Hafan y Blog

Protest Comin Greenham - Carole Stuart McIvor

Lowri Jenkins, Archifydd Cynorthwyol, 25 Awst 2023

Ar 27 Awst 1981, gwnaeth 36 o fenywod o Gymru adael Caerdydd a gorymdeithio i RAF Comin Greenham yn Berkshire i gychwyn eu hymgyrch i atal arfau niwclear yr Unol Daleithiau rhag cael eu cadw ar dir Prydain. Enwodd y grŵp eu hunain yn 'Women for Life on Earth'. ⁣

I gydnabod y menywod dewr hyn, hoffwn nodi'r pen-blwydd hwn drwy ganolbwyntio ar gasgliad dwi wedi bod wrthi'n ei gatalogio, sy'n rhoi gwybodaeth werthfawr am brotest Comin Greenham. Rhoddwyd y casgliad gan Carole Stuart McIvor, ymgyrchydd heddwch blaenllaw a oedd yn rhan bwysig o'r protestiadau yng Nghomin Greenham a'r protestiadau diweddarach ym mhencadlys y Ffatri Ordnans Frenhinol yn Llanishen, Caerdydd. ⁣

Mae’r casgliad yn dogfennu aberth a gwytnwch parhaus Carole a'i chyd-brotestwyr. Ynddo mae nifer o doriadau papur newydd yn dangos y rhagfarn oedden nhw'n ei ddioddef a sut oedd y cyfryngau prif-ffrwd yn eu beirniadu, lluniau o'r heddlu yn eu harestio, a chofnodion o gyfnod Carole dan glo fel un o'r sawl a gafodd eu carcharu am eu gweithredoedd.⁣

Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys yr achos llys a gyflwynwyd gan Greenham Women Against Cruise Missiles yn erbyn yr Arlywydd Ronald Reagan ac Ysgrifennydd Amddiffyn yr UDA Caspar Weinberger. ⁠Rho Carole Harwood (Carole Stuart McIvor yn ddiweddarach) ei rhesymeg dros gefnogi diarfogi niwclear a mudiad heddwch y menywod yn ei datganiad: ⁣

"Dyma fi’n dod yn rhan o fudiad heddwch y menywod ar ôl mynd â'n nheulu i lan y môr yn Ninbych-y-pysgod. Wrth wrando ar y chwerthin plant oedd wedi'i glywed ar y traethau hyn ers canrifoedd, dyma fi’n sylweddoli y gallai’r cyfan gael ei ddistewi gan ddynion heb unrhyw ymdrech i’w glywed. Roedd hynny'n rhy boenus... Cefais i fy syfrdanu o ddeall, os fydden ni'n parhau i chwarae gyda deunyddiau niwclear (nid bomiau yn unig) gallai hyd oes plant sy'n cael eu geni nawr fod ar gyfartaled yn 18 mlynedd."⁣

Yn ei hanfod, roedd hon yn brotest dros heddwch gan fenywod Cymru, ac eraill ledled y DU, ac mae'r casgliad hwn yn crynhoi'r frwydr honno.

Lowri Jenkins

Archifydd Cynorthwyol
Gweld Proffil
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.