Hafan y Blog

Mae'n bodoli, medden nhw...

Sara Huws, 16 Mawrth 2010

Ro'n i'n ymweld â'r llyfrgell yma yn Sain Ffagan, i fachu cwpwl o lyfrau er mwyn paratoi ar gyfer teithiau'r Pasg o amgylch Eglwys Teilo Sant. Taro mewn i 'nghyd-weithiwr wnes i, pan ddigwyddodd rhywbeth wnaeth i'm meddwl grwydro tan i fi gyrraedd y blog 'ma.

Mi ddoth ata i yn dal mewn cyfeirlyfr hen a swmpus, a dweud rhywbeth rhyfedd: "Mae'n real! A ma' fe 'ma!". Wrth roi'r llyfr i lawr, mae'n gadael i'r tudalennau syrthio ar agor. A dyna wnaethon nhw, ac agor ar yr union dudalen 'roedd eisiau ei dangos i mi.

O'r profiad dwi wedi ei gael gyda geiriaduron a hen lawysgrifau, mae tudalennau sy'n syrthio ar agor fel hyn yn bownd o gynnwys rhywbeth diddorol neu anweddus. Mae dod o hyd i dudalen yn y modd hwn yn gwneud i mi feddwl am yr holl bobl sydd wedi bod yn darllen yr union dudalen o fy mlaen. Dwi'n teimlo fel fy mod yn ymuno â chlwb cudd, lle mae cenedlaethau o ddarllenwyr wedi chwilota am yr un peth, a'i ddarllen yn ofalus. Roedd gan fy hen athro hanes celf stori am lawysgrifau Beiblaidd o'r canol oesoedd, oedd wedi'u copïo a'u defnyddio gan fynachod. Bron yn ddi-ffael, mae'r llawysgrifau hyn yn agor ar un dudalen arbennig: ble bydd Bathsheba yn cael ei disgrifio yn mynd i'r bath. Yn lwcus, doedd dim byd mor fasweddus i'w ganfod y tro hwn - ond sioc gefais i yr un fath:

 

Mae bron yn apocryffa: cofnod yr Enyclopaedia Britannica am Gymru: 'Wales, See England'. Roedd e'n bodoli! Roeddwn i wedi hen arfer defnyddio'r frawddeg fel idiom, i'w rwgnach o dan fy ngwynt pan fydd Jeremy Clarkson yn defnyddio 'us'; pan fydd map corfforaethol yn hepgor Ynys Môn, ac yn fwyaf diweddar, pan ddefnyddiodd Google lun un o gestyll y Brenin Edward i dathlu dydd Gwyl Dewi. Mae'n dipyn sylweddol o hanes i'w wasgu i mewn i gyn lleied o eiriau.

Fy ymateb i yw hynny, wrth gwrs. Bydd trafodaethau am Gymreictod, Prydeindod ac amryw o '-tods' eraill yn parhau tra bo pobl ar yr ynys yma, a rhai o gorneli llai goleuedig y rhyngrwyd yn ogystal. Beth bynnag yw'ch barn chi, swyddogaeth amgueddfa yw gwneud cofnod ohono, o dro i dro, i gadw llygad ar beth sy'n ein gwneud ni yn 'ni'.

Mi alwais heibio'r fersiwn ddiwygiedig o Encyclopaedia Britannica, gan obeithio dod â'r blog hwn i ben gyda dyfyniad bach diddorol. Ro'n i wedi gobeithio gallu crybwyll hyder a phroffil y wlad yn fyd-eang, a gorffen ar rhyw nodyn positif. Yn anffodus, yn ôl britannica.com (fel y gelwir y gyfrol nawr), 'constituent unit' yw Cymru heddiw. Rhaid cyfaddau i mi gael fy siomi. Mae'n rhyfedd gweld, 150 mlynedd ar ôl i'r frawddeg "Wales: see England" gael ei chyhoeddi, ac ar drothwy trosglwyddo pŵerau newydd i Lywodraeth y Cynulliad, nad yw 'Gwlad' yn llawn ddisgrifio'r hyn a wêl rhai, pan fyddan nhw'n edrych ar Gymru.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.