Hafan y Blog

Lleisiau’r Amgueddfa: Helen Goddard - Cyfarwyddwr Project Amgueddfa Lechi Cymru

Helen Goddard, 28 Mawrth 2025

Helo Helen, dwed ychydig wrthon ni amdanat ti a dy rôl yn Amgueddfa Cymru.

Dw i efo Amgueddfa Cymru ers 12 mis ac mae wedi bod yn wych. Dw i ar secondiad o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy lle dw i fel arfer yn gofalu am wasanaethau’r amgueddfa, y llyfrgell, y celfyddydau a’r archifau. Cyn symud i ogledd Cymru 14 blynedd yn ôl, ro’n i’n gweithio ar draws ynysoedd yr Alban fel archaeolegydd a gweithiwr datblygu cymunedol.

Un o ogledd Cymru ydi fy mam, ac roeddwn i wastad eisiau dysgu Cymraeg. Mae wedi cymryd 14 blynedd i mi lwyddo, ond mi faswn i’n dweud bod blwyddyn yn Llanberis yn sicr wedi bod yn hwb enfawr i ’mhrofiad dysgu!

Yn fy rôl fel Cyfarwyddwr Project dw i’n gyfrifol am reoli a chyflawni project Ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru. Dw i’n arwain nifer o dimau project ehangach ac yn adrodd ar eu gwaith i Fwrdd y Project. Fi sy’n gyfrifol am sicrhau bod y project yn cadw i’w amserlen ac o fewn y gyllideb a’n bod ni’n bodloni disgwyliadau ein cyllidwyr a’n rhanddeiliaid. Fy ngwaith i hefyd ydi gwneud yn siŵr ein bod ni i gyd yn rhannu ac yn gwthio’r un weledigaeth i gyflawni’r project ar y cyd â’n cymunedau mewn ffordd sy’n ateb eu hanghenion a’u dyheadau nhw.

Mae project Llanberis yn wirioneddol gyffrous. Beth alli di ei rannu amdano, wrth iddo fynd yn ei flaen?

Rydan ni’n sôn amdano fel cyfle unwaith-mewn-oes ac mae hynny’n wir go iawn. Ers i Dirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru gael ei dynodi’n Safle Treftadaeth Byd yn ôl yn 2021, mae cyfleon ariannu strategol wedi’n galluogi ni i ddatblygu cynllun gwirioneddol uchelgeisiol. Byddwn ni’n gallu creu siop, caffi a gofod dysgu newydd sbon i weddnewid profiad yr ymwelwyr. Ac rydan ni am osod lifft i’r llofft patrwm ar y llawr cyntaf am y tro cyntaf, yn ogystal â gwneud pob man yn fwy hygyrch a chael toiledau gwell (yn cynnwys toiled Newid Lle).

Rydan ni’n ceisio creu cydbwysedd ystyriol rhwng parchu sensitifrwydd Gilfach Ddu a darparu profiad cyfoes. Mae ymwelwyr, pobl leol a staff fel ei gilydd yn dweud wrthon ni eu bod nhw wrth eu bodd efo’r safle yn union fel y mae – fel petai’r gweithwyr newydd adael eu hoffer a mynd adref am y dydd. Dyna ysbryd y gweithdai hanesyddol rydan ni’n ceisio’i barchu, tra’n gwneud gwelliannau mwy sylweddol ar yr un pryd i fannau sydd yn hanesyddol wedi gweld llawer o newid yn barod. Er enghraifft, yn ein horielau newydd, byddwn ni’n gallu arddangos mwy o’n casgliad cenedlaethol, ond hefyd datblygu ein rôl fel porth i Safle Treftadaeth Byd y dirwedd lechi ehangach.

Rydan ni newydd gwblhau cam RIBA4, sef y cam dylunio technegol lle cytunir yn fanwl ar bob manyleb a’r deunyddiau i gyd. Rydan ni wedi tendro ar gyfer y prif waith a’r gobaith ydi dechrau ar y safle ym mis Ebrill.

Beth sydd wedi digwydd i’r casgliad tra bod y gwaith adnewyddu’n digwydd, ac allwn ni ymweld o hyd?

Mae’r casgliad cyfan, bron – tua 10,000 o wrthrychau – wedi cael ei symud o’r safle i ganolfan gasgliadau hygyrch newydd yn Llandygái ger Bangor. Mae unrhyw beth sy’n gallu symud, wedi symud! Hynny er mwyn diogelu’r casgliad, ond hefyd i sicrhau ei fod yn dal ar gael tra bod yr amgueddfa ar gau dros dro. Bydd ein rhaglen weithgareddau eleni’n cynnig digonedd o gyfleon i bobl weld, profi a gweithio gyda’r casgliadau yn eu lleoliad dros dro a helpu i ddewis gwrthrychau i’w harddangos a phenderfynu sut y caiff eu straeon eu hadrodd.

Fydd safle Llanberis ar agor tra bod y gwaith wrthi? Byddai’n cŵl cael taith o amgylch yr amgueddfa wag!

Mae’r amgueddfa wedi cau dros dro, yn rhannol er mwyn cadw staff ac ymwelwyr yn ddiogel oherwydd maint y gwaith, ond hefyd am ein bod ni’n gweithio i amserlen dynn iawn! Rydan ni’n cynnig teithiau ‘Gofodau Distaw’ ar hyn o bryd i’r gymuned leol wrth i ni baratoi i drosglwyddo i’r contractwr, a’r gobaith ydi y byddwn ni’n gallu cynnig mwy o deithiau am gipolwg y tu ôl i’r llenni dros y misoedd nesaf.

Mae Tîm Datblygu Llanberis wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau cyllid, sy’n gyfraniad arbennig o werthfawr at y project ac yn haeddu pob clod!

Argol fawr, mae ’na gymaint o bobl yn gwneud gwaith anhygoel. Yn sicr yn y chwe mis diwethaf rydw i wedi cael fy llorio gan Cadi, ein curadur, a staff y safle ehangach am y gwaith maen nhw wedi’i wneud i baratoi’r amgueddfa ar gyfer cau. Mae Kerry Vicker yn arwr imi. Hi wnaeth fy arwain i drwy ein cais ni am Gam 2 Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, sef ychydig dan £10m.

Pa gamau cynaliadwyedd sy’n cael eu hystyried, i ddiogelu dyfodol yr amgueddfa a’r casgliad?

Mae gennon ni Victoria Smallman yn gweithio ar dîm y project fel rhan o’r ailddatblygu er mwyn gallu cadw llygad manwl ar gynaliadwyedd a’r amgylchedd. Mae cymaint o elfennau i hyn, yn gyfuniad o fesurau ataliol a mentrau newydd.

O ran y casgliad, rydan ni’n bod yn bragmatig ac yn ymatebol i’r mathau o gasgliadau diwydiannol sydd gennon ni. Rydan ni’n cadw rhai elfennau – fel Una yr injan – fydd yn cael ei rhoi ar waith eto fel rhan o’r project. Bydd yr amgylcheddau rydyn ni am eu creu ar gyfer y prif orielau yn sicrhau lefel newydd o aerdymheru, a fydd yn ein helpu i arddangos gwrthrychau mwy sensitif am y tro cyntaf.

Rydan ni wedi bod yn gweithio hefyd gyda phrifysgol Met Caerdydd ar gamau ymaddasu i’r hinsawdd ac wedi cynnwys hyn yn y fanyleb ar gyfer pethau fel deunyddiau tirlunio, rheoli dŵr ffo, gallu adeiladau i anadlu, a dyluniad cafnau dŵr glaw ac ati. Dyma amcanion eraill sydd gennym:

  • Marc BREEAM ardderchog i’r adeiladau newydd
  • Blychau newydd i ystlumod a gwenoliaid duon
  • Trawsleoli cennau a mwsoglau
  • Plannu rhywogaethau brodorol a phrin
  • Cynaeafu dŵr glaw
  • Cynllun goleuo sensitif iawn
  • Sefydlu addysg am gynaliadwyedd a’r amgylchedd ym mhob deunydd dehongli

Mae’r rhestr yn mynd ymlaen!

Beth wyt ti’n edrych ymlaen ato fwyaf am yr ailddatblygu?

Fedra i ddim aros i weld fy nau blentyn ifanc yn chwarae yn y mannau rydan ni’n eu creu. Dw i’n gobeithio gweld dim byd ond cyffro a rhyfeddod ar eu hwynebau wrth iddyn nhw grwydro’r lle.

Yn olaf, mae hwn yn hoff gwestiwn ganddon ni – beth ydi dy hoff ddarn yng nghasgliad Amgueddfa Cymru?

Wel, dw i heb fod yma’n hir iawn, ond mi faswn i’n dweud mai fy hoff wrthrych hyd yma ydi Cadair Eisteddfod Caban Mills yng nghasgliad yr Amgueddfa Lechi. Am fynegiant syml, hardd o fywyd yng nghymunedau’r chwareli a phrofiad byw y rhai fu’n cydeistedd yn y Caban!

Helen Goddard

Cyfarwyddwr Prosiect Amgueddfa Lechi Cymru
Gweld Proffil
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.