Gardd Llawn Rhosod a Hanes
, 28 Mai 2025
Yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, mae’r ardd rosod, neu’r Roseri, yn llawn lliw ac arogl yn ystod yr haf. Ond y tu ôl i’r harddwch, mae llawer o waith caled a hanes hir a diddorol.
Cynlluniwyd y Roseri gyntaf yn 1898 gan Hugh Pettigrew, prif arddwr ar y pryd. Roedd llwybrau gwair yn troelli drwyddo, trellysau gyda rhosod dringo, a chamlas wedi’i phlannu a lili’r dŵr a physgod addurnol. Plannwyd dros 100 math o rhosod.
Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, doedd y Roseri ddim yn derbyn gofal. Llenwyd y gamlas, a chafodd y trellysau a’r pergolas eu tynnu i lawr. Yn y 1940au, ar ôl i deulu Plymouth roi tiroedd Sain Ffagan i’r Amgueddfa, crewyd gardd rosod symlach gyda gwelyau trionglog.
Yn 1998, penderfynodd yr Amgueddfa adfer cynllun gwreiddiol Pettigrew. Cloddiwyd y gamlas hen ac ailblannwyd hi gyda lili’r dŵr. Tynnwyd y gwelyau trionglog, ac ailosodwyd gwelyau crwm o amgylch y gamlas, yn ôl cynllun gwreiddiol Pettigrew. Dewiswyd rosod yn ofalus yn seiliedig ar restr ysgrifennwyd Pettigrew yn 1904.
Fodd bynnag, dros amser, daeth llawer o’r hen rhosod yn aniach. Cafodd y planhigion eu heffeithio’n wael gan glefyd o’r enw ‘black spot,’ sy’n gwneud i’r dail droi’n felyn a datblygu smotiau du ac yna syrthio. Cyn Deddf yr Awyr Lân yn 1956, roedd ‘black spot’ yn brin oherwydd bod llawer o sylffwr yn yr aer o lygredd. Ond pan wnaeth yr awyr lanhau, ‘black spot’ yn broblem fwy.
Yn 2017, ailblannwyd y Roseri unwaith eto. Y tro hwn, defnyddiwyd llawer o rosod modern, planhigion cryf a iach sy’n blodeuo am amser hir, ond sydd dal yn cadw harddwch ac arogl y rhosod traddodiadol. Mae llawer o'r rhosod yn yr ardd wedi dod o David Austin, tyfwr enwog o rosod hardd. Enw un o'r rhosod arbennig hyn yw 'Roald Dahl,' a enwyd ar ôl yr awdur enwog a aned yng Nghaerdydd.
Rydyn ni’n parhau i arddio yn ysbryd y cyfnod Edwardaidd, oherwydd mae’r rhan fwyaf o’r gerddi addurniadol yn Sain Ffagan yn dyddio’n ôl o’r cyfnod hwnnw. Roedd yr Edwardiaid wrth eu boddau gyda rhosod, ac ninnau hefyd! Ond nid yw’r gwaith bob amser yn llawn ‘glamour’. Bob mis Ionawr, caiff y rhosod eu tocio’n galed i’w cadw’n iach. Wedyn, caiff y gwelyau eu gorchuddio a tail organig. Rydyn ni’n ychwanegu tail i'r pridd i’w fwydo. Mae pridd iach yn helpu’r rhosod i dyfu’n gryf ac yn iach.
Yn ystod yr haf, mae’r garddwyr yn torri’r hen flodau i ffwrdd i annog y planhigion i greu flodau newydd. Maent yn gadael rhai blodau i ddatblygu’n hips rhosod, a ddefnyddir i addurno’r tai hanesyddol yn y gaeaf. O amgylch y rhosod yn y Roseri, mae blodau fel lafant a fiolas wedi cael eu plannu i helpu peillwyr fel gwenyn a phili-palod.
Mae rhai rhosod, a elwir yn rhosod sengl, sydd a llai o betalau ac yn caniatau i wenyn gyrraedd y neithdar a’r paill yn hawdd. Rhai o'n ffefrynnau yw rhosod ‘Tottering-by- Gently’ a ‘Starlight Symphony’.
Heddiw, mae’r Roseri yn llawn lliw ac arogl. Mae’r rhosod newydd yn edrych ac yn teimlo fel yr hen rhosod, ond maent yn blodeuo dro ar ôl tro drwy’r haf. Maent yn ein hatgoffa o’r holl gariad, gofal a gwaith caled sydd ei angen i gadw gardd yn llawn bywyd.
