Gwaith cadwraeth ar wrthrychau'r Amgueddfa Lechi 16 Ebrill 2026 Mae cadwraeth wrth wraidd prosiect ailddatblygu Amgueddfa Lechi Genedlaethol ac mae'r tîm Cadwraeth eisoes yn gweithio'n galed yn asesu ac yn gweithio ar y casgliadau i'w cadw'n ddiogel a sicrhau eu bod yn edrych ar eu gorau, pan fydd yr Amgueddfa yn ailagor. Jennifer Griffiths yw Uwch Gadwraethwr Casgliadau'r Diwydiant ac mae'n un o sawl aelod o'r tîm sy'n gweithio ar gasgliad yr Amgueddfa. Dyma ychydig o hanes y gwaith mae hi'n ei wneud ar hyn o bryd: “Rydw i wedi dechrau fy rhan i o’r gwaith cadwraeth drwy drin troli tâliadau" meddai Jennifer. "Mae'r cabinet pren yma yn cynnwys 49 o duniau tâl bach wedi’u gwneud o dunplat. Roedd y cabinet a’r holl ddroriau yn y cabinet yn fudr iawn gyda baw ar yr wyneb a baw wedi’i wreiddio, ac roedd y tuniau i gyd wedi cyrydu’n drwm iawn. Gellir gweld y cabinet yma cyn ac ar ôl y gwaith cadwraeth. "Hyd yn hyn, mae cadwraeth y cabinet a 7 o’r tuniau wedi cymryd cyfanswm o 45 diwrnod o waith. Mae pob tun tâl yn cymryd 2 ddiwrnod i’w gwblhau, ac mae 7 tun wedi’u cwblhau hyd yn hyn. "Dim ond 42 tun i fynd!"Mae nifer o bobol eraill yn gweithio ar y casgliad hefyd yn cynnwys ein casgliad patrymau pren anferth, dilladau, dodrefn, papur a llawer mwy! Dros y misoedd nesaf byddwn yn edrych yn fwy manwl ar y holl elfennau gwahanol o gadwraeth sy'n mynd ymlaen yn rhan o'r project ailddatblygu cyffrous yma felly cadwch lygaid allan am fwy o hanes. Noddir y project ailddatblygu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU drwy Cyngor Gwynedd fel rhan o broject Llewyrch o'r Llechi, Llywodraeth Cymru gan gynnwys y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, Sefydliad Wolfson, Sefydliad Garfield Weston a noddwyr eraill. Rydyn ni'n diolch o galon i'n holl noddwyr am eu cefnogaeth.
Atgofion trwy grefft, gan Rachel Evans 1 Ebrill 2026 Fel artist, mae fy ngwaith yn archwilio olion hanes cymdeithasol a gedwir o fewn arteffactau domestig a thirweddau lleol. Rwy'n cael fy nenu at fanylion sy'n myfyrio ar feithrin a dyfeisgarwch, yn enwedig rhai a luniwyd gan brofiadau dyddiol menywod, sydd yn aml ar goll o hanesion swyddogol. Roedd y project hwn yn gyfle gwych i ymgysylltu â chyfranogwyr, clywed straeon, ac archwilio sut mae gwrthrychau bob dydd yn dal atgofion a hanesion. Dechreuodd ein sesiynau yn yr ‘ystafell ddydd’ ar ward Morfa, Ysbyty Alltwen, gyda sgyrsiau am fywyd domestig y gorffennol, wedi’u sbarduno gan arteffactau o'r amgueddfa, fel crochenwaith, cyllyll a ffyrc, a thecstiliau. Fe wnaethon ni greu darnau personol wedi'u hysbrydoli gan fywyd domestig gan ddefnyddio clai aer-sychu, gyda gweadau sy'n adlewyrchu llafur diwydiannol a llafur cartref. Drwy ddefnyddio stampiau llythrennau, roedd modd argraffu atgofion o'n trafodaethau i'r clai, gan ychwanegu haen bersonol at straeon torfol. Ychwanegwyd lliw gydag inc a graffit, neu de a choffi, wedi'i bwffio i roi naws oedrannus i’r darnau - proses a oedd yn adleisio tasgau domestig. Ysbrydolodd y matiau rhacs sydd yn rhan o gasgliad yr Amgueddfa Lechi, ac yn symbol o ddyfeisgarwch domestig, ni i greu ein sampl gydweithredol ein hunain. Yn draddodiadol, gwnaethpwyd y matiau hyn trwy wthio stribedi rhacs trwy ddeunydd sach; fe wnaethon ni addasu'r dull er mwyn symlrwydd drwy lapio defnydd o amgylch glanhawyr pibellau, yna eu cysylltu â'u gwnïo i siâp mat rhacs bychan. Mae'r darnau cylch brodwaith wedi'u hysbrydoli gan flanced chwarelwr o tua 1900, wedi'i gwneud o ddarnau clytiog o frethyn llwyd wedi'u trimio â choch, i amddiffyn ei berchennog rhag amodau llym y barics. Mae ein darnau wedi'u gwnïo yn cyfuno dyfeisgarwch gwnïo a thrwsio â symbolau o'r llefydd tân cerfiedig a welir mewn rhai cymunedau chwarelyddol.Mae'r darnau maint cerdyn post yn parhau â'r thema, yn cynnwys symbolau o'r llefydd tân, gyda thestun wedi'i dynnu o sgyrsiau ac atgofion.Mae'r project hwn wedi bod yn ffordd wych o rannu straeon personol a chreadigrwydd, gan ddod â phobl ynghyd trwy greu gyda’n gilydd - diolch i bawb a gymerodd ran!"Braf oedd dod at ein gilydd a dysgu sgiliau newydd" - claf o ward Morfa, Ysbyty AlltwenManylion cyswllt: rachelevanscelf@gmail.comInstagram: rachelevans_artist Cynhaliwyd y gweithgareddau yma fel rhan o broject ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru, a ariennir gyda nawdd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU trwy Gyngor Gwynedd fel rhan o broject Llewyrch o’r Llechi, Llywodraeth Cymru yn cynnwys y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, Sefydliad Wolfson, Sefydliad Garfield Weston a chyllidwyr eraill.
Dathlu Merched sy’n Arwain: Helen Goddard, Cyfarwyddwr Project Ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru. 6 Mawrth 2026 Dathlu Merched sy’n Arwain: Dyma Helen Goddard, Cyfarwyddwr Prosiect yn Amgueddfa Lechi Cymru. Ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched, rydym yn rhoi’r llwyfan i rai o’r merched anhygoel sy’n siapio dyfodol Amgueddfa Lechi Cymru. Heddiw, rydym yn falch o gyflwyno Helen Goddard, Cyfarwyddwr Prosiect ar gyfer ein rhaglen ailddatblygu. Arwain gyda Phwrpas Fel Cyfarwyddwr Prosiect, mae Helen yn goruchwylio pob agwedd ar ailddatblygiad uchelgeisiol yr Amgueddfa Lechi. Ei rôl yw sicrhau bod y prosiect yn cyflawni ei botensial yn llawn- yn greadigol, yn ddiwylliannol ac o fudd i gymunedau ledled Cymru ac ehangach. “Dwi’n gyfrifol am y prosiect yn ei gyfanrwydd,” meddai Helen, “a sicrhau ei fod yn cyflawni ei uchelgais.” Taith drwy Dreftadaeth Cyn ymuno â’r amgueddfa, bu Helen yn gweithio fel archeolegydd ac archeolegydd cymunedol. Treuliodd lawer o’i gyrfa gynnar yn Ynysoedd hardd y Gogledd a’r Gorllewin yn yr Alban, gan weithio’n agos ag ynyswyr ar brosiectau treftadaeth a chymunedol. Symudodd Helen i Gymru yn 2011 - gyda’r nod o ddysgu Cymraeg - a chafodd ei chymhwyso’n weithwyr amgueddfeydd wrth weithio i Gyngor Sir Conwy. Merched sy’n Arwain y Ffordd Mae Helen yn angerddol dros weld mwy o ferched yn camu i mewn i sectorau sydd yn hanesyddol yn cael eu harwain gan ddynion. Er bod cynrychiolaeth dda o ferched ym maes treftadaeth, mae’r sector adeiladu angen dal i fyny. Ond yma yn yr Amgueddfa Lechi, mae’r darlun yn newid. “Mae gennym nifer o ferched mewn rolau arweinyddiaeth yma,” meddai. “Ein Pennaeth Safle, Elen; y Rheolwr Datblygu Arddangosfeydd, Ulli; ein Curadur, Cadi; a’n Penaethiaid Prosiectau Cyfalaf, Julie a Diane. Maent i gyd yn ferched eithriadol.” Ei chyngor i ferched sy’n dymuno dilyn llwybrau tebyg? “Arwain o’r galon. Ti ddim angen ymddwyn mewn ffordd wrywaidd i arwain. Mae’n iawn i ddangos emosiwn, i gydweithio, ac ymddiried yn dy dîm”. Bywyd y Tu Allan i’r Amgueddfa Tu hwnt i’r Amgueddfa Lechi, mae gan Helen nifer o straeon annisgwyl - gan gynnwys un bennod gofiadwy yn ei bywyd: “Nes i weithio ar gwch pysgota yn Ynysoedd Heibridiau unwaith!” Ysbrydoliaeth gan Ddynes Gryf Mae Helen yn nodi ei mam fel un o’i dylanwadau mwyaf: “Daeth fy mam o deulu o 10 o blant yn byw mewn tlodi gwledig, ond gwnaeth hi greu ei llwybr ei hun. Nath hi fyth roi’r gorau i’r freuddwyd o helpu pobl, ac aeth ymlaen i ddod yn Nyrs Ymarferydd tuag at ddiwedd ei gyrfa.” Diolch am rannu, Helen, mi wyt yn ysbrydoliaeth ac yn arweinydd bendigedig!
Ystlumod yn Amgueddfa Lechi Cymru: Gwarchod ein preswylwyr lleiaf yn ystod y gwaith ail-ddatblygu 3 Mawrth 2026 Wrth i waith ailddatblygu ar y safle fynd yn ei flaen, mae cymuned bwysig o greaduriaid bach yn cymeryd blaenoriaeth yn ein cynlluniau - ein ystlumod bach! Gan weithio yn agos gyda'r Ecolegydd Carola Hoskins o SK Environmental Solutions Ltd, rydym wedi bod yn cadw llygaid ar yr ystlumod i gyd ar y safle a rydym yn gwarchod 10 clwyd ar y safle. Ystlumod soprano pipistrelle a pipistrelle cyffredinol yw rhain, sef dau o’r mathau lleiaf o ystlumod yn y DU. Mae 7 clwyd yn cael eu defnyddio gan ystlumod gwrywiadd, neu ystlymod benywaidd sydd ddim yn cario babi ond mae un yn arbennig iawn gan ei fod yn glwyd famolaeth sy’n cefnogi 65 ystlym yn ystod cynfod prysur yr haf.Lle Diogel i Groesawu Bywyd NewyddMae’r ystlymod yn cysgu mewn lleoliadau gwahanol ar hyn o bryd ond rydym yn digswyl iddynt ddychwelyd i'r safle tua diwedd Ebrill pan fydd 35 ystlym benywaidd yn setlo mewn i’w clwyd mamolaeth. Erbyn diwedd Mai neu dechrau Mehefin, bydd bob Mam yn rhoi genedigaeth i un cenau gan ddwblu maint y gytref dros nos! Er bod 65 ystlum yn swnio fel nifer da, mae hyn mewn gwirionedd yn gytref famolaeth fach, sy’n ei wneud yn un pwysig iawn. Addasiad Natur bendigedig"Er bod gan yr ystlumod nifer o nodweddion difyr, un o’r pethau mwyaf diddorol ydi’r ffaith ei bod yn gallu oedi beichiogrwydd." meddai Carola. "Byddant yn gwneud hyn drwy storio’r sberm o’r hydref drwy’r gaeaf oer. Mae hyn yn galluogi nhw eni yn ystod tywydd cynhesach y gwanwyn, ble mae mwy o fwyd ar gael iddynt a gwell siawns o oroesi. Dyma un o’r prif resymau pam fod yr ystlumod yn ffynnu yn y DU."Cadwraeth yn Ganolog i’n Gwaith Ail DdatblyguMae ystlumod a’u clwydi yn cael eu gwarchod yn gyfreithiol, sy’n golygu fod unrhyw waith i’r toeau neu leoliadau posib i ystlumod ymgartrefu yn gorfod digwydd dan drwydded. Mae’r gwaith hwn yn gorfod digwydd yn ystod y gaeaf, tra bod yr ystlumod yn cysgu mewn lleoliad arall. Mae Carola yn gweithio gyda’n tîm ni er mwyn cynghori a rhoi arweiniad ar y gwaith yma er mwyn sicrhau fod y mynedfaoedd dal ar agor, fod y strwythur yn ddiogel a bod y gofodau yn rhydd i’r ystlumod ddychwelyd yn y gwanwyn. Rydym yn falch iawn o warchod y mamaliaid bychain yma, sydd wedi bod yn ymgartrefu yn yr amgueddfa ers amser maith.Ariannwyd y project gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU drwy Gyngor Gwynedd fel rhan o’r prosiect Llewyrch o'r Llechi, Llywodraeth Cymru yn cynnwys Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, Sefydliad Wolfson, Sefydliad Garfield Weston ac arianwyr eraill. Rydym yn ddiolchgar iawn i’n cyllidwyr i gyd am eu cefnogaeth.
Chwarelwyr yn y Castell! Julie Williams, 16 Chwefror 2026 Chwarelwyr Amgueddfa Lechi Cymru yn symud o’r chwarel i’r castell! Am y tro cyntaf erioed mae chwarelwyr llechi yn gweithio yng Nghastell Penrhyn – cartref un o berchnogion chwarel cyfoethocaf Cymru. Mae chwarelwyr o Amgueddfa Lechi Cymru, sydd fel arfer i’w gweld yn yr amgueddfa yn Llanberis, wedi symud dros-dro i arddangos eu sgil a’u crefft yn y Castell. Mae hyn yn digwydd wrth i Amgueddfa Lechi Cymru gau ei drysau am gyfnod ar gyfer ailddatblygiad mawr. Oherwydd y gwaith hwn mae’r amgueddfa, sy’n rhan o deulu Amgueddfa Cymru, wedi penderfynu rhannu ei stori mewn lleoliadau eraill o fewn safle treftadaeth byd Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru. Sefydlwyd Chwarel y Penrhyn gan y teulu Pennant. Roedd yn un o brif chwareli llechi Cymru am bron i 150 o flynyddoedd, ac roedd yr amodau gweithio’n galed iawn yno. Ym 1900, aeth dros 2,000 o weithwyr ar streic am well cyflogau ac amodau gweithio – penllanw blynyddoedd lawer o wrthdaro ac anfodlonrwydd. Roedd Streic y Penrhyn yn un hir a chwerw. Fe barodd dros dair blynedd, un o’r streiciau diwydiannol hiraf yn hanes Prydain, ac achosodd galedi difrifol i’r chwarelwyr a’u teuluoedd. Rhwygwyd y gymuned yn ddwy; rhwng y ‘streicwyr’ a achosodd yn driw i’r streic neu adael i ddod o hyd i waith arall, a’r ‘bradwyr’ a ddychwelodd i’r chwarel. I nifer o drigolion yr ardal, mae’r Castell yn dal i fod yn symbol o gyfoeth a gormes. Yn hanesyddol, fyddai’r chwarelwyr byth yn croesi trothwy’r Castell, ac mae llawer o’u teuluoedd wedi cadw draw ar hyd y blynyddoedd. Mae Castell Penrhyn a’r gerddi bellach dan ofal Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, ac mae’r safle wedi bod yn cydweithio gyda thrigolion yr ardal ac artistiaid ers dros ddegawd i rannu mwy o’r hanes, ac ailgysylltu â’r gymuned leol, fel yr esboniodd Ceri Williams, Rheolwr Cyffredinol Castell Penrhyn: “Dros y degawd a mwy diwethaf, rydym wedi bod yn ail-edrych ar ein ffordd o rannu hanes a chysylltiadau diwydiannol a threfedigaethol Castell Penrhyn. Rydym wedi cyflawni cymaint ar hyd y cyfnod, ond mae croesawu’r chwarelwyr i’r castell yn garreg filltir arwyddocaol o ran ailgysylltu’r gymuned â’r safle hanesyddol hwn. Yn barod, mae torfeydd wedi bod yn ymgasglu i wylio’r arddangosfa hollti llechi, sydd yn ddathliad o grefftwyr lleol, ond hefyd yn brofiad sy’n ychwanegu at hanes diwydiannol y castell. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gydag Amgueddfa Lechi Cymru dros y misoedd i ddod, a chynnig ymweliad unigryw a chofiadwy i Gastell Penrhyn.”I Amgueddfa Lechi Cymru, mae’r cyfle i’w chwarelwyr arddangos eu gwaith yng Nghastell Penrhyn yn rhan allweddol o’r rhaglen ailddatblygu, ac yn benodol ymgyrch Amgueddfa ar y Lôn yn 2025, sy’n adleoli elfennau o’r amgueddfa tra bod y safle ar gau. Dywedodd Elen Roberts, Pennaeth Amgueddfa Lechi Cymru: “Rydym yn ddiolchgar iawn i’r tîm yng Nghastell Penrhyn ac i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru am roi’r cyfle unigryw hwn i ni gydweithio fel rhan o raglen ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru. Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r Ymddiriedolaeth dros y blynyddoedd i rannu hanes y diwydiant llechi, ac mae’r cyfle i rannu sgiliau a straeon ein chwarelwyr yn beth mawr i’r ddwy ochr. Bydd symud i Gastell Penrhyn – ac i safleoedd eraill yn yr ardal Treftadaeth Byd – yn ystod ailddatblygiad yr amgueddfa yn gyfle i ni gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a sicrhau bod ein stori yn parhau tu hwnt i furiau’r amgueddfa. Bydd ein staff ar eu hennill o gael dal i weithio gyda’r cyhoedd, a gwella eu gwybodaeth o hanes y llechi, a gobeithio y bydd ymwelwyr ar eu hennill o gwrdd â staff yr amgueddfa mewn lleoliadau newydd a fydd – ynghyd â’r cynnig presennol i ymwelwyr â Chastell Penrhyn – yn cynnig persbectif newydd ar stori’r llechi.”Mae’r Amgueddfa a’r Castell yn rhannau allweddol o safle Treftadaeth Byd Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru. Croesawyd y datblygiad gan yr Arglwydd Dafydd Wigley, Cadeirydd Partneriaeth Llechi Cymru: “Mae Cyngor Gwynedd a’i bartneriaid wedi cydweithio ers blynyddoedd i ddatblygu partneriaeth gref er mwyn sicrhau statws treftadaeth byd i Dirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru. Mae canlyniadau’r bartneriaeth gref hon nawr yn dwyn ffrwyth wrth i ni weld buddsoddiad sylweddol o dros £30m drwy raglen weithgareddau Llewyrch o’r Llechi – fel y rhai yn Amgueddfa Lechi Cymru a lleoliadau eraill ar draws yr ardal. Rydym hefyd yn gweld ffyrdd newydd ac arloesol o gydweithio i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, cynnig profiadau newydd, a rhannu stori fyd-eang llechi Cymru.” Mae’r chwarelwyr yng Nghastell Penrhyn bob dydd yn ystod 2025. Am fwy o hanes y Castell ewch i wefan Castell Penrhyn: www.nationaltrust.org.uk/cy/visit/wales/penrhyn-castle-and-garden