: Ailddatblygu Llechi

Dipyn o berfformiad! Sut mae dod â chymeriad yn 'fyw' er mwyn dweud y stori!

Julie Williams, 28 Gorffennaf 2025

Mae adrodd stori amgueddfa yn broses gymhleth! 

Mae gwrthrychau, paneli gwybodaeth a gwefannau yn gwneud gwaith teilwng iawn o ddarparu gwybodaeth, a ffilmiau yn amhrisiadwy wrth osod cyd-destun – ond rydyn ni i gyd eisiau gwybod straeon y bobl oedd yno ar y pryd fwy na dim – a does dim ffordd well o adrodd eu straeon na dod â nhw yn ôl yn fyw! Nid yn llythrennol wrth gwrs – ond gydag actorion! 

Mae Rhian Cadwaladr, actores lleol poblogaidd, wedi bod yn adrodd straeon yn yr Amgueddfa ers dros 25 mlynedd. 

Roedd Margaret (neu Gwladys fel y gelwid mae'n debyg) yn dipyn o gymeriad! Roedd hi'n Nyrs ardderchog ond hefyd yn gantores wych! Bu'n gweithio yn yr Ysbyty am flynyddoedd lawer a mae Rhian wedi ymchwilio'n fanwl i'w hanes er mwyn iddi allu ateb pob cwestiwn amrywiol sy'n dod gan yr ymwelwyr.

Dechreuodd Rhian weithio 'mewn cymeriad' gyda'r Amgueddfa nôl yn Hydref 1997,  pan ofynnwyd iddi ddod yn gymeriad yn nhŷ Prif Beiriannydd yr Amgueddfa, a oedd newydd ei adnewyddu ar y pryd.

Dros y blynyddoedd, mae hi wedi portreadu cymeriadau amrywiol yn Nhy'r Peiriannyd - sef Elizabeth, morwyn y Prif Beiriannydd ac yna Hanna - ei wraig. 

Yn y rôl yma, roedd y pwyslais ar y gwrthrychau arbennig i'w darganfod yno  – o’r llestri patrwm helyg hardd ar y dresel, i’r matiau rhacs ar y llawr i baentiad hollbresennol Salem ar y wal – darganfyddiad cyffredin mewn nifer o gartrefi Cymreig tua 1919 oherwydd hysbysebu gwych Sunlight Soap! 

Yn ystod digwyddiadau Nadolig yr Amgueddfa, caiff Rhian ei hamgylchynu gan deuluoedd yn ei helpu i wneud orennau Fictoraidd – gan adael arogl hyfryd yr ŵyl drwy’r tŷ.

Tra bod teuluoedd yn mwynhau'r gweithgaredd yn y gwahanol dai, mae nhw hefyd yn dysgu mai cartrefi pobl oedd rhain. Mae'n rhaid i Hanna dreulio llawer o'i hamser yn gwneud tanau i gynhesu'r tŷ a choginio'r bwyd. Mae'n rhaid iddi wneud y matiau rhacs ar y llawr a sgleinio'r pres sydd wedi'i drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth. Ei hoff beth yw'r wyntyll lechi a wnaed gan ei thad i ddangos ei ddawn fel chwarelwr. 

Draw yn Nhai'r Chwarelwyr mae cymeriad Anti Marged yr olchwraig yn dod yn fyw - rhan amlaf gyda plant ysgol lleol.  

“Mae dod â’n hanes yn fyw, nid yn unig i genedlaethau o Gymry ond i bobl o bedwar ban byd, wedi bod yn anrhydedd,” meddai Rhian, sy’n wreiddiol o bentref Llanberis - ei thaid, ei hen daid a’i hen hen daid yn gweithio yn Chwarel Dinorwig. 

"Mae pobl mor barod i ddychmygu eu bod nhw wedi camu yn ôl mewn amser ac yn cyfarfod ag ysbryd o'r gorffennol – er mae'n rhaid i mi gyfaddef bod rhai pobl, sydd ddim wedi disgwyl fy ngweld i'n eistedd yno, yn dychryn braidd i ddechrau!"

Cymeriad arall gan Rhian oedd ‘Anti Marged’, cymeriad yn canolbwyntio ar y diwrnod golchi traddodiadol – o’r sgrwbio gyda sebon carbolig i wthio dillad drwy’r mangl i sychu a smwddio – y cyfan wedi’i ganoli o amgylch tân glo cynnes wrth gwrs! Dyma broses hir sy'n fyd oddiwrth cyfleustra ein peiriannau golchi trydan, peiriannau sychu dillad a heyrn trydan heddiw a phlant ysgol bob amser yn cael eu llorio gan y broses ac allan nhw ddim credu bod yr holl beth yn cymryd cymaint o amser o'i gymharu â'r trefniadau modern! 

Actor arall sydd wedi gweithio yn yr Amgueddfa ers rhai blynyddoedd yw  Leisa Mererid. Mae’n chwarae rôl gwraig tŷ o 1901 sy’n brwydro i ymdopi â’r caledi a ddaeth yn sgil y Streic Fawr yn Chwarel y Penrhyn ym Methesda. Mae'r stori yn un anodd. Mae gŵr  y ty ar streic – yn ystod y Cloi Mawr yn Chwarel y Penrhyn. Ychydig o fara sydd ar y bwrdd a mae bywyd yn anodd. Y peth amlycaf yn y tŷ yma yw cragen 'conch' fawr y bydd hi ac eraill sy’n briod â dynion sydd ar streic yn hwtio drwyddi ar y 'bradwyr' - y dynion sydd wedi penderfynu torri’r streic a mynd yn ôl i’r gwaith. Fel mae’r arwydd yn ffenest Leisa yn ei ddweud, “Nid oes Bradwr yn y tŷ hwn!” 

Yn fwy diweddar mae Rhian wedi datblygu cymeriadau newydd. Ym mis Mai 2022, dathlodd yr Amgueddfa ei phen-blwydd yn 50 oed a chyflwyno cymeriad newydd i’r cymysgedd – rhywun a allai roi mwy o hanes y gweithdai – ac felly ganed ‘Wil Ffitar’, cyn-osodwr peirianneg yng ngweithdai’r Gilfach Ddu. Ysgrifennwyd y sgript ar gyfer hyn gan Rhian ac yn 2024 - cyn i'r amgueddfa gau am gyfnod o ailddatblygu, cyflwynwyd cymeriad newydd eto gan Rhian - sef GWYNETH - Mam leol yn byw yn Llanberis yn 1969.

Llynedd, yn gweithio gyda’r gymuned fel rhan o’r broses ymgysylltu ar gyfer ailddatblygu’r Amgueddfa Lechi, creuwyd Gwyneth Robaits, gwraig weddw sy'n byw yn tŷ 1969 Fron Haul.  Mae Gwyneth yn ceisio cefnogi ei mhab i fynd i'r Coleg i barhau a'i addysg gan fod y Chwarel wedi cau yn ystod Haf y flwyddyn honno! Newid byd ar y gymdeithas leol! 

A nawr mae cymeriad newydd eto - ond mewn lleoliad tra wahanol y tro hwn - sef MARGARET Y MÊTRON. Mae Margaret  i'w darganfod yn Ybsyty'r  Chwarel, jesd uwchben yr Amgueddfa ym Mharc Padarn. Mae Margaret yn son am y math o anafiadau a salwch sy’n cael eu trin yno ynghyd a hanes y Doctoriaid sy’n gweithio yno fel yr enwog R.H. Mills Roberts. Mae hefyd yn son am y gwaith y mae hi a’r staff eraill yn ei wneud o ddydd i ddydd, ac wrth gwrs pa mor flaengar ydi’r Ysbyty fach Gymunedol yma yn defnyddio Pelydr X a 'Lister spray'! 

Dywedodd Elen Roberts, Pennaeth Amgueddfa Lechi Cymru: 

“Mae bod yn actor amgueddfa yn rôl anodd i'w chyflawni! Mae dyfnder yr wybodaeth y mae'n rhaid iddyn nhw ei chasglu yn enfawr oherwydd bod y cwestiynau y gellir eu gofyn yn eang iawn – o bethau sylfaenol fel sut mae haearn yn cynhesu ar y tân i faterion mwy cymhleth fel ffigurau gwleidyddol y dydd a'r gynulleidfa. O’r herwydd, mae ein hactorion yn ychwanegu cymaint at brofiad yr amgueddfa ac yn galluogi ein hymwelwyr i fwynhau ein stori mewn ffordd ymgollol a rhyngweithiol.”

Dewch i glywed hanes Margaret draw yn Ysbyty'r Chwarel bob dydd Iau drwy gydol yr Haf. Cewch fwy o wybodaeth yma.  


 

Wythnos yn gweithio yn Amgueddfa Lechi Cymru efo Cari a Mali

Cari a Mali, myfyrwyr profiad gwaith, 14 Gorffennaf 2025

Cari a Mali, dwy o fyfyrwyr profiad gwaith Amgueddfa Lechi Cymru.
Cari, myfyrwraig profiad gwaith, yn cerdded ar hyd ffordd gul wedi'i hamgylchynu gan goed deiliog gwyrdd.

Diwrnod 1 

Beth wnaethom ni heddiw ‘ma?

Yn ein diwrnod cyntaf yma bu i ni fynd am dro o amgylch yr ardal gan ehangu ein dealltwriaeth am hanes y chwareli. Yn ogystal, bu i ni ymweld gyda’r Ysbyty Chwarel gan ddysgu mwy am afiechydon a chlefydau a byddai’r chwarelwyr yn eu hwynebu.

Pa sgiliau ddysgon ni o’r profiad?

Gan fod disgyblion ysgol wedi dod i ymweld gyda’r Amgueddfa cawsom ddysgu sut i weithio gydag ymwelwyr - yn enwedig plant iau, a dysgu mwy am yr ardal o wrando ar y cyflwyniad. Wrth gerdded o amgylch yr ardal, yn sicr, rydym wedi dysgu llawer mwy am hanes y chwareli a’r chwarelwyr.

Diwrnod 2

Beth wnaethom ni heddiw ‘ma?

Heddiw yr aethom ni i Gastell Penrhyn. Yma, bu i ni gerdded o amgylch y castell a gwylio arddangosiad naddu a hollti. Yn yr arddangosfa cawsom ddysgu fwy am ddylanwad llechi, nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws y byd. Gofynnom hefyd am adborth gan y gwylwyr. Tra yn ymweld â’r Castell, bu i ni ddarganfod gwely wedi ei greu yn gyfan gwbl o lechan!

Pa sgiliau ddysgon ni o’r profiad?

Wrth drafod gyda chynulleidfa’r arddangosfa, bu i ni ddatblygu sgiliau trafod cyhoeddus a derbyn adborth ac roedd o fodd er mwyn magu hyder a sgiliau cyfathrebu.

Gliniadur yn agored ar sgrin sy'n dangos y blog y mae myfyriwr ar brofiad gwaith yn ei greu.

Diwrnod 3

Beth wnaethom ni heddiw ‘ma?

Diwrnod hanesyddol heddiw yn Ysbyty’r Chwarel. 

Cawsom ehangu ein dealltwriaeth hanesyddol o’r ysbyty, yr ardal, y chwareli a’r chwarelwyr. Daethom yn ôl i’r swyddfa wedyn i weithio ar ein blog ac am gyfarfod.

Pa sgiliau ddysgom ni o’r profiad?

Drwy weithio ar y blog rydym wedi cryfhau ein sgiliau dylunio, gwirio ac iaith. Ac wrth gwrs, drwy wario amser yn Ysbyty’r Chwarel cawsom ehangu ein dealltwriaeth hanesyddol.

Diwrnod 4

Beth wnaethom ni heddiw ‘ma?

Heddiw cawsom roi ein sgiliau ffilmio a technegol i’r defnydd drwy gymryd clipiau fideo ar gyfer ‘insta reels’. Erbyn diwedd y dydd roeddem wedi casglu clipiau fideo ar gyfer reel ‘Helfa Natur’ ac ar gyfer reel ‘Wythnos Profiad Gwaith’.

Pa sgiliau ddysgom ni o’r profiad?

Yn sicr, cryfhaom ein sgiliau TGCh wrth ddefnyddio camerâu, mics, a dysgu sut i greu cynnwys ar gyfer cyfryngau cymdeithasol.

Collage o ddigwyddiad pop-yp gyda deunyddiau marchnata Amgueddfa Cymru, a myfyrwyr profiad gwaith yn helpu gosod yn gwisgo vest high-vis.

Diwrnod 5

Beth wnaethom ni heddiw ‘ma?

Heddiw roedden ni'n help setio fyny stondin yr Amgueddfa Lechi ar gyfer Trail Marathon Eryri 2025. Ar ôl hynny daethom yn ôl i’r swyddfa i orffen ein blog ac y reels.

Pa sgiliau ddysgom ni o’r profiad?

Drwy setio’r stondin i fyny cryfhaom ein sgiliau gwaith tîm ac wrth gwrs ein sgiliau corfforol! Drwy orffen y blog a'r reels fe wnaeth ganiatáu inni gryfhau eich sgiliau golygu a thechnoleg.

Ewch draw i Facebook i weld Reel sy'n cofnodi amser Cari a Mari ar brofiad gwaith i glywed fwy! 

Magu hyder, un mat rhacs ar y tro!

Chloe Ward, 13 Mehefin 2025

Ym mis Mehefin 2023 cychwynnodd Amgueddfa Lechi Cymru rôl wirfoddoli crefftau er mwyn creu 6 mat rhacs ar gyfer ein rhaglen addysg. Wnaethon ni recriwtio 6 o wirfoddolwyr, ac oedd Isabel de Silva yn rhan o’r grŵp. Dechreuodd wirfoddoli tra'r oedd hi'n gorffen ei gradd meistr ym Mhrifysgol Bangor, a’i rheswm dros wirfoddoli oedd er mwyn ennill profiad ar gyfer swydd neu yrfa. 

Gwirfoddolwyr yn creu matiau rhacs.

Yn o gystal a chreu matiau rhacs, bu rhaid i Isabel a’r gwirfoddolwyr ymgysylltu ag ymwelwyr yn Nhŷ’r Prif Beiriannydd er mwyn egluro sut oedd creu matiau rhacs a thrafod hanes y draddodiad. Pan ddechreuodd Isabel wirfoddoli, roedd hi’n eithaf swil ac yn ddihyder. I weithio ar hyn ymhellach, gwirfoddolodd Isabel i'n helpu ni adeg y Nadolig gyda gweithdai gwneud torchau rhacs hefyd – roedd yn amgylchedd prysur a bywiog! Tyfodd ei hyder wrth iddi siarad â mwy a mwy o ymwelwyr a delio â'r llu o gwestiynau am y matiau rhacs gan ymwelwyr brwdfrydig. 

Gwirfoddolwr yn creu addurniadau nadolig traddodiadol.

“Nath gwirfoddoli hefo'r Amgueddfa Llechi helpu fi i godi fy hyder, gwella fy sgiliau cyfathrebu a dysgu sgil ymarferol newydd.” - Isabel de Silva

Ar ôl iddi raddio a chwblhau ei gradd meistr ac ers magu hyder a datblygu sgiliau gwaith, mae Isabel bellach wedi cael swydd gyda Gwasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd a gyda Storiel, amgueddfa ac oriel Gwynedd. Mi orffennodd Isabel mat rhacs bendigedig ar ei phen ei hun erbyn Gorffennaf 2024… cymerodd blwyddyn o wirfoddoli unwaith yr wythnos! 

"Drwy fy ngwirfoddoli nes i ddysgu gymaint amdan hanes yr ardal leol, ac effaith y chwarel ar fywydau pobol Gogledd Cymru heddiw. Nath y wybodaeth hynny ysbrydoli fi i neud fy rhan mewn cadw a rhannu hanes Cymru, a dwi wedi cael y cyfle i neud hynny drwy fy swydd yn Storiel." - Isabel de Silva

Sut mae pacio a symud Amgueddfa?

21 Mai 2025

Un o rannau cyntaf a mwyaf ein prosiect ailddatblygu fu'r gwaith o symud y rhan fwyaf o'n casgliadau oddi ar y safle i ganolfan gasglu gyfagos. 

Roedd hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau eu diogelwch tra bod gwaith adnewyddu ac adeiladu yn cael ei wneud ar y safle.

Dechreuwyd y gwaith yn ôl ym mis Gorffennaf 2024 gyda phenodiad 2 Gynorthwyydd Casgliadau newydd - Osian Thomas a Mathew Williams - a ymunodd â’r Curadur Cadi Iolen, i ddechrau ar y dasg enfawr o eitemeiddio, labelu a phacio pob gwrthrych yn yr Amgueddfa. 

Yma maen nhw'n dweud ychydig mwy wrthym am yr hyn oedd ynghlwm wrth 'symud amgueddfa'.

"Mae dros 8,000 o greiriau yn ein casgliad - roedd hon yn broject anferth!" Cadi Iolen, Curadur

Mae Amgueddfa Lechi Cymru wedi’i lleoli yng ngweithdai peirianneg gwreiddiol y Gilfach Ddu, ac fe’i hagorwyd yn 1972 yn dilyn ymgyrch i’w chadw’n gyflawn fel Amgueddfa. Er bod y rhan fwyaf o'n casgliad wedi'i ddogfennu, nid oedd nifer mawr wedi a felly rydym wedi gorfod mynd yn ôl at y pethau sylfaenol a dogfennu a thagio popeth yn yr Amgueddfa fel bod popeth wedi'i recordio. 

“Mae’n broses sydd erioed wedi cael ei wneud yn yr Amgueddfa Lechi o’r blaen. Pan agorodd yr amgueddfa yn 1972 doedd o ddim mewn adeilad newydd efo waliau gwyn, a phobl yn dod â phethau i mewn i’w rhoi i ni. Roedd hi’n anodd gwybod beth oedd yma yn wreiddiol a beth sydd wedi cael ei gludo yma gan staff yr amgueddfa dros yr holl flynyddoedd. Ond wrth gwrs mae hynny hefyd wedi rhoi math gwahanol o amgueddfa i ni sydd mor unigryw ei naws."  Cadi Iolen, Curadur O'r patrwm pren lleiaf i’n locomotif hyfryd, UNA, mae gweithdai’r Gilfach Ddu bellach yn le gwahanol iawn i’r hyn y mae pobl wedi arfer ei weld. 

Mae'r gwrthrychau llai naill ai wedi cael eu rhoi mewn bocsys, eu slotio ar silffoedd neu mewn droriau.  O fyrddau trin llechi i feginau, blociau, a thaclau i beiriannau trwsio, mae maint y prosiect wedi bod yn aruthrol ac yn syndod ar adegau. Wrth symud drwy’r Amgueddfa rydym wedi gwneud rhai darganfyddiadau syfrdanol. 

"Ddois i o hyd i focs o offer a oedd yn berchen i'r teulu Patrwm a oedd yn gweithio yn y Llofft Patrwm ers talwm. Roedd y bocs wedi ei guddio o dan fagiau  phatrymau ers blynyddoedd. Rydyn ni mor falch ein bod ni wedi dod ar eu traws gan eu bod nhw – fel llawer o eitemau yn yr Amgueddfa – i’w gweld wedi cael eu gadael fel ag yr oedden nhw pan gaewyd cyfadeilad y gweithdai yn 1969!  Mathew Williams, Cynorthwydd Casgliadau

Roedd y Ffowndri yn ystafell arall yr oedd angen ei chofnodi cyn symud eitemau. Ar un adeg roedd yr ardal dywod anferth yng nghanol yr ystafell wedi’i llenwi â blychau castio ac offer metel ac roedd y waliau wedi’u haddurno â phatrymau pren mor fawr fel ei bod yn anodd amgyffred eu maint nes iddynt ddod oddi ar y wal yn y pen draw – pob un yn datgelu eu hen argraffnod ar y gwaith paent y tu ôl iddynt.

"Wrth archwilio'r adeilad, fe wnaethon ni ddarganfod sawl darn graffiti cudd. Yn Llofft y Gwirfoddolwyr, daethom o hyd i ddarluniau o arweinwyr rhyfel o’r Ail Ryfel Byd, a oedd wedi’u cuddio’n flaenorol y tu ôl i raciau storio. Fe wnes i ddarganfyddiad personol wrth dagio offer ar y craen yn y Ffowndri. Roedd fy nhaid, Gwynfryn Thomas, yn gweithio yno fel Moulder, a sylwais ar “GT” wedi'i ysgythru i'r gwaith coed. Er mawr syndod i mi, fe wnes i gyfri naw o'r hiinitals ar y craen - cysylltiad teimladwy â hanes fy nheulu." Osian Thomas, Cynorthwydd Casgliadau

Caewyd yr Amgueddfa ddiwedd mis Hydref 2024 ac ym mis Tachwedd dechreuwyd ar y gwaith symud! Roedd hyn yn heriol ar sawl lefel, o eitemau enfawr oedd angen eu cludiant eu hunain i symud yr holl eitemau bach mewn blychau storio. Gan weithio gyda Restore Harrow Green – cwmni symud arbenigol sy’n arbenigo mewn symud llyfrgelloedd, amgueddfeydd a swyddfeydd ar raddfa fawr – cafodd pethau eu hadleoli’n gyflym ac effeithlon iawn. 

Un o'r ystafelloedd cyntaf i gael ei wagio oedd Llofft y Gwirfoddolwyr (yr ystafell olaf yn y llofft patrwm) a oedd yn llawn Casgliadau Cadwedig o batrymau pren a gwrthrychau eraill. Dilynodd y Ffowndri, Efail, Caban ac o ystafell i ystafell, trawsnewidiodd yr amgueddfa'n araf o fod yn lle llawn gwrthrychau lle'r oedd gofod yn brin, i deimlo'n wag iasol.

Yna daeth yn amser symud y gwrthrychau mwy ar brif iard yr Amgueddfa. Pwy fyddai wedi meddwl ar ddechrau’r daith ailddatblygu hon y byddem yn gweld un o’n boeleri locomotif yn hongian dros iard yr amgueddfa gan graen ar fore dydd Iau? 

Mae hi wedi bod yn daith ddysgu wirioneddol i ni, un sydd wedi gwneud i ni sylweddoli a gwerthfawrogi maint ac amrywiaeth holl gasgliadau’r Amgueddfa. Mae hefyd wedi bod yn daith hynod werth chweil, yn trin gwrthrychau a oedd yn cael eu cadw ddiwethaf gan y gweithwyr yma ac sydd bellach yn eu gweld i gyd yn drefnus ac yn cael eu storio yn y Storfa Casgliadau newydd. (Osian) 

Ond dim ond diwedd pennod gyntaf y prosiect ailddatblygu mawr hwn yw hyn. 

Mae’r gwrthrychau bellach wedi dod o hyd i gartref dros dro newydd yn ein canolfan Gasgliadau newydd yn Llandegai ger Bangor. 

Rydyn ni'n cynllunio diwrnodau agored yno yn fuan ...ond byddwn yn dweud wrthych chi am y gofod anhygoel hwnnw yn y blog nesaf!

Lleisiau’r Amgueddfa: Helen Goddard - Cyfarwyddwr Project Amgueddfa Lechi Cymru

Helen Goddard, 28 Mawrth 2025

Helo Helen, dwed ychydig wrthon ni amdanat ti a dy rôl yn Amgueddfa Cymru.

Dw i efo Amgueddfa Cymru ers 12 mis ac mae wedi bod yn wych. Dw i ar secondiad o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy lle dw i fel arfer yn gofalu am wasanaethau’r amgueddfa, y llyfrgell, y celfyddydau a’r archifau. Cyn symud i ogledd Cymru 14 blynedd yn ôl, ro’n i’n gweithio ar draws ynysoedd yr Alban fel archaeolegydd a gweithiwr datblygu cymunedol.

Un o ogledd Cymru ydi fy mam, ac roeddwn i wastad eisiau dysgu Cymraeg. Mae wedi cymryd 14 blynedd i mi lwyddo, ond mi faswn i’n dweud bod blwyddyn yn Llanberis yn sicr wedi bod yn hwb enfawr i ’mhrofiad dysgu!

Yn fy rôl fel Cyfarwyddwr Project dw i’n gyfrifol am reoli a chyflawni project Ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru. Dw i’n arwain nifer o dimau project ehangach ac yn adrodd ar eu gwaith i Fwrdd y Project. Fi sy’n gyfrifol am sicrhau bod y project yn cadw i’w amserlen ac o fewn y gyllideb a’n bod ni’n bodloni disgwyliadau ein cyllidwyr a’n rhanddeiliaid. Fy ngwaith i hefyd ydi gwneud yn siŵr ein bod ni i gyd yn rhannu ac yn gwthio’r un weledigaeth i gyflawni’r project ar y cyd â’n cymunedau mewn ffordd sy’n ateb eu hanghenion a’u dyheadau nhw.

Mae project Llanberis yn wirioneddol gyffrous. Beth alli di ei rannu amdano, wrth iddo fynd yn ei flaen?

Rydan ni’n sôn amdano fel cyfle unwaith-mewn-oes ac mae hynny’n wir go iawn. Ers i Dirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru gael ei dynodi’n Safle Treftadaeth Byd yn ôl yn 2021, mae cyfleon ariannu strategol wedi’n galluogi ni i ddatblygu cynllun gwirioneddol uchelgeisiol. Byddwn ni’n gallu creu siop, caffi a gofod dysgu newydd sbon i weddnewid profiad yr ymwelwyr. Ac rydan ni am osod lifft i’r llofft patrwm ar y llawr cyntaf am y tro cyntaf, yn ogystal â gwneud pob man yn fwy hygyrch a chael toiledau gwell (yn cynnwys toiled Newid Lle).

Rydan ni’n ceisio creu cydbwysedd ystyriol rhwng parchu sensitifrwydd Gilfach Ddu a darparu profiad cyfoes. Mae ymwelwyr, pobl leol a staff fel ei gilydd yn dweud wrthon ni eu bod nhw wrth eu bodd efo’r safle yn union fel y mae – fel petai’r gweithwyr newydd adael eu hoffer a mynd adref am y dydd. Dyna ysbryd y gweithdai hanesyddol rydan ni’n ceisio’i barchu, tra’n gwneud gwelliannau mwy sylweddol ar yr un pryd i fannau sydd yn hanesyddol wedi gweld llawer o newid yn barod. Er enghraifft, yn ein horielau newydd, byddwn ni’n gallu arddangos mwy o’n casgliad cenedlaethol, ond hefyd datblygu ein rôl fel porth i Safle Treftadaeth Byd y dirwedd lechi ehangach.

Rydan ni newydd gwblhau cam RIBA4, sef y cam dylunio technegol lle cytunir yn fanwl ar bob manyleb a’r deunyddiau i gyd. Rydan ni wedi tendro ar gyfer y prif waith a’r gobaith ydi dechrau ar y safle ym mis Ebrill.

Beth sydd wedi digwydd i’r casgliad tra bod y gwaith adnewyddu’n digwydd, ac allwn ni ymweld o hyd?

Mae’r casgliad cyfan, bron – tua 10,000 o wrthrychau – wedi cael ei symud o’r safle i ganolfan gasgliadau hygyrch newydd yn Llandygái ger Bangor. Mae unrhyw beth sy’n gallu symud, wedi symud! Hynny er mwyn diogelu’r casgliad, ond hefyd i sicrhau ei fod yn dal ar gael tra bod yr amgueddfa ar gau dros dro. Bydd ein rhaglen weithgareddau eleni’n cynnig digonedd o gyfleon i bobl weld, profi a gweithio gyda’r casgliadau yn eu lleoliad dros dro a helpu i ddewis gwrthrychau i’w harddangos a phenderfynu sut y caiff eu straeon eu hadrodd.

Fydd safle Llanberis ar agor tra bod y gwaith wrthi? Byddai’n cŵl cael taith o amgylch yr amgueddfa wag!

Mae’r amgueddfa wedi cau dros dro, yn rhannol er mwyn cadw staff ac ymwelwyr yn ddiogel oherwydd maint y gwaith, ond hefyd am ein bod ni’n gweithio i amserlen dynn iawn! Rydan ni’n cynnig teithiau ‘Gofodau Distaw’ ar hyn o bryd i’r gymuned leol wrth i ni baratoi i drosglwyddo i’r contractwr, a’r gobaith ydi y byddwn ni’n gallu cynnig mwy o deithiau am gipolwg y tu ôl i’r llenni dros y misoedd nesaf.

Mae Tîm Datblygu Llanberis wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau cyllid, sy’n gyfraniad arbennig o werthfawr at y project ac yn haeddu pob clod!

Argol fawr, mae ’na gymaint o bobl yn gwneud gwaith anhygoel. Yn sicr yn y chwe mis diwethaf rydw i wedi cael fy llorio gan Cadi, ein curadur, a staff y safle ehangach am y gwaith maen nhw wedi’i wneud i baratoi’r amgueddfa ar gyfer cau. Mae Kerry Vicker yn arwr imi. Hi wnaeth fy arwain i drwy ein cais ni am Gam 2 Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, sef ychydig dan £10m.

Pa gamau cynaliadwyedd sy’n cael eu hystyried, i ddiogelu dyfodol yr amgueddfa a’r casgliad?

Mae gennon ni Victoria Hillman yn gweithio ar dîm y project fel rhan o’r ailddatblygu er mwyn gallu cadw llygad manwl ar gynaliadwyedd a’r amgylchedd. Mae cymaint o elfennau i hyn, yn gyfuniad o fesurau ataliol a mentrau newydd.

O ran y casgliad, rydan ni’n bod yn bragmatig ac yn ymatebol i’r mathau o gasgliadau diwydiannol sydd gennon ni. Rydan ni’n cadw rhai elfennau – fel Una yr injan – fydd yn cael ei rhoi ar waith eto fel rhan o’r project. Bydd yr amgylcheddau rydyn ni am eu creu ar gyfer y prif orielau yn sicrhau lefel newydd o aerdymheru, a fydd yn ein helpu i arddangos gwrthrychau mwy sensitif am y tro cyntaf.

Rydan ni wedi bod yn gweithio hefyd gyda phrifysgol Met Caerdydd ar gamau ymaddasu i’r hinsawdd ac wedi cynnwys hyn yn y fanyleb ar gyfer pethau fel deunyddiau tirlunio, rheoli dŵr ffo, gallu adeiladau i anadlu, a dyluniad cafnau dŵr glaw ac ati. Dyma amcanion eraill sydd gennym:

  • Marc BREEAM ardderchog i’r adeiladau newydd
  • Blychau newydd i ystlumod a gwenoliaid duon
  • Trawsleoli cennau a mwsoglau
  • Plannu rhywogaethau brodorol a phrin
  • Cynaeafu dŵr glaw
  • Cynllun goleuo sensitif iawn
  • Sefydlu addysg am gynaliadwyedd a’r amgylchedd ym mhob deunydd dehongli

Mae’r rhestr yn mynd ymlaen!

Beth wyt ti’n edrych ymlaen ato fwyaf am yr ailddatblygu?

Fedra i ddim aros i weld fy nau blentyn ifanc yn chwarae yn y mannau rydan ni’n eu creu. Dw i’n gobeithio gweld dim byd ond cyffro a rhyfeddod ar eu hwynebau wrth iddyn nhw grwydro’r lle.

Yn olaf, mae hwn yn hoff gwestiwn ganddon ni – beth ydi dy hoff ddarn yng nghasgliad Amgueddfa Cymru?

Wel, dw i heb fod yma’n hir iawn, ond mi faswn i’n dweud mai fy hoff wrthrych hyd yma ydi Cadair Eisteddfod Caban Mills yng nghasgliad yr Amgueddfa Lechi. Am fynegiant syml, hardd o fywyd yng nghymunedau’r chwareli a phrofiad byw y rhai fu’n cydeistedd yn y Caban!