Adeiladu tŷ crwn - creu to
13 Mai 2010
,Rwy'n dechrau teimlo'n gyffrous nawr a'r adeilad yn magu to. Gallwch chi ddychmygu sut siap fydd arno pan fydd Dafydd a'r criw wedi gorffen y gwaith.
Roedd digon i Dafydd feddwl amdano. Aeth y chwech traws cyntaf i fyny yn eithaf di ffwdan ond wedyn roedd yn rhaid ystyried y lle gorau i osod y trawstiau cadwynog. Penderfynodd Dafydd eu gosod y tu allan i'r prif drawstiau. I wybod pam darllenwch ei ddyddiadur
Aeth y llwyth nesaf o drawstiau i fyny'n eithaf cyflym. Roedden nhw wedi cael eu rhicio fel bod modd iddynt fachu'r gadwyn. Llinyn wedi ei dario sy'n eu rhwymo ynghyd. Gosododd Dafydd ail gyfers o drawstiau cadwynog tua gwaelod y to. Cyn hir fe fyddwn yn gosod y to gwellt.
Darllenwch ddyddiadur Dafydd http://www.theroundhouse.org/dafsdiary.htm