Y Tro Olaf: Ffarwel i Baternostau’r Glannau Dafydd Newton-Evans, 12 Chwefror 2026 Y mis yma, mae un o arddangosfeydd mwyaf Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn cael ei datgymalu, gan baratoi’r tir ar gyfer ein hailddatblygiad.Dyma ein tair “paternoster” – lifftiau sy’n cylchdroi’n barhaus ac sydd bron yn cyrraedd y nenfwd. Yn hanesyddol, defnyddiwyd lifftiau paternoster mewn adeiladau fel y gallai pobl gamu i mewn ac allan ar unrhyw lawr yr oeddent yn ei ddymuno. Roedd paternosterau’r amgueddfa wedi galluogi i ni arddangos gwahanol wrthrychau o’r casgliad, gyda’r gwrthrychau yn symud o gwmpas gan adael i ymwelwyr weld a dysgu mwy am yr ystod eang o wrthrychau. Gyda gerau yn cylchdroi, cadwyni a synau metel yn crechian, roedd dyluniad y paternosterau yn adleisio gwreiddiau diwydiannol y tirwedd cyfagos a ffocws thematig yr amgueddfa, gyda’r casynau arddangos yn llawn enghreifftiau o fetelau wedi’u gweithgynhyrchu yng Nghymru, ac yn rhyngwladol gan ddefnyddio metelau Cymreig.Roedd yr arddangosfa yn dathlu sgiliau gweithwyr metel Cymru gan amlygu ar yr un pryd effaith y diwydiannau hyn ar y byd ehanghach.Wrth gynllunio Amgueddfa Genedlaethol Y Glannau yn y 2000au cynnar, cafodd dylunwyr gyfle i gyflwyno dulliau modern ac arloesol o arddangos. Dim ond un amgueddfa arall yn y byd sy’n defnyddio’r dechneg yma – Amgueddfa Audi yn Ingolstadt, yn Yr Almaen. Beth nesaf i’r paternosterau?Yn anffodus, roedd traul ar y cydrannau a chost uchel gwaith atgyweirio yn golygu na allai’r paternosterau weithredu fel y bwriadwyd mwyach, ac ni allai ymwelwyr ryngweithio a’r arddangosfa. Oherwydd hyn, gwnaed y penderfyniad anodd i’w tynnu i lawr.Fodd bynnag, gobeithir mai dyma’r cam cyntaf tuag at ailwampio’r oriel a chynnig gwell profiad i’n hymwelwyr. Yn y cyfamser, mae ein curaduron yn gweithio ar ailddangos gyda dehongliad ffres a chyfoes, fydd yn caniatau i ymwelwyr weld y gwrthrychau mewn ffordd newydd. Erbyn diwedd y flwyddyn, rydym yn gobeithio defnyddio’r gofod ar gyfer arddangosfa hirdymor fydd yn dangos y cysylltiadau annatod rhwng diwydiant Cymru a’n treftadaeth forwrol!