: Iechyd, Lles ag Amgueddfa Cymru

Y gwir am seiclo i'r gwaith

Tom Cotterell, 2 Medi 2023

Dwi'n byw yn bell o'r Amgueddfa, ac yn yr haf dwi'n tynnu'r llwch oddi ar fy meic ac yn paratoi ar gyfer y daith epig i'r Amgueddfa! Yn ddiweddar, fe wnaeth Amgueddfa Cymru cyflwyno cynllun Seiclo i'r Gwaith. Mae rhai tebyg i'w cael mewn gweithloedd eraill, hefyd. Hoffwn i rannu fy stori i (neu ran ohoni) a chynnig cyngor i eraill sydd ddim yn siŵr lle i ddechrau.

Prynais i fy meic ffordd cyntaf ar gynllun tebyg rhyw ddeuddeg mlynedd yn ôl, a dwi wedi bod wrth fy modd yn seiclo ers hynny. Wel, roedd y teithiau cyntaf yn anodd – roeddwn i’n rhedwr brwd, ond erioed wedi seiclo ar ffyrdd o’r blaen, ac roedd gen i daith 40 milltir i’r gwaith a 40 milltir yn ôl. Mae gen i atgof clir o fethu cerdded i fyny'r grisiau yn yr Amgueddfa, ac roedd gen i boen ofnadwy yn fy nghefn pan oeddwn i ar y beic, ond nawr, hyd yn oed yn fy mhedwar degau, rwy'n fwy heini nag erioed. Dwi hefyd yn gallu trwsio twll yn fy nheiar nawr, rhywbeth doeddwn i ddim yn gallu ei wneud am y pum mlynedd gyntaf o seiclo!

Taith epig…

Ar ddechrau'r haf, rwy'n teithio unwaith yr wythnos o Raglan ar hyd y lonydd i Gasnewydd, ac ymlaen i Gaerdydd drwy’r lefelau – sef cyfanswm o 34 milltir. Yn fuan wedyn rwy'n ymestyn y daith i Drefynwy (40 milltir) ac unwaith y flwyddyn rwy’n gwneud y daith lawn o 50 milltir drwy Fforest y Ddena, Lydney, Cas-gwent ac ymlaen drwy Gasnewydd i Gaerdydd. Mae amser yn ffactor wrth gwrs ar deithiau mor bell, felly rwy'n tueddu i seiclo’n gyflym – rwy’n anelu at 20 milltir yr awr ar gyfartaledd, sydd yn bosib, hyd yn oed wrth gario gliniadur. Fodd bynnag, mae angen bod yn wyliadwrus o'r blaenwynt ofnadwy… ond stori arall yw honno.

Doedd seiclo ddim wastad mor rhwydd…

Mae effaith seiclo ar eich corff yn raddol ond yn bositif iawn. Mae’n well o lawer ar eich cymalau na rhedeg, ond bydd y gwahaniaeth y mae'n ei wneud yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys pa mor bell rydych chi'n seiclo ac am ba hyd, a hefyd y dwyster – mae mynd i fyny bryn yn galetach na seiclo ar y gwastad. Wrth seiclo am y tro cyntaf, gall y poenau hyn fod yn annifyr – ar ôl fy nhaith hir gyntaf i’r gwaith ar y beic, roedd fy mhengliniau yn teimlo fel pe baen nhw’n cael eu gwthio ar wahân, oherwydd doedd gen i mo'r cyhyrau sydd eu hangen ar gyfer seiclo. Does gen i ddim y fath broblemau nawr.

Mae eich corff yn addasu…

Nawr, wrth gyrraedd y gwaith rwy'n teimlo'n iawn ac yn iach, ond roeddwn i'n teimlo'n wahanol iawn ar y dechrau. Pan ddechreuais i seiclo, fe fyddwn i wedi blino'n aml, ond mae eich corff yn addasu. Dwi'n dod o gefndir gweithgar iawn o hyfforddi a chwarae hoci maes ar lefel uchel dair gwaith yr wythnos am ryw 20 mlynedd. Roedd fy lefel ffitrwydd cyffredinol yn dda iawn o ganlyniad i’r holl redeg, ond roedd gen i’r cyhyrau anghywir. Dywedodd rywun wrthyf i yn ddiweddar bod seiclo yn ‘lefelwr’ da – gallwch chi ‘berfformio’ ar lefel uchel am gyfnod llawer hirach nag y byddech chi wrth wneud unrhyw chwaraeon eraill sy’n cynnwys rhedeg. Mae fy amseroedd seiclo eleni'n gyflymach o lawer na phan oeddwn i'n hyfforddi i chwarae hoci drwy'r amser!

Cymudo gyda gliniadur a chynghorion eraill

Rwy'n cario sach deithio ganolig sy’n cynnwys fy ngliniadur mewn casyn (heb y gwefrwr i wneud y bag yn ysgafnach, gan fod modd ei wefru yn y gwaith). Wedyn, mae gen i fag o ddillad gwaith i'w wisgo, a llawer o fwyd i ginio. Mae popeth yn y sach deithio wedi'i lapio mewn sawl bag plastig, rhag ofn iddi fwrw glaw. Mae gen i fagiau bach iawn wedi'u hatodi i fy meic ar gyfer tiwbiau mewnol sbâr a phethau eraill yn fy mhecyn trwsio.

Manteision ac anfanteision seiclo, a phethau i'w hystyried

Mae prynu beic yn gost fawr erbyn hyn, ond rydych chi'n arbed arian drwy beidio talu am barcio, tanwydd ac ôl traul ar gar. Ar y llaw arall, mae'r daith yn cymryd llawer hirach. Os ydych chi'n cerdded neu'n dal y bws i'r gwaith, gall seiclo fod yn gyflymach ac yn rhatach hefyd. Gall oerfel a gwlypter y gaeaf fod yn rheswm dros beidio seiclo, ond erbyn hyn mae cymaint o opsiynau ar gyfer dillad cynnes sy'n gwrthsefyll gwynt a glaw. Mae'r amser mae'n cymryd i fi baratoi ar gyfer y diwrnod gwaith yn hirach ar ôl seiclo nag y byddai petawn i'n gyrru – e.e. cloi fy meic, newid fy nillad ac yn y blaen, ond yn sicr mae'n bosib ei wneud

Cyrraedd uchelfannau newydd

Erbyn hyn, sawl beic newydd yn ddiweddarach ac wedi i mi symud tŷ yn bellach fyth i ffwrdd, rwy'n arwain teithiau seiclo o dros gan milltir neu fwy, ac rydw i wrth fy modd yn dringo bryniau serth. Mae'n fyd o wahaniaeth o gymharu â fy mhrofiadau cynnar o gymudo, lle roeddwn i'n ofni'r bryn serth drwy Gas-gwent. Ar ddydd Sadwrn 24 Mehefin, cymerais ran mewn her a drefnwyd gan Glwb Seiclo Cas-gwent, er budd Tîm Achub Mynydd Bannau Brycheiniog. Seiclon ni i fyny Bryn Llangynidr deg waith – efallai na fyddai hynny at ddant pawb! Doedden ni ddim yn rasio, ond er fy syndod, fi oedd y person cyntaf i gwblhau'r her. Yr ystadegau: dringo 4,325m i fyny, teithio 124km a seiclo am 6 awr a hanner.

Te, Cacen a Chasgliadau: ⁠Te Partis Re-engage yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Loveday Williams, 31 Gorffennaf 2023

"Mae Re-engage yn cynnig cyswllt cymdeithasol allweddol i bobl hŷn ar adeg yn eu bywyd pan fydd eu cylchoedd cymdeithasol yn mynd yn llai."

https://www.reengage.org.uk/ 


Ers dros ddeg mlynedd rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Re-engage (Cyswllt â'r Henoed gynt), yn cynnal te partis rheolaidd yn ein hamgueddfeydd ar gyfer pobl hŷn sy'n profi unigrwydd.


Cafodd y te partis cyntaf eu cynnal yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, bedair gwaith y flwyddyn i ddechrau, ond wrth i'r grŵp dyfu, aeth hyn yn wyth gwaith y flwyddyn, rhwng Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. 


Mae'r te partis yn gyfle i aelodau'r grŵp ymweld â'r amgueddfeydd mewn ffordd ddiogel, cyfarfod hen ffrindiau, gwneud ffrindiau newydd, a mwynhau'r casgliadau drwy gyfrwng gweithgareddau a sgyrsiau gydag aelodau. A digon o de a chacen, wrth gwrs! 


Yn ystod y cyfnod hwn, rydyn ni wedi magu perthynas gref gydag aelodau'r grŵp a gyda Jane Tucker, yr arweinydd. Cyn y te partis rydyn ni'n cael sgyrsiau gyda Jane i wneud yn siŵr ein bod ni’n ymwybodol o anghenion hygyrchedd, mynediad ac ati o fewn y grŵp, er mwyn gallu paratoi'r sesiynau yn iawn. 


Dyma Jane i sôn ychydig am sut ddechreuodd y te partis a sut mae hi’n cefnogi’r grŵp:


“Dechreuais i wirfoddoli gyda Re-engage ym mis Mawrth 2013, fel gyrrwr.


Wrth ymweld â Sain Ffagan, yn digwydd bod, tua 2017, digwyddais i weld Marion Lowther a oedd yn drefnydd Re-engage yng Nghymru. Dywedodd fod ganddi grŵp o ryw chwech, ond neb i gydlynu. Ar y pryd, roedden nhw'n cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn, a'r unig leoliad oedd ar gael oedd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd – dyna pam mai grŵp Amgueddfa Caerdydd ydyn ni. Gwirfoddolais i gymryd gofal o'r grŵp, ac ers hynny rydw i wedi llwyddo i ddenu mwy o leoliadau a mwy o aelodau. Mae'r amgueddfeydd yn ffefrynnau mawr gan y grŵp, am eich bod chi'n cynnal sgyrsiau a gweithgareddau mor ddiddorol. 


Fel y gwyddoch chi, mae llawer o'r aelodau yn fregus, ac yn methu gadael eu cartrefi heb gwmni. Mae ymweld â'r Amgueddfa yn uchafbwynt iddyn nhw, ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth." (

Jane Tucker, Arweinydd Grŵp Re-engage).


Fis Mawrth eleni, ymwelodd y grŵp ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar gyfer sesiwn am yr arddangosfa BBC 100, sy'n archwilio 100 mlynedd o hanes y BBC yng Nghymru. Cynhaliwyd y sesiwn gan ddau aelod o dîm addysg yr amgueddfa, Jo a Louise.⁠ Defnyddion nhw gwisiau anffurfiol a hwyliog i amlygu cynnwys yr arddangosfa mewn lleoliad cyfforddus, gan y byddai crwydro'r arddangosfa ei hun wedi bod yn her i aelodau'r grŵp. Cwis lluniau a oedd yn canolbwyntio ar deledu y 60au a'r 70au wnaeth Jo, a chwis byr ar arwyddganeuon rhaglenni teledu wnaeth Louise. ⁠Dywedodd Jo a Louise "Fe wnaeth y grŵp fwynhau sgwrsio am eu hatgofion ac roedd llawer o hel atgofion am ymweliadau â'r amgueddfa gyda'u plant a'u hwyrion a'u hwyresau. Gwnaethon nhw wir fwynhau eu te!"
Dywedodd Jane ar ôl yr ymweliad "roedd y sgwrs gawson ni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn wych, yn enwedig pan oedd y ddau gyflwynydd yn chwarae cerddoriaeth o hen raglenni teledu a hysbysebion. Cafodd ein gwesteion lawer o hwyl yn ceisio adnabod yr alawon ac yn siarad am yr hen raglenni wedyn."


Roedd ymweliad diwethaf y grŵp â Sain Ffagan ym mis Mai 2023, a hwyluswyd gan ddau aelod o dîm addysg Sain Ffagan, Hywel a Jordan.


Dyma Jordan yn esbonio: "Ar ôl rhoi cyflwyniad iddynt o'r safle, gwnaethon ni roi sgwrs am y gwaith 'Cynefin' sy'n cael ei ddatblygu yn ein rhaglen addysg ysgolion, gan ddefnyddio oriel Cymru... i drafod ymdeimlad unigolion o’u hunaniaeth a sut allwn ni ddefnyddio eitemau i helpu i rannu'r straeon hyn. Yna, gwnaethon ni drafod dealltwriaeth bersonol y grŵp o'u 'Cynefin' nhw, gan ddefnyddio eitemau trin a thrafod o gasgliad yr amgueddfa i danio sgyrsiau ac atgofion. ⁠Roedd trin a thrafod eitemau fel pellenni gwnïo, ceiniogau cyn degoli a stampiau Green Shield, i weld yn destunau trafod poblogaidd ar gyfer y grŵp, gan eu hannog i rannu straeon am fyw yng Nghymru a rhannau eraill o'r byd, eu profiadau o ddefnyddio eitemau bob dydd fel rhain a newidiadau dros amser."


Dyma beth ddywedodd rhai o aelodau'r grŵp am gymryd rhan ar ôl y sesiwn: 


"Prynhawn gwerth chweil yn amgueddfa Sain Ffagan. Mae'n hyfryd gweld pobl eraill a chael sgwrsio gyda nhw gan fy mod yn treulio llawer o amser ar ben fy hun. Dwi wir yn gwerthfawrogi." (Anne)


"Wnes i wir fwynhau'r sgwrs am yr Amgueddfa a'r gwaith maen nhw'n ei wneud. Gall dyddiau Sul fod yn unig iawn, felly mae cael te parti Re-Engage yn gymaint o hwyl ac yn rhywbeth i edrych ymlaen ato." (Rita)


"Roedd trin a thrafod yr eitemau yn yr Amgueddfa yn llawer o hwyl ac yn addysgiadol. Roedd yn ysgogi'r ymennydd ac yn dod ag atgofion yn ôl." (Hazel)


Byddwn ni’n croesawu'r grŵp yn ôl i Sain Ffagan dros yr haf i gymryd rhan mewn sesiwn crefftau edafedd traddodiadol wedi'i hysbrydoli gan ein casgliad tecstilau, a byddan nhw'n dychwelyd i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn yr hydref. 


Mae tîm staff yr Amgueddfa ac aelodau'r grŵp ill dau wastad yn edrych ymlaen at y te partis ac maen nhw wedi tyfu i ddod yn un o hoelion wyth ein rhaglen Iechyd a Lles ehangach. Hir oes iddyn nhw! 


Diolch i bob aelod o'r grŵp Re-engage am rannu eu straeon, barn ac adborth. 

Adnodd Saesneg i ddysgwyr newydd i Amgueddfa Cymru

Loveday Williams, Uwch Swyddog Addysg, Cyfranogiad a Dehongli, 10 Mai 2023

Mae Amgueddfa Cymru wedi bod yn gweithio gyda Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches, gan gefnogi pobl i integreiddio i’w cymunedau newydd, ers blynyddoedd lawer. 

Fel rhan o’r gwaith hwn, rydyn ni wedi datblygu partneriaethau gyda chyrff allweddol fel Addysg Oedolion Cymru. Maen nhw wedi bod yn gweithio gyda ni dros y flwyddyn ddiwethaf, ochr yn ochr â’u myfyrwyr ESOL (Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill), i ddatblygu adnoddau newydd i ddysgwyr ESOL er mwyn cefnogi dysgwyr Saesneg i archwilio ein hamgueddfeydd a’n horielau. 

Mae’r adnoddau newydd yn cwmpasu Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis ac Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion. 

Mae’r adnoddau wedi’u creu gan diwtoriaid Saesneg i ddysgwyr ac wedi eu profi gan ddysgwyr ESOL. Maen nhw’n dilyn cwricwlwm ESOL ac yn addas ar gyfer gwahanol lefelau, o Lefel Mynediad i Lefel 2. 

Erbyn hyn mae’r adnoddau newydd wedi’u profi, eu mireinio a’u treialu, ac maen nhw’n barod i’w lawrlwytho o’n gwefan i unrhyw ddysgwr neu grŵp ESOL sy’n ymweld ag un o’r amgueddfeydd (gweler y dolenni uchod). 

Mae gennym set o adnoddau ESOL hefyd ar gyfer Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru a gafodd eu datblygu mewn ffordd debyg fel rhan o Broject Creu Hanes a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn 2014. 

Rydyn ni’n parhau i weithio gyda’n partneriaid ac aelodau o’r gymuned i ddarparu cyfleoedd ystyrlon i bobl sy’n wynebu rhwystrau i gymryd rhan yn y celfyddydau a threftadaeth ddiwylliannol.

Rydyn ni’n dysgu cymaint gan y bobl sy’n ymweld â’n safleoedd ac sy’n derbyn y cyfleoedd dysgu rydyn ni’n eu cynnig. 

Mae helpu pobl sydd newydd gyrraedd Cymru i ymgartrefu ac integreiddio i’w cymunedau newydd yn faes pwysig iawn o’n gwaith a gobeithio y bydd yr adnoddau newydd hyn i ddysgwyr yn gymorth i lawer o bobl ar y daith honno. 

Diolch yn fawr i Addysg Oedolion Cymru a’r tiwtoriaid a dysgwyr Saesneg sydd wedi cyfrannu at greu’r adnoddau newydd hyn i ddysgwyr. 

Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion – ein blwyddyn gyntaf!

Sharon Ford, Gareth Rees a Fi Fenton, 22 Mawrth 2023

Ym mis Ebrill 2022, cafodd Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion, project partneriaeth tair blynedd rhwng Amgueddfa Cymru a Chymdeithas Alzheimer's Cymru. Mae'n cael ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, a'i nod yw archwilio sut y gallwn ni ddefnyddio ein saith amgueddfa a’n casgliadau i wella iechyd a lles pobl sy'n cael eu heffeithio gan ddementia.

Pam mae'r project hwn yn bwysig

Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion

 Yn aml, gall pobl sy'n byw gyda dementia a'r rhai sy'n eu cefnogi ac yn gofalu amdanyn nhw brofi llai o gyswllt cymdeithasol, ynysigrwydd cymdeithasol, diffyg hyder, gorbryder a phryderon iechyd meddwl eraill. Mewn ymateb, mae ymchwil wedi dangos bod ymyriadau sy'n seiliedig ar amgueddfeydd yn ffordd bwysig o hyrwyddo ymgysylltiad a lles pobl sy'n byw gyda dementia.[1] 

"Mae yna deimladau ac emosiynau rwy’n eu cael wrth weld pethau mewn amgueddfeydd, fel y tai teras yma yn Sain Ffagan. Mae’r teimlad yn fy llethu mewn ffordd sydd ond yn bosib pan allwch chi gyffwrdd â rhywbeth neu weld pethau bywyd go iawn – fel atgofion am fy mam-gu a thad-cu sy’n llifo’n ôl. Mae amgueddfeydd mor bwysig i bobl â dementia. Maen nhw'n llefydd bendigedig ond yn eich llethu ar yr un pryd."

Person sy'n byw gyda dementia

Beth sydd wedi cael ei wneud eisoes?

Dechreuodd Amgueddfa Cymru ar ei thaith i fod yn sefydliad sy’n deall dementia yn ôl yn 2015. Rhwng hynny a 2018, gwahoddwyd pobl sy’n cael eu heffeithio gan ddementia i fod yn rhan o archwiliadau hygyrchedd mewn tair o'n hamgueddfeydd. Yn dilyn hyn, datblygwyd ein teithiau tanddaearol dementia -gyfeillgar yn Big Pit, gyda phobl sy’n cael eu heffeithio gan ddementia ac ar eu cyfer nhw hefyd.  Ymhlith y darnau eraill o waith, mae Grŵp Cerdded Dementia Cynnar yn Sain Ffagan a Grŵp Pontio'r Cenedlaethau yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru.

Ein hymgynghoriadau

Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion
Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion

Rhwng mis Rhagfyr 2022 a mis Mawrth 2023, mae’r tîm Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion wedi bod yn gwahodd pobl sy'n byw gyda dementia, gofalwyr (di-dâl ac o'r sector), cydweithwyr yn y sector treftadaeth a chydweithwyr o sefydliadau cynrychiadol i ymgynnull â ni yn ein hamgueddfeydd ac mewn lleoliadau cymunedol ledled Cymru. Mae'r tîm hefyd wedi bod allan yn siarad gyda grwpiau cymunedol a phreswylwyr cartrefi gofal. Hyd yma, mae 183 o bobl wedi ymuno â ni.

Mae'r sgyrsiau hyn wedi bod yn gyfle gwirioneddol i ddefnyddio profiadau bywyd pobl sydd wedi eu heffeithio gan ddementia a'r rhai o fewn y sector treftadaeth, darganfod mwy am y rhwystrau sy'n wynebu pobl sy'n cael eu heffeithio gan ddementia wrth ymwneud ag amgueddfeydd, ac edrych ar sut y gallwn ddatblygu ein safleoedd a’n staff i ddod yn fwy cefnogol o ddementia. 

Dyma ychydig o ddyfyniadau gan y rhai a ymunodd â ni, pan ofynnwyd iddyn nhw beth wnaethon nhw ei fwynhau am yr ymgynghoriad:

"Clywed barn pobl sy'n byw gyda dementia, eu gofalwyr a'r rhai sy'n gweithio gyda'r rhai sydd â dementia. Roedd yn addysgiadol ac yn gwneud i rywun feddwl" Aelod o sefydliad cynrychioladol

"Cwrdd â phobl eraill a chymharu eu hanghenion a'u problemau gyda’n rhai ni" Person sy'n cael ei effeithio gan ddementia

 "Rwyf wedi mwynhau cwrdd â phawb a'r staff brwdfrydig sy'n arwain y project. Rwy'n teimlo'n hynod o falch fy mod wedi gallu cyfrannu. Rwy'n edrych ymlaen at glywed sut mae'r project yn datblygu" Gofalwr

"Mae ystod y project yn drawiadol gyda holl gyfleusterau'r Amgueddfeydd ar gael. Er, dim ond un gwrthrych syml oedd ei angen i sbarduno atgofion ac annog sgyrsiau yn y digwyddiad y bues i ynddo ym Mlaenafon. Hen gerdyn post oedd e gydag ambell lun o Borthcawl ar y blaen. Arweiniodd hyn yn syth at gymaint o atgofion am wyliau haf, tripiau ysgol Sul, teithiau undydd. Roedd un o'r grŵp yn cofio blas y toesenni wedi ffrio! Un cerdyn post syml ac roedden ni'n ôl yno... pob un yn siarad am y peth – yn ofalwyr ac yn bobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia fel ei gilydd.

"Rwy'n gobeithio y bydd y project hwn yn ffynnu gan y bydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Rwy'n falch o'i gefnogi a'i hyrwyddo wrth weithio ledled y De."

Chris Hodson, Gweithiwr Gwybodaeth yng Nghymdeithas Alzheimer’s Cymru

Y camau nesaf

Dros y misoedd nesaf byddwn yn gwahodd pobl i ymuno â'n Grŵp Llais Dementia mewn Treftadaeth. Bydd hyn yn cynnwys pobl sy'n byw gyda dementia, gofalwyr di-dâl, staff y sector gofal, cydweithwyr yn y sector treftadaeth, a gyda'i gilydd byddan nhw’n helpu i lywio gwaith y project dros y ddwy flynedd nesaf wrth i ni ddatblygu a chyflwyno rhaglen ystyrlon o weithgareddau, yn ein hamgueddfeydd ac mewn cymunedau.

Gyda phwy ddylech chi gysylltu

Dyma'r Tîm Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion yn Amgueddfa Cymru: 

Sharon Ford

Sharon Ford – Rheolwr Rhaglen      

Gareth Rees

Gareth Rees – Arweinydd Llais Dementia 

Fi Fenton

Fi Fenton – Swyddog Gweinyddol

Os hoffech chi ddysgu mwy am waith y project hwn, neu gael gwybod pa gyfleoedd sydd ar gael i gymryd rhan, e-bostiwch Gareth (gareth.rees@amgueddfacymru.ac.uk) neu ffoniwch 029 2057 3418, neu e-bostiwch ein tîm - MIMS@amgueddfacymru.ac.uk


 


[1]  Zeilig, H, Dickens, L & Camic, P.M. “The psychological and social impacts of museum-based programmes for people with a mild-to-moderate dementia: a systematic review.” Int. J. of Ageing and Later Life, 2022 16 (2); 33-72

Ffosilau anarferol newydd mewn creigiau hynafol yng Nghymru

Lucy McCobb, 16 Tachwedd 2022

Beth wnaethoch chi yn ystod y Cyfnod Clo? Wnaethoch chi fwynhau byd natur, a gweld pethau newydd wrth gerdded eich milltir sgwâr bob dydd? Dyna wnaeth dau o Gymrodorion Ymchwil Anrhydeddus yr Amgueddfa, Dr Joe Botting a Dr Lucy Muir, a chanfod trysorfa o ffosilau newydd ger eu cartref yn y canolbarth. Doedd y ddau ymchwilydd annibynnol yn methu teithio i Amgueddfa Cymru i barhau â’u gwaith ar fywyd hynafol, felly dyma nhw’n defnyddio cyllido torfol i brynu microsgopau er mwyn astudio eu canfyddiadau newydd yn fanwl. Mae’r ffosilau’n perthyn i sawl grŵp anifeiliaid gwahanol, gan gynnwys rhai sydd bron byth yn ffurfio ffosilau am fod ganddynt gyrff meddal, heb gregyn, esgyrn na dannedd. Mae Joe a Lucy yn cydweithio gyda phalaeontolegwyr o bob cwr o’r byd i astudio ffosilau a dehongli’r hyn allan nhw ei ddatgelu am fywyd ym moroedd Cymru dros 460 miliwn o flynyddoedd yn ôl. 

 

Mewn erthygl a gyhoeddwyd heddiw yng nghyfnodolyn Nature Communications – dan arweiniad Dr Stephen Pates o Brifysgol Caergrawnt a gyda chymorth Dr Joanna Wolfe o Brifysgol Harvard, mae Joe, Lucy a’u cydweithwyr yn disgrifio dau ffosil anarferol o’r safle newydd. Ffosilau ydyn nhw o anifeiliaid bach iawn, meddalgorff, sy’n debyg i greadur rhyfedd o’r enw Opabinia, oedd yn byw yng Nghanada dros 40 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Disgrifiwyd anifail tebyg o’r enw Utaurora mewn creigiau o oed tebyg yn UDA. Wyddon ni ddim os yw’r ffosilau o Gymru yn perthyn i’r un teulu o anifeiliaid a ganfuwyd yng Ngogledd America, ond maen nhw’n sicr yn dangos fod anifeiliaid rhyfedd, tebyg i opabiniidau yn byw yn y moroedd yn llawer hirach nag oedden ni’n ei gredu, a dros ardal ddaearyddol fwy.

 

O ble mae’r ffosilau’n dod?

Cafodd y ffosilau eu canfod mewn chwarel ar dir preifat ger Llandrindod (mae’r union leoliad yn gyfrinach er mwyn gwarchod y safle). Cafodd y ffosilau eu canfod mewn creigiau a ddyddodwyd dan y môr yn y cyfnod Ordoficaidd, dros 460 miliwn o flynyddoedd yn ôl, pan oedd canolbarth Cymru dan ddŵr gydag ambell i ynys folcanig fan hyn a fan draw.

Pa fath o anifeiliaid oedden nhw?

Mae’r ffosilau o Gymru yn edrych fel ‘opabiniidau’ – anifeiliaid rhyfedd oedd i’w gweld cyn hyn mewn creigiau Cambriaidd llawer hŷn yn unig. Anifeiliaid morol oedd Opabiniidau, gyda chyrff meddal a bongorff tenau gyda rhes o fflapiau ar y ddwy ochr (ar gyfer nofio mae’n bosib) a phâr o goesau trionglog cwta oddi tanynt. Ar un pen i’r bongorff roedd cynffon fel gwyntyll. 

Ar y pen arall roedd eu nodwedd amlycaf – proboscis, neu dduryn hir yn ymestyn o’r pen, fel rhyw fath o sugnydd llwch. Yn wahanol i’r Opabiniidau Cambriaidd, mae rhes o bigau bach ar broboscis y rhywogaeth o Gymru. Y gred yw bod y proboscis yn hyblyg, ac efallai’n cael ei ddefnyddio i gasglu bwyd o wely’r môr a’i symud at y geg, oedd y tu ôl i’r proboscis ar ochr isaf y pen. Roedd y coesau a’r proboscis yn gylchog, gyda nifer o segmentau fel modrwyau. Ond doedd y rhain ddim yn ‘gymalog’, yn yr un modd ag y mae coesau cranc neu gorryn yn gymalog. Y gred yw bod opabiniidau yn rhannu’r un cyndadau ag anifeiliaid coesau cymalog modern o’r enw ‘arthropodau’, heb fod yn gyndeidiau uniongyrchol.

Mae’r mwyaf o’r ddau ffosil yn 13mm o hyd, gan gynnwys y proboscis 3mm. Mae’r lleiaf yn 3mm o hyd, gyda’r proboscis bron i draean o’i holl hyd. Mae rhai gwahaniaethau rhwng y ddau ffosil, sy’n awgrymu bod y lleiaf yn fersiwn iau o’r sbesimen mwy, neu efallai’n rhywogaeth hollol wahanol. Ond mae’r ddau sbesimen o Gymru yn llawer llai na Opabinia, sydd â ffosilau hyd at 7cm o hyd. 

 

Enw Cymreig i ryfeddod Cymreig!

(Mae gan bob rhywogaeth, boed yn fyw neu wedi marw allan, enw gwyddonol mewn dwy ran – enw genws ac enw rhywogaeth. Yr enw gwyddonol a ddewiswyd ar gyfer un o’r anifeiliaid ffosil yw Mieridduryn bonniae. Enwyd y rhywogaeth ar ôl Bonnie, nith perchnogion y tir lle canfuwyd y ffosilau, i ddiolch i’r teulu am eu cefnogaeth a’u brwdfrydedd yn ystod y gwaith ymchwil. Mae’n eithaf cyffredin i rywogaethau newydd gael eu henwi ar ôl y bobl wnaeth eu darganfod, neu sydd wedi gwneud llawer o waith ar rywogaethau tebyg. Daw enw’r genus drwy gyfuno’r geiriau Cymraeg mieri a duryn (proboscis). Ysbrydolwyd hyn gan y rhes o bigau, tebyg i fieri, ar hyd proboscis yr anifail. Mae’n anarferol i enw gwyddonol gael ei seilio ar y Gymraeg – geiriau Lladin neu Groeg yw gwreiddyn y rhan fwyaf. Bydd yr enw Mieridduryn yn dyst i’r ffosil gael ei ddarganfod yng Nghymru.

Penderfynwyd nad oedd yr ail ffosil wedi ei gadw’n ddigon da i’w gydnabod yn rhan o’r un rhywogaeth, neu ei enwi fel rhywogaeth wahanol. 

 

Beth alla i wneud os ydw i’n canfod ffosil anarferol?

Mae’r ffosilau hyn yn dangos fod llawer o bethau newydd, cyffrous i’w canfod yng Nghymru. Os ydych chi’n canfod rhywbeth diddorol a ddim yn siŵr beth yw e, bydd gwyddonwyr yr amgueddfa yn barod i geisio ei adnabod i chi, boed yn ffosil, carreg, mwyn, anifail neu blaned. Anfonwch ffotograff aton ni (gyda cheiniog neu bren mesur i ddangos y maint) a manylion ble wnaethoch chi ei ganfod. E-bostiwch ni drwy wefan yr Amgueddfa neu drwy Twitter @CardiffCurator. Mae sawl Taflen Sylwi ar ein gwefan hefyd, fydd yn eich helpu i adnabod rhai o’r gwrthrychau mwyaf cyffredin.