Hafan y Blog

Ar Gof a Chadw Prosiect celfyddydau cymunedol efo Cymdeithas Celfyddydau Menywod

Sian Lile-Pastore, 30 Mawrth 2010

Beth sy’n haeddu cael ei roi ar gof a chadw yn eich barn chi? Pa wrthrychau sy’n bwysig i chi a pham? Rwyf wrth fy modd pan fo llawer o wrthyrchau bach o’m cwmpas sy’n fy atgoffa o lefydd a phobl, ond dwi’n meddwl mai’r pethau mwyaf gwerthfawr sydd gen i yw llythyr a breichled grisial a gefais gan ffrind annwyl yn fuan cyn iddi farw. Fyddai neb arall ddim balchach o gael y freichled rad, ond i mi mae’n llawn atgofion. Bob tro y byddaf yn edrych arni neu ddarllen y llythyr caf fy nghludo’n ôl chwe blynedd i’r diwrnod y cefais nhw.

Yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, fel y byddech yn disgwyl, mae gennym lond lle o wrthrychau rhyfeddol – pob un â’i stori ei hun. Cymerwch y darn o bren yn y llun isod – darn o bren cyffredin, meddech chi…

ond mae’n dipyn mwy na hynny. Swyn ysgawen yw hwn – cangen ysgawen gyda’r brigau wedi’u torri ar siâp croesffurf. Y gred oedd bod croesau fel hon yn amddiffyn rhag gwrachod a dylanwadau drwg eraill. Cafodd ei defnyddio mewn tŷ fferm yn Sir Fynwy tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Beth am y bocs gwnio hardd hwn?

Cafodd y bocs ei wneud tua 1830 o rosbren, cregynem, sidan, papur a lledr ac fe’i defnyddiwyd yng Ngarthmyl, Powys. Mae fel trysorau o fewn trysor! Mae’n focs lliw glas prydferth, gyda sidan crychiog gwyrddlas y tu mewn i’r caead (na allwch ei weld yn y llun hwn) ac mae wedi’i rannu’n flychau bach sy’n llawn trysorau fel botymau, samplau o waith gwnio, edefau llachar a hyd yn oed cudyn o wallt sydd i’w weld yn y gornel isaf ar y chwith.

Er mwyn edrych ar y syniad o roi bethau ar gadw a chof, rydyn ni’n cydweithio gyda Chymdeithas Celfyddydau Menywod ar brosiect celfyddydau cymunedol. Penllanw’r prosiect fydd arddangosfa yn Oriel 1 ym mis Medi 2010. Y bwriad yw i gyfranwyr y prosiect ymweld â Sain Ffagan a dewis ambell i eitem o’n casgliadau sy’n creu argraff arnyn nhw ac yn ei defnyddio fel man cychwyn i greu eu gweithiau celf eu hunain. Yn yr arddangosfa derfynol, bydd cyfle i weld eu gwaith ochr yn ochr â’r eitem a wnaeth eu hysbrydoli yn y lle cyntaf.

Mae’r prosiect cyffrous hwn yn cael ei arwain gan ddau diwtor ac artist profiadol: Prue Thimbleby a Becky Adams. . Gwehyddu basgedi a chreu cerfluniau o ddeunyddiau naturiol a rhai wedi’u hailgylchu yw arbenigedd Prue, ac mae Becky’n arbenigo mewn celf llyfrau a thecstiliau. Gall y ddwy eich helpu i greu eitemau i’w trysori am byth!

Bydd gweithdai’n dechrau ym mis Mai. Am fanylion y rhain a gwybodaeth am weddill y prosiect, ewch i www.womensart.co.uk

Byddaf yn ysgrifennu blog am hynt a helynt y prosiect. Yn y cyfamser, dyma ddyfyniad o lyfr Sherry Turkle, Evocative Objects: Things we think with:

‘We find it familiar to consider objects as useful or aesthetic, as necessities or vain indulgences. We are on less familiar ground when we consider objects as companions to our emotional lives or as provocations to thought. The notion of evocative objects brings together these two less familiar ideas, underscoring the inseparability of thought and feeling in our relationship to things. We think with the objects we love; we love the objects we think with.’

Hoffem wybod am unrhyw eitemau sy’n bwysig ac yn annwyl i chi – ysgrifennwch yn y bocs sylwadau isod.

Sian Lile-Pastore

Uwch Swyddog Addysg, Cyfranogiad a Dehongli
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.