: Canolfan Ddarganfod Clore

Prynhawn y Plant

Dan Mitchell, 6 Awst 2021

Os gofynnwch i blentyn ysgol gynradd beth fuon nhw’n wneud yn yr ysgol y diwrnod hwnnw, byddant yn aml yn sôn am amser chwarae. Amser chwarae yw'r amser pan maen nhw'n cael penderfynu’n union beth sy'n digwydd. Maen nhw'n cael dewis y gemau, y teganau, hyd yn oed y chwaraewyr, o fewn y paramedrau diogel a roddir iddynt. Ac o fewn y paramedrau hyn, maen nhw'n dysgu. Dysgu sut i symud a'r hyn y gallant wneud yn gorfforol. Dysgu sut i ymddwyn yn gymdeithasol, trwy rannu a gofalu. Dysgu sut i ddelio ag emosiynau pan nad yw'r gêm yn mynd eu ffordd. Mae amser chwarae yn hanfodol.

Ac mae'r dysgu'n dechrau ymhell cyn adeg ysgol. Prynhawn y Plant yw un o fy hoff ddigwyddiadau rheolaidd y mae'r amgueddfa'n ei gynnal. Mae'n gyfle i rieni ddod â'u rhai bach ar gyfer rhywfaint o chwarae dan oruchwyliaeth mewn amgylchedd tawel a diogel. Rydyn ni yno i gynorthwyo, chwarae ychydig, a rhoi pâr ychwanegol o lygaid i rieni ar eu rhai bach. Y rhan orau yw bod hawl gennym ddefnyddio adnoddau’r tîm dysgu, a llunio profiad a thema wahanol bob tro.

Os yw'n ddiwrnod y jyngl, byddwn yn gosod yr ystafell gydag addurniadau chwarae meddal ar thema'r jyngl. Logiau meddal i blant bach ddringo drostynt, rygiau blewog gwyrdd i gropian drostynt. Yna gallwn ddod â'r anifeiliaid allan - y teigrod, y mwncïod, yr eliffantod. Gall plant chwarae gyda nhw, gan wneud straeon eu hunain ac ychwanegu synau a'u symudiadau eu hunain atynt. Hyd yn oed os nad yw plentyn yn siarad eto, mae copïo synau a symudiadau yn eu helpu i ddysgu.

Nid symudiad a sain yn unig y mae plant yn hoffi. Mae cyffwrdd yn hanfodol ar gyfer dysgu cynnar. Mae plant ifanc wrth eu bodd yn archwilio eitemau â'u dwylo, neu hyd yn oed â'u cegau, felly mae ein blychau teganau wedi'u llenwi â blociau syml y gellir eu glanhau yn hawdd iddynt eu harchwilio. Mae gennym lawer o flychau synhwyraidd thematig, wedi'u llenwi â ffwr ffug meddal, ffabrig lledr garw, a phob math o weadau rhyfeddol i'r rhai bach eu cyffwrdd a'u teimlo.

Pan fydd y plant wedi bennu ar chwarae, mae'n bryd cael stori. Mae gennym gasgliad enfawr o lyfrau plant hardd, sy'n addas ar gyfer unrhyw un o'n themâu, y gellir eu perfformio mewn modd bywiog neu dawel, gan ryngweithio â'r gynulleidfa neu beidio. Yr un peth rydyn ni wedi'i ddysgu yw sut i ddarllen y gynulleidfa ifanc.

Er bod pethau'n wahanol ar hyn o bryd, gydag ambell rhan o'r amgueddfa ar gau o hyd, rydym wedi llwyddo i lunio llawer o adnoddau ar-lein ar gyfer y plant bach. Mae gennym ni straeon, gweithgareddau celf a chrefft a llawer o symudiadau ac odl gwirion yn Gymraeg a Saesneg i'ch cadw chi i fynd nes ein bod ni'n gwbl agored eto.

Hela Ffosilau yn Llanilltud Fawr

Louise Rogers, 4 Awst 2021

Yn Llanilltud Fawr ym Mro Morgannwg mae traeth caregog poblogaidd – lleoliad prydferth ryfeddol wrth droed y clogwyni gyda golygfeydd ar draws Môr Hafren at Minehead ar ddiwrnod clir. Ond yn bwysicach i chi a fi, mae’r traeth yn un o’r lleoliadau gorau yng Nghymru i ganfod trysorau newydd i helwyr ffosilau ac archwilwyr byd natur. Felly ar brynhawn Llun llwyd, i ffwrdd â fi i’n hoff draeth gyda fy offer a’n llyfr braslunio i weld beth allwn i’i ganfod…

Mae cwymp creigiau yn ddigwyddiad rheolaidd ar draeth Llanilltud Fawr, a nifer o bobl wedi cael eu brifo neu eu lladd, yn anffodus. Er bod temtasiwn mawr i chwilio am ffosilau ymhlith creigiau sydd newydd ddisgyn, mae’n hanfodol bod helwyr yn cadw draw o’r clogwyni! Doedd dim cwymp yn amlwg wrth i fi gerdded at y traeth, ond fe ymddangosodd hwn o fewn ychydig lathenni. Atgof amserol i gadw’n glir!

Pa offer es i gyda fi medde chi? Does dim angen labordy gwyddonol a byddin o balaeontolegwyr arnoch chi wrth hela ffosilau! Gall unrhyw un â llygad dda roi cynnig arni.

Ond cyn bwrw ati, cofiwch:

  • Wirio amseroedd y llanw. Mae’n fwy diogel dechrau hela ffosilau pan fydd y llanw ar drai, er mwyn osgoi cael eich dal gan y llanw’n codi.
  • Gwisgo dillad ac esgidiau addas. Mae’n hanfodol cael esgidiau cadarn ar dir creigiog fel hwn, a bod yn barod am newid sydyn yn y tywydd.
  • Gall hela ffosilau fod yn waith sychedig, felly dewch â digon o fwyd a diod i’ch cadw i fynd. Efallai bod y caffi agosaf yn bell!

Fy offer

  • Esgidiau cryf
  • Dŵr yfed
  • Rholyn cegin i lanhau canfyddiadau diddorol
  • Rhywbeth i ddogfennu’r profiad – llyfr braslunio, llyfr nodiadau, ffôn (gyda chamera), pren mesur pensel a beiro.

Fe benderfynais i gerdded i’r chwith, ar bellter diogel o’r clogwyn. Mae’r tirlun yn greigiog ac amrywiol – perffaith ar gyfer pyllau cerrig a hela ffosilau.

Fe ges i olwg gyflym ar y siâl cyn dechrau ar y clogfeini. Y ffosilau mwyaf cyffredin i’w cafod ar y traeth yw molysgiaid, fel amonitau a deufalfiau, ond efallai y gwelwch chi weddillion esgyrn pysgod neu ichthyosaur os ydych chi’n lwcus! Gallwch chi hefyd weld esiamplau prydferth o gregyn modern. Wrth i fi nesu at y clogfeini mawr, fe welais i olion oedd yn edrych fel amonit, ac aros i archwilio ymhellach.

Dyma fi’n tynnu braslun syml o’r canfyddiad a’i fesur. Dyma fi hefyd yn defnyddio fy ffôn i gymryd llun o’r lleoliad, gyda bys yn pwyntio at y ffosil. Mae hon yn ffordd syml iawn o gofnodi lleoliad sbesimen diddorol er mwyn ei ailddarganfod os oes angen.            

Roeddwn i’n eiddgar i ganfod mwy, felly dyma fi’n symud i lawr y traeth. Roedd y clogfeini fan hyn wedi chwalu fwyfwy a cefais fy nenu at un yn benodol. Roeddwn i wedi canfod ôl amonit arall! Fe benderfynais i beidio morthwylio ar y garreg o gwmpas yr olion, gan fod hyn yn aml yn niweidio’r ffosil yn hytrach na’i ddatod yn daclus. Dychmygwch ddinistrio ar ddamwain gydag un ergyd esgeulus rywbeth sydd wedi goroesi am filiynau o flynyddoedd – mae’n anfon ias oer drwydda i! Penderfynais i adael y ffosil yn y fan. Yn anffodus mae gormod o gasglu ar draeth Llanilltud Fawr, a dwi’n credu dylai’r esiampl hwn gael ei adael i eraill ei fwynhau. Efallai y byddwch chi’n ei ganfod wrth ymweld!

Os ydych chi’n canfod unrhyw ffosilau neu wrthrychau diddorol, cysylltwch â’r Amgueddfa drwy’r wefan. Rydyn ni’n dwlu gweld eich canfyddiadau, ac mae ein tîm o arbenigwyr wastad yn barod i adnabod canfyddiadau a rhoi gwybodaeth bellach.

Cofiwch, gall pawb fod yn balaeontolegydd!

Hela hapus!

I ffeindio rhagor o adnoddau i'ch helpu chi gydag archwilio, ymwelwch â:

Ar Eich Stepen Drws: Natur, daeareg ac archaeoloeg yng Nghymru

Drôr Pryfed

Dan Mitchell, 8 Gorffennaf 2021

Dwi wastad wedi bod wrth fy modd â phryfed. Mae rhywbeth amdanynt, a’u holl deulu byd y chwilod, sydd wedi fy swyno ers plentyndod. Maent mor groes i'w gilydd ym mhob ffordd. Mor gyfarwydd ac eto mor estron. Mor ddi-hid i’n bodolaeth ac eto'n hanfodol iddo. Mor “freakish” a hardd eu hamrywiaeth.

Does ryfedd i mi gael fy nhynnu at y drôr pryfed yng Nghanolfan Ddarganfod Clore. Detholiad enfawr o fy hoff greaduriaid yn y byd, wedi'u cadw dan blastig clir, gan alluogi entomolegwyr amatur fel fi i'w harchwilio heb iddynt hedfan i ffwrdd. A hedfan i ffwrdd dwi’n ei olygu, oherwydd mae gan bob pryfyn adenydd. Mae hyn, ynghyd â gwybod am y corff tri cylchran a'r ddwy set o adenydd, yn wybodaeth bwysig. Gyda’r gwybodaeth yma gallwch chi gydnabod y gwahaniaeth rhwng y pryfyn a'i gefndryd; yr arachnidau, arthropodau a’r chwilod.

Nid tasg hawdd yw adnabod y gwahaniaethau yma. Chwilod yw’r grŵp mwyaf o bryfed (40% o holl anifeiliaid ar y blaned) sydd weithiau'n cuddio'u hadenydd dan gragen galed, gan fod yn well ganddyn nhw grwydro fel tanciau lliwgar, ac yn gweld bodau dynol fel rhwystr arall i ddringo drostynt. Mae adenydd rhai chwilod wedi caledu, gan eu gadael i droedio’r prysgwydd, ond gall hyd yn oed chwilod enfawr fel y chwilen Hercules (sy’n fwy nag ambell aderyn) hedfan pan fydd angen, er efallai ddim yn osgeiddig iawn.

Gellir gweld yr holl bethau yma yn fanwl iawn wrth arsylwi ar bryfed, wedi'u rhewi mewn amser, dan feicrosgop pwerus Canolfan Darganfod Clore. Gallwch weld y pigau amddiffynnol ar goesau hynod bwerus y locust, harddwch symudliw adenydd pili pala neu lygad gyfansawdd dreiddgar y gleren gyffredinsy'n ei gwneud mor anodd i’w dal. Os ydych chi'n crwydro i'r drôr arachnidau gallwch weld blewunigol ar goes tarantwla hyd yn oed.

Gallwch chi ddadlau a ydyn nhw’n hardd, ond mae eu hamrywiaeth enfawr yn golygu eu bod yn hynod hudolus. Efallai y bydd hyd yn oed pobl sy'n eu gweld yn ddychrynllyd, o gael cyfle i'w harchwilio'n ddiogel, yn ffoli ar fyd y pryfed. Efallai y byddwch chi hefyd yn canfod ffefryn newydd.

Dan y môr a’i Donnau...

Louise Rogers, 8 Gorffennaf 2021

Ar y wal yng Nghanolfan Ddarganfod Clore mi welwch sbesimen gall wedi nofio allan o chwedl anturus danforol.  Tybed os welsoch chi rywbeth tebyg erioed?  Ai ceffyl ungorn bu’r peth yma’n perthyn i eisoes?  Mae nifer o’n hymwelwyr o’r farn hon!  Bu’r corn yma eisoes yn perthyn i greadur gwelw o ddyfroedd yr Arctig, wedi eu henwi'n aml “Ungyrn y Moroedd”.

Mae’r morfil ungorn (Monodon monoceros) yn perthyn i’r un teulu â’r dolffin, y beluga a’r orca. Bydd yn treulio’i fywyd yn nofio ym moroedd rhewllyd Arctig Canada, yr Ynys Las, Norwy a Rwsia. Bydd yn gaeafu am 5 mis iasoer islaw’r ia, ac yn ymddangos fel arfer mewn grwpiau o 15 i 20.

Bwyd y morfil ungorn yw pysgod, corgimychiaid, sgwid a bywyd morol arall (ond does fawr o ddewis ganddo!). Yn debyg i’r morfil ffyrnig a morfilod danheddog arall, mae’r morfil ungorn yn bwydo drwy sugno. Bydd yn dal a tharo pysgod cyn eu sugno a’i llyncu’n gyfan. Gall y morfil ungorn blymio i ddyfnder o ryw filltir a hanner, ond mae’n dibynnu ar graciau yn yr ia er mwyn codi i anadlu.

Ddim at ddant pawb

Dant mawr yw corn y morfil ungorn mewn gwirionedd, a dim ond y gwrywod fydd fel arfer yn tyfu corn. Mae’r corn troellog fel cleddyf sy’n tyfu’n syth drwy’r wefus uchaf, hyd at 10 troedfedd o hyd. Gall ambell forfil dyfu dau gorn hyd yn oed! Am boenus!

Mae cryn ddadlau am bwrpas y corn ymysg gwyddonwyr. Mae rhai yn credu bod arddangos y corn yn ffordd o ddenu partner, neu o frwydro. Yn ddiweddar mae drone wedi ffilmio morfil ungorn yn defnyddio’i gorn i daro pysgod, ac mae ymchwil arall yn awgrymu bod gan y corn nodweddion synhwyro, gan ei fod yn cynnwys hyd at 10 miliwn o nerfau. Beth yw’ch barn chi?

Peryg bywyd?

Mae morfilod ungorn a rhywogaethau eraill yr Artig, fel yr arth wen a’r walrws wedi esblygu dros filoedd o flynyddoedd i oroesi yn y moroedd ia. Oherwydd effeithiau newid hinsawdd, mae’r gorchudd ia yn newid yn gyflym iawn. Nid lle i fwydo yn unig yw’r moroedd ia i forfilod ungorn, ond hafan ddiogel rhag ysglyfaethwyr. Mae’r llen ia yn cilio’n rhy gyflym i’r morfilod addasu, ac yn fygythiad difrifol i’r rhywogaeth.

Mae’r cynydd mewn masnach llongau yn yr Arctig hefyd yn fygythiad. Mae rhagor o longau yn cynyddu’r siawns o wrthdrawiadau, ac yn creu llawer o lygredd sŵn tanfor. Gan fod morfilod yn dibynnu ar sain i gyfathrebu, mae llygredd sŵn yn amharu ar eu gallu i hela, paru ac osgoi ysglyfaethwyr.

Mae ein sbesimen o gorn morfil ungorn yn wrthrych rhyfeddol, ond mae hefyd yn atgof o’n cyfrifoldeb, fel unigolion a dynioliaeth, i sicrhau eu goroesiad.