Taith Gerdded Duduraidd Sara Huws, 11 Mawrth 2010 Ar ôl ffilmio, dadlapio, ac edmygu'r thuseur y soniais amdano'n ddiweddar, mae'n amser i olygu'r fideo! I aros pryd, dyma luniau newydd yr hoffwn i eu rhannu hefo chi. Cangell Eglwys Teilo Sant, fel y mae hi heddiw. Angylion yn chwarae'r Crwth a'r Delyn. Darluniwyd gan Fleur Kelly. Pigment ferdigris, a ddefnyddiwyd i greu paent gwyrdd yn Eglwys Teilo Sant Os yw'r lluniau wedi'ch ysbrydoli, ewch draw i'r dudalen ddigwyddiadau i archebu lle ar ein taith gerdded Duduraidd. Bydd y daith ar y 20ed o Fawrth, a byddwn yn ymweld ag uchafbwyntiau Tuduraidd Sain Ffagan. Cewch gyfle i ymchwilio gwrthrychu replica, yn ogystal ag arogleuon Tuduraidd - rhai da a rhai drwg! Nifer gyfyngedig o lefydd sydd ar y daith, felly cofiwch archebu eich lle o flaen llaw. Gobeithio y gwela i chi yno!