwybodaeth sy’n werthfawr i ffawna Cymru a'r DU. Felly, cafodd fy nghydweithwraig, Caitlin Evans (gweler isod), a minnau y dasg o 1) curadu'r sbesimenau yng nghronfa ddata yr amgueddfa a 2) tynnu llun o bob sbesimen a’i atodi. Byddaf yn trafod y fethodoleg a ddefnyddiwyd ar gyfer curadu'r casgliad gan Purchon (1950), cyn i Caitlin esbonio sut yr aethon ni ati i ddelweddu ein gwaith gyda'r llyngyr gwyrchog.I guradu'r casgliad, defnyddiais gronfa ddata FileMaker Pro gyda thempled a ddatblygwyd gan yr amgueddfa (Ffigur 1). Ar gyfer pob sbesimen, cofnodais enw'r casgliad, rhif derbyn (rhif unigryw sy'n ein galluogi i leoli pob sbesimen), a dyddiad casglu'r sbesimen, yn ogystal â theulu, genws a rhywogaeth y sbesimen. Roedd pob sbesimen hefyd yn nodi safle casglu sydd, o'i baru â thraethawd PhD R. Denison Purchon ar The Littoral and Sublittoral Fauna of the Northern Shores, near Cardiff a Dale Fort Marine Fauna a olygwyd gan J.H. Crothers, yn rhoi'r wybodaeth angenrheidiol i mi bennu cyfesurynnau hydred a lledred bras yr ardal lle tarddodd y sbesimen. Hefyd, roedd y papurau hyn yn cynnwys llawer mwy o gyd-destun ar gyfer safleoedd casglu'r sbesimenau, gyda rhai unigolion yn disgrifio'r gwaddodion lle cawsant eu darganfod. Ar ôl cofnodi'r gwaddod a chwblhau'r dogfennau hyn, byddai gwybodaeth adnabod allweddol yn cael ei hargraffu ar labeli llai i'w cadw yn y jar gyda'r sbesimen (Ffigur 2). Gyda'r casgliad wedi'i guradu'n llawn ar gronfa ddata yr amgueddfa, roedd hi'n bryd dechrau'r broses ddelweddu.Caitlin EvansDychmygwch allu dysgu am anifeiliaid sy'n gwbl angof i bobl ac ymchwilio iddynt. Infertebratau morol yw’r llyngyr gwrychog, a dydy rhai pobl ddim hyd yn oed yn gwybod amdanyn nhw oherwydd eu natur o gloddio yn y tywod. Maen nhw'n byw ar hyd traethlinau a llanw ein hoff draethau ac mae’n hawdd i rywun beidio â sylwi arnyn nhw o gwbl. Caitlin ydw i, myfyrwraig Bioleg sydd ar flwyddyn olaf fy ngradd israddedig ym Mhrifysgol De Cymru. Ar hap y daeth y cyfle i mi weithio ar leoliad yn Amgueddfa Cymru - doedd gan i ddim bwriad go iawn i fynd ar leoliad. Ond pan soniodd un o'm darlithwyr am y cyfle hwn, roeddwn i'n gwybod bod rhaid i mi fachu ar y cyfle. Pan ddechreuais yn y brifysgol, doeddwn i ddim yn siŵr pa faes i’w ddilyn. Ond cyn gynted ag y dechreuais i astudio ecoleg a sŵoleg, taniwyd diddordeb angerddol yn y pwnc. Teithiais i goedwig law ac arfordir Belize am fis, gan ennill profiad ymarferol a chael cipolwg heb ei ail ar sut brofiad fyddai gweithio yn y maes. O rwydi dal adar ac ystlumod i sgwba ddeifio, fe wnaeth y profiad hwn atgyfnerthu fy niddordeb. Ar hyn o bryd, rwy'n casglu data ar gyfer fy mhrosiect traethawd hir ar boblogaethau ystlumod, gan gasglu data ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod ynghyd â chwblhau'r lleoliad hwn, sy'n golygu bod fy wythnosau i'n llawn dop o weithgareddau sŵoleg.Yn ystod fy amser yn yr amgueddfa, cefais y dasg o guradu a chwblhau gwaith delweddu ar Gasgliad Mendelssohn gan fy ngoruchwylydd Dr Teresa Darbyshire (Uwch Guradur: Infertebratau Morol). Mae hwn yn gasgliad enfawr o tua 115 o sbesimenau sydd wedi'u cadw mewn hylif. Maen nhw'n amrywio o samplau bach y gallwch prin eu gweld i lyngyr mawr sydd prin yn ffitio yn eu jariau. Mae'r sbesimenau sydd yn y casgliad hwn i gyd wedi'u casglu ar ynys Guernsey gan J.M. Mendelssohn ac wedi eu cadw mewn ethanol. Mae gweithio gyda'r casgliad hwn wedi fy helpu i werthfawrogi bioamrywiaeth rhan o’r byd sy’n anghyfarwydd i mi. Mae'n rhoi cipolwg heb ei ail ar fyd natur yr ardal honno. Fel i Mayu grybwyll, roedd y dasg o guradu'r casgliad hwn yn cynnwys chwilio'n drylwyr trwy draethawd ymchwil PhD Mendelssohn o 1976 er mwyn darganfod union leoliadau casglu'r sbesimenau hyn. Trwy ddefnyddio'r traethawd ymchwil a chymorth Google Maps dibynadwy, roedd modd i mi bennu cyfesurynnau hydred a lledred ar gyfer pob sbesimen a'u cofnodi yn y gronfa ddata. Cafodd pob manylyn ei nodi ar y gronfa ddata gan gynnwys yr holl wybodaeth dacsonomaidd a hyd yn oed manylion gwaddodion. Ar ôl cwblhau hyn ar gyfer pob sampl, aethom ati i baratoi labeli ffres ar gyfer y samplau hylif corfforol. Roedd hyn yn cynnwys agor y samplau a rhoi label newydd yn y jar. Dull hawdd a chyflym o adnabod y sbesimen.Y cam nesaf fyddai llywio'n ffordd trwy'r ddrysfa i lawr i'r ystafell ddelweddu. Roedd y broses o ddelweddu'r sbesimenau hyn yn cynnwys y profiad corfforol o sut i ymdrin â sbesimenau hylif wedi'u cadw, yn y ffordd gywir. Roedd tynnu'r llyngyr gwrychog wedi'u cadw allan o'r jar a dadansoddi manylion anhygoel a nodweddion esblygiadol y llyngyr hyn yn wirioneddol anhygoel. Roedd y gwaith delweddu yn rhoi cyfle i ni ennill sgiliau na fydden ni byth wedi'u datblygu oni bai am yr amgueddfa, gan gynnwys sut i drafod hen sbesimenau yn iawn - a chawsom hefyd ein trwytho mewn ffotograffiaeth. Yn ystod ein hamser yn yr amgueddfa, buom yn ddigon ffodus i dreialu project DISSCO (System Ddosbarthedig ar gyfer Casgliadau Gwyddonol) sy'n cynnwys digideiddio casgliadau'r amgueddfa. Mae’r project helaeth hwn yn cynnwys POB casgliad, a'r gobaith yw y bydd y casgliadau morol yn rhan ohono rywbryd yn y dyfodol (Ffigur 3).Cam cyntaf y broses ddelweddu yw cwblhau delwedd archwilio, sef tynnu llun o bopeth sy'n bresennol yn y jar (Ffigur 4). Gan ddefnyddio gefeiliau, byddem yn tynnu'r sbesimen allan a'i roi mewn dysgl petri llawn ethanol. Byddem wedyn yn cymryd yr holl labeli, hen a newydd, ac yn eu gosod yn daclus mewn ffrâm. Yna, byddem yn ychwanegu cod QR ar gyfer proses DISSCO. Ar ôl tynnu lluniau o du blaen a thu ôl y labeli a'r sbesimen, byddem wedyn yn symud ymlaen i'r delweddau o’r sbesimen. Mae Ffigur 5 yn dangos manylion y sbesimen, er enghraifft mae gan Arenicola marina nifer benodol o 'gylchoedd' ar ei ben a ddefnyddir i'w adnabod. Mae'r broses hon o ddelweddu sbesimenau yn golygu tynnu sawl llun ar lefelau ffocws gwahanol, sydd wedyn yn cael eu cyfuno i greu ffotograff hynod glir a manwl. Yna, rydyn ni'n defnyddio meddalwedd Helicon Focus i rendro'r ddelwedd derfynol hon cyn ei throsglwyddo i Photoshop i ychwanegu bar graddfa. Cwblhawyd y broses hon ar gyfer fy nghasgliadau i a Mayu (Ffigur 5). Byddem yn cyfnewid tasgau’n rheolaidd, gan roi cyfle i ni feithrin ein sgiliau delweddu ymhellach (Ffigur 6). Ein tasg olaf yn ystod ein hamser yn yr amgueddfa oedd defnyddio Photoshop i olygu ein delweddau i'w gwneud yn lân ac yn daclus. Mae'r profiad ar leoliad wedi caniatáu i ni ennill sgiliau gwerthfawr a fyddai’n amhosibl eu cael yn unrhyw le arall. Bu'n brofiad anhygoel sydd wedi agor y drws i fyd y gwyddorau naturiol ac mae’n gam anhygoel yn ein gyrfaoedd i’r dyfodol.Roedd ein cyfnod yn yr amgueddfa yn llawn hwyl a rhyfeddodau, diolch i bawb yn yr adran gwyddorau naturiol. Yn ogystal â'r adran forol, cawsom bersbectif mewnol o sawl adran arall gan gynnwys fertebratau a botaneg - rydyn ni'n hynod ddiolchgar iddyn nhw, ac wedi meithrin cyfeillgarwch newydd trwy gydweithio. Diolch i'r staff ac i’n goruchwylydd, Teresa Darbyshire, am greu amgylchedd gwaith mor gynnes a chroesawgar ac am sicrhau amser anhygoel i ni yn yr amgueddfa. Rydyn ni wedi ehangu ein gwybodaeth yn aruthrol, ac allen ni ddim fod wedi gofyn am brofiad gwell. Dr Teresa Darbyshire Uwch Guradur: Anifeiliaid Di-asgwrn-cefn Morol Gweld Proffil Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.